The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

001 Abaty a Chastell Margam


Abaty a Chastell Margam.

HLCA 001 Abaty a Chastell Margam

Canolfan eglwysig a mynachaidd o bwys o'r cyfnod canoloesol cynnar/canoloesol gydag eglwys a mynwent; anheddiad eglwysig/seciwlar pwysig o'r cyfnod canoloesol cynnar a chanolbwynt gweinyddol; ystad fonedd a pharc ceirw pwysig a dylanwadol o'r cyfnod l-ganoloesol; parcdir a gerddi cofrestredig; adeiladau cynhenid ac adeiladau nodedig eraill o'r cyfnod l-ganoloesol; tirwedd archeolegol amlgyfnod/amlswyddogaeth greiriol bwysig; mae archeoleg gladdedig yn cynnwys olion cnydau a darganfyddiadau gwasgaredig; coetir a phlanhigfa Hynafol a choetir llydanddail arall; cysylltiadau hanesyddol pwysig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Roedd y dirwedd eithriadol hon, a gysgodir gan lethrau coediog i'r dwyrain ac sydd rhwng y mynyddoedd a'r mr ar hen lwybr cysylltiadau Rhufeinig i Orllewin Cymru, yn ardal o bwysigrwydd crefyddol mawr yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar ac wedyn yn ystod y cyfnod canoloesol pan adeiladwyd Abaty Sistersaidd Margam.

Mae'r ardal yn rhannu'r un ffiniau Pharc Gwledig Margam ar y cyfan, ac mae wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru (Rhif Cyf Cadw PGW (Gm) 52 (NEP), lle y gwerthusir ei bod o statws gradd I (Cadw; Cyngor Henebion a Safleoedd Rhyngwladol, 2000, Morgannwg: Cofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Rhan 1 Parciau a Gerddi). Yr hyn sydd o bwys arbennig yn yr ardal yw'r parc ceirw braf iawn wal o'i amgylch, ffasd y ty gwledda, yr Orendy a'r ty Sitrwys Sioraidd eithriadol a'r gerddi o'r 19eg ganrif 'u casgliad braf o goed a llwyni, sy'n gysylltiedig chwilwyr planhigion enwog Oes Fictoria megis Frank Kingdon Ward. Mae gardd Twyn-yr-hydd o'r 1950au yn ardd hyfryd o'r cyfnod sydd wedi'i chadw mewn cyflwr da yn y parc (Cadw; Cyngor Henebion a Safleoedd Rhyngwladol, 2000).

Gellir rhannu'r parc yn dair prif ardal, y mae dwy ohonynt yn yr HLCA bresennol: yr ardal gyntaf yw'r tir isel i'r de, gyda'r prif diroedd a gerddi i'r gorllewin a chefnen serth Craig-y-Lodge i'r gogledd; yn ail, y dyffryn coediog, y llyn a'r fryngaer ym mhen gorllewinol y parc; ac yn olaf y tu allan i'r HLCA bresennol, rhan ogleddol y parc (HLCA 015 Parc Uchaf a Thon-y-grugos), ar fan gwastad uchel uwchben y gefnen, gyda Cwm Phillip i'r gogledd-orllewin. Mae pob rhan ychydig yn wahanol o ran cymeriad a defnydd. Mae map ystad Hall o 1814 yn dangos y tair ardal wahanol hyn ac yn eu nodi fel Parc Bach, Parc Mawr a Pharc Uchaf (HLCA 015), yn y drefn honno.

