Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

021 Newton


Light industrial buildings: view to the northeast.

HLCA 021 Newton

Tirwedd amaethyddol: patrwm afreolaidd o gaeau afreolaidd (rhywfaint o gyfuno ac isrannu o'r 20fed ganrif); ffiniau traddodiadol; Anheddiad/caeau Canoloesol/Ôl-ganoloesol: patrwm anheddu eithaf gwasgaredig o ffermydd a bythynnod a grwp hirfain o dai bonedd bach (Llys a Neuadd Newton); archeoleg ddiwydiannol greiriol/claddedig: melin a safleoedd prosesu metel canoloesol (hefyd y posibilrwydd ychwanegol o nodweddion claddedig cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol); nodweddion cysylltiadau (lonydd suddedig); ffiniau traddodiadol (waliau morter uchel a chloddiau pridd); cysylltiadau hanesyddol; coetir cymysg, a pherllan. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Newton yn gaelun amaethyddol, a leolir yn nyffryn isel Mally Brook; caiff y ffiniau eu diffinio gan ochrau'r dyffryn, coetir hynafol Hayes Coppice i'r gogledd, a llinell y coridor cysylltiadau i'r dwyrain. Mae ffiniau'r ardal hon i raddau'n artiffisial o anghenraid, ac mae ei nodweddion mewn gwirionedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ffiniau a bennwyd ar gyfer y dirwedd hanesyddol sydd ar y gofrestr o dirweddau hanesyddol ar hyn o bryd. Lleolir yr ardal ym mhlwyf Llandidiwg, ym maenor Dixton Newton.

Prin yw'r dystiolaeth o weithgarwch yn yr ardal cyn y cyfnod canoloesol, heblaw am ganfyddiadau o'r cyfnod cynhanesyddol (fflint wedi'i wasgaru: PRNs 03901g a 05655g). Awgrymir gweithgarwch canoloesol yn yr ardal â nodweddion gan y crochenwaith a ddarganfuwyd a'r dystiolaeth o doddi haearn (PRNs 07983g, 03872g), ynghyd â'r sôn am felin bosibl yn yr ardal a geir yn Llyfr Dydd y Farn (PRN 05659g MAS 1996).

Mae'r prif anheddiad yn yr ardal yn cynnwys Neuadd Newton a Llys Newton, diogelir y cyntaf gan statws Adeilad Rhestredig Gradd II, a'r ail gan statws Gradd II* (LB 85201, LB 85215). Mae'r cynharaf o'r rhain, Neuadd Newton, yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg fwy na thebyg, tra cafodd Llys Newton ei adeiladu ar gyfer George Griffin ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Awgryma'r manylion pensaernïol, yn enwedig y tri bwa uchder llawn, iddo gael ei adeiladu yn ôl cynllun gan Anthony Keck, pensaer a oedd yn gweithio yn ac o amgylch Swydd Gaerloyw, er iddo gael ei gwblhau ar ôl iddo farw, gan iddo farw yn 1797 (Newman 2000).

Cafodd y tir ei brynu ar yr un pryd ag ardal Dixton Hadnock, gan y Llyngesydd Griffin, ac fe'i gadawyd i'w drydydd mab, a adeiladodd Llys Newton (Bradney 1904). Arhosodd yr ardal yn nwylo'r teulu hwn hyd at ac ar ôl dyddiad map degwm 1845 sy'n nodi bod y rhan fwyaf o'r tir hwn yn eiddo i Mary Griffin. Mae patrwm y caeau wedi newid gryn dipyn rhwng map y degwm a mapiau modern (AO 2006 1:10000 data Landline) gan eu cyfuno ac yna eu his-rannu'n ddiweddarach, er nad yw'r tir wedi newid.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Erbyn hyn nodweddir Newton yn bennaf fel tirwedd amaethyddol, sy'n cynnwys caelun datblygedig, afreolaidd o gaeau mawr. Mae'r caelun wedi cael ei newid gryn dipyn ers map y degwm (1843) gyda gwaith cyfuno helaeth rhwng y dyddiad hwn ac Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881) a ddilynwyd gan y gwaith o isrannu’r clostiroedd rhwng y dyddiad hwn a heddiw (data Landline AO 2006). Fodd bynnag, mae'r cyflwr amaethu wedi aros yn debyg, dolydd, tir pori a thir âr, gydag ardal fach o berllan yn y gornel gogledd-orllewinol. Mae ffiniau'r caeau, sy'n nodweddu'r ardal, yn cynnwys gwrychoedd a choed gwrych nodedig.

