Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

031 Teml Forol Cymin


Quarries near Pwll Du: view to the north

HLCA 031 Teml Forol Cymin

Parcdir a gardd gofrestredig â theml goffa: addurniadol/hamdden (twr/ffoli/man gwylio); math nodedig o adeilad: pafiliwn a chofeb pictiwrésg; cysylltiadau hanesyddol: personau; digwyddiadau; a'r Mudiad 'Pictiwrésg'. twristiaeth (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol); Coetir Hynafol; nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Teml Forol Cymin, ardal fach o barcdir (PGW (Gt) 5, PRN 06103g), yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyn o bryd. Fe'i lleolir ar gopa bryn uchel Cymin, sy'n ffurfio rhan ddwyreiniol Dyffryn Gwy yn y man hwn, ac yn edrych dros waelod eang y dyffryn a ffurfiwyd gan gyflifiad Afon Gwy ac Afon Mynwy. Mae ei ffiniau yn dilyn ardal y parc cofrestredig. Yn hanesyddol, roedd yr ardal wedi'i lleoli ym mhlwyf Llandidiwg.

Gallai fod gweithgarwch cynhanesyddol yn yr ardal; gallai fod bryngaer o'r Oes Haearn ar gopa bryn Cymin, er bod ansicrwydd ynghylch y manylion.

Mae hanes hysbys yr ardal yn dyddio'n ôl i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan arweiniodd dylanwad y mudiad pictiwrésg, a oedd yn hynod bwysig yn Nyffryn Gwy, at werthfawrogiad o'r golygfeydd o gopa bryn Cymin, a phoblogrwydd yr ardal gyda phobl leol. Clwb Picnic Trefynwy, a arweiniwyd gan Philip Meakins Hardwick, a adeiladodd y Ty Crwn yn 1794 fel ty picnic i'w aelodau, gyda chegin ar y llawr daear ac ystafell fwyta uwchben, gyda phum ffenestr i fwynhau'r golygfeydd ysblennydd i'r gorllewin i mewn i Gymru tuag at y mynyddoedd o amgylch y Fenni.

Yn dilyn hynny, adeiladwyd y Deml Forol, yn 1800, fel teyrnged i fuddugoliaethau morol y Chwyldro Ffrengig, ac fe'i cysegrwyd adeg dathlu dwy flynedd ers buddugoliaeth Nelson ym Mrwydr y Nile, gan Dduges Beaufort, merch y Llyngesydd Boscawen, a oedd yn un o'r Llyngeswyr a gofiwyd gan y deml. Yn ystod ymweliad â Threfynwy yn 1802, ymwelodd yr Arglwydd Nelson a'r Foneddiges Hamilton â'r Deml Forol a'r Ty Crwn.

Parhawyd i ddefnyddio'r ardal fel cyfleuster hamdden drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Defnyddiwyd y lawnt fowlio, a osodwyd tua'r adeg pan adeiladwyd y Ty Crwn, ar gyfer chwaraeon eraill, gan gynnwys hoci. Fe'i defnyddiwyd fel arddangosle, ac ar gyfer unrhyw ddathliadau mawr yn Nhrefynwy, yn enwedig yn 1905, gan mlynedd ar ôl Brwydr Trafalgar (Cofrestr Parciau a Gerddi Gwent 1994, 63). Mae'r defnydd hwn o'r ardal yn parhau hyd heddiw, gyda'r Kymin Dash, ras flynyddol, sy'n dilyn llwybr i fyny bryn Cymin a thrwy'r parc.

Yn 1902 rhoddodd Cyngor Sir Fynwy'r Ty Crwn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a wnaeth ei adnewyddu i'w gyflwr gwreiddiol.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Teml Forol Cymin gan y defnydd hamdden o'r tir, a ysbrydolwyd gan y mudiad pictiwrésg. Mae'r ddau brif strwythur, Ty Crwn Cymin a'r Deml Forol ynghyd â'u nodweddion cysylltiedig a'r gerddi o amgylch, yn enwedig y llwybrau drwy'r coetir i'r man gwylio, yn diffinio nodweddion hamddenol yr ardal. Mae Ty Crwn Cymin (PRN 03913g, NPRN 23097, LB 2222), Adeilad Rhestredig Gradd II* a thirnod pwysig, yn cynnwys twr deulawr wedi'i rendro a'i baentio â tho gwastad, lle gallai aelodau'r clwb Picnic weld y dirwedd o amgylch.