Mae ardal tirwedd hanesyddol Abaty a Chastell Margam yn cynnwys casgliad trawiadol sy'n bwysig yn genedlaethol o bensaernaeth a cherflunwaith heb ei debyg unrhyw le arall yng Nghymru ac sy'n rhychwantu mileniwm cyfan, o'r 9fed ganrif i'r 19eg ganrif. Dangosir y pwysigrwydd strategol a gweinyddol hirsefydlog, yn seiliedig ar ei lleoliad da ar y ffin rhwng yr ucheldiroedd a'r mr, gan yr olion o bob cyfnod o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar i'r cyfnod l-ganoloesol. Mae pwysigrwydd yr ardal fel canolbwynt eglwysig canoloesol cynnar yn amlwg hefyd o'r Henebion Cristnogol Cynnar (cerrig arysgrifedig ac addurnedig) a ddarganfuwyd yng nghyffiniau'r Abaty Sistersaidd (gan gynnwys cerrig Conobelin, Pumpeius, Ilqui, Bodvoc a Grutne ymhlith eraill). Dangosir bodolaeth gynharach clostir mynwent amlochrog neu grwn o amgylch eglwys yr Abaty ym Margam yn yr Arolwg o Ystad Hill o 1814, sef arwydd arall o leoliad safle eglwys o'r cyfnod canoloesol cynnar. Mae safle eglwys arall o bosibl o'r cyfnod canoloesol cynnar wedi'i nodi hefyd yng Nghrug, Capel Mair (PRN 0765w; Hen Eglwys) yn seiliedig ar forffoleg mynwentydd, gyda thystiolaeth o glostir/mynwent grwn neu amlochrog (Evans 2003). Mae gwydr Ffrancaidd sydd wedi'i fewnforio a ddarganfuwyd yn nodi bod safle yn gweld patrymau cyfnewid a masnach ehangach yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar (cymharer Hen Gastell, Wilkinson 1995). Mae bryngaer Mynydd-y-castell (SAM Gm 162), o ran morffoleg a lleoliad, yn wahanol i'r rhan fwyaf o glostiroedd amddiffynedig eraill (gweler adrannau 6.4 - 6.5) o fewn y dirwedd hanesyddol, sef ei bod yn fath o fryngaer amddiffynedig iawn ar bentir neu gopa (yn debyg i'r safle yn Hen Gastell ond ar raddfa fwy), gyda llwyfan preswylio mewnol posibl. Er yr ystyrir bod Mynydd-y-castell yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (CBHC), efallai y bydd y safle yn anheddiad seciwlar statws uchel a chanolbwynt gweinyddol i'r rhanbarth yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar (gweler adran 6.4).

Yn 1147, rhoddodd Robert Caerloyw, arglwydd Morgannwg, y tiroedd ym Margam i abaty Sain Bernard o Clairvaux, er mwyn sefydlu ty Sistersaidd newydd ym Margam. Mae corff yr eglwys o'r 12fed ganrif yn goroesi, ac fe'i defnyddir fel eglwys y plwyf. Ar ddechrau'r 13eg ganrif, ailadeiladwyd yr Abaty gan yr Abad Gilbert (1203-13) ac mae'r cabidyldy (sy'n sefyll ond heb ei daeargell, a gwympodd yn 1799) a rhan ddwyreiniol yr eglwys, y seintwar, y cr a'r adenydd yn dyddio o'r cyfnod hwn. Ar l y diddymiad yn 1536, aeth y rhan fwyaf o'r cyn ystadau mynachaidd i feddiant Syr Rice Mansel o Oxwich ac Old Beaupre. Erbyn diwedd yr 16eg ganrif, roedd ty cain a moethus wedi'i adeiladu, yn cynnwys rhan o'r adeiladau mynachaidd, ac ychwanegwyd stablau ar ddiwedd yr 17eg ganrif.

O dan Thomas Mansel Talbot, gadawyd y plasty ym Margam yn wag a defnyddiwyd Castell Pen-rhys ar Benrhyn Gwyr yn ei le ac fe'i datblygwyd yn ardd bleser, a gwblhawyd erbyn 1814. Prif nodwedd yr ardd oedd Orendy trawiadol yn yr arddull Baladaidd, sef yr un mwyaf ym Mhrydain, a adeiladwyd yn 1787-90 gan ddilyn dyluniadau Anthony Keck. Gwaith C R M Talbot yw cynllun mewnol presennol y parc ar y cyfan, a drawsnewidiodd y parc o 1828 ymlaen, ar l defnyddio Margam eto fel plasty'r teulu. Roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu'r ty newydd yn yr arddull Duduraidd (1830-5 gan Thomas Hopper; pensaer y safle - Edward Haycock). Yn sgl cynllun afreolaidd y ty a'i nenlinell gastellaidd phinaclau, roedd golwg Ramantaidd arno. Fe'i hadeiladwyd o gerrig nadd lleol o'r Pl, wedi'u trefnu o amgylch tair iard, un yng nghanol y prif floc a'r ddau hen gwrt gwasanaethu i'r dwyrain. Ceir dau brif lawr, thrydydd llawr talcennog. Mae arwynebau'r adeilad wedi'u haddurno cherfwaith a phaneli herodrol wedi'u cerflunio. Yng nghanol yr adeilad, ceir twr wythonglog dramatig dau lawr gyda thyred grisiau cysylltiedig ag ystafell wylio ar y pen. Mae'r ty wedi'i alinio o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae ei wyneb blaen lle y ceir y brif fynedfa ar yr ochr ogleddol. Adeiladwaith diddorol arall a adeiladwyd yn ystod y cyfnod yw 'teml y pedwar tymor', sy'n cynnwys ffasd ty Gwledda'r Haf o ddiwedd yr 17eg ganrif, a ailadeiladwyd yn 1835.