Mae dau dy gwledig pwysig, a leolir mewn man dominyddol, ar ucheldir yn edrych dros y caelun, yn nodweddion cryf yn y dirwedd ac yn dominyddu ei gymeriad. Gellir olrhain anheddiad yn yr ardal i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, pan roedd maenordy yma, o bosibl ar safle Llys presennol Newton (Rees 1932, taflen SE). Mae Llys Newton (PRN 02276g, LB 85215), a adeiladwyd ar gyfer teulu'r Griffin ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn dy Neo-glasurol o dywodfaen coch patrymog â tho llechi a ffenestr bae ganolog tri llawr yn ei brif ddrychiad (Newman 2000). Mae Llys Newton gyda'i stablau cysylltiedig a'i wal sgrinio bellach wedi'i ddiogelu fel Adeilad Rhestredig Gradd II*, tra bod y pileri clwydi, clwydi a waliau adain cysylltiedig wedi'u rhestru ar wahân (LB 85201 Gradd II). Mae'r rhain hefyd wedi'u gwneud o dywodfaen coch ac yn Neo-Glasurol, ac maent fwy na thebyg yn gyfoes â'r ty.

Nodwedd arall anheddiad nodweddiadol yr ardal yw cymhlyg Neuadd Newton, sy'n llai na 200 metr ar hyd Newton Court Lane. Er mai Llys Newton yw prif annedd yr ardal, mae Neuadd Newton (LB 85216) hefyd yn bwysig, gan ddyddio'n ôl i ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg fwy na thebyg, er iddi newid yn fawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wahanol i Lys diweddarach Newton, fe'i hadeiladwyd o rwbel cerrig a chafodd ei rendro, ac roedd ganddi do llechi. Diogelir y clwydi haearn gyr a'r rheiliau ar wahân fel Adeiladau Rhestredig Gradd II (LB 85202).

Mae'r ail anheddiad yn yr ardal yn cynnwys bythynnod sydd wedi'u gwasgaru blith draphlith, yn rhes ar hyd y ffyrdd, sy'n amgylchynu'r ardal, y maent oll yn bodoli ar fap degwm 1843 ac wedi'u rendro'n gyffredinol â thoeon llechi.

Cynrychiolir y gweithgarwch diwydiannol yn yr ardal o'r cyfnod canoloesol gan Felin Llandidiwg (PRN 05659g, NPRN 40050), y mae'n debyg y cyfeirir ati yn Llyfr Dydd y Farn (MAS 1996). Mae rhagor o dystiolaeth o weithgarwch diwydiannol canoloesol yn yr ardal, yn benodol gwaith haearn. Yn yr ardal, daethpwyd o hyd i dystiolaeth o doddi haearn (PRN 07983g), tra bod gwastraff odyn (PRN 07984g) yn dangos parhad diwydiant yn yr ardal i mewn i'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'r crynhoad o fannau darganfod a gofnodwyd yng Nghofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (PRNs 07983g, 07984g, 03872g, 03901g, 05655g) yn yr ardal yn awgrymu bod cryn bosibilrwydd o archeoleg gladdedig.

Mae'r cysylltiadau yn yr ardal yn cynnwys lonydd troellog suddedig a amgylchynir gan gloddiau daear uchel a waliau morter uchel iawn.

Mae'r mân nodweddion ychwanegol yn gysylltiadau hanesyddol posibl a awgrymir gan yr enw 'Gaol Barn'; dangosir y nodwedd hon ar fap degwm canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fe'i galwyd yn 'Gaol Barn' ar Argraffiad Cyntaf map yr AO (1882). Mae coedwigaeth hefyd yn cyfrannu at gymeriad yr ardal, gyda choed collddail wedi'u lleoli o amgylch Llys Newton, a cheir tystiolaeth o berllannau ar fapiau hanesyddol hefyd.