Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

011 Trefynwy


Quarries near Pwll Du: view to the north

HLCA 011 Trefynwy

Craidd anheddiad hanesyddol: Anheddiad Canoloesol/l-ganoloesol a chastell Eingl-Normanaidd cysylltiedig; patrwm anheddu rheolaidd ac organig cnewyllol (hy clwstwr hirfain ac afreolaidd); Adeiladau trefol domestig, masnachol a dinesig l-ganoloesol (strwythurau canoloesol?); Nodweddion amddiffynnol Eingl-Normanaidd, canoloesol ac l-ganoloesol; archeoleg greiriol a chladdedig (aml-gyfnod); nodweddion cysylltiadau; Nodweddion eglwysig Canoloesol ac l-ganoloesol (eglwysi, mynwentydd a chapeli); Archeoleg ddiwydiannol (ee. melin; bragdy, safle tanerdy); cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Trefynwy ar fryn isel wrth gyflifiad Afon Gwy ac Afon Mynwy a bu'n dref ffiniol Eingl-Gymreig bwysig drwy gydol hanes. Dim ond arteffactau sydd wedi tystio i weithgarwch cynhanesyddol yn yr ardal hyd yma, ac ni welwyd unrhyw dystiolaeth strwythurol o anheddiad. Gwelwyd tystiolaeth o'r defnydd Rhufeinig o'r ardal hefyd ar ffurf archeoleg danddaearol; derbynnir yn gyffredinol y lleolwyd caer Rufeinig a gofnodwyd yn yr Antonine Itinerary fel Blestium (Tuck a Jones 2007), yn Nhrefynwy. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent ar hyd Monnow Street, Trefynwy dystiolaeth bellach o feddiannaeth Rufeinig. Er ei bod yn debygol y byddai gan yr anheddiad cychwynnol darddiad milwrol, o amgylch caer Blestium, rhwng yr ail a'r bedwaredd ganrif OC, mae'n debygol mai anheddiad sifilaidd ei natur oedd yma'n bennaf, gyda chryn dystiolaeth o waith haearn yn dynodi economi wedi'i seilio'n gryf mewn diwydiant (Marvell 2001).

Mae'r dref bresennol yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd a chyfnodau dilynol yn bennaf; mae stoc adeiladau'r dref yn cynnwys nifer fawr o adeiladau milwrol, eglwysig a lleyg o'r cyfnod hwn ymlaen. Prin yw'r wybodaeth am y cyfnod canoloesol cynnar cyn meddiannaeth y Normaniaid, ac mae'n gyfyngedig i ffynonellau dogfennol yn ymwneud ag eglwys Cadog Sant o'r wythfed ganrif, sef lleoliad Eglwys y Santes Fair erbyn hyn, a gafodd ei mapio gan Speed fel 'Monks Church' (PRN 01224g). Yn dilyn gweithgarwch cychwynnol y Normaniaid yn y dref, credir i eglwys Cadog Sant gael ei chynnwys o tua 1075 ym Mhriordy Benedictaidd Trefynwy, a dystir gan roddion tir i'r Urdd.

William fist Osbern a sefydlodd Castell Trefynwy, castell y Gororau, yn fuan ar l goresgyniad y Normaniaid ac ar ryw bwynt cyn 1071. Cafodd y castell ei leoli'n strategol gan wneud y defnydd gorau o'r ddaearyddiaeth ffisegol a oedd ar gael; caiff y castell ei leoli wrth gopa pentir bryn isel sy'n edrych dros Afon Gwy ac Afon Mynwy yn agos at Fforest y Ddena. Cadwodd yr arglwyddi Normanaidd y castell fel pencadlys arglwyddiaeth annibynnol heb unrhyw helynt tan 1267. Yna fe'i rhoddwyd, ynghyd 'r Tri Chastell (Gwyn, Grysmwnt ac Ynysgynwraidd) i fab Harri'r III, Edmund Crouchback, pan ddaeth yn Iarll Caerhirfryn. Mae gan y castell gysylltiadau nifer o ffigyrau hanesyddol; yn fwyaf nodedig efallai, Harri'r V, a anwyd yn y castell yn 1387.

