Mynydd Margam
005 Llangynwyd
HLCA 005 Llangynwyd
Ucheldir caeedig, clostir o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf; tirwedd anheddiad ucheldirol anghyfannedd o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol gyda nodweddion angladdol a defodol creiriol o'r cyfnod cynhanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llangynwyd yn dirwedd bwysig gydag amrywiaeth o elfennau gwahanol. Canolbwynt yr ardal yw anheddiad canoloesol cnewyllol Llangynwyd a bu felly ers y canoloesoedd cynnar, os nad cyn hynny. Yn y bôn, mae'r ardal yn dirwedd amaethyddol ddatblygedig, sydd ag arwyddion o anheddiad a chlostiroedd o hyd a ddatblygodd o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol cynnar, canoloesol ac ôl-ganoloesol. Mae godre gorllewinol yr ardal wedi ei ddynodi gan glostiroedd amddiffynedig o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar megis y Bwlwarcau a thu hwnt i'r ardal, y gwersyll yn Rhyd Blaen-y-cwm, sy'n rheoli mynediad i dir uchel Mynydd Margam. Mae'r Bwlwarcau (SAM Gm 59), yr un fwyaf trawiadol o'r nodweddion tirwedd pwysig hyn, yn cynnwys gwrthglawdd aml-gyfnod gyda chlostir mewnol o 0.3 hectar. Mae'r clostir mewnol, y diffinnir ei fynedfa gan glawdd amlwg, ffos a gwrthlethr, wedi ei amgylchynu gan ddau neu dri chlawdd consentrig a ffosydd yn amgáu 7.2 hectar. Mae'r safle yn gorwedd yn rhannol dros amddiffynfeydd llai clostir cynharach a mwy o faint.
Yn ystod y cyfnod canoloesol ymddengys bod pobl wedi parhau i fyw ar yr un safleoedd neu eu bod wedi cael eu hailsefydlu; mae tai llwyfan (yr oedd pobl yn byw ynddynt gan eu defnyddio mae'n siwr fel hafodtai/hafodydd, neu anheddau haf sy'n gysylltiedig â safleoedd aneddiadau gaeaf parhaol neu hendrefi rywle arall yn y cyffiniau) yn nodweddion aneddiadau nodweddiadol, a ddefnyddiwyd eto yn ardal amddiffynedig y Bwlwarcau (PRN 00116/NPRN 301,303 a PRN 01323/NPRN 15,248; SAM Gm 59) ac a sefydlwyd o amgylch Lluest-wen (PRNs 00112-00114; NPRNs 15,349-15,351). Ymddengys bod y safleoedd hyn, a ddefnyddiwyd yn ystod y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, wedi datblygu'n gynyddol yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, gan sefydlu fel anheddiadau parhaol yn eu rhinwedd eu hunain yn ystod y cyfnod. Mae fferm Lluest-wen gyda'i chlostiroedd cysylltiedig a safle lluest ôl-ganoloesol yn enghraifft dda. Ymddengys bod prosesau tebyg wedi bod ar waith mewn mannau eraill yn yr ardal gyda phatrwm anheddiad/clostir anghyflawn yn datblygu yn dirwedd amaethyddol gaeedig ehangach sef y dirwedd a welir heddiw. Gwelir elfennau ffosiledig o system 'cae agored' ganoloesol, sef lleiniau neu lain-gaeau ar y patrwm caeedig yn union gyfagos i anheddiad Llangynwyd; patrwm cae a osodwyd o bosibl ar yr anheddiad canoloesol cynnar a oedd yn bodoli eisoes gyda'r Llan neu glostir eglwys a oedd yn rhan ohono.
Gwelir olion adeileddol y cyfnod canoloesol yn cynnwys y twr unionsyth trawiadol a nodweddion o'r 14eg ganrif fel fflaim deirdalen, drws offeiriad gyda rhôl gwrymiog a ffleimiau teirdalen dwbl, yn eglwys Cynwyd Sant, ynghanol pentref bach ucheldirol Llangynwyd, a sefydlwyd yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Fodd bynnag, mae llawer o'r adeilad yn dyddio o'r gwaith adfer eithafol a wnaed rhwng 1891 a 3 gan G. E. Halliday ar gais Miss Olive Talbot o Fargam. Mae clostir yr eglwys, neu'r llan, yn Llangynwyd yn un hirsgwar yn fras gyda chorneli crwm, y gwyddys mewn mannau eraill iddynt ddyddio o'r cyfnod Rhufeinig (cymharer Whitton, Jarrett a Wrathmell, 1981). Ceir cyffelybiaethau cynhanesyddol eraill posibl ar safleoedd eraill o fewn y dirwedd hanesyddol, megis Caer Blaen-y-cwm, a'r Bwlwarcau, y mae gan bob un ohonynt elfennau morffolegol tebyg. Gallai hyn awgrymu, o leiaf, ailddefnydd o glostir cynharach a safle anheddiad, os nad parhad o ddefnydd dros gyfnod sylweddol; daeth y safle yn safle angladdol a defodol o bwys yn y pen draw yn y cyfnod canoloesol cynnar.
