Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

016 Tintern Parva


View southeast towards Coed-y-Prior showing fieldscape and woodland

HLCA 016 Tintern Parva

Anheddiad Canoloesol/Ôl-ganoloesol: datblygiad hirgul, clystyrog a ffermydd a bythynnod gwasgaredig; archeoleg greiriol: anheddiad/caeau o'r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol; mynachaidd (hen faenor/Hosbis yn Tintern Parva); nodweddion/mathau o adeiladau o'r 19eg ganrif (addoldy, gorsaf heddlu, tafarndy); nodweddion cysylltiadau; Eglwysig Canoloesol/ Ôl-ganoloesol (eglwys a mynwent a chapel anghydffurfiol); patrwm caeau amaethyddol amrywiol, rhywfaint o gyfuno, mannau eraill yn goetir prysgwydd; Coetir Hynafol; archeoleg ddiwydiannol (bragdy, gefail a chei). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tintern Parva yn anheddiad ar lannau gorllewinol Afon Gwy i'r gogledd o'r Abaty yn Nhyndyrn. Mae'r ardal wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth ar hyn o bryd.

Mae'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn yr ardal yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol gydag eglwys Mihangel Sant a'r Holl Angylion yn Tintern Parva yn cael ei chrybwyll gyntaf yn Llyfr Llandaf tua 1348 (Brook 1988, 84). Mae'r fynwent amlochrog afreolaidd hefyd yn nodweddiadol o sylfeini eglwysig cynnar ac mae ffurf yr anheddiad cynnar, clwstwr cnewyllol o amgylch yr eglwys, hefyd yn awgrymu tarddiad canoloesol. Ar wahân i fodolaeth croes ganoloesol wrth ymyl y ffordd (nad yw yno mwyach), prin yw'r wybodaeth arall sydd ar gael am hanes cynnar yr ardal. Mae Argraffiad Cyntaf map yr AO yn dynodi olion 'Old Manor House' yn Tintern Parva ychydig i'r gorllewin o'r groesffordd, ychydig bellter o'r eglwys. Ar y map, gwelir olion clostir hirsgwar mawr a strwythurau eraill ar y safle, ac mae hefyd yn rhoi'r enw 'Hospice House' i strwythur gerllaw. Mae angen ymchwilio i hyn a'i astudio ymhellach: mae'n debygol mai safle maenor yn perthyn i Dyndyrn yw hwn, ac o bosibl safle amgen y 'Secular Firmary Grange' a gysylltwyd fel arfer ag ardal ychydig ymhellach i'r de-orllewin (gweler HLCA009).

Ymddengys fod yr A466 fodern, sy'n rhedeg drwy'r ardal, yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg gyntaf fwy neu lai drwy Ddyffryn Gwy. Agorwyd y ffordd dyrpeg yn 1829 yn dilyn cryn ddadlau: dyfynnwyd Valentine Morris yn dweud, yn un o'r gwrandawiadau, ynghylch adeiladu'r ffordd, ei bod yn angenrheidiol am fod yn rhaid i bawb yn Nyffryn Gwy 'travel in ditches' (Howell 1985).

Roedd y diwydiant amaeth-ddiwydiannol, yn enwedig prosesu seidr, yn gyffredin drwy'r ardal o'r cyfnod canoloesol ymlaen, ond yn Tintern Parva ceir tystiolaeth benodol o'r gweithgarwch hwn ar ffurf yr Hen Felin Seidr (PRN 03780g). Mae hefyd yn amlwg o'r dystiolaeth o enwau lleoedd i'r diwydiant cynhyrchu seidr hwn chwarae rhan hanfodol yn hanes amaeth-ddiwydiannol yr ardal, fel y gellir ei weld ym map a dyraniad y degwm 1844 lle y cyfeirir at ddaliadau tir niferus fel 'orchard' neu 'grove'.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Tintern Parva fel anheddiad cnewyllol â datblygiad hirgul hirfain ger Afon Gwy ac i'r gogledd-orllewin bythynnod gwasgaredig â chlostiroedd afreolaidd cysylltiedig, y mae'r olaf bellach yn mynd yn ôl i mewn i goetir prysgwydd.

