Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

030 Caelun Tregagle a Phen-twyn


Canada Tips created through WWII opencasting:view to the southwest

HLCA 030 Caelun Tregagle a Phen-twyn

Tirwedd amaethyddol amrywiol: patrwm afreolaidd datblygedig o gaeau bach (coediog iawn) o amgylch Tregagle, mewn mannau eraill clostiroedd cromliniol, unionlin ac is-hirsgwar mwy (gwaith cyfuno rhannol); anheddiad gwasgaredig llac o ffermydd a bythynnod; prysgwydd/tir heb ei reoli; archeoleg greiriol: anheddiad/caeau canoloesol/ôl-ganoloesol, canfyddiadau cynhanesyddol; nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Caelun Tregagle a Phen-twyn yn dirwedd amaethyddol sy'n cynnwys caeau afreolaidd cymysg. Fe'i lleolir ar uwchlethrau Dyffryn Gwy, i'r gorllewin o ochr y dyffryn is sy'n goediog iawn ac yn serth ac uwch ei ben. Rhennir yr ardal yn ddwy gan linell Lone Lane, sydd mewn dyffryn wedi'i alinio ychydig i'r dwyrain-gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal ym mhlwyf Penallt, ac roedd yn rhan o faenor Trelech yn arglwyddiaeth Brynbuga.

Mae safle Neolithig yn tystio i weithgarwch cynnar iawn yn yr ardal. Er ei bod yn debygol i'r ardal fod yn llawer mwy coediog yn hanesyddol, bu meddiannaeth barhaus yma o'r cyfnod canoloesol o leiaf, gydag anheddiad canoloesol segur, a nodweddion cynnar posibl eraill yn yr ardal. Yn y cyfnod canoloesol diweddarach, bu anheddiad yn yr ardal ar hyd y ffyrdd, yn Nhregagle a Phen-twyn yn bennaf (Locock 2000, 29).

Ymddengys i gryn dresmasu ddigwydd ar y coetir yn y cyfnod ôl-ganoloesol, gyda galw am danwydd, chwareli a thir pori, ac roedd unrhyw goetir a oedd wedi goroesi yn yr ardal hon wedi'i glirio erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn map y degwm (1847), roedd yr ardal yn gwbl gaeedig a sefydlwyd y patrwm caeau afreolaidd datblygedig amrywiol. Ni fu fawr ddim newid i'r system gaeau hon ers map degwm 1847, er i rywfaint o gyfuno ddigwydd, yn enwedig yn y gogledd a'r dwyrain, rhwng y dyddiad hwn a chyhoeddi Argraffiad Cyntaf map yr AO (1887), ac yn dilyn hynny bu rhagor o fân gyfuno yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn enwedig y caeau mwy ar ddrychiad uwch yn rhan ogleddol yr ardal (AO 2006 1:10000 data Landline).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Caelun Tregagle a Phen-twyn fel tirwedd amaethyddol amrywiol ag anheddiad amaethyddol cysylltiedig. Mae gan y caelun batrwm afreolaidd datblygedig gyda chaeau bach (coediog iawn) i'r de o amgylch Tregagle, ynghyd ag ardal rannol gyfunol o glostiroedd is-hirsgwar unionlin, cromliniol mwy a rennir gan Lone Lane, i'r gogledd.

Ymddengys i'r caelun ddatblygu o hen gae agored canoloesol, a bu achosion o dresmasu yn ddiweddarach a chlostiroedd mwy rheolaidd i'r gogledd o Argoed, a oedd yn gysylltiedig efallai â Deddf Clostiroedd 1810. Ar y cyfan, mae caeau mwy ar yr uwchlethrau, tra nodweddir yr ardaloedd is mwy serth, i'r dwyrain a'r de o'r ardal â nodweddion, ac ar hyd gwaelod y dyffryn isel yn y canol, gan glostiroedd llai. Mae gan yr ardal i'r de o amgylch Tregagle gaeau afreolaidd datblygedig llai, tra yng Nghoedwig Fruid ceir clostiroedd ychydig yn fwy rheolaidd. Gallai rhan o'r caelun hwn fod yn gysylltiedig â meddiannaeth ganoloesol, mae'r caeau i'r de o Lone Lane, sydd agosaf at yr anheddiad yn yr ardal, yn rhedeg mewn stribedi cyfochrog, cul, hir yn ôl o linell y ffordd, sy'n debyg i system lain-gaeau ganoloesol, gyda'r caeau mwy ar yr uwchlethrau yn cael eu gwneud yn glostiroedd yn ddiweddarach.

Mae adeiladau fferm a strwythurau amaethyddol ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi yn ychwanegu at nodweddion amaethyddol yr ardal. Ymhlith y rhain mae'r cyfadeilad ysgubor ar fferm Pen-twyn (sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gwent) sydd yn ôl pob tebyg yn cynnwys elfennau strwythurol cynharach.

Mae ffiniau'r caeau yn yr ardal yn amrywio; maent yn cynnwys cymysgedd o gloddiau daear â gwrychoedd, coed gwrych nodedig a rhai ffensys post a gwifren. Mae waliau cerrig sych neu fortar yn amgylchynu'r lonydd, sy'n rhedeg drwy'r ardal. Ceir camfa anghyffredin yn y wal derfyn yn agos at Cherry Tree Farm, a ffurfiwyd o slabiau mawr o gerrig sydd ar oleddf sy'n ffurfio agoriad siâp V yn y wal, sy'n gweithredu fel agoriad ond sy'n rhy gul i anifeiliaid fferm fynd drwyddo. Mae'r ardal o dan borfa a thir pori sych ar hyn o bryd, gyda rhywfaint o dir âr ar ffurf cnydau grawn. Prin fu'r newid yma hefyd ers map y degwm; mae'r dyraniad atodol yn rhestru mai fel porfa a thir âr y defnyddiwyd y tir fwyaf.