Yn ystod y Rhyfel Cartref, cadwyd Castell Trefynwy gan y Brenhinwyr a'r Seneddwyr, gan gwympo i ddwylo'r Seneddwyr yn 1645 yn y pen draw. Pan ymwelodd Cromwell 'r castell yn 1646 gorchmynnodd iddo gael ei 'ddinistrio' er y gallai fod wedi bod mewn cyflwr gwael yn barod (Evans 1953, 416) ac yn 1673 cafodd Ty'r Castell Mawr ei adeiladu gan Henry Somerset (sef Dug cyntaf Beaufort yn ddiweddarach) ar y safle ac o ganlyniad heddiw dim ond rhan o'r castell a oedd yn fawr ar un adeg sydd ar l. Tan y Rhyfel Cartref roedd llenfur, porthdy a gorthwr crwn wedi bodoli yma. Yn 1875, daeth Ty'r Castell Mawr yn bencadlys i Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy (milwyr) (RMRE). Erbyn hyn, caiff yr adeilad ei ddefnyddio'n bennaf fel amgueddfa ar gyfer hanes milwrol Trefynwy, yn enwedig yr RMRE. Gan ddyddio'n l i 1539, yr RMRE yw'r unig gatrawd fodern i oroesi ar l y Rhyfel Cartref.

Datblygodd Trefynwy fel canolfan fasnachol yn y cyfnod canoloesol o dan warchodaeth ei chastell; Monnow Street a ddaeth yn ganolbwynt i'r datblygiad cynnar hwn o fwrdeisi, gan ffynnu erbyn 1086 pan gafodd ei chofnodi yn Arolwg Dydd y Farn. Parhaodd y dref i ehangu ymhellach a gwyddys bod maestref Overmonnow (y tu allan i'r ardal nodweddion) yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif; dynoda cyfeiriadau dogfennol fod Eglwys Sant Tomos (PRN 01258g) yn Overmonnow yn bodoli erbyn 1186 (Brook 1988, 82). Parhaodd y gwaith ehangu yn y drydedd ganrif ar ddeg gan osod gwrthglawdd ar draws mannau croesi'r afon i Drefynwy, ac erbyn hyn roedd pedwar man croesi yn Nhrefynwy, a'r enwocaf o'r rhain oedd Pont a Phorth Mynwy (PRN 01246g, 01257g NPRN 24219, 405876, LB 2218, SAM MM008). Adeiladodd y bwrgeisi furiau o amgylch y Dref tua'r adeg hon hefyd, talwyd am y gwaith hwn, a'r rhain oedd y rheswm dros gyflwyno tollau, trethi ar nwyddau a fewnforiwyd i'r dref.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif profodd y dref gyfnod anodd yn sgl y pla a'r gwrthryfel, yn enwedig gwrthryfel Glyndwr yn y bymthegfed ganrif. Profodd y dref adfywiad bach yn ddiweddarach pan roddodd Harri'r VI statws bwrdeistref iddi yn 1447. Fodd bynnag, ni welwyd adfywiad gwirioneddol yn nhwf economaidd a thwf diwydiannol y dref tan yr unfed ganrif ar bymtheg. Ochr yn ochr hyn, cafwyd adfywiad gwleidyddol a brofwyd pan ddaeth Trefynwy yn dref sirol yn Sir newydd Mynwy, o dan Ddeddf Uno 1536. Yn ystod y cyfnod, cafodd llawer o adeiladau pren cynharach Trefynwy eu hailadeiladu o garreg, tra cymerodd llefydd tn a simneiau le aelwydydd (Kissack 1989). Mae map Speed o 1610 yn dangos maint y dref a dynoda cofnodion cyfoes fod y dref yn ffynnu. Yn ddiweddarach, arweiniodd y broses o freintio sawl elusendy ac ysgol ramadeg gan William Jones yn 1616 at gyfnod newydd yn natblygiad y dref, wrth i gyfoeth a dylanwad y Cwmni Dillad gael eu sefydlu (Kissack 1989).

Er na wnaeth y dref dyfu rhyw lawer yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, dechreuodd teuluoedd dylanwadol y sir adeiladu tai trefol yn Nhrefynwy yn ystod y cyfnod. Cafodd llawer eu denu yno oherwydd dylanwad a phoblogrwydd teulu Beaufort. Yn sgl datblygiad diwydiant yn yr ardal ehangach, daeth llu o ddiwydianwyr i'r dref ac o ganlyniad adeiladwyd mwy o dai. Ymddengys i'r Mudiad Pictiwrsg yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif gael rhywfaint o effaith hefyd; mae'n bosibl i'r angen i letya'r niferoedd cynyddol o dwristiaid gyflymu'r broses o adeiladu tafarndai a gwestai yn y dref yn ystod y cyfnod.

