Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

017 Rheilffordd Ddeheuol Dyffryn Gwy


View to the southeast across Mynydd y Garn-fawr.

HLCA 017 Rheilffordd Ddeheuol Dyffryn Gwy

Coridor cysylltiadau/trafnidiaeth: priffyrdd; rheilffordd gyhoeddus (adeiladau gorsaf a blwch signal); patrwm caeau amaethyddol rheolaidd: dolydd mawr, a rhai lleiniau; patrwm anheddu: ffermydd gwasgaredig; archeoleg ddiwydiannol: prosesu metel, cynhyrchu seidr; hamdden a thwristiaeth addurniadol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Rheilffordd Ddeheuol Dyffryn Gwy yn goridor trafnidiaeth a ddiffiniwyd drwy adeiladu'r Rheilffordd. Mae'r ardal yn cynnwys llain hirgul ar lannau gorllewinol Afon Gwy, o'r orsaf yn Tintern Parva yn y de, i Lower Redbrook. Yna mae'r rheilffordd yn croesi'r afon drwy Bont Reilffordd Redbrook, ac yn parhau i'r gogledd i Wyesham ar hyd glannau dwyreiniol Afon Gwy fel Rheilffordd Ogleddol Dyffryn Gwy, (HLCA039). Amgylchynir yr ardal â nodweddion gan lannau gorllewinol Afon Gwy, ac i'r dwyrain gan linell ymyl y rheilffordd. Mae'n rhedeg drwy blwyfi Tintern Parva, Llaneuddogwy, a Phenallt. Roedd Tintern Parva yn perthyn yn hanesyddol i deulu'r Herbert, ond erbyn map degwm 1844 roedd cryn dipyn ohono yn perthyn i ystad Beaufort. Roedd Penallt, a rhannau o Landogo, ym maenor Trelech, tra bod gweddill plwyf Llaneuddogwy yn faenor i esgobaeth Llandaf. Roedd cryn dipyn o lan yr afon yr adeiladwyd y rheilffordd arni yn perthyn i ystad Beaufort.

Er mai'r gwaith o adeiladu'r rheilffordd yw'r digwyddiad pwysicaf yn hanes yr ardal, bu gweithgarwch yma'n hanesyddol ers y cyfnod Rhufeinig; daethpwyd o hyd i grochenwaith, gan gynnwys morter, yn yr ardal, tra bod pentyrrau o scoriâu yn dynodi i waith prosesu haearn fynd rhagddo. Dangosir i'r gweithgarwch diwydiannol hwn barhau yn yr ardal gan olion diwydiannol eraill o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn enwedig ffwrnais haearn a thy seidr yn Fferm Coed Ithel (Coates 1992).

Awdurdodwyd Rheilffordd Dyffryn Gwy gan Ddeddf 1866, ac agorwyd y llinell o Gas-gwent i Drefynwy ar 1af Tachwedd 1876. Mae'r rhan hon o Reilffordd Dyffryn Gwy yn rhedeg o Lower Redbrook, lle mae'r llinell yn croesi Afon Gwy, ac yn ailymuno â Chymru, dros Bont Reilffordd Redbrook, a adeiladwyd gan Gwmni Rheilffordd Trefynwy a Dyffryn Gwy yn 1876. Mae'r llinell yna'n dilyn y lan orllewinol a cheir arosfeydd ym Mhenallt Halt, Whitebrook Halt, St Briavels, Llandogo Halt a Brockweir Halt cyn iddo gyrraedd yr orsaf yn Tintern Parva, lle mae'n ail-groesi Afon Gwy i mewn i Loegr ac yn parhau i'r de ar y lan ddwyreiniol nes iddo groesi'r afon dros bont Brunel yng Nghas-gwent. Roedd rheilffordd Dyffryn Gwy yn gwmni annibynnol tan 1905 pan ddaeth Rheilffyrdd Great Western yn gyfrifol amdano. Gorffennodd gwasanaethau teithwyr ar y llinell yn 1959, tra parhaodd trenau nwyddau nes i'r llinell gau yn 1964 (www.urban75.org).

Ar ôl i'r rheilffordd gau, daeth yr orsaf yn Nhyndyrn yn atyniad i dwristiaid gan wasanaethu fel safle picnic, gydag adeiladau a phlatfformau'r orsaf a sawl cerbyd yn cael eu cadw. Mae'r orsaf a'i nodweddion cysylltiedig (y bwrdd enw, y postyn signal, y blwch signal a'r tanc dwr) yn adeiladau rhestredig Gradd II (LBs 24041-24045).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Rheilffordd Ddeheuol Dyffryn Gwy yn bennaf fel llwybr cysylltiadau pwysig, yn nodedig Rheilffordd Dyffryn Gwy sydd wedi'i dymchwel bellach; y rhan o Fan Croesi Afon Gwy yng nghored Lyn ger yr orsaf yn Nhyndyrn i fan croesi Afon Gwy ym Mhont Redbrook. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys rhan o'r llwybr o brif ffordd, yr A466, hen Ffordd Dyrpeg Cas-gwent i Drefynwy 1829.

Nodweddir y dirwedd amaethyddol yn yr ardal hon yn bennaf gan ddolydd teras afon, yn y prif glostiroedd rheolaidd mawr; mae ffin gaeau nodweddiadol allweddol yr ardal hon wedi'i gwneud o ffensys post a gwifren.

Mae'r anheddiad a'r adeiladau yn yr ardal â nodweddion yn eithaf gwasgaredig, a ffermydd anghysbell gwasgaredig a geir yn bennaf, gan gynnwys Catchmays Court (Coed-Ithel ar Argraffiad Cyntaf map yr AO), Fferm Coed-Ithel, a The Holm. Yn ogystal, ceir nifer o nodweddion sy'n ymwneud â'r rheilffordd sydd wedi goroesi gan gynnwys adeiladau'r orsaf yng Ngorsaf Tyndyrn a bythynnod y rheilffordd i'r dwyrain o Tump Farm.