Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

019 Coedwig Highmeadow


Mynydd Varteg opencast tips: view to the northwest.

HLCA 019 Coedwig Highmeadow

Coetir Hynafol: nodweddion rheoli coetir: llefydd tân llosgi siarcol; archeoleg ddiwydiannol greiriol: llosgi siarcol yn Priory Grove; a chwarela; cysylltiadau: llwybrau troed (llwybr 'pictiwrésg' drwy goedwig Beaulieu); rheilffordd gyhoeddus (rheilffordd Rhosan-Mynwy wedi'i dymchwel); Ffordd Rufeinig (argraffiad 1af yr AO); addurniadol/hamdden; twristiaeth (llwybr 'pictiwrésg' a mannau gwylio); ffiniau coetir. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Highmeadow yn ardal o goetir hynafol, a leolir ar gopa bryn sy'n edrych dros dro mawr yn Afon Gwy. Diffinnir y ffiniau gan faint y coetir hynafol, a'r ffin genedlaethol â Lloegr i'r dwyrain.

Y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn yr ardal yw Hollow Way, sy'n diogelu llinell y lôn a allai ddyddio'n ôl i'r cyfnod Rhufeinig.

Cafodd maenor Hadnock ym mhlwyf Llandidiwg, y mae'r ardal hon o goetir wedi'i lleoli ynddo, ei gynnwys mewn rhodd o dir i Briordy Trefynwy gan Withenock, ail Arglwydd Trefynwy (Bradney 1904). Dangosir y cysylltiad rhwng y Priordy a'r coetir gan yr enw 'Priory Grove', sy'n ardal yn syth uwchben glannau gorllewinol Afon Gwy, sy'n edrych dros yr afon yn uniongyrchol. Mae'r ardal o goetir i'r de, sef Coedwig Beaulieu, hefyd yn gysylltiedig â Beaulieu Farm yn yr ardal amaethyddol gyfagos, y credir ei bod yn gysylltiedig â Phlas canoloesol Beaulieu, a oedd yn eiddo i Abaty Grace Dieu.

Roedd ardal Coedwig Highmeadow ym mhlwyf Llandidiwg yn hanesyddol, ym maenor Hadnock (Bradney 1904). Mae'r ardal wedi bodoli fel coetir drwy gydol y rhan fwyaf o'i hanes, a cheir tystiolaeth o reoli coedwigoedd nad yw'r dyddiad yn hysbys ar ffurf nifer fawr o lefydd tân yn llosgi siarcol. Mae rhannau mawr o'r ardal, a alwyd yn 'Hadnock Wood' ar fap degwm y plwyf (1845), yn goroesi fel coetir hynafol lled-naturiol hyd heddiw. Ar ôl i'r mynachdai gael eu diddymu, roedd yr ardal yn eiddo i deulu Huntley a theulu Herbert yn gyntaf, ac yna Ddugiaeth Caerhirfryn. Yna fe'i trosglwyddwyd i deulu'r stiward, Benedict Hall o Highmeadow, ac yn y pen draw Arglwydd Gage. Yna rhannwyd yr ardal, gan werthu Hadnock Uchaf tua 1800, a Hadnock Isaf i'r Llyngesydd Griffin tua 1747. Yn dilyn marwolaeth ei etifedd heb fab, gwerthwyd yr ystad i Richard Blakemore o'r Leys, AS Wells (Bradney 1904, 23). Mae map y degwm yn nodi mai Blakemore oedd perchennog cryn dipyn o'r tir yn yr ardal hon â nodweddion, tra bod ardal Beaulieu Farm yn rhan o ystad Beaufort.

Yn sgîl datblygiad y diddordeb Pictiwrésg yn yr ardal ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif/dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, cafodd Coedwig Bealieu, yn rhan ddeheuol yr ardal, ei gynnwys ym mannau tirlunio Parc Cymin. Ar ôl i'r Roundhouse gael ei adeiladu yn 1794 gan Glwb Picnic Trefynwy (Cofrestr Parciau a Gerddi), datblygwyd yr ardal gyfagos i sicrhau'r gwerthfawrogiad mwyaf o'r dirwedd a'r golygfeydd o'r bryn. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys creu llwybr troed cylch drwy Goedwig Beaulieu gyda mannau gwylio a llwyfannau i werthfawrogi'r olygfa (Cadw 1994).

