Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

001 Afon Gwy


Aerial view of the Wye river valley

HLCA 001 Afon Gwy

Coridor cysylltiadau a choridor morol arfordirol: pontydd; coredau; rhydoedd; traphontydd; porthladdoedd/dociau; fferau; harbwr/pysgota; addurniadol/hamdden a thwristiaeth; adnoddau cyflenwi dwr. Nôl i'r map


Cefndir hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Afon Gwy yn ffurfio llwybr cysylltiadau naturiol. Mae symudiad tonnol i'r afon am 16km i fyny'r afon o Gas-gwent a gellir ei mordwyo hyd at Henffordd y tu hwnt i'r Dirwedd Hanesyddol. Mae'r rhan o'r afon dan sylw yn ymestyn i'r de o Gas-gwent, sef man croesi'r M48, hyd at dro yn yr afon yn 'The Biblins', islaw Symonds Yat.

Mae Afon Gwy a'i llednentydd yn adlewyrchu meddiannaeth ddynol sy'n ymestyn yn l drwy gyfnodau hanesyddol a chynhanesyddol, ac maent wedi gweithredu fel llwybr cysylltiadau hanfodol ac wedi darparu adnoddau ar gyfer diwydiant. Mae'r bont gynharaf sy'n croesi Afon Gwy yn dyddio'n l i'r cyfnod Rhufeinig; credir bod pont bren wedi croesi'r afon tua chilomedr i'r gogledd o Gas-gwent (Maylan 2000). Yn Nhrefynwy mae'n bosibl bod pont bren ganoloesol wedi rhagflaenu Pont bresennol Afon Gwy sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg (PRN 01250g, NPRN 24231, LB 2220 Gradd II). Cafodd y bont cerrig nadd o haearn bwrw a gyr a thywodfaen coch (PRN 02192g, NPRN 24221, LB24916 Gradd II) yn Bigsweir ei chynllunio gan Charles Hollis o Lundain ac fe'i hadeiladwyd fel rhan o dyrpeg Dyffryn Gwy a gafodd ei agor yn 1829.

Cafodd pwysigrwydd yr afon fel llwybr trafnidiaeth ei leihau'n sylweddol ar l i ffordd dyrpeg gael ei hadeiladu drwy'r dyffryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; cafodd Pont Bigsweir ei hadeiladu fel rhan o'r ffordd dyrpeg hon, a agorodd yn 1829. Heddiw, gellir dilyn llwybr y ffordd dyrpeg ar hyd ffordd fodern yr A466, sy'n rhedeg i'r gogledd drwy'r dyffryn gan ddarparu ffordd gysylltu haws na'r afon.

Roedd gan y gwerthfawrogiad o dirwedd Prydain Fawr a phoblogrwydd hanesyddol Afon Gwy yn arbennig ei wreiddiau yn y mudiad pictiwrsg. Cafodd Afon Gwy ei datblygu fel atyniad i dwristiaid o ganlyniad uniongyrchol i'r cythrwfl a achoswyd gan y Chwyldro Ffrengig a'r Rhyfeloedd Napoleanaidd, a wnaeth amharu ar y 'Daith Fawr' a gafodd ei ffafrio gan y cyfoethog. Efallai mai'r testun allweddol a ddyfynnir amlaf o ran poblogrwydd Dyffryn Gwy oedd gwaith William Gilpin yn 1782, sef 'Observations on the River Wye.' Hyrwyddodd testun Gilpin rinweddau esthetig yr ardal, a wnaeth dyfu mewn poblogrwydd yn ystod rhan ddiweddarach y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg: cofnodir bod wyth cwch pleser yn cael eu gweithredu ar yr afon yn 1808 (Maylan 2000).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Mae Afon Gwy yn ardal a nodweddir gan goridor cysylltiadau naturiol. Mae gan Afon Gwy a'i dyffryn cysylltiedig gryn dipyn o hanes o feddiannaeth ddynol a defnydd; mae llednentydd cyflym yr afon wedi'u defnyddio dros y canrifoedd i bweru melinau amaethyddol a diwydiant trwm fel ei gilydd. Lleolir cyfres o bontydd, coredau, traphontydd, porthladdoedd/dociau a fferau sy'n dyddio o gyfnodau amrywiol o fewn yr ardal neu maent yn ymestyn i mewn i'r ardal. Ymhlith y rhain mae Llithrfa Tref Cas-gwent (PRN 05478g, NPRN 401823, SAM MM301), a phontydd rhestredig Gradd II dros Afon Gwy (PRN 01250g NPRN 24231 LB 2220) yn Nhrefynwy a'r Bont (PRN 02192g, NPRN 24221, LB24916) yn Bigsweir. Roedd yr olaf yn rhan o ffordd dyrpeg o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddatblygwyd gan Ymddiriedolwyr Tyrpeg Cas-gwent a Threfynwy.

