Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

014 Dyffryn Angidy


Govilon Canal: view to the west.

HLCA 014 Dyffryn Angidy

Tirwedd ddiwydiannol: archeoleg ddiwydiannol greiriol: prosesu metel; melinau; chwarela; nodweddion rheoli dwr (coredau, ffrydiau a ffosydd); nodweddion cysylltiadau (gan gynnwys rheilffordd ddiwydiannol a phontydd); Anheddiad diwydiannol ôl-ganoloesol (patrwm gwasgaredig anffurfiol o dai a bythynnod Sioraidd â chlostiroedd cysylltiedig; arddull gynhenid nodedig; nodweddion anheddiad ôl-ganoloesol/mathau o adeiladau (capeli anghydffurfiol; tafarndy; ysgol o'r 19eg ganrif); cysylltiadau hanesyddol a mynachaidd (tir mynachaidd); ffiniau traddodiadol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Cynrychiolir ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Angidy gan ddyffryn cul serth yr afon sy'n goediog iawn; mae nant gyflym, Nant Angidy, yn rhedeg i lawr dyffryn yr afon o'r gorllewin i'w gyflifiad dwyreiniol ag Afon Gwy yn Tintern Parva. Yn hanesyddol gorweddai'r ardal ym mhlwyf diweddarach Chapel Hill a oedd yn ddiddegwm ar ôl bod yn dir mynachaidd a oedd yn eiddo i'r Abaty Sistersaidd yn Nhyndyrn (Locock 1997). Rhoddwyd yr ardal hon o dir i Henry Somerset (Dug Beaufort yn ddiweddarach) yn 1536-7. Mae'r ardal â nodweddion yn cynnwys cyffordd Dyffryn Angidy ag Afon Gwy ynghyd â rhan ogleddol anheddiad Tyndyrn, sydd â nodweddion mwy diwydiannol.

Canfyddiadau sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar fel ceiniog stater aur o'r Oes Haearn (PRN 06202g) o Anterdig, Brenin Dobwni, yw'r dangosyddion cynharaf o feddiannaeth yn yr ardal. Yn ystod y cyfnod canoloesol, priodolir y gwaith o godi cyfres o goredau ar hyd y nant a bwerai ddwy felin raean a phandy yn yr ardal i fynachod Tyndyrn; cafodd y pyllau uwchben y coredau hyn eu defnyddio gan y mynachod fel pyllau pysgod hefyd (Williams 2000 241-2, 266).

Datblygodd yr ardal i fod yn ganolfan bwysig i ddiwydiant yn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar: sefydlodd y Gymdeithas Gweithfeydd Mwynau a Magnelfeydd nifer o weithfeydd haearn ar hyd Dyffryn Angidy rhwng 1568 a 1631 gyda'r nod o wneud Lloegr yn hunanddigonol mewn arfau. Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu fel monopoli brenhinol â'r nod o ddarparu pres ar gyfer canonau ac arfau eraill fel yr oedd yn ofynnol gan y Goron. Rhoddwyd y gorau i'r bwriad cynnar hwn yn gyflym; fodd bynnag, y gwaith o gynhyrchu pres a gwifren haearn a ddaeth i lywio'r diwydiant yma a pharhaodd felly drwy'r ail ganrif ar bymtheg (Newman, 2000). O ganlyniad roedd Gweithfeydd Haearn/Gwifren Isaf neu Abbey (PRN 00709g, SAM MM266) yn weithredol yn 1566–1567; mae'n debygol mai hwn oedd y gwaith cyntaf i gael ei ddatblygu yn ardal Dyffryn Gwy (Coates 1992). Roedd y gweithfeydd yn cynnwys adeilad mawr â phedair olwyn ddwr, pedwar morthwyl, a dwy ffwrnais anelio; roedd y safle yn cael ei bweru gan ddwr drwy ffrwd a fwydwyd gan Afon Angidy, a gyflenwyd gan gronfa ddwr yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ffwrnais chwyth Yr Hen Ffwrnais (SAM MM197; PRN 00712g; NPRN 34136), ar waith o 1669 ymlaen (Newman 2000) ac roedd yn cael dwr o Afon Angidy drwy ffrwd ac yn ddiweddarach bwll oddi ar yr afon. Roedd y ffwrnais siarcol yn un o'r ffwrneisi mwy a oedd yn bodoli yn ystod y cyfnod ac mae ei gynllun braidd yn anarferol. Cludwyd y dwr i fwydo'r ffwrnais drwy gafn golchi pren ac o'r safle drwy ffos. Noda Coates y gallai'r cynllun hwn fod wedi cael ei ddyfeisio i alluogi'r ffwrnais i weithredu yn ystod llifogydd (Coates 1992).