Mae'r parc yn cynnwys nifer o adeiladau eraill sy'n nodweddiadol o ystadau'r 1840au yn yr arddull Duduraidd, sydd wedi'u priodoli hefyd i Haycock megis porthordy'r gorllewin ger yr eglwys (cyrn simnai tal a thalcennog).

Roedd hen bentref Margam, sylfaen l-ganoloesol a nodir ar fap yr ystad o 1813 ac a ddangosir ar ddarlun Delamotte o Fargam (Amgueddfa Genedlaethol Cymru; dechrau'r 19eg ganrif), yn agos at yr elusendai a oedd wedi goroesi, sef datblygiad hirfaen yn arwain o fynedfa'r Abaty. Ymddengys bod yr anheddiad hwn wedi'i glirio yn ystod y 1830au a'r 1840au, a chafodd y safle ei gynnwys yn y gerddi llysiau, a chafodd y trigolion eu hailgartrefu yn yr anheddiad newydd yng Ngroes (CBHC Morgannwg, Adams, D J 1986).

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Abaty a Chastell Margam, lle hamdden/agored ac adnodd twristiaeth gwerthfawr, yn rhannol o fewn Ardal Gadwraeth, ac mae'n rhannu'r un ffiniau gardd gofrestredig Parc Margam fwy neu lai; mae'r parc, sy'n drionglog fwy neu lai ac sydd wal cerrig llanw o amgylch y rhan fwyaf ohono, o gymeriad amrywiol a saif rhwng cefnen Mynydd Margam, i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, a'r gwastatir arfordirol i'r gorllewin. Disgrifir yr ardal fel tirwedd amlgyfnod o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol ac mae'n cynnwys olion pwysig o'r cyfnod cynhanesyddol, y cyfnod canoloesol cynnar, y cyfnod canoloesol a'r cyfnod l-ganoloesol, ac mae ganddi erddi a thirweddau o'r cyfnod Tuduraidd, o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yr ardal yn ystad eglwysig/mynachaidd bwysig ag eglwys a mynwent Abaty Sistersaidd canoloesol trawiadol, a droswyd yn ddiweddarach yn ystad a Pharc ceirw a thirlunio l-ganoloesol pwysig a dylanwadol thiroedd pleser, gerddi a hen ardd lysiau. Mae gan yr ardal enghreifftiau pwysig o bensaernaeth eglwysig ganoloesol a seciwlar a chynhenid l-ganoloesol, y mae llawer ohonynt wedi'u rhestru ac y mae rhai ohonynt wedi'u cofrestru. Mae'r ardal yn dirwedd archeolegol greiriol bwysig sy'n cynnwys anheddiad/caeau cynhanesyddol, canoloesol ac l-ganoloesol a nodweddion 'amddiffynnol' hanesyddol, megis bryngaer Mynydd-y-Castell (SAM Gm 162), sy'n nodwedd amlwg yn y dirwedd ynddi'i hun. Caiff y nodweddion creiriol eu hategu gan archeoleg gladdedig, sy'n amlwg oherwydd olion cnydau a gwasgariad darganfyddiadau. Mae'r ardal yn cynnwys cyfoeth o adeiladau ac adeiladweithiau canoloesol ac l-ganoloesol, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u rhestr, sef fel a ganlyn: Castell Margam (gradd II*); Orendy (gradd I); Adfeilion y Cabidyldy (gradd I) ; Adfeilion y Clafdy (gradd I); eglwys Santes Fair yr Abaty (gradd A) waliau a phileri gatiau'r fynwent (gradd II); Elusendai (gradd II); Teml y Pedwar Tymor (gradd II); olion y felin fynachaidd (gradd II); Waliau gardd lysiau (gradd II); Waliau teras a sgrin (gradd II); Y Porthordy Canol (Porthordy'r Gorllewin) (gradd II); Pileri gatiau a sgrn ym Mhorthordy'r Dwyrain (gradd II); Wal a phileri gatiau Parc Margam ar hyd yr A48 (gradd II); Adfeilion Hen Eglwys (gradd II). Henebion cofrestredig yr ardal yw Hen Eglwys (Gm 163); Cerrig arysgrifedig ac addurnedig Margam (Gm 21); Abaty Margam (Gm 5). Ymhlith y nodweddion eraill mae coetir hynafol a choetir llydanddail arall a phlanhigfa o'r 19eg ganrif, cysylltiadau hanesyddol pwysig o'r cyfnod canoloesol ac l-ganoloesol, a mn nodweddion cysylltiadau megis cwrs un o hen ffyrdd y plwyf rhwng Tai-bach a Llangynwyd, a wyrwyd yn 1829 i osgoi croesi'r parc.