Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

018 Chippenham


Aerial photograph over Cwmavon showing main road A4043 (middle), courtesy of RCAHMW.

HLCA 018 Chippenham

Parc cofrestredig (PGW (Gt) 6), gardd/parc o'r 20fed ganrif sydd bellach yn safle chwaraeon a hamdden; hamdden addurniadol: cyfleusterau chwaraeon (cyrtiau tenis, lawnt fowlio, pêl-droed, rygbi); archeoleg gladdedig a chreiriol; tir comin hanesyddol yn Nhrefynwy (cerrig a phostyn ennill argraffiad 1af yr AO; Anheddiad/caeau o'r cyfnod ôl-ganoloesol (Chippenham Cottage); ffiniau eiddo cyfagos (rheiliau a phileri clwydi). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Chippenham yn ardal o barcdir cyhoeddus sy'n gorwedd ar wastadir isel yng nghanol Trefynwy wedi'i amgylchynu gan dref Trefynwy ei hun i'r gogledd a'r gogledd-orllewin a Mynwy i'r de a'r A40 fodern i'r de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Yn flaenorol ymestynnai'r ardal mor bell i'r dwyrain ag Afon Gwy ond cyfyngwyd arni yn sgîl adeiladu ffordd yr A40. Mae'r rhan o'r ardal sy'n bodoli i'r dwyrain o'r A40 bellach yn cael ei defnyddio ar gyfer rhandiroedd a gorlifdiroedd ar gyfer yr afon.

Defnyddiwyd caeau Chippenham yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol pan y'u crybwyllir mewn perthynas â thref Trefynwy ei hun fel ardal a ddefnyddiwyd i bori anifeiliaid yn dilyn y cynaeafu yno; tybir i ryw fath o gnwd gael ei gadw yn yr ardal am weddill y flwyddyn. Codwyd toll ar y rhai hynny a oedd yn dymuno defnyddio'r cae i bori anifeiliaid. Noda Kissack (1974 a 1989) nad ymddengys i'r glwyd sef Clwyd Chippenham fod yn rhan o unrhyw system amddiffynnol na chlwyd ym mur y dref ond dyma lle y casglwyd tollau oddi wrth borwyr gan ddefnyddio'r cae ar ôl i'r gwair gael ei dorri.

Roedd yr ardal yn dir comin yn ystod y cyfnod canoloesol a dyna fel y bu tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gallai ceffylau a gwartheg bori yn yr ardal rhwng mis Medi a mis Chwefror (Heath 1804). Roedd yr ardal hefyd yn lle cyfleus ar gyfer gweithgareddau hamdden, pan gyfeiriwyd at Gaeau Chippenham fel 'an agreeable plain...the general rendezvous of Gwentonian beauty on summer evenings' (Barber 1803), a thrwy gydol y 19eg ganrif defnyddiwyd yr ardal yn rheolaidd i rasio ceffylau.

Heddiw mae nifer o feysydd chwarae, lawntiau a chyrtiau ar y cae. Fe'i defnyddir fel man agored cyhoeddus ar gyfer hamdden yn benodol ac fe'i diogelir fel parc cofrestredig (PGW (Gt) 6) ac mae hefyd yn ardal gadwraeth ddynodedig. Mae nifer o lwybrau troed yn mynd drwy'r parc hefyd.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Mae Chippenham yn barc cyhoeddus yng nghanol Mynwy, fe'i diogelir fel parc cofrestredig (PRN 06113g, PGW (Gt) 6) a werthuswyd yn Radd II ac a ddynodwyd yn ardal gadwraeth. Heddiw gellir nodweddu'r parc fel man agored cyhoeddus sy'n ymroddedig i weithgareddau hamdden.

Dominyddir rhan ddeheuol y parc gan gyfleusterau hamdden chwaraeon, ceir lawnt fowlio, cyrtiau tenis a maes chwarae yma, ac mae gweddill y parc i'r gogledd yn ardal hamdden agored a ddefnyddir fel cae rygbi o bryd i'w gilydd. Rhennir y rhan laswelltog hon o'r parc gan dri llwybr syth gyda choed collddail o'i chwmpas, a blannwyd gan y Gymdeithas Wella tua 1909.

Gallai archeoleg gladdedig fodoli yn yr ardal â nodweddion, er enghraifft Chippenham Cottage sydd wedi'i ddymchwel bellach a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881.