O ganlyniad i'r broses o ehangu a datblygu'r ardal gyfagos yn enwedig tref farchnad y Fenni, arafodd twf Trefynwy yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Marvell 2001). Fel tref sirol Sir Fynwy, heddiw mae Trefynwy yn dref farchnad bleserus gyda chryn dipyn o nodweddion hanesyddol wedi goroesi.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Trefynwy i raddau helaeth gan ei chynllun canoloesol a'i hadeiladau hanesyddol. Mae'r ardal yn cynnwys 286 o Adeiladau Rhestredig, gan gynnwys pedwar Gradd I (Ty'r Castell Mawr LB 2217, Castell Trefynwy LB 2216, Pont a Phorth Mynwy LB 2218, a Neuadd y Sir LB 2228); mae 30 yn radd II*, a'r gweddill wedi'u diogelu drwy eu rhestru'n radd II.

Mae'r anheddiad yn cadw ei batrwm stryd canoloesol gwreiddiol a ddiogelir gan gynllun yr adeiladau l-ganoloesol; i'r de-orllewin o gastell Trefynwy mae'r patrwm yn un hirfain sy'n adlewyrchu plotiau bwrgeisi unionlin, tra bod clwstwr cnewyllol organig yn goroesi i'r dwyrain o'r castell ac i'r de o Eglwys y Santes Fair. Mae'r amrywiaeth o fathau o adeiladau a deunydd yn helaeth, gan amrywio o dai teras l-ganoloesol, tai trefol mawr, gwestai a theatrau, i adeiladau masnachol, dinesig, eglwysig, addysgol a threfol eraill (y mae rhai o bosibl yn gorchuddio strwythurau canoloesol). Mae cryn dipyn o adeiladau'r dref wedi cael eu hailorchuddio (mae Hen Dywodfaen Coch yn gyffredin), neu wedi'u rendro.

Mae Pont a Phorth Mynwy (PRNs 01246g a 01257g; NPRNs 24219 a 405876; LB 2218; SAM MM008) yn deillio o ganrifoedd o waith addasu ac ychwanegiad at waith adeiladu carreg (Hen Dywodfaen Coch) o'r drydedd ganrif ar ddeg a wnaeth gymryd lle pont bren gynharach o'r ddeuddegfed ganrif (Newman 2000). Mae gan y bont dri bwa cylchrannol ar bileri torddwr chweonglog o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Mae gan y glwyd sydd wedi newid cryn dipyn fwaon o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bob ochr i'r bwa ffordd ganolog wreiddiol, ac mae wedi gweithredu fel tolldy, ystafell warchod a storfa ynghyd ag annedd preifat. Cafwyd pontydd canoloesol amddiffynedig ledled Ewrop ganoloesol; mae Pont Mynwy yn arbennig o bwysig gan mai hon yw'r unig enghraifft sy'n goroesi o'i math ym Mhrydain.

Mae nodweddion eglwysig yr ardal yn amlwg o'r eglwysi a'r capeli canoloesol gan gynnwys Eglwys y Santes Fair (PRN 01224g), 'Monks Church' a fapiwyd gan Speed, un o sylfeini Priordy Trefynwy a grybwyllwyd mewn rhodd tua 1075. Ystyrir bod Eglwys y Santes Fair ar safle eglwys Cadog Sant o'r wythfed ganrif.

Heblaw am Bont Mynwy ac eglwysi'r dref, y brif elfen sydd wedi goroesi o'r cyfnod canoloesol yw castell Eingl-Normanaidd Trefynwy (PRN 01234g; NPRN 32877; LB 2216; SAM MM159). Mae'r castell, a sefydlwyd gan William fitz Osbern ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg yn gadarnle'r Gororau, ac a adnewyddwyd yn ddiweddarach gan deulu Lancaster yn y drydedd ganrif ar ddeg a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn cynnwys olion dau strwythur cysylltiedig, y ddau wedi'u hadeiladu o Hen Dywodfaen Coch lleol: olion y Twr Mawr (y talaf o'r adeiladau sydd wedi goroesi), sy'n dyddio'n l i hanner cyntaf y ddeuddegfed ganrif, a'r neuadd fawr, sy'n dyddio'n l i'r drydedd ganrif ar ddeg.