Ymestynnwyd yr anheddiad yn yr ardal â nodweddion yn sylweddol ers llunio'r degwm yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wreiddiol, roedd clwstwr anheddiad cnewyllol bach wedi'i leoli o amgylch eglwys ganoloesol Tintern Parva gyda'i mynwent a Thafarndy'r Pentref, y Carpenter's Arms. Yn ogystal ymestynnodd datblygiad hirgul ar hyd ymyl yr afon a'r ffordd o Gas-gwent i Drefynwy. Lleolir y datblygiad hirgul ar lain gul o lan yr afon gyda'r afon a'r llethr cyfagos bob ochr iddo. Heddiw mae'r anheddiad yn Tintern Parva yn cynnwys ardal o dai cyngor cymdeithasol (Park Glade) a datblygiad preifat bach oddi ar y ffordd, sy'n rhedeg i'r gogledd o Drelech. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfyngwyd ar yr anheddiad ar hyd y rhan hon o'r ffordd i ychydig o fythynnod anghysbell, gyda'r defnydd o dir yn cael ei gofnodi fel perllan, dôl a thir pori yn nyraniad degwm 1844.

Er bod gweithgarwch eglwysig yn amlwg o sefydlu eglwys a mynwent yma yn y cyfnod canoloesol a lleoli maenor fynachaidd yma'n ddiweddarach, prif nodwedd yr ardal yw ei hanheddiad ôl-ganoloesol, sef anheddiad wrth ymyl y ffordd a'r afon yn y bôn. Mae rhai adeiladau cynhenid traddodiadol yn bodoli, ond yn gyffredinol mae cymeriad yr anheddiad yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn nodweddiadol mae patrwm y datblygiad yn cynnwys tai unigol a rhesi anffurfiol, yna bythynnod llai ochr yn ochr â filâu, sydd â chymeriad mwy trefol. Adlewyrchir dylanwad Ystad y Goron yn y stoc adeiladau (ee Wyedene). Caiff pwysigrwydd yr ardal o ran twristiaeth ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ei ddangos efallai gan Westy'r Wye Valley, tua 1920.

Lleolir rhai o fythynnod ar wahân, bach yr ardal, yn nodedig ger yr eglwys, yn groes i'r llethr yn y traddodiad cynhenid hyn. Mae'n bosibl bod gan y rhain ragflaenwyr canoloesol. I'r de ar hyd yr afon ceir datblygiad hirgul math teras i'r de tuag at Dyndyrn. Mae hyn yn debygol o gynrychioli ymestyniad i'r anheddiad sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r dollffordd yn 1829, ac mae'n cynnwys ychydig o filâu o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (ee Ash House), nifer o fythynnod sy'n agos at ei gilydd (ee. Melrose Cottage a Wye Cottage), tafarndai (ee. The Rose & Crown), gorsaf heddlu a swyddfa bost ac ychydig o adeiladau masnachol posibl (Argraffiad Cyntaf map yr AO). Mae Argraffiad Cyntaf map yr AO yn dangos rhes fer o dai gweithwyr diwydiannol yn agos at yr eglwys o fewn craidd yr hen bentref ar y lôn sy'n arwain at y cei.

Mewn mannau eraill, ceir nifer o ffermydd a bythynnod anghysbell gwasgaredig. Mae'r rhan fwyaf o'r ffermydd a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO yn fach, heb fod yn fwy na bythynnod, fel arfer yn rhai hirsgwar unigol, ac yn ddaliadau bach i bob diben (ee Hill Farm, a Barbadoes Green), sy'n gysylltiedig â chaeau afreolaidd datblygedig. Mae'n amlwg bod cryn dipyn o'r caelun afreolaidd yn cael ei ddynodi'n goetir/prysgwydd neu berllan. Ceir bythynnod cynhenid bach (ee Rose Cottage a'i ffenestri bach iawn) yn ardal Catbrook Road o hyd a gwasgariad o rai eraill i fyny'r dyffryn er bod y rhan fwyaf wedi'u hymestyn a'u haddasu. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys ystadau tai o'r ugeinfed ganrif tua 1970 a thua 1950-60. Mae ardal Botany Bay yn cynnwys rhagor o fythynnod bach mewn patrwm anheddu anffurfiol, a rhai bythynnod ystad (cerrig a brics), o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Mae'n werth crybwyll yr ardal fach o waliau caeau cerrig creiriol yn Botany Bay hefyd.