Llithrfa Tref Cas-gwent yw'r hynaf o'r ddwy lithrfa sy'n bodoli o hyd a wasanaethai Cas-gwent ar un adeg ac mae'n nodwedd bwysig sydd i'w gweld o hyd ar lannau a chei hanesyddol y dref. Mae'n enghraifft o lithrfa l-ganolesol sydd wedi'i chadw'n ardderchog ac mae'n cynnwys llithrfa goblog ar gambr y dynodir ei ffin ddeheuol gan fur isel a'i ffin ogleddol gan ymyl palmentog. Mae 0.5m olaf y llithrfa, sydd tua 25m o hyd a 2.6m o led yn ei chyfanrwydd, yn cael ei ffurfio gan gyfres o risiau isel i lawr i l y trai yn Afon Gwy, ac mae'r llithrfa yn ymestyn dros ddwy ardal nodweddion: Afon Gwy (HLCA 001) a Chas-gwent (HLCA 003).

Daeth ceunant yr afon a'r ardaloedd nodweddion oddi amgylch sy'n creu Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Gwy yn bwysig fel atyniad i dwristiaid o ran olaf y ddeunawfed ganrif. Mae cysylltiadau llenyddol, artistig a hanesyddol cryf 'r mudiad pictiwrsg yn ystod y cyfnod wedi ychwanegu at y canfyddiadau o'r ardal. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, denodd ansawdd golygfeydd ceunant yr afon a'r adfeilion rhamantus cysylltiedig, fel Abaty Tyndyrn, niferoedd sylweddol o ymwelwyr i lawr Afon Gwy ar gwch i fwynhau'r golygfeydd ysblennydd nas difethwyd, a'r awyrgylch rhamantus; mae twristiaeth a hamdden yn dal i fod yn agwedd bwysig ar gymeriad yr ardal heddiw.

Roedd yr afon yn llwybr cysylltiadau i gludo deunyddiau i ddiwydiant trwm ac o ddiwydiant trwm a leolwyd ar hyd y llednentydd cyflymach. Mae natur ffisegol yr afon a'i glannau wedi pennu lleoliad diwydiant a bwerir gan ddwr ar hyd Afon Gwy. Gellir gweld y ffin hon uwchben ac islaw Tyndyrn, lle mae glan yr afon yn newid. Uwchben Tyndyrn, gwyddys bod sawl diwydiant a bwerwyd gan ddwr wedi bodoli, y mae llawer i'w gweld o hyd ar ffurf archeoleg greiriol. Fodd bynnag, islaw Tyndyrn, ni ddatblygodd unrhyw ddiwydiannau o'r fath, gan fod cryn dipyn o lan yr afon yn anodd mynd ati, gyda'r afon yn llifo rhwng dyfnentydd. Mae amrediad y llanw islaw Tyndyrn yn llawer mwy, ac nid oes unrhyw lednentydd ymyl.