Ymhlith yr agweddau eraill sy'n ychwanegu at gymeriad milwrol neu amddiffynnol Trefynwy mae'r amgueddfa filwrol a'r garsiwn a leolir yn Nhy'r Castell Mawr o'r ail ganrif ar bymtheg, a leolir o fewn talar Castell Trefynwy; mae hwn yn adeilad mawr tri llawr ag adran ganolog tri bae ac adain un bae, a adeiladwyd o flociau sgwr o Hen Dywodfaen Coch brith o dan do clip. Ty'r Castell Mawr yw Pencadlys Catrodol hanesyddol Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy hefyd.

Ymhlith yr adeiladau l-ganoloesol nodedig mae Ysgol Annibynnol i Fechgyn Trefynwy (PRNs 01247g, 01248g, 01251g, a 04137g; NPRN 13000; LBs 2245, 8522, 85009, 85053, 85182, 85187, a 85214), sy'n cael effaith weledol gref. Cafodd Ysgol Trefynwy, a leolir o amgylch iard ganolog, ei hadeiladu'n wreiddiol yn 1614-15 gan ychwanegu ato'n sylweddol rhwng 1864-5, ac mae bellach yn dominyddur olygfa o Drefynwy o Bont Afon Gwy. Adeilad pwysig arall yw Neuadd y Sir (LB 2228), a adeiladwyd yn 1724 ar safle adeilad cynharach o oes Elisabeth yn 1571, y cafodd yntau ei ragflaenu gan adeilad llys bach symlach yn 1536. Credir bod yr adeilad cyfredol, a adeiladwyd o gerrig nadd calchfaen o dan do clip, yn enghraifft o waith y pensaer Philip Fisher (o Fryste). Ymhlith yr addasiadau niferus mae cerflun Harri'r V gan Charles Pert yn y ffasd canolog a ychwanegwyd yn 1792. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu'n sylweddol yn 1829 o dan gyfarwyddyd y pensaer Edward Haycock (o'r Amwythig) yn dilyn Deddf i Wella Neuadd y Dref. Mae gan brif ffasd Neuadd y Sir sy'n wynebu'r gogledd bum ffenestr bae dwbl dros ddau lawr yr ychwanegir atynt gan barau o bilastrau Ionig bob ochr i'r ffenestri bae, tra bod y llawr daear agored yn cael ei gynnal gan golofnau Tysgaidd a rhydd le marchnad.

Un o nodweddion eraill yr ardal yw gweithgarwch diwydiannol a masnachol, a allai fod yn ffactor arall o ran lleoliad a datblygiad anheddiad cynnar, y potensial diwydiannol a gynigiwyd gan y dyddodion haearn gerllaw yn Fforest y Ddena a dyfrffordd hygyrch (Afon Gwy) i gludo nwyddau a deunyddiau sy'n ychwanegu at gymeriad cyffredinol yr ardal. Ymhlith yr olion diwydiannol a masnachol neu hen safleoedd mae sawl melin ganoloesol (PRNs 01226g, 02341g), ffwrnais haearn bwrw ganoloesol (PRN 01251g), a safle marchnad ganoloesol (PRN 02341g), ynghyd warws l-ganoloesol (PRN 01244g) a lladd-dy l-ganoloesol (PRN 04249g).

Mae gan y dref a'r ardal gyfagos sawl cysylltiad hanesyddol pwysig ag amrywiaeth o ffigyrau hanesyddol, yn amrywio o Sieffre o Fynwy, a ysgrifennodd ei Historia Regum Britanniae yno, ac arglwyddi'r Gororau o'r cyfnod canoloesol cynnar, gan gynnwys William fitz Osbern, Iarll Henffordd, sylfaenydd Castell Trefynwy, a Harri'r V a anwyd yn Nhrefynwy yn 1387 (a gofnodir gan gerflun ar ffasd Neuadd y Sir a 'Gerddi'r Brenhinoedd') i'r Llyngesydd Horatio Nelson, ymhlith sawl un arall. Dylid hefyd grybwyll Syr Charles Rolls, cyd-sylfaenydd cwmni ceir Rolls-Royce, a fagwyd yn yr Hendre ger Trefynwy ac y caiff ei fentrau ym meysydd balwns, ceir cynnar ac awyrennau eu cynnwys yn Amgueddfa'r dref. Erbyn hyn mae ystad yr Hendre yn gartref ysblennydd i gwrs golff y Rolls Trefynwy.