Yr eithriad yw fferm anghysbell a leolir beth pellter i'r gogledd-ddwyrain i lawr lôn droellog, 'The Nurtons'. Fe'i dangosir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO fel ffermdy ar wahân gyda rhes amaethyddol hirfain fawr i'r dwyrain, ymhlith adeiladau eraill, a pherllan a hen chwarel i'r gogledd-ddwyrain o gyfadeilad y fferm. Mae'r cyfadeilad cyfan wedi'i leoli ychydig o'r canol o fewn ei ddaliad cyfunol ei hun o gaeau rheolaidd ar y cyfan, sydd fwy na thebyg yn gaeau cyfunol â ffiniau wedi'u gosod allan yn daclus. Ymddengys mai'r daliad hwn, a oedd yn ymestyn i lannau Afon Gwy, oedd y tir gorau yn yr ardal.

Y prif ddeunyddiau adeiladu yn yr ardal hon yw cerrig wedi'u rendro (clobynfeini chwarts a thywodfaen lleol) a brics, gyda'r olaf yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol ar gyfer ychwanegiadau mwy diweddar i'r anheddiad. Y prif ddeunydd toi yn yr ardal yw llechi a phanteils yn nodweddiadol.

Mae'r ardal yn cynnwys arwyddion o'i gorffennol amaeth-ddiwydiannol, gyda melin seidr sydd bellach yn rhestredig (LB 2752 Gradd II) y credir ei bod yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'i chofnodi ar fap degwm Tintern Parva 1844. Cafodd y felin ei throi'n dy ar ddiwedd y 1970au a'i hymestyn gryn dipyn, er bod rhan sylweddol o'i strwythur gwreiddiol heb newid. Mae'r rhan fwyaf o'r peirianwaith melino gwreiddiol yn gyflawn er gwaethaf y gwaith addasu. Mae goroesiad peirianwaith gwneud seidr ar y safle yn anghyffredin iawn bellach er gwaethaf ei amlder blaenorol yn yr ardal hon, diwydiant amaethyddol â'i wreiddiau'n gysylltiedig â'r Abaty yn Nhyndyrn yn y cyfnod canoloesol yn wreiddiol. Enghraifft arall sydd wedi goroesi yw'r Hen Felin Seidr (PRN 03780g) ar hyd Ffordd Trelech sy'n unigryw oherwydd lefel ei chadwraeth a'r ffaith bod ei melin seidr a bwerwyd gan geffylau a'r wasg ar y llawr daear o hyd.

Yn ogystal â melino seidr mae'n debygol i amrywiaeth o ddiwydiannau bach, crefftau a phrosesau amaeth-ddiwydiannol eraill gael eu cynnal yn yr ardal, fel yn y rhan fwyaf o gymunedau gwledig cyn diwedd yr ugeinfed ganrif, ac enw'r tafarndy ger yr eglwys oedd y Carpenter's Arms (Argraffiad Cyntaf map yr AO). Mae Argraffiad Cyntaf map yr AO, er enghraifft, yn dynodi i waith chwarelu ar raddfa fach gael ei wneud yn yr ardal o ran gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg o leiaf, gyda chwarel fach ger fferm Nurtons, ac un ymhellach i'r de a oedd yn dal i fod yn gweithredu ar y pryd efallai, ger Gorsaf Tyndyrn a Rheilffordd Dyffryn Gwy. Mae'r un cynllun yn dynodi gefail, a chei, ger yr eglwys a bragdy a leolwyd yn ymestyniad deheuol hirfain yr anheddiad. Mae'n debygol bod y cei yn Tintern Parva yn gysylltiad pwysig cyn adeiladu'r Ffordd Dyrpeg yn 1829, a byddai hefyd wedi bod yn fan glanio i deithwyr a oedd yn mynd ar Daith Dyffryn Gwy yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.