The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

011 Waun-y-Gilfach


Waun-y-Gilfach.

HLCA 011 Waun-y-Gilfach

Planhigfa o goed o'r 20fed ganrif; 'Waun' agored gynt; llwybrau troed a llwybrau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Waun-y-Gilfach yn ardal fach, ar wahân o bennau bryniau coediog a fu gynt yn rhostir mynydd agored neu 'waun' sy'n gysylltiedig â ffermydd cyfagos (Gilfach-uchaf, Gilfach-ganol, a Gilfach-isaf a Foel-fach). Rhannwyd yr ardal rhwng tiroedd Margam a Gadlys o ddechrau'r 19eg ganrif o leiaf, os nad ynghynt.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Waun-y-Gilfach fel ardal o blanhigfa o goed o'r 20fed ganrif ar dir a fu gynt yn 'waun' agored. Nid yw'r ardal, pen bryn isel i'r de o Gwm Cae-lloi, yn cynnwys llawer o ran gweddillion archeolegol hysbys, ar wahân i fân nodweddion cysylltiadau megis llwybrau a llwybrau troed. Mae waliau sychion uchel o'r 18fed/19eg ganrif yn yn ffinio â'r ardal hefyd ac yn ei his-rannu. Mae'n bwysig yn bennaf fel lleoliad ar gyfer Castell canoloesol cofrestredig Llangynwyd yn ardal gyfagos HLCA 005.