Amlygir nodweddion pictiwrésg a hamddena'r ardal ymhellach gan y llwybrau cerdded, sydd yn dal i fod yn boblogaidd heddiw, a dorrwyd drwy'r caeau wrth grib y bryn ac sy'n arwain at fan gwylio sy'n cynnig golygfeydd anhygoel i'r gorllewin ar draws Dyffryn Gwy. Mae'r defnyddiau hamddena a hamdden o'r ardal hefyd i'w gweld gan yr ardal fawr o lawnt a osodwyd ar gopa'r bryn, sef lawnt fowlio yn wreiddiol, y mae'r wal gynhaliol hefyd yn cael ei diogelu gan statws Adeilad Rhestredig Gradd II (LB 58228). Defnyddiwyd y lawnt hon yn ddiweddarach ar gyfer mathau eraill o chwaraeon, gan gynnwys hoci yn yr 1860au (Cofrestr Parciau a Gerddi Gwent 1994, 63). Mae'r Deml Forol sydd bellach yn rhestredig (PRN 03912g, NPRN 32877, LB 2221 Gradd II) yn elfen bwysig sy'n ymwneud â nodweddion hamddena'r ardal; fe'i hadeiladwyd yn 1800 i gofio'r llyngeswyr a enillodd frwydrau morol yn ystod y rhyfeloedd Napoleanaidd. Mae'r adeilad hwn yn cynnwys strwythur coffaol sydd â dau bortico ar ffurf colofnau a phlaciau yn rhestru enwau'r llyngeswyr a gaiff eu cofio ynghyd â'u buddugoliaethau morol, gyda cherflun o Britannia ar y pen.

Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol pwysig, o ran unigolion a digwyddiadau: mae gan yr ardal gysylltiadau agos â'r mudiad pictiwrésg yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif, sy'n gyfrifol am ei phoblogrwydd, ac roedd y strwythurau a adeiladwyd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn darparu golygfeydd o'r dirwedd o amgylch ac yn gwella'r agwedd hon. Yn ail, mae'r deml forol goffaol nid yn unig yn gysylltiedig â theulu'r Beaufort, ond hefyd â'r buddugoliaethau morol, a'r llyngeswyr a gaiff eu dathlu ganddi, yn bwysicaf oll, yr Arglwydd Nelson, a ymwelodd â'r parc ym mis Awst 1802 (Bradney 1904, 23).

Mae Coetir Hynafol yn ychwanegu at gymeriad yr ardal; mae'r ardal yn goediog iawn gyda chymysgedd o goed collddail, tra bod y llwybrau cerdded pictiwrésg cysylltiedig i'r mannau gwylio yn rhedeg drwy ardal gyfagos y coetir hynafol (rhan o Goedwig Highmeadow HLCA 019) yn benodol yr ardal o'r enw 'Coedwig Beaulieu'.

Mae cysylltiadau hefyd yn ffactor bwysig wrth ddiffinio nodweddion yr ardal hon; ar wahân i'r rhwydwaith o fân lonydd troellog a llwybrau sy'n cysylltu'r ardal â'r anheddiad islaw, y brif nodwedd cysylltiadau yn yr ardal yw uwch derfynfa'r ffordd gyhoeddus, Kymin Road ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; hon oedd y 'ffordd gerbydau gywrain' a gomisiynwyd gan Dduges Beaufort tua 1800, i ddarparu mynediad i'r Deml Forol a'r Ty Crwn cyfagos. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys llwybrau neu lwybrau troed (hawliau tramwy cyhoeddus) ac yn cynnwys rhan fach o lwybr hir Clawdd Offa.

Nodwedd posibl arall yw amddiffyniad ar ffurf bryngaer cynhanesyddol posibl ar fryn Cymin. Fodd bynnag, mae union natur a lleoliad y nodwedd hon, a allai ymestyn i mewn i'r ardal â nodweddion nesaf (Y Cymin HLCA 006) yn ansicr ac mae angen cadarnhau'r manylion ymhellach.