Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

028 Y Narth


Locomotives at the Pontypool and Blaenavon Railway.

HLCA 028 Y Narth

Anheddiad afreolaidd ôl-ganoloesol ac o'r 20fed ganrif ar ymyl Tir Comin Trelech: gwasgariad o ffermydd a bythynnod ôl-ganoloesol â datblygiad dwys diweddar er yn afreolaidd o fythynnod a thai; caelun datblygedig afreolaidd o glostiroedd afreolaidd bach, rhywfaint o gyfuno ac isrannu ar gyfer plotiau adeiladu; adeiladau cynhenid da o'r 19eg ganrif; coetir cymysg; ffiniau traddodiadol; nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Y Narth yn ardal sydd bellach yn cael ei dominyddu'n rhannol gan anheddiad is-drefol diweddar. Fe'i lleolir mewn cliriad yn y coetir ar frig bryn sy'n edrych dros Afon Gwy a Dyffrynnoedd Abergwenffrwd. Mae'r ffin rhwng plwyfi Llaneuddogwy a Threlech yn rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r ardal â nodweddion. Y perchennog tir pwysicaf yn yr ardal oedd Dug Beaufort, gyda pharseli o dir gwasgaredig yn eiddo i unigolion eraill. Y Dug oedd Arglwydd Maenor Trelech, a oedd yn cynnwys y rhannau o blwyf Llaneuddogwy, nad oeddent yn rhan o faenor Llaneuddogwy. Arglwydd y faenor hon oedd Esgob Llandaf (Bradney 1913, 136). Amgylchynir yr ardal gan goetir, coetir lled-naturiol hynafol Dyffryn Gwy i'r de, a'r coetir hynafol wedi'i ailblannu ar lethrau Dyffryn Abergwenffrwd i'r gogledd a'r dwyrain.

Nid oes tystiolaeth o feddiannaeth yn yr ardal cyn y cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae'r ardal hon fwy na thebyg yn cynrychioli ardal o glirio coedwigaeth a thresmasu arni yn y cyfnod ôl-ganoloesol; mae'r dirwedd yn newid cryn dipyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal ym mhlwyf Trelech, yr oedd y rhan fwyaf ohoni yn agored tan 1810, pan basiwyd Deddf i amgylchynu'r tir ym mhlwyf Trelech ac mewn sawl plwyf cyfagos (Penallt, Mitchel-Troy, Cwmcarfan, Llaneuddogwy, Tyndyrn a Llanisien). Gellir olrhain y broses hon o greu clostiroedd a thresmasu yn y rhan o'r Narth, yn Nhrelech, ar fapiau hanesyddol yr ardal. Mae map degwm 1845 yn dangos darn bach o glostiroedd, yn agos at ffin plwyf Llaneuddogwy, a glystyrir ar hyd ffyrdd ac o amgylch croesffyrdd, sy'n ffurfio cnewyllyn yr ardal fodern, tra bod y gweddill, o amgylch y perimedr yn dal i fod yn agored. Mae'r caeau, a ddangosir ar fap y degwm, yn fach, yn afreolaidd ac yn gromliniol ar y cyfan, gan gefnu ar gyffyrdd lonydd, sy'n ffurfio cnewyllyn yr ardal. Mae'r broses hon o greu clostiroedd wedi'i chwblhau erbyn dyddiad Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881).

Nid oes fawr ddim newid i'r patrwm hwn o greu clostiroedd ac anheddiad tan o leiaf Drydydd Argraffiad map yr AO (1921). Yn ystod rhan olaf yr ugeinfed ganrif, datblygir cryn dipyn o'r ardal ar gyfer tai, gyda mewnlenwi ac adeiladu ystadau. Mae adeiladau'r ugeinfed ganrif bellach yn dominyddu bythynnod hyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ffermdai ôl-ganoloesol, a oedd yn gysylltiedig â chlostir amaethyddol yr ardal.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Y Narth fel tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol â gwasgariad o fythynnod bach o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ffermydd bach iawn (neu ddaliadau bach), yr ychwanegwyd atynt gan ddatblygiad o'r ugeinfed ganrif. Mae'r ardal yn nodweddiadol o glirio coedwigaeth neu dresmasu arni, ac mae datblygiad yr anheddiad yn ymddangos yn un ar hap gan mai prin yw arddull tai unigol ac ni cheir unrhyw natur unffurf benodol. Mae datblygiad yr ugeinfed ganrif yn drefol ei natur.

