Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

027 Coedwig Hael


Garn Lakes nature reserve: view to the east.

HLCA 027 Coedwig Hael

Coetir Hynafol â thresmasu afreolaidd coediog gwasgaredig ac anheddiad gwasgaredig (datblygiad hirgul) ôl-ganoloesol? (The Birches): archeoleg ddiwydiannol: prosesu metel (safle gweithfeydd gwifren Abergwenffrwd cynnar); chwarela (gan gynnwys meini melin); odynau calch; gwasgfeydd seidr/melinau; rheoli dwr: ffrydiau, cronfeydd dwr, argaeau (cysylltiad â gweithfeydd gwifren Abergwenffrwd); cysylltiadau hanesyddol; nodweddion rheoli coetir; nodweddion ffiniol (cerrig ffiniau). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Hael yn goetir hynafol ar lethrau Dyffryn Gwy, Dyffryn Abergwenffrwd, ac aber Dyffryn Blackbrook. Mae'r ardal yn cynnwys Coedwigoedd Uchaf ac Isaf Hael, Coedwig Manor, Coedwig Pwllplythin, Colonel's Park, Coedwig Graig, Young's Grove, Coedwig Luggas, Coedwig Pwll Mawr, Coedwig Washing a Choedwig Isaf, yn ogystal ag anheddiad 'The Birches'. Lleolir yr ardal ym mhlwyfi hanesyddol Penallt, Trelech a Llaneuddogwy, a'r prif berchennog tir yn yr ardal oedd Dug Beaufort. Diffinnir ffiniau'r ardal gan faint y coetir hynafol. Mae bron hanner y coetir hynafol yn yr ardal yn goetir llydanddail hynafol naturiol sydd wedi bodoli ers o leiaf 1600.

Mae'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, ar ffurf chwarel, y credir iddi ddarparu'r garreg ar gyfer Castell canoloesol Rhaglan (Bradney 1896, 70-1). Gwelir tystiolaeth o feddiannaeth ganoloesol bellach gan gyfeiriad mewn les dyddiedig 1594 at Gapel Sant Denis, y credir iddo gael ei leoli ger aber dyffryn Afon Ddu.

Melin Yd Mâl yn rhan ddeheuol yr ardal, ger aber Dyffryn Abergwenffrwd, yw'r enghraifft gynharaf o ddiwydiant. Yn dilyn hynny, sefydlwyd Gweithfeydd Gwifren Abergwenffrwd tua 1600; cangen o Waith Gwifren/Haearn The Lower neu Abbey, a gwblhawyd yn 1567. Fel yn Nhyndyrn, y Gymdeithas Gweithfeydd Mwynau a Magnelfeydd a weithredai Gweithfeydd Gwifren Abergwenffrwd, nes iddo gau tua 1720 (Coates 1992, 25). Mae pwysigrwydd diwydiant i'r ardal yn glir o nifer y nodweddion cysylltiedig a geir yn yr ardal hon o goetir, y mae'r rhan fwyaf yn gysylltiedig â'r gweithgareddau diwydiannol yn Nyffryn cyfagos Abergwenffrwd (HLCA 029). Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn nodweddion rheoli dwr; argaeau, cronfeydd dwr a ffrydiau, a gyflenwai weithfeydd gwifren yr ail ganrif ar bymtheg yn yr ardal a melinau papur diwedd y ddeunawfed ganrif yn Nyffryn Abergwenffrwd; dechreuwyd y diwydiant papur yma tua 1760 (Coates 1992, 25). Darparai dwy nant, sy'n rhedeg drwy'r coetir yn yr ardal, y cyflenwad dwr a oedd yn angenrheidiol i weithgynhyrchu a thanio'r peiriannau: White Brook a Manor Brook.

