Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

022 Coedwig Cuckoo


'Middle-class' housing along the A4043

HLCA 022 Coedwig Cuckoo

Coetir Hynafol â thresmasu ôl-ganoloesol anghysbell yn cynnwys daliadau bach a chlostiroedd caerog: archeoleg ddiwydiannol greiriol: chwarela; ffiniau traddodiadol (waliau cerrig sych) a nodweddion ffiniol eraill (ee 'Y Garreg Orffwys'); nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Cuckoo yn bodoli ar ffurf coetir hynafol a leolir ar lethrau serth ochr orllewinol y dyffryn rhwng Tintern Parva yn y de, a Pilstone yn y gogledd. Diffinnir ei ffiniau gan faint y coetir hynafol, ac yn hanesyddol lleolwyd yr ardal ym mhlwyf Llaneuddogwy, yr oedd rhan ohono yn faenor i Esgobaeth Llandaf, ac roedd gweddill y plwyf yn rhan o faenor Trelech. Roedd y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal yn perthyn i ystad Beaufort. Ynghyd â phentref cyfagos Llaneuddogwy, mae rhannau o'r ardal o goetir hynafol wedi'u dynodi a'u diogelu'n Ardal Gadwraeth 1 gan Gyngor Sir Mynwy yng Nghynllun Datblygu Unedig Mabwysiedig 2006.

Mae'r ardal wedi bodoli ar ffurf coetir hynafol am y rhan fwyaf o'i hanes, ac mae cryn dipyn ohoni wedi goroesi fel coetir lled-naturiol yn cynnwys coed collddail brodorol, yn hytrach na fel coetir wedi'i ailblannu lle cafodd coed conwydd eu plannu'n gymharol ddiweddar (fel arfer o fewn y 200 mlynedd diwethaf) i gymryd lle coed llydanddail wedi'u clirio.

Mae cysylltiadau hanesyddol canoloesol cynnar yn cysylltu'r ardal â 'Buddug', tad Euddogwy Sant, y mae eglwys Llaneuddogwy yn talu teyrnged iddo. Enw modern yr ardal o goetir i'r de yw 'Coed Beddick', sy'n addasiad o 'Buddug' (Bradney 1913).

Prin yw'r dystiolaeth o feddiannaeth na gweithgarwch yn yr ardal cyn y cyfnod canoloesol, tra bod y dystiolaeth ganoloesol yn gyfyngedig i gyfeiriadau dogfennol at ardal o dirddaliadaeth Gymreig sef 'Caletan' (Rees 1932, Taflen SE), a grybwyllir yn Llyfr Llandaf fel yn diffinio maint rhodd tir ac yn ffurfio un o ffiniau Llaneuddogwy (Bradney 1913, 206). Er nad yw'r union leoliad yn glir, mae'n goroesi yn yr enw ar le sef Cleddon, anheddiad ychydig i'r gorllewin o'r coetir.

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgaredd anheddu yn yr ardal yn dyddio'n ôl i'r cyfnod ôl-ganoloesol fwy na thebyg. Mae nifer o glostiroedd a bythynnod anghysbell yn bodoli ar Argraffiad Cyntaf map yr AO (1879/1881) o leiaf a dangosir y rhan fwyaf ar fap y degwm (1844). Noda fod yr ardaloedd helaeth o goetir yn eiddo i ystad Beaufort, gyda'r clostiroedd bach yn cael eu prydlesu i amryw ddeiliaid byddynnod bach, ac yn cael eu defnyddio'n bennaf fel tir âr.

Dengys gweithgarwch ôl-ganoloesol pellach yn yr ardal bwysigrwydd llwybrau cysylltiadau drwy'r coetir; yn ogystal â charreg filltir ar y ffordd yn rhedeg i'r gogledd drwy'r coetir yn Llaneuddogwy, ceir hefyd nod cyfeiriad mewn fforch yn y ffordd i'r de o Tintern Parva o Cleddon, a charreg orffwys ar y llwybr o Cleddon i Laneuddogwy.

