Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

012 Caelun Fairoak


Aerial photograph of nucleated, planned settlement at Forgeside, courtesy of RCAHMW

HLCA 012 Caelun Fairoak

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol: caelun lled-reolaidd; ffiniau traddodiadol; Anheddiad gwasgaredig ôl-ganoloesol (ffermydd a bythynnod); anheddiad bach wedi'i gynllunio; archeoleg greiriol; nodweddion cysylltiadau; adnoddau dwr (pwll). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Caelun Fairoak yn ardal amaethyddol ar gopa'r bryn sy'n ffurfio rhan ddeheuol dyffryn Angidy, ac yn cynnwys ardal hirgrwm o dir amaethyddol a amgylchynir gan goetir, y mae'n debyg i'r ardal gael ei hennill yn hanesyddol drwy broses asart. Fe'i lleolir ym mhlwyf Chapel Hill, a oedd yn eiddo i Abaty Tyndyrn yn wreiddiol, ac felly roedd yn ddiddegwm. Ar ôl i'r mynachdai gael eu diddymu, cafodd y tir a fu'n eiddo i'r Abaty ei roi i Henry Somerset, ail Iarll Caerwrangon, ac arhosodd yn nheulu Somerset (Dugiaid Beaufort yn ddiweddarach) tan 1901, pan werthwyd ystad Beaufort.

Prin sy'n hysbys am hanes Fairoak. Ar Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881) gwelir patrwm caeau ychydig yn wahanol i'r un presennol; ar fapiau cynnar gwelir clostiroedd lled-reolaidd mawr, tra heddiw er na fu fawr o newid i'r dwyrain ac i'r gorllewin o'r ardal, mae canol y system gaeau hon wedi'i rannu'n blotiau lled-hirsgwar cul. Awgryma'r patrwm caeau gwreiddiol fod hon yn ardal o glostiroedd cymharol hwyr; ac er gwaethaf agosrwydd tri phlas o Abaty Tyndyrn (hy Ty Du, Trelech a'r Faenor Leyg), nid oes unrhyw dystiolaeth o feddiannaeth ganoloesol ar hyn o bryd. Mae'r olion cynharaf yn yr ardal yn dyddio'n ôl i'r cyfnod ôl-ganoloesol; ymhlith y rhain mae ysgubor ddyrnu o'r ddeunawfed ganrif o bosibl ar Fairoak Farm (LB 24040). Mae'r anheddiad bach o'r enw 'The Cot' hefyd yn debyg o ddyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol; cyfeirir yn aml at ddeiliaid y daliadau bach a oedd yn rhentu tir yn Nyffryn Gwy yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol fel 'deiliaid cot' (Bradney 1913).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Caelun Fairoak fel tirwedd amaethyddol amrywiol. Gellir ei rannu'n fras yn dri pharth; caeau agored i'r gorllewin, llain-gaeau rheolaidd yn y canol a chlostiroedd afreolaidd mawr i'r dwyrain. Dim ond fel gwrychoedd y mae'r ffiniau wedi goroesi (gan gynnwys gwrychoedd wedi'u gosod) a choed gwrych nodedig sydd wedi datblygu'n dda yn y parthau yn y canol ac i'r dwyrain. Ymhlith y llwybrau cysylltiadau yn yr ardal mae lôn droellog a amgylchynir gan gloddiau isel a ffensys post a gwifren, a hawl tramwy cyhoeddus.

Dim ond grwp o fythynnod clystyrog ar ymyl y ffordd a fferm fawr (unwaith eto ar ymyl y ffordd) ar wahân sy'n arwydd o anheddiad yn yr ardal. Ar y cyfan y prif ddeunyddiau adeiladu yn yr ardal yw cerrig patrymog wedi'u rendro, a hefyd frics, a'r prif ddeunydd toi yw llechi. Yn wreiddiol, roedd y fferm yn Fairoak, a oedd yn bodoli adeg Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881), yn cynnwys nifer o adeiladau a drefnwyd ar bedair ochr iard sgwâr i bob pwrpas. Mae'r cynllun gwreiddiol wedi goroesi ar y cyfan gan ychwanegu adeilad hirsgwar mawr i'r gorllewin o'r fferm wreiddiol. Mae un o'r adeiladau fferm wedi'i gadw'n dda, ysgubor ddyrnu bosibl o'r ddeunawfed ganrif (LB 24040), sydd bellach yn adeilad rhestredig gradd II. Codwyd yr adeilad hwn o rwbel tywodfaen coch lleol â tho o lechi Cymreig.