Cynrychiolir hanes diwydiannol yr ardal ymhellach gan chwareli, a oedd yn cyflenwi'r melinau yd a seidr yn yr ardal â cherrig melin, gyda thywodfaen caled yr ardal â cherrig crynion chwarts bach (sef Clobynfaen, Brecia neu Jacfaen) yn addas iawn. Mae'r ardaloedd cloddiol yn cynnwys nifer o gerrig nas gorffennwyd; ymddengys fod nifer uchel yn ddiffygiol neu wedi'u difrodi cyn cwblhau'r gwaith, gan felly eu gadael yn y fan a'r lle. Daeth y diwydiant maen melin lleol i ben tua 1875, yn dilyn y broses o fewnforio gwenith o Ogledd America ar raddfa fawr, ac adeiladu Rheilffordd Dyffryn Gwy.

Golyga ei agosrwydd i safle posibl Capel canoloesol Sant Denis ei bod yn debygol i'r anheddiad yn rhan ogleddol yr ardal, o amgylch aber Dyffryn Black Brook, ddyddio o'r cyfnod canoloesol. Ar fap y degwm (1847) gwelir anheddiad 'The Birches', a oedd wedi ehangu erbyn Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1887). Yna ni newidiodd fawr ddim tan y Trydydd Argraffiad (1922). Prin fu'r datblygiad ers y 1920au.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coedwig Hael gan goetir hynafol, sy'n cynnwys coed collddail brodorol cymysg a mathau llydanddail eraill yn bennaf, â rhai rhannau coniffer. Dynodwyd dau ddarn o goetir ar hyd y llethrau serth uwchben Afon Gwy yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Coedwig Hael Isaf (818/33WGL) a Choedwig Graig, sydd ychydig ymhellach i'r gogledd (1,030/33WGE). Mae'r ddau SODdGA hyn mewn ardaloedd o goetir lled-naturiol yn wahanol i goetir wedi'i ailblannu. Er y bu rhywfaint o dresmasu ar y coetir yn rhan ogleddol yr ardal, o amgylch aber Dyffryn Black Brook, gyda chlostiroedd bach yn gysylltiedig ag anheddiad ac amaethyddiaeth, mae'r goedwigaeth yn dal i ddominyddu yma; ceir coed rhwng clostiroedd a gliriwyd, a ffurfiant eu ffiniau.

Ceir cryn dipyn o olion diwydiannol yn yr ardal, y mae sawl un yn gysylltiedig â'r ardal ddiwydiannol gyfagos, sef Dyffryn Abergwenffrwd (HLCA 029). Un safle diwydiannol arbennig o bwysig yn yr ardal hon â nodweddion yw Gweithfeydd Gwifren Abergwenffrwd (PRN 06255g, NPRN 276006, SAM MM 270). Mae'r olion yn cynnwys waliau cerrig a oedd yn perthyn i adeiladau adfeiliedig, anheddau efallai, a chyfres o derasau ar ochr serth y bryn. Mae cryn bosibilrwydd bod nodweddion tanddaearol wedi goroesi, am i'r safle gael ei adael yn segur ar ôl iddo gau. Mae nifer o nodweddion yn gysylltiedig â'r gweithfeydd gwifren hyn; y pwysicaf yw ffrwd (SAM MM 292), sy'n bwydo'r gweithfeydd, ac yn rhedeg am dros gilomedr o White Brook (Coates 1992, 30). Mae ffrwd posibl arall (PRN 07099g), a oedd yn rhedeg i'r gweithfeydd gwifren hyn, yn goroesi ar ffurf nodwedd rhes o goed â rhagfur carreg.

Ymhlith yr olion diwydiannol eraill mae amrywiaeth o nodweddion rheoli dwr yng nghyffiniau Manor Brook sy'n gysylltiedig â melinau Dyffryn Abergwenffrwd; y rhain yw cronfa ddwr (PRN 07093g), ei hargae cysylltiedig (PRN 07094g), cysgodfa (PRN 07095g), a chafn gorlifo (PRN 07096g). Yn ogystal, mae ffrwd arall (PRN 08999.0g) ar ochr arall Dyffryn Abergwenffrwd, a oedd fwy na thebyg hefyd yn gysylltiedig â'r melinau yn y dyffryn.