Prin yw'r gweithgarwch modern yn yr ardal; yn gyffredinol, nid yw wedi newid fawr ddim ers map y degwm (1844). Mae blocdy bach o'r Ail Ryfel Byd yn edrych dros gaeau Pilstone Farm ac Afon Gwy (NPRN 270429).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coedwig Cuckoo gan goetir hynafol, sy'n lled-naturiol ac wedi'i ailblannu, sy'n ffurfio rhan hir o ochr orllewinol Dyffryn Gwy ac yn cynnwys coed llydanddail cymysg yn bennaf, gyda rhannau bach o goed bytholwyrdd. Diogelir ardal fach ger Llaneuddogwy fel SoDdGA, Cleddon Shoots Wood, sy'n cynnwys coed derw a ffawydd yn bennaf, gyda choed ynn a gwernen ar hyd y nant.

Nodweddir anheddiad yr ardal gan ddaliadau bach anghysbell, y mae sawl un yn cael ei meddiannu o hyd, ac ychydig o glostiroedd bach mewn mannau anghysbell a gliriwyd, sydd fwy na thebyg yn cynrychioli mân dresmasu ôl-ganoloesol i mewn i'r coetir at ddibenion amaethyddol. Ymhlith y rhain mae ardaloedd o gaeau afreolaidd bach i ganolig yn rhan ogleddol a dwyreiniol yr ardal ar fap degwm 1844 (yn gyffredinol i'r de o Pilstone ac i'r dwyrain o Laneuddogwy) a gyfunwyd â'r coetir erbyn 1881 (argraffiad 1af yr AO), ac ychydig o glostiroedd unionlin anghysbell o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Ymhlith y rhain mae tri chlostir unionlin a elwir yn lleol yn 'The Gardens' (PRNs 07085g, 07086g a 07087g), a amgylchynir gan waliau cerrig sych. Hefyd, ceir llwyfan adeiladu (PRN 07164g) gyda thri chlostir cysylltiedig a chlogfeini gwasgaredig (07163g), sy'n ymddangos fel olion anheddiad. Dangosir anheddiad arall hefyd sy'n gysylltiedig ag ardal o glostir afreolaidd; mae'r anheddiad hwn yn cynnwys adeilad hirsgwar (PRN 07482g), sy'n gysylltiedig ag annedd o'r enw ‘Bigsnap’, sy'n dal i fodoli (Argraffiad Cyntaf yr AO).

Mae cysylltiadau hanesyddol yn nodwedd ychwanegol, sy'n cyfrannu at gymeriad yr ardal. Gelwir rhan ddeheuol y coetir ar ôl 'Buddug', tad Euddogwy Sant, (Bradney 1913) y mae eglwys Llaneuddogwy yn talu teyrnged iddo; mae'r enw modern, 'Coed Beddick', yn addasiad o 'Buddug'. Gerllaw, ychydig i'r gorllewin y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol, mae Neuadd Cleddon yn ei lleoliad coetir, sef man geni Bertrand Russell (Ganwyd 1872). Mae'r olaf hefyd yn nodedig am ei chysylltiadau o ran enw lle â ffurf ar dirddaliadaeth Gymreig ganoloesol, sef 'Caletan' (PRN 03911g).

Cynrychiolir cysylltiadau gan garreg filltir (PRN 07426g), nod cyfeiriad, a ddiogelir gan statws Adeilad Rhestredig gradd II (PRN 07949g, LB 24930), a charreg orffwys (PRN 00737g), a oedd yn bodoli yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a grybwyllir mewn arolwg o faenor Trelech yn dyddio'n ôl i 1677. Ymhlith y llwybrau cysylltiadau modern mae llwybr troed Dyffryn Gwy, sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r coetir.

Mae gweithgarwch cloddiol yn fân nodwedd ychwanegol sy'n ychwanegu at gymeriad yr ardal, dangosir chwarel ar Ail Argraffiad map yr AO (1902) ar ochr ddeheuol yr ardal. Nodwedd eilaidd arall sy'n ychwanegu at gymeriad yr ardal yw blocdy bach o'r Ail Ryfel Byd, ffos reiffl a adeiladwyd o frics â tho concrid, (NPRN 270429), sy'n gorwedd ym mhen dwyreiniol yr ardal, ar y llethrau sy'n edrych dros ben deheuol Pilstone Farm. Ychwanegiad mwy diweddar i gymeriad yr ardal yw'r agwedd hamdden a thwristiaeth, a gynrychiolir gan Wersyll a Chanolfan Gweithgarwch Botany Bay i'r gorllewin o'r gefnen bren.