Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

026 Pen-y-Fan


Blaenavon Ironworks: view to west.

HLCA 026 Pen-y-Fan

Tirwedd amaethyddol afreolaidd datblygedig ag anheddiad gwasgaredig: clostiroedd bach a chanolig amrywiol, gan gynnwys clostiroedd afreolaidd cychwynnol a dilynol a mwy o fewnlenwi rheolaidd; ffiniau caeau traddodiadol; prysgwydd/tir heb ei reoli; perllannau; patrwm anheddu: gwasgariad o dai a bythynnod, daliadau bach yn y bn; Nodweddion cysylltiadau; twristiaeth (parc carafannau 'chalet' o'r Swisdir). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-y-Fan yn anheddiad l-ganoloesol a modern mewn tirwedd a oedd yn un amaethyddol yn bennaf yn flaenorol; mae'n bentrefan ar wahn ym mhentref Llaneuddogwy. Amgylchynir yr ardal gan goetir; mae coetir hynafol Dyffryn Gwy i'r dwyrain, a phlanhigfa fwy diweddar i'r gorllewin, a'r ardal a gliriwyd bron yn bendant yn bodoli'n hanesyddol yn sgl y coetir. Fe'i lleolir ar fan gwastad goleddf isel uwchben ochr y dyfyn serth sy'n goediog iawn i'r gogledd o Laneuddogwy. Yn hanesyddol, roedd yr ardal ym mhlwyf Llaneuddogwy, yr oedd rhannau mawr ohoni yn perthyn i Ddug Beaufort. Er bod rhywfaint o'r tir yn yr ardal hon nodweddion yn eiddo i ystad Beaufort, rhannwyd y rhan fwyaf ohono ymysg sawl deiliad daliad bach.

Ymddengys fod yr ardal yn cynrychioli'r broses o glirio coetir a thresmasu ar y man gwastad ac mae'r caelun a'r anheddiad sy'n deillio o hynny yn debygol o ddyddio o'r cyfnod l-ganoloesol cynnar, neu hyd yn oed y cyfnod canoloesol; mae sip cromliniol afreolaidd rhywfaint o'r clostir yn awgrymu tarddiad cynnar. Mae'r degwm yn dangos tirlun a ddominyddir gan ddaliadau bach; nid ymddengys i'r plotiau bach o ddaliadau nas cyfunwyd yn aml gael eu rhesymoli erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim ond ar l gwneud rhagor o waith maes ac astudiaethau dogfennol y daw union ddyddiad y clostiroedd hyn (tir r yn bennaf adeg y Degwm) ac unrhyw anheddiad cysylltiedig yn hysbys. Fodd bynnag, mae parseli gwasgaredig o dir o fewn daliadau yn aml yn dynodi patrwm canoloesol. Mae map y degwm (1844) yn dangos gwasgariad o fythynnod, sydd wedi'u hynysu'n bennaf o fewn eu daliadau cysylltiedig ond a gysylltir gan rwydwaith o lonydd. Mae bythynnod cynharach yn bodoli, er eu bod wedi'u haddasu a'u hymestyn yn fawr ar y cyfan, yn enwedig ers y 1920au.