Wedi'i awdurdodi gan Ddeddf 1865, adeiladodd Cwmni Rheilffordd Rhosan a Threfynwy ran Pont-y-pwl, Trefynwy a Rhosan o'r rheilffordd yn ystod y 1860au. Fe'i hagorwyd i deithwyr yn 1873, er nas defnyddiwyd rhyw lawer, ac fe'i trosglwyddwyd i GWR yn 1905. Cafodd gwasanaethau teithwyr ar y rhan hon o'r llinell eu dirwyn i ben yn 1959, ac fe'i caewyd, er i wasanaethau llwyth barhau i redeg ar y rhan a oedd yn weddill ymhellach i'r dwyrain, rhwng Rhosan ar Wy a Chyffordd Lydbrook, tan 1965, pan gaewyd y rhan hon (http://www.ross-on-wye.com). Dylanwadodd y gwaith o adeiladu'r rheilffordd ar ddatblygiad yr ardal ymhellach mewn ffyrdd eraill, yn ogystal â rhedeg drwy'r ardal â nodweddion; bu'n rhaid adeiladu sawl chwarel a leolir ar hyd y rheilffordd, a gellir eu gweld ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1882).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coedwig Highmeadow yn bennaf gan goetir hynafol, y mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i ailblannu, er bod rhai ardaloedd lle mae'n dal i fod yn lled-naturiol. Mae'n cynnwys coed collddail yn bennaf, gyda rhai coed bytholwyrdd. Mae'r ardal hon yn cynnwys dau SoDdGAau, Fiddlers Elbow a rhan o SoDdGA Ceunant Gwy Uchaf. Mae'r cyntaf hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG), tra bod yr olaf yn cynnwys GNG Lady Park Wood. Mae ardaloedd Coedwig Beaulieu i'r de, a Priory Grove i'r gorllewin, bellach yng ngofal Coed Cadw.

Mae cryn dystiolaeth o reoli coetiroedd ar ffurf llosgi siarcol (PRNs 07770g, 07771g, 07773g, 07775g, 07777g, 07786g, 07787g, 07790g, 07791g, a 07793g - 07801g) mewn ardal ar lethrau gorlliewnol y bryn yn syth uwchben yr afon.

Caiff archeoleg ddiwydiannol ei chynrychioli'n bennaf gan safleoedd cloddiol; mae dwy chwarel (PRNs 07788g, 07792g) yn dyddio'n ôl i'r 1860au fwy na thebyg, pan adeiladwyd y rheilffordd, ac ailaliniwyd Hadnock Road. Ceir chwarel arall a elwir yn 'old' ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1882) o ddyddiad tebyg mae'n debyg, sydd hefyd wedi'i lleoli ar hyd y rheilffordd.

Mae Ceuffordd (PRN 07779g) yn diffinio'r ffin i'r gorllewin o'r ardal wrth y ffin â'r caelun cyfagos, (HLCA 020). Fe'i dangosir ar Argraffiad Cyntaf ac Ail Argraffiad mapiau'r AO (1881, 1901) fel Ffordd Rufeinig, ac yn lleol fe'i gelwir yn Royal Road. Credir mai hon yw un o'r prif allanfeydd o Fforest Frenhinol y Ddena. Er nad yw ei darddiad yn hysbys, mae ei ddyfnder, hyd at dri neu bedwar metr mewn mannau, yn awgrymu cryn oedran.

Ymhlith y nodweddion cysylltiadau eraill mae cangen Rhosyn a Mynwy o Reilffordd Great Western (PRN 03266.0g), a oedd yn rhedeg ar hyd ymyl ogleddol yr ardal yn gyfochrog â glan yr afon; gellir dilyn y rheilffordd o hyd ar ffurf llwybr. Hefyd, mae dwy lôn yn rhedeg yn gyfochrog a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf ac Ail Argraffiad mapiau'r AO (1881, 1901) Lady Grove Ride (PRN 07778g) a Priory Grove Ride (07769g), ac nid yw'r un wedi suddo nac yn fetlin. Ceir llwybr marchogaeth arall yn yr ardal (PRN 07776g) nas dangosir ar fapiau cynnar yr AO. Ymhlith y cysylltiadau eraill mae llwybrau coetir, lonydd a llwybrau a hawliau tramwy cyhoeddus. Mae gan rai o'r rhain gysylltiadau hanesyddol â'r mudiad pictiwrésg; mae llwybr cerdded pictiwrésg (PRN 08966g) yn rhedeg drwy'r coetir o Deml Forol Cymin yn yr ardal gyfagos (HLCA031) i'r llwyfan gwylio (PRN 08967g) lle ceir golygfeydd panoramig ar draws Dyffryn Gwy.