Mynydd Margam
008 Pentref Margam
HLCA 008 Pentref Margam
Pentref ystad o'r cyfnod ôl-ganoloesol gydag ychwanegiad hirgul o'r 20fed ganrif; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol (17eg-19eg ganrif) a phreswylfeydd maestrefol o'r 20fed ganrif. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Pentref Margam yn cynnwys y pentrefan bach gyda tharddiadau o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, a elwid yn wreiddiol yn Pound, ar ôl y clostir lle y câi defaid crwydr o Fynydd Margam eu cadw cyn eu gwerthu ym marchnad Tai-bach. Roedd prif bentref yr ystad a oedd yn gysylltiedig â Pharc Margam, fodd bynnag, ychydig ymhellach i'r gogledd yng Ngroes, a adeiladwyd i ailgartrefu pentrefwyr o'r pentref ôl-ganoloesol cynharaf o fewn ffiniau Parc Margam a ddymchwelwyd yn ystod y 1830au a'r 40au. Cafodd Groes, a gafodd ei gynllunio gan Haycock, yn ei dro ei ddileu yn llwyr pan adeiladwyd priffordd yr M4 yn ystod hanner olaf yr 20fed ganrif.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Pentref Margam fel ardal breswyl, sydd wedi datblygu o'r pentref ystad sy'n gysylltiedig ag Abaty Margam/Castell Margam. Roedd yr anheddiad gwreiddiol yn glwstwr llac o ffermydd a bythynnod ôl-ganoloesol, yn y traddodiad cynhenid/ystad lleol. Nodweddion ar yr ardal tirwedd hanesyddol yw adeiladau cynhenid ôl-ganoloesol (17eg-19eg ganrif), fel yr Hen Ficerdy (Bwthyn Margam gynt), Margam (Rhestredig gradd II; dechrau'r 19eg ganrif), Bwthyn Margam (Bwthyn Cwm gynt), ty ôl-ganoloesol (Rhestredig gradd II; 1693, mynediad uniongyrchol, simnai talcen, cyntedd, ystafell allanol, hen adeiladau fferm â tho gwellt), a Bythynnod y Gelli (Rhestredig gradd II; canol i ddiwedd y 19eg ganrif). Yn ystod yr 20fed ganrif, gwnaeth datblygiad hirgul o breswylfeydd maestrefol ychwanegu at natur breswyl yr ardal. Mae nodweddion eraill yn cynnwys gerddi/lleiniau garddwrol.