Mae'r ardal yn cynnwys chwareli bach niferus, y credir bod un yn dyddio o'r cyfnod canoloesol ac wedi gweithredu fel ffynhonnell hen dywodfaen coch a ddefnyddiwyd i adeiladu Castell Rhaglan (PRN 00666g). O blith chwareli eraill yr ardal (PRNs 04067g, 04068g, 04069g, 07432g, a 08996g), gwyddys bod o leiaf un wedi cynhyrchu melinfeini. Yn nodedig hefyd mae odyn calch posibl (PRN 08998g), y mae ei olion strwythuredig yn gysylltiedig â sorod calch a haearn.

Fel ardaloedd eraill yn Nyffryn Gwy, mae cynhyrchu seidr yn un o nodweddion Coedwig Hael. Cynrychiolir y diwydiant hwn gan wasg seidr (PRN 07103g) yn rhan ddeheuol yr ardal, gyda maen melin cysylltiedig tua dau fetr o ddiametr. Ceir dwy garreg gwasg seidr arall heb eu gorffen yn yr ardal, sydd wedi'u torri'n rhannol o'r chwarts tywodfaen (PRNs 07108g, 07090g).

Mae'r ardal yn cynnwys peth tystiolaeth o anheddiad, ac amaethyddiaeth, yn enwedig yn rhan ogleddol yr ardal; dangosir anheddiad â chlostiroedd cysylltiedig, datblygiad hirgul hirfain gwasgaredig, ar fap degwm 1847 wrth aber Dyffryn Black Brook, a gellir gweld twf anheddiad pellach ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1887). Nid oes fawr o newid wedi hynny.

Yn y bôn, mae'r anheddiad yn yr ardal yn cynrychioli'r cyfnod ôl-ganolesol cynnar, os nad yn gynt o bosibl, tresmasu, a nodweddir gan ddaliadau bach a bythynnod gwasgaredig. Yn ddiweddar, mae ardal 'The Birches' wedi gweld rhywfaint o ehangu o ran ei anheddiad, er mai bythynnod/ffermydd bach yw'r prif fath o adeilad o hyd, sydd unwaith eto yn wasgaredig i raddau helaeth mewn clostiroedd afreolaidd bach a gliriwyd o'r coetir amgylchynol. Ar Argraffiad Cyntaf map yr AO ceir nifer o fythynnod a ffermydd bach (ee. Birches Farm, Cae Dee, Hillside, The Birches, Blaen Brook, a Glen View Cottage, Wye View) sy'n adeiladau hirfain bach yn nodweddiadol. Ceir enghreifftiau da o adeiladau cynhenid a bythynnod o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o hyd.

Nid yw patrwm, maint na chymeriad y clostir cysylltiedig presennol wedi newid fawr ddim ers Argraffiad Cyntaf map yr AO, sydd yn y bôn yn glostiroedd afreolaidd bach â ffiniau o wrychoedd â choed gwrych aeddfed nodedig. Dangosir y broses o dresmasu yn y cyfnod ôl-ganoloesol rhwng y degwm ac Argraffiad Cyntaf map yr AO drwy glostir ychwanegol yn ogystal â daliadau/anheddau ychwanegol sy'n bodoli erbyn arolwg yr olaf. Er enghraifft, nid yw'r un o'r daliadau o'r enw Barberry a The Birches yn ymddangos ar y Degwm, er i'r ddau ymddangos ar Argraffiad Cyntaf map yr AO; dangosir lleoliad y daliadau hyn yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ochr bryn agored â lôn heb ffens yn rhedeg drwy'r ardal. Ar yr adeg hon, mae'r clostiroedd a'r tresmasu yn yr ardal yn anghyflawn ac yn ddarniog, gyda ffiniau cromliniol clostiroedd unigol a thresmasu clystyrog yn hawdd eu hadnabod.