Roedd ystad Beaufort yn berchen ar barseli o dir yn yr ardal; y prif ddeiliaid tir eraill oedd y Parchedig David Jones, a John, Amos a James Hodges. Mae map y degwm yn rhestru amrywiaeth o berchen-feddiannwyr unigol. Mae'r datblygiad bach hwn sy'n dameidiog ac yn ddatgysylltiedig ar y cyfan ers map y degwm yn cael ei adlewyrchu efallai mewn perchenogaeth tir wahanol barhaus. Yn fwy diweddar, trodd y duedd oddi wrth ddaliadau bach amaethyddol tuag at anheddiad 'preswyl' is-drefol, gyda thai modern ar wahn yn ychwanegu at y daliadau amaethyddol a'r bythynnod.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Pen-y-Fan gan gaelun afreolaidd datblygedig ag anheddiad l-ganoloesol gwasgaredig cysylltiedig, o darddiad cynnar efallai, yr ychwanegwyd ato gan ddatblygiad o dai ar wahn o'r ugeinfed ganrif. Dangosir rhywfaint o anheddiad gwasgaredig iawn ar fap degwm 1844, a dyma fel y mae bron yn gyfan gwbl hyd at 1921. Mae'r datblygiad o'r ugeinfed ganrif yn cydymffurfio 'r patrwm o anheddiad eithaf gwasgaredig a oedd yn bodoli eisoes, ac mae'n dueddol o fod wedi'i leoli mewn plotiau mawr o dir, tra'n parchu ffiniau'r clostiroedd amaethyddol a oedd yn bodoli eisoes, gan olygu bod modd cynnal patrwm gwreiddiol y caeau. Mae'r adeiladau cynharach, ac eithrio 'Duke's House', a oedd adeg y degwm yn eiddo i Ddug Beaufort (ac a brydleswyd i John Hodges), yn cynnwys bythynnod yn bennaf, a adeiladwyd o gerrig patrymog thoeon llechi ar y cyfan, tra bod yr adeiladau modern wedi'u rendro'n nodweddiadol o doeon llechi neu banteils. Ychwanegiad diweddar i dirwedd yr anheddiad yw maes carafannau, gyda charafannau sefydlog mawr math hafoty, sy'n ychwanegu elfen hamdden a thwristiaeth.

Yn hanesyddol, amaethyddiaeth a choedyddiaeth gysylltiedig oedd y prif ddefnydd o dir ac mae'r patrwm caeau yn nodweddiadol o dresmasu tameidiog cynnar o goetir/neu wastraff. Nid yw'r patrwm o glostiroedd afreolaidd bach wedi newid fawr ddim ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda chymysgedd o dir r a thir pori, ac ychydig o berllannau. Er bod yr ardal yn cynnwys nifer o ddaliadau bach neu ffermydd bach, prin yw'r wybodaeth am safleoedd hanesyddol yn yr ardal ac ar hyn o bryd dim ond dwy gofrestr HER a geir, sef dau strwythur/adeilad cysylltiedig; adeilad wal cerrig sych a oedd yn dy ac yn gwt anifeiliaid fwy na thebyg (PRN 07104g) a thwlch mochyn cysylltiedig o frics coch (PRN 07105g).

Ymhlith y nodweddion eraill mae llwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth a nodweddir gan lonydd suddedig troellog, a amgylchynir gan waliau cerrig sych yn aml, a chloddiau carreg neu ddaear gwrychoedd ar eu pennau. Gellir hefyd nodweddu'r ardal gan ei choedwigaeth, fe'i hamgylchynir gan goetir hynafol ar dair ochr, ac mae'n debygol i'r ardal fodoli yn sgl y coetir a gliriwyd yn hanesyddol. Mae coedwigaeth yn dal i fod yn bwysig yn yr ardal, yn enwedig ar y cyrion, ac mae'n bodoli ar ffurf darnau tameidiog rhwng clostiroedd. Amgylchynir y rhan fwyaf o'r clostiroedd gan wrychoedd choed gwrych aeddfed nodedig.

Ymddengys i'r ardal hon ddatblygu mewn ffordd debyg wrth i ardaloedd o goedwigaeth gael eu clirio i wneud lle i ardal 'breswyl' lled-drefol gyfagos 'The Narth' (HLCA028), ond gyda llai o ddwysedd, gan gynnal mwy o'i chymeriad amaethyddol wledig. Ceir cysylltiadau hefyd ag ardal gyfagos Coedwig Hael (HLCA027), lle roedd melino seidr yn bwysig; ceir sawl perllan yn ardal Pen-y-Fan, a allai fod wedi cyflenwi'r melinau seidr lleol (PRN 07103g).