Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

025 Pilstone


Big Pit with associated buildings: view to the south.

HLCA 025 Pilstone

Tirwedd amaethyddol: patrwm datblygedig afreolaidd o gaeau afreolaidd bach a chanolig, rhywfaint o gyfuno o'r 20fed ganrif, planhigion a pherllannau wedi'u lleoli o amgylch ffermydd; ffiniau traddodiadol; anheddiad gwasgaredig o ffermydd anghysbell a Pilstone House a gardd; arddull gynhenid nodedig: ffermdy o'r 16eg ganrif (Pilstone Farm), a thy bonedd Fictoraidd (Pilstone House); nodweddion cysylltiadau; coetir cymysg (a pherllannau). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pilstone yn ardal amaethyddol gyda'i hanheddiad cysylltiedig. Mae'n bentrefan ar wahân o Laneuddogwy ac mae'n gorwedd ar lethrau isaf y dyffryn sy'n edrych dros Afon Gwy. Diffinnir y ffiniau gan faint y tir amaethyddol fel y'i diffiniwyd gan berchenogaeth hanesyddol ac fel mae'n bodoli nawr. Fe'i lleolir ym mhlwyf Llaneuddogwy, ac erbyn map y degwm (1844) roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn eiddo i Hannah Rooke, tra bod y rhan ogleddol yn eiddo i William Clifford.

Roedd Pilston yn faenor i Arglwyddiaeth Trelech, ac er nad oes unrhyw dystiolaeth o feddiannaeth yma cyn y cyfnod ôl-ganoloesol, ceir cofnodion o berchenogaeth o'r ardal mor gynnar â'r unfed ganrif ar bymtheg. Yr adeg hon, roedd yr ystad yn nwylo Madog ap Robert o Pilston, y gwnaeth ei ferch a'i etifedd, Jane, briodi William ap John ap Perkin o Ogledd Cymru, un o ddisgynyddion Sisyllt, Tywysog Meirionydd. Roedd yr ystad yn eiddo i deulu'r Perkins, ac mae'n ymddangos mewn sawl ewyllys a dogfen o 1571 ymlaen, nes i'r deiliad olaf, Edward Perkins, farw heb blant yn 1747. O'r adeg hon ymlaen, ni wnaeth yr un etifedd fyw yn y ty, ac ar fap yn 1831 fe'i dangosir fel adfail, ar ôl i'r bobl leol ddwyn deunyddiau adeiladu oddi yno.

Gwerthwyd yr ystad tua 1830 i Gapten Rooke o ystad Bigsweir, a wnaeth drefnu i adeilad presennol Pilstone House gael ei adeiladu o'r deunydd a adawyd ar ôl o'r adeilad gwreiddiol, er ei fod ef ei hun yn byw mewn ty a adeiladwyd ganddo ar ochr arall yr afon. Mae map y degwm (1844) yn nodi bod ardal Pilstone House yn eiddo i Hannah Rooke. Yr adeilad pwysig arall yn yr ardal yw Pilstone Farmhouse o'r ail ganrif ar bymtheg/deunawfed ganrif, ychydig i'r de, sef fferm y plas sy'n gysylltiedig â Pilstone.

Gellir olrhain y broses o ddatblygu'r tir amaethyddol yn yr ardal drwy fap y degwm ac argraffiadau cynnar mapiau'r AO. Yn rhan ddeheuol yr ardal, y rhan a oedd yn eiddo i Hannah Rooke, a brydleswyd i Robert Purchas, erys y system gaeau yn adnabyddadwy. Prin fu'r newid hyd at y mapiau modern (AO 2006 1:10000 data Landline). Fodd bynnag, mae rhan ogleddol yr ardal a oedd yn eiddo i William Clifford ar fap y degwm ac a feddiannwyd gan Philip Williams, bellach yn ffurfio caelun gwahanol iawn; o ganlyniad i gyfuno'r caeau a dileu ffiniau'r caeau. Newidiodd y broses o adeiladu Rheilffordd Dyffryn Gwy rhwng Trefynwy a Chas-gwent y patrwm caeau yn rhan ddwyreiniol yr ardal, gan ynysu glan yr afon o'r ardal amaethyddol; gellir gweld y newidiadau i'r patrwm caeau rhwng map y degwm (1844) ac Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Pilstone fel ardal o dir amaethyddol â nodweddion amrywiol, gan gynnwys ystad fonedd ôl-ganoloesol fach. Heddiw, mae rhan ogleddol yr ardal, sy'n gysylltiedig â Tump Farm ar fap y degwm, yn ffurfio caelun sydd wedi newid yn fawr o'r hyn a ddangosir ar fap y degwm ac Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO, tra, i'r de, y caelun sy'n gysylltiedig â Pilstone Farm, erys y system gaeau yn debyg i'r hyn a ddangoswyd ar fap degwm 1844. Mae'r caeau yn ffurfio patrwm o gaeau afreolaidd bach a chanolig, gyda ffiniau wedi'u ffurfio o goed gwrych nodedig a chloddiau daear â gwrychoedd, ynghyd â rhywfaint o ffensys post a gwifren. Er i'r rheilffordd gael ei hadeiladu, sydd wedi ynysu darn cul o dir i'r dwyrain wrth ymyl Afon Gwy, mae'r defnydd amaethyddol o'r tir wedi aros yn eithaf sefydlog ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae map y degwm yn nodi i'r clostiroedd gael eu defnyddio fel tir âr, tir pori a dolydd, yn debyg i'r drefn bresennol. Dangosir perllannau hefyd, ar fap y degwm ac Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO, sy'n awgrymu y gallai'r ardal amaethyddol hon fod wedi cyflenwi'r diwydiant seidr lleol, y mae tystiolaeth yn dal i fodoli mewn ardaloedd cyfagos.