Roedd y diwydiannau haearn/gwifren yn Nyffryn Angidy wedi dirwyn i ben i raddau helaeth erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda Gweithfeydd Haearn/Gwifren Lower neu Abbey yn cael eu troi'n waith tunplat tua 1880.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Mae Dyffryn Angidy yn ardal sydd wedi'i nodweddu'n bennaf gan themâu trafnidiaeth a diwydiant ac anheddiad ôl-ganoloesol cysylltiedig; ym mhen dwyreiniol yr ardal ceir melin, a chei, ac mae'n ymwneud â'r anheddiad anffurfiol sy'n arwain at y cei yn Nhyndyrn, sy'n cynnwys bythynnod cynnar, a chapel, tra'n hirgul. Mae gan yr ardal hierarchaeth glir o anheddiad yn amrywio o dai mawr y meistri haearn a'r rheolwyr i fythynnod bach y gweithwyr. Mae'n amlwg bod gan ddiwydiant hanes hir yn yr ardal gydag olion gweithgarwch cynnar iawn i'w gweld o hyd, er bod cryn dipyn o'r anheddiad yn ganlyniad i waith ehangu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae rhywfaint ohono yn gynharach, er enghraifft mae'r adeilad sydd bellach yn Westy'r Royal George (LB 24034 Gradd II) yn deillio o'r unfed ganrif ar bymtheg ac ymddengys iddo gael ei wneud yn fwy yn 1704 gan Richard White, perchennog yr Hen Waith Gwifren, a daeth yn westy yn 1835.

Lleolir nifer o safleoedd diwydiannol yn Nyffryn Angidy, gan gynnwys Gweithfeydd Gwifren Tyndyrn Uchaf (New Tongs Mill) (SAM MM268), Ffwrnais Chwyth yr Hen Ffwrnais (PRN 00712g, NPRN 34136, SAM MM197), a Gweithfeydd Haearn/Gwifren Lower neu Abbey (PRN 00709g, SAM MM266). Cafodd ffwrnais chwyth Yr Hen Ffwrnais (SAM MM197; PRN 00712g; NPRN 34136) ei gloddio yn 1979-80, ac fe'i gadawyd ar agor wedi hynny, fel rhan o waith a noddwyd gan Gyngor Sir Gwent ar y pryd gyda'r nod o greu llwybr diwydiannol yn yr ardal. Gellir gweld waliau sylweddol o amgylch Gweithfeydd Gwifren Tyndyrn Uchaf (New Tongs Mill) 1803 a oedd yn ofynnol i derasu'r safle, ynghyd ag olion pwll olwyn, bwydwr dwr, dyfrbont, a ffwrnais anelio. Mae'r nodweddion rheoli dwr sy'n gysylltiedig â diwydiant trwm yn goroesi'n bennaf ar ffurf nodweddion archeolegol creiriol ac yn cynnwys 11 o byllau cyflenwi dwr a ffosydd cysylltiedig ar hyd yr afon (Newman 2000). Ymhlith y nodweddion eraill mae olwyn ddwr ôl-ganoloesol (PRN 05687g) a ffos (PRN 05685g).

Nodweddion pwysig eraill yr ardal yw ei llwybrau cysylltiadau sy'n bodoli heddiw fel lonydd troellog, a amgylchynir gan gloddiau pridd a cherrig sych uchel. Yn flaenorol roedd tramffordd ddiwydiannol yn gwasanaethu'r ardal gan gludo adnoddau o'r doc ar Afon Gwy i ac o'r melinau amrywiol a gweithfeydd eraill. Mae o leiaf ddwy bont o ddiddordeb: Pont y Saeson (PRN 00708g), pont fach a allai gynnwys olion pont gynharach yn 1675; a phont arall o gerrig â bwa isel dros Afon Angidy (PRN 05685.0g).

Nodweddir yr ardal gan batrwm anffurfiol o anheddiad gwasgaredig, ar hyd y llethrau isaf. Mae gan Ddyffryn Angidy gysylltiadau hanesyddol cryf ag anheddiad Tyndyrn, a ddatblygodd yn ganolfan ddiwydiannol ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae'r ardal yn cynnwys amrywiaeth o fathau o adeiladau nodweddiadol: adeiladau mawr cynnar, tai mwy o'r ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, capeli anghydffurfiol, tafarndy; ac ysgol o'r 19eg ganrif, yn ogystal â chyfres o fythynnod llai (o ddiwedd y ddeunawfed ganrif i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf - cynllun dwy uned, deulawr â simneiau ar y pen yn gyffredinol, y ffurf gynhenid leol dominyddol: mae'r rhain yn ymwneud â hanes diwydiannol ardal fwy na thebyg. Un enghraifft o'r math blaenorol yw Crown Lodge (LB 24034 Gradd II) tua 1800; mae'n dy dyfnder dwbl â mynedfa ganolog â dwy res gyfochrog a blaen tri bae tri llawr â ffenestri codi 12 a 9 chwarel a drws 6 chwarel â dau banel gwydr a chapan gwastad ar fracedi. Mae'r drychiadau wedi'u rendro, dros gerrig rwbel fwy na thebyg, o dan do llechi Cymreig plaen â chyrn simnai talcen o frics coch.

