The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

007 Graig Goch a Heol Newydd


Graig Goch a Heol Newydd.

HLCA 007 Graig Goch a Heol Newydd

Tirwedd amaethyddol o gaeau datblygedig/afreolaidd bach; gwasgariad o ffermydd a bythynnod o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Graig Goch a Heol Newydd yn ardal o glostir amaethyddol cymysg a choetir, rhan o ystad ôl-ganoloesol Margam; Mae ardaloedd mawr o dir ystad Margam tebyg o ran cymeriad yn bodoli i'r de-ddwyrain y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol. Mae'r HLCA yn cynnwys ffermydd/aneddiadau ôl-ganoloesol Graig Goch a Heol Newydd, ac mae'r olaf yn adeilad a ddangosir ar fap ystad o 1814, ac y manylir arno ymhellach ar yr argraffiad cyntaf.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Graig Goch a Heol Newydd fel ardal dirweddol amaethyddol donnog ar dir isel ar hyd gwaelod clogwyni coediog Graig-Goch. Yn nodweddiadol, mae'r ardal yn cynnwys caeau datblygedig/afreolaidd bach, sydd mewn mannau wedi tyfu'n goetir llydanddail a phrysgwydd gwyllt unwaith eto. Mae'r ardal yn debyg i'r dirwedd i'r dwyrain o amgylch safle hen faenor fynachaidd Hafod Heulog. mae'r ardal yn cynnwys ffiniau caeau afreolaidd â gwrychau a phatrwm anheddiad gwasgaredig llac o ffermydd a bythynnod ôl-ganoloesol.