Er mai anheddiad gwasgaredig sy'n rhagddominyddu, mae map y degwm ac Argraffiad Cyntaf map yr AO yn dynodi clwstwr bach wrth fan croesi uchaf y fferi (Upper Redbrook Passage ar fap y degwm) i Redbrook a Whitehall, gan gynnwys yr olaf, tafarndy Wheatsheaf (Upper Ferry House erbyn hyn), Whitehall Cottage a sawl annedd neu strwythur arall, nas dangosir mwyach ar fapiau cyfoes. Ymhellach i'r de, wrth fan croesi isaf y fferi (Lower Redbrook Passage) i Lower Redbrook ceir anheddiad arall. Y tro hwn anheddiad hirfain bach ydyw gydag ambell i fwthyn ar y cyrion (gan gynnwys Wye View) yn dilyn y lôn i'r gorllewin. Prif elfen yr anheddiad yw rhes o fythynnod gweithwyr (sydd hefyd ar fap y degwm sef Steps Cottage), bythynnod gweithwyr fferi o bosibl, a Bridge Cottage a Boat Inn yn ddiweddarach yn y pen gogleddol gyda'i chwarel gyfagos (PRN 00666g), yn wynebu Pont Reilffordd Redbrook (sy'n bompren bellach), traphont a adeiladwyd yn 1876 gan Gwmni Rheilffordd Trefynwy a Dyffryn Gwy (PRN 03267.2g). Dangosir The Boat Inn a Bridge Cottage gyntaf ar Argraffiad Cyntaf map yr AO ac ymddengys eu bod yn cynrychioli twf anheddiad ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n gysylltiedig ag adeiladu Rheilffordd gyfagos Dyffryn Gwy, y chwarel gyfagos, a mwy o draffig fferi yn ystod y cyfnod.

Agwedd arall, sy'n ychwanegu at gymeriad yr ardal, yw'r cysylltiad eglwysig posibl. Ceir cyfeiriadau dogfennol at Gapel yn yr ardal sy'n talu teyrnged i Sant Denis; fe'i crybwyllir ar les dyddiedig 1594. Er nad oes unrhyw olion cloddiol nac unrhyw safleoedd penodol ar gyfer y capel hwn, ceir cae yn yr ardal a elwir yn lleol yn 'Chapel Field', sy'n dir pori ar hyn o bryd (Brook 1988, 82).

Cynrychiolir llwybrau cysylltiadau gan sawl llwybr troed a llwybr ceffylau yn y de, a mân ffyrdd yn y gogledd, yn ogystal â lonydd suddedig a amgylchynir gan waliau cerrig sych uchel. Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn rhedeg ar hyd ymyl yr ardal â nodweddion, ar lan yr afon. Ceir hefyd hen lonydd sy'n rhedeg drwy'r ardal; (PRN 07101g) sy'n rhan o rwydwaith mwy; gallai llwybr ceffyl pwn (PRN 07089g) a elwir yn lleol yn 'llwybr asyn' fod yn gysylltiedig â'r gweithfeydd gwifren gerllaw (PRN 06255g, NPRN 276006, SAM MM270) ac mae'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg fwy na thebyg.

Gallai'r enw ar le Coedwig Hael fod yn gysylltiedig â'r ffigwr o Went, Ifor Hael (Ifor ap Llywelyn o Wernyclepa ger Casnewydd, fl. 1340-60). Roedd Ifor Hael a'i deulu yn enwog am noddi beirdd mwyaf blaenllaw Cymru o'r cyfnod canoloesol, a'r enwocaf o'u plith oedd Dafydd ap Gwilym. Cafodd nai i Ifor Hael, Phylip ap Morgan, stiward Arglwyddiaeth Mortimer ym Mrynbuga a Chaerllion, ei gredydu am gomisiynu molawd Iolo Goch i Roger Mortimer (Davies 2008, 219-220; Evans 2008, 287-288).