Ymhlith y bythynnod llai mae Angidy Cottage: sy'n fach iawn o darddiad cynhenid, ac mae wedi'i ymestyn gan ychwanegu manylion pictiwrésg (hy yn dangos dwy thema yn dwt - y dirwedd waith a'r pictiwrésg). Ymhlith bythynnod gweithwyr yr ardal mae Furnace Cottage (LB 24047 Gradd II), teras deulawr o ddiwedd y 18fed ganrif sydd wedi'i addasu a'i ymestyn a adeiladwyd o rwbel tywodfaen coch â tho teils concrid, a oedd yn dri bwthyn gweithwyr haearn ffrynt dwbl yn flaenorol, ac a oedd yn gysylltiedig â'r Hen Ffwrnais chwyth gerllaw fwy na thebyg. Bay Cottages (PRN 04632g, NPRN 534, LB 14868 gradd II), ty melinydd fwy na thebyg a bwthyn cysylltiedig, o'r ail ganrif ar bymtheg neu'r ddeunawfed ganrif â rhywfaint o waith ailfodelu o ddechrau i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhes hon yn un ddeulawr o rwbel wedi'i wyngalchu â chasmentau pren o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a tho teils Rhufeinig serth (teils carreg yn wreiddiol fwy na thebyg) a simneiau pen wedi'u gwyngalchu â simneiau talcen o frics yn ddiweddarach. Cynllun dyfnder dwbl deulawr ag ychwanegiad, golchdy efallai, i'r talcen chwith. Yn nodedig hefyd mae adeilad deulawr dyddiedig (1699) cynllun dwy uned a welir mewn mannau eraill, a tho ar oleddf serth sy'n nodweddiadol o adeiladau (cynnar?) eraill yn yr ardal, ee Mill House.

Mae ardal Chapel Hill yn arddangos anffurfioldeb nodweddiadol o ran anheddiad sy'n gysylltiedig â chymunedau diwydiannol cynnar, lle mae adeiladau o faint a statws gwahanol iawn yn agos at ei gilydd, a phrin yw'r dystiolaeth o unrhyw waith cynllunio. Yma mae ty â manylion cywrain tua 1800 yn sefyll wrth ymyl clwstwr o fythynnod llai sy'n glynu wrth y llethrau serth. Mae gan rai o'r bythynnod nodweddion 'sgwatwyr' - yn fach gyda thoeon ar oleddf isel iawn.

Yn ogystal â chryn nifer o dai, bythynnod, a hen gapel o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodweddir llawr Dyffryn Angidy'n bennaf gan ddatblygiad o'r ugeinfed ganrif.

Yn ystod yr ugeinfed ganrif datblygodd Ystad y Goron ymhellach anheddiad yr ardal, mewn arddull nad oedd yn gynhenid, yn nodweddiadol o'r adfywiad celf a chrefft/domestig tua 1900 gan ddefnyddio cerrig, brics a theils (ee Crown Cottage, 1904). Mae adeiladau Ystad y Goron (ee bythynnod, swyddfa bost, gorsaf yr heddlu a siopau) yn yr ardal hon â nodweddion ac ardaloedd â nodweddion gerllaw (ee. HLCA013 a HLCA016) yn ymdebygu i ystad ac maent yn ymwybodol pictiwrésg o ran idiom. Yn ogystal, mae'r ardal yn cynnwys enghreifftiau o'r mudiad pictiwrésg trefol o'r ugeinfed ganrif: byngalos a adeiladwyd i fwynhau'r olygfa.

Yn nodedig hefyd fel un o'r gwestai cynnar i dwristiaid yn Nyffryn Gwy, mae Gwesty'r Royal George (LB 24036 Gradd II), a addaswyd o fod yn annedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Mae'r ty cyntedd croes hwn sydd wedi'i addasu gryn dipyn a'i ymestyn wedi'i adeiladu o rwbel calchfaen cymysg gyda'r ffryntiad blaen yn fras, wedi'i rendro'n ffurfiol, â tho o lechi Westmorland gwyrdd. Mae gan yr adeilad, a ailfodelwyd ymhellach yn y 1930au, ffasâd unffurf bellach er ei fod wedi cadw ei do ar oleddf serth, cyrn simnai talcen a chorn simnai wrth y cyntedd croes.

Mae ffiniau caeau pendant yn un o nodweddion amlwg eraill Dyffryn Angidy; o fewn dyffryn cul yr afon mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd o gloddiau cerrig sych, a gwrychoedd â choed gwrych nodedig, tra bod ffensys post a gwifren a phren mwy diweddar i'w gweld yn yr ardal hefyd.