Mae'r anheddiad nodweddiadol yn cynnwys datblygiad hirgul, a fodolai yn 1847, o ffermdai a bythynnod ar hyd Lone Lane, y prif lwybr cysylltiadau drwy'r ardal (map y degwm). Mae Lone Farm a Cherry Farm ill dwy wedi newid cryn dipyn erbyn hyn. Yn wreiddiol, wynebai Lone Farm y ffordd a chynhwysai adeiladau amaethyddol cyfochrog, tra roedd Cherry Orchard Farm, i'r gogledd, yn cynnwys yn wreiddiol y prif dy (sydd wedi'i ymestyn bellach) a osodwyd yn ôl o'r ffordd mewn gardd a dau adeilad amaethyddol y naill ochr i'r llwybr mynediad (map y degwm, ac Argraffiad Cyntaf a Thrydydd Argraffiad mapiau'r AO). Mae fferm Pen-twyn a Glyn Farm yn cynnal eu cynlluniau gwreiddiol: mae gan Ben-twyn ffermdy ag adeiladau amaethyddol hirfain ar wahân, tra bod Glyn Farm ym mhen gogleddol pellaf yr ardal yn dal i gynnwys fferm ac iard hirsgwar gydag adeiladau ar dair ochr iard sgwâr (yn ddiweddar ychwanegwyd adeiladau amaethyddol hirsgwar mawr i'r dwyrain o'r fferm wreiddiol).

Yn rhan ddeheuol yr ardal, ym mhentref Tregagle, mae'r anheddiad nodweddiadol yn cynnwys ffermydd a bythynnod gwasgaredig gyferbyn â rhwydwaith afreolaidd o lonydd mynediad. Ymddengys i'r rhan fwyaf o'r bythynnod, a'r ffermydd, fodoli ers map y degwm, a phrin fu'r newid o ran eu cynllun. Un enghraifft benodol yw'r ffermdy o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Pool Farm, yn rhan dde-orllewinol yr ardal, a'i adeiladau fferm cysylltiedig, sydd yn y bôn yr un fath o ran cynllun ag Argraffiad Cyntaf map yr AO, gydag adeiladau amaethyddol hirfain ar wahân i'r gorllewin o'r ffermdy (ar ochr arall y lôn) gyda pharau o gytiau mochyn i'r gogledd. Y prif ddeunydd adeiladu yw cerrig patrymog â tho llechi, er, mae Cherry Orchard Farm yn eithriad diddorol, gyda'i ffasâd cerrig nadd, sy'n anarferol yn yr ardal.

Ymhlith y nodweddion anheddiad ac amaethyddol creiriol/claddedig o'r cyfnod canoloesol mae olion anheddiad canoloesol segur i'r gogledd-orllewin o'r ardal (PRN 01890g), i'r gogledd o Pentwyn Farm, tra daethpwyd o hyd i dystiolaeth hefyd o fodolaeth anheddiad bach o ddiwedd y cyfnod canoloesol yn Nhregagle (Locock 2002, 29). Yn ogystal, ystyrir bod y patrwm caeau gyferbyn â Lone Lane yn cynrychioli'r hyn sy'n weddill o system gaeau agored ganoloesol, a gallai fod gan yr anheddiad gwasgaredig ar hyd y lôn yma ragflaenydd canoloesol.

Nodweddir yr ardal hefyd gan barseli o goetir hynafol lled-naturiol ac wedi'i ailblannu sydd wedi goroesi, ar hyd ei ffiniau yn bennaf, sy'n cynnwys coed collddail cymysg a mathau eraill o goed llydanddail, gyda rhai coed coniffer. Yn hanesyddol roedd yr ardal yn llawer mwy coediog fwy na thebyg. Fodd bynnag, golygodd achosion o dresmasu ar y coetir ar gyfer tir pori, chwareli a thanwydd, erbyn map y degwm, fod y coetir wedi'i glirio i raddau helaeth a dim ond rhai coed sydd ar ôl. Mae llawer o'r ffiniau caeau, yn enwedig yn rhan ddeheuol yr ardal â nodweddion, yn cynnwys gwrychoedd â choed gwrych nodedig, sydd o bosibl yn dynodi i'r clostiroedd gael eu hennill o'r coetir. Y prif gysylltiadau yn yr ardal yw lonydd troellog a mân ffyrdd, y mae'r anheddiad wedi'i leoli o'u hamgylch. Ar y cyfan, amgylchynir y llwybrau trafnidiaeth hyn gan waliau cerrig sych neu fortar, ac maent yn cynnwys rhai nodweddion amaethyddol diddorol fel y gamfa nodedig a drafodwyd uchod.

Un o nodweddion ychwanegol yr ardal hon yw archeoleg ddiwydiannol; ceir safle melin yd a phwll melin cysylltiedig, sy'n sych erbyn hyn, mewn ty o'r enw 'The Generals' ar ochr ogleddol Cadora Brook, tra bod yr olion eraill a geir yn cynnwys pwll olwyn (Coates 1992, 32).