The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

004 Mynydd Brombil ac Ergyd Isaf


Mynydd Brombil ac Ergyd Isaf.

HLCA 004 Mynydd Brombil ac Ergyd Isaf

Ucheldir caeedig, clostir o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf; tirwedd anheddiad ucheldirol anghyfannedd o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol gyda nodweddion angladdol a defodol creiriol o'r cyfnod cynhanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Brombil ac Ergyd Isaf yn cynnwys ardal o ran ucheldirol gaeedig Ystad Abaty Margam, a aeth yn raddol gaeedig o'r 18fed ganrif ac erbyn hyn y nodwedd amlycaf yw caeau rheolaidd mawr. Mae gan yr ardal nifer o nodweddion creiriol sy'n gysylltiedig yn bennaf ag anheddiad amaethyddol canoloesol/ôl-ganoloesol yn amrywio o domenni clustog i lwyfannau tai (cytiau), ond hefyd yn cynnwys crugiau crwn, tomenni claddu o ddyddiad yr Oes Efydd.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Mynydd Brombil ac Ergyd Isaf fel ardal ucheldirol/mynyddig, rhan o'r hen ddeiliadaethau ucheldirol helaeth sy'n gysylltiedig â Margam, a aeth drwy broses gaeedig raddol o'r 18fed ganrif o leiaf. Mae'r ardal ar hyn o bryd yn dir pori sych ac yn dir âr ar gyfer porthiant ac fe'i nodweddir gan glostiroedd rheolaidd canolig a mawr eu maint, yn dyddio'n bennaf o'r ugeinfed ganrif. Prif bwysigrwydd tirweddol yr ardal yw fel tirwedd archeolegol greiriol o anheddiad ucheldirol canoloesol/ôl-ganoloesol anghyfannedd (PRN 01994w; NPRNs 15,371; 54,460; a 300,892) sy'n gysylltiedig â systemau caeau a nodweddion amaethyddol eraill, yn cynnwys tomenni clustog. Mae'r anheddiad yn cynnwys tai llwyfan canoloesol; mae'r rhain yn cynnwys grwp o hyd at 8 llwyfan tai (NPRN 300,892), dau glostir a grwp o rhwng 3 a 5 o domenni clustog ffosog. Mae gan yr ardal elfen angladdol a defodol gynhanesyddol fechan ond bwysig, dwy garnedd o'r Oes Efydd, neu grugiau crwn (SAM Gm 160) yn Ergyd Isaf, y pwynt uchaf yn yr ardal sef 260m.