Ceir gwasgariad o adeiladau hyn, sef bythynnod ac adeiladau fferm o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf, a ddangosir ar fapiau'r degwm (1844/1845); fe'u hadeiladwyd o gerrig wedi'u paentio neu eu rendro â thoeon llechi. Un enghraifft benodol yw Rose Farm, a ddangosir ar fap y degwm (1845), sy'n cefnu ar y ffordd, a Yew Tree Cottage, bwthyn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd â nodweddion cynhenid nodedig. Mae'r ffermydd yn fach iawn, ac nid ymddengys iddynt newid o gwbl o ran eu cynllun ers y mapiau hanesyddol; maent yn cynnwys y ffermdy, sydd fel arfer a dim mwy nag un adeilad fferm cysylltiedig bach. Yn ddiddorol, mae 'Narth Farm' fel y mae heddiw, er y'i dangosir ar fap y degwm ac Argraffiad Cyntaf map yr AO, yn ddienw, tra bod y cyfadeilad a ddangosir fel 'Narth Farm' ar Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881) bellach yn cael ei adnabod fel 'Old Narth Farm', gan ddynodi newid mewn pwyslais amaethyddol.

Mae'r tai mwy diweddar yn cyfrannu nodweddion trefol iawn i'r ardal; ymhlith y rhain mae tai a byngalos unigol ar eu tir eu hunain, yn ogystal ag ystad cyngor bach (neu o bosibl comisiwn coedwigaeth). Ymddengys i'r tai hyn gael eu harosod mewn ffordd dameidiog ar y dirwedd clostir afreolaidd ac efallai eu bod yn dynodi datblygiad unigol yn hytrach nag un cam ar waith adeiladu neu ddatblygu cynlluniedig. Nid ymddengys i fawr ddim rheoleiddio na rheolaeth gynllunio weladwy effeithiol ddylanwadu ar natur ehangiad diweddar yr anheddiad, ar wahân i'r ystad fach. Er nad oes un arddull penodol, yn gyffredinol mae'r adeiladau yn dai ar wahân neu'n fyngalos ar eu tir eu hunain, a adeiladwyd yn bennaf o frics neu sydd wedi'u rendro, â thoeon panteil. Mae angen astudio datblygiad yr anheddiad ymhellach er mwyn pennu a oedd cyfnod yn y canol o gabinau gwyliau i gyfrif am y patrwm rhyfedd hwn o ran twf.

Ar y cyfan, mae caelun amaethyddol yr ardal yn cynnwys clostiroedd bach â phatrwm afreolaidd amrywiol, o dresmasu cromliniol cychwynnol i fewnlif mwy rheolaidd yn ddiweddarach ar hyd ochr orllewinol yr ardal, lle mae'n ffinio â Thir Comin Trelech. Ni fu fawr ddim newid i'r system gaeau afreolaidd ddatblygedig fel y mae heddiw ers Argraffiad Cyntaf map yr AO, er y bu rhywfaint o waith cyfuno yn rhan orllewinol yr ardal rhwng canol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar hyn o bryd ceir cymysgedd o dir âr a phorfa, nad yw wedi newid fawr ddim o'r hyn a geir yn nyraniad y degwm. Amgylchynir y caeau gan gloddiau pridd isel â gwrychoedd arnynt, a waliau cerrig sych, er bod coed aeddfed nodedig hefyd wedi goroesi ar y ffiniau, sy'n awgrymu bod y tir wedi'i ennill yn wreiddiol o'r coetir amgylchynol.

Mae'r ardal, a amgylchynir gan goetir bob ochr, yn debygol o fod wedi'i hennill drwy dresmasu ar goetir, ac mae coed yn nodwedd sydd wedi goroesi yn yr ardal, fel coed ar wahân ac ar ffiniau caeau. Mae coetir hynafol a ailblannwyd sy'n cynnwys coed collddail a bytholwyrdd cymysg yn ffurfio'r ffin i'r gogledd a'r dwyrain lle mae'n gorchuddio'r llethrau serth ar ochr ddeheuol Dyffryn Abergwenffrwd. Amgylchynir yr ochr ddeheuol gan goetir lled-naturiol hynafol o goed collddail a llydanddail eraill, tra bod y ffin sy'n weddill i'r gorllewin wedi'i ffurfio gan ymyl y blanhigfa ar Dir Comin Trelech.

Mae'r llwybrau cysylltiadau yn yr ardal yn lonydd troellog yn bennaf, ac yn hawliau tramwy cyhoeddus; mae'r rhain yn cysylltu'r bythynnod gwasgaredig a'r daliadau bach a'r clwstwr diweddarach o anheddiad. Ymddengys fod y lonydd troellog yn parchu ac yn adlewyrchu'r ffiniau tresmasu cromliniol, a gallent ddiffinio camau amrywiol ar dresmasu. Mae llwybr bysiau, sy'n gwasanaethu'r anheddiad modern, yn pwysleisio'r agwedd drefol breswyl ar anheddiad mwy diweddar yr ardal.