Rhydd dau adeilad, Pilstone Manor a Pilstone Farm, y mae'r ddau oddi ar y ffordd, brif elfen yr anheddiad yn yr ardal. Ailadeiladwyd maenordy Pilston (NPRN 20658) mewn arddull barwnol pictiwrésg; ailosodwyd carreg â'r dyddiad 1686 arni, a gymerwyd o'r hen strwythur yn ffasâd y ty o'r 19eg bymtheg. Roedd yr adeilad gwreiddiol mewn adfeilion erbyn 1831 (Bradney 1913, 208) ac ailddefnyddiwyd y deunyddiau o'r strwythur i adeiladu'r ty newydd ar y safle pan brynodd teulu'r Rooke yr ystad. Adeiladwyd y strwythur presennol o flociau o gerrig sgwâr patrymog gyda tho panteil. Mae nifer o adeiladau a strwythurau atodol wedi goroesi neu wedi'u dogfennu, gan gynnwys rhewdy (Argraffiad Cyntaf map yr AO).

Mae ffermdy Pilstone (PRN 00674g, NPRN 20659, LB 2897 Gradd II), a leolir yn y de, yn enwog yn lleol am mai hwn yw'r ffermdy hynaf yn y rhan hon o Ddyffryn Gwy. Mae'n bwysig o ran ei gymeriad pensaernïol ac oherwydd ei ddiddordeb a'i gysylltiadau hanesyddol lleol. Mae'r strwythur, sydd wedi'i newid rywfaint yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, yn dyddio'n ôl i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif, er yr awgrymir tarddiad cynharach o bosibl gan y ffrâm bren ddarniog. Mae ffermdy Pilstone wedi'i adeiladu o gerrig, gyda ffryntiad plastr garw, a theils llechi carreg yn y blaen, gyda phanteils yn y cefn. Mae ganddo dalcenni addurniadol, simnai ddwbl a phortsh talcennog yng nghanol y blaen tri bae.

Yn y pen gogleddol pellaf ceir Tump Farm, y mae ei gynllun, fel y dangosir ar fap degwm 1844, wedi'i ymestyn gryn dipyn yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn wreiddiol, roedd ffermdy yn wynebu'r ffordd fynediad, gyda chyfres hirfain o adeiladau gyferbyn, ac er bod y ffermdy yn dal i fodoli heddiw, mae adeiladau'r fferm wedi'u hymestyn ac yn rhan o gyfres llawer mwy o adeiladau hirsgwar mawr, a glystyrwyd ar hyd y ffordd fynediad.

Rhydd ardaloedd bach o goedwigaeth, ar ffurf coetir hynafol collddail cymysg a ailblannwyd yn bennaf, fân nodwedd; mae coetir hynafol yn ffurfio'r ffin i'r gorllewin, tra bod tir amaethyddol yr ardal yn cynrychioli'r broses o glirio coedwigaeth yn gynnar fwy na thebyg. Ymhlith y ffiniau amaethyddol traddodiadol mae gwryrchoedd â choed gwrych nodedig.

Ymhlith y llwybrau cysylltiadau yn yr ardal mae lonydd, llwybrau a mân lwybrau; mae ffiniau'r olaf yn cynnwys waliau â mortar yn rhan ddeheuol yr ardal, a cherrig sych ymhellach ar hyd y ffordd i'r gogledd.