Cynrychiolir y prif ganolbwynt arall yn yr ardal yn ystod y cyfnod canoloesol gan Gastell Llangynwyd (SAM Gm85); adeiledd Normanaidd, a ailadeiladwyd gan Gilbert de Clare yn y 1260au. Cloddiwyd y safle yn rhannol yn 1906, a oedd yn cynnwys porthdy mawr yn wreiddiol gyda dau dwr drwm. Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi nodi tebygrwydd agos rhwng cynllun a threfniadau amddiffynnol y porthdy yn Llangynwyd a'r porthdy dwyreiniol mewnol yng Nghastell Caerffili, a adeiladwyd gan Gilbert de Clare o 1268.
Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn nwylo pedair ystad : Margam, y prif ddeiliad tir, Gadlys, Dunraven a Goetrehen. Ymddengys bod datblygiad anheddiad Llangynwyd yn ystod y cyfnod wedi parhau i raddau helaeth o fewn y patrwm a sefydlwyd yn ystod y cyfnod canoloesol; uned bentref fach dynn o amgylch yr eglwys ganoloesol a'r Llan yn cynnwys teras ychwanegol o fythynnod wedi eu rendro ar hyd yr ochr ogleddol. Roedd yr olaf yn cynnwys Capel Bethesda o 1795-99 (y brif eglwys yn yr ardal ar gyfer yr Annibynwyr; er ei bod wedi ei moderneiddio mae dwy ffenestr fawr â chylchrannau ar ran uchaf y ffenestri a phorth un llawr canolog. Parhaodd canol a phentref plwyfol Llangynwyd i fod yn ddibynnol i raddau helaeth ar yr economi amaethyddol leol yn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, gyda gwasgariad o ffermydd o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, megis Llwydiarth a Gelli-lenor, sef prif gynhalwyr yr economi a'r diwylliant Cymreig lleol. Mae gan lawer o'r ffermydd yn yr ardal ragflaenwyr canoloesol a chysylltiadau â ffigyrau diwylliannol a llenyddol pwysig o Gymru.
Yn ystod y 19eg ganrif hybwyd twf diwydiant yn yr ardal, sef glo a haearn yn bennaf, drwy adeiladu Rheilffordd Dyffryn, Llynfi a Phorthcawl yn 1828 (peiriannydd John Hodgkinson). Roedd y rheilffordd, 4 troedfedd 7 modfedd o led gyda chledrau ymyl o'r math a ddefnyddiwyd ymhob man yn ddiweddarach, yn rhedeg am 25.7 km, ac roedd yn cysylltu gwaith haearn Cwm Llynfi â phorth Porthcawl. Yn ystod y cyfnod hwn symudodd canolbwynt yr anheddiad yn yr ardal o hen ganol plwyfol Llangynwyd i'r anheddiad diwydiannol newydd a oedd yn datblygu sef Maesteg, ar waelod y cwm i'r dwyrain.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Llangynwyd fel tirwedd archeolegol greiriol bwysig; palimpsest wedi ei gadw o fewn tirwedd amaethyddol ddiddorol o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol cynnar. Mae'r nodweddion creiriol amlwg yn cynnwys sawl anheddiad cynhanesyddol a chanoloesol trawiadol yn gyffredinol gyda systemau cae cysylltiedig. Mae'r olaf yn cynnwys henebion, sydd â gwedd 'filwrol/amddiffynnol', megis bryngaer drawiadol y Bwlwarcau o'r Oes Haearn (SAM Gm 59), gyda'i chlostir pumochrog mewnol, a Chastell Llangynwyd (SAM Gm 85), castell cylchfur canoloesol, gyda chyfnodau o'r 12fed ganrif a'r 13eg ganrif. Ceir nifer o aneddiadau canoloesol anghyfannedd yn bennaf o fath tai llwyfan yn yr ardal; fe'u codwyd ar hyd godre gorllewinol uchaf yr ardal, yn agos at ffin mynydd agored Mynydd Margam, ac roeddent yn gysylltiedig â rheoli gwartheg/defaid yn pori ar laswelltiroedd y mynydd agored.
Nodwedd arall ar yr ardal yw'r patrwm cae datblygedig/afreolaidd amrywiol, sy'n cynnwys gweddillion llain-gaeau canoloesol a choridorau sydd wedi goroesi o goetir Hynafol a choetir llydanddail rall. Yn yr ardal hon o gymeriad, gyda'i hanheddiad cnewyllol organaidd bach wedi ei osod o gwmpas ei heglwys ganoloesol, mynwent (sylfaen o'r cyfnod canoloesol cynnar) a dwy ffynnon sanctaidd, Ffynnon Gynwyd a Ffynnon Fair, mae nifer o adeiladau cynhenid ôl-ganoloesol o ddiddordeb i'w gweld o hyd, a rhestrir rhai ohonynt fel Tafarn yr Hen Dy (craidd y dafarn yn dyddio o'r 17eg gyda tho gwellt, rhestredig gradd II), Gilfach Ganol (16eg, gydag ychwanegiadau diweddarach, rhestredig gradd II), Llwydiarth (16eg/17eg ganrif, rhestredig gradd II*), cartref y teulu Powell, is-siryfion y teulu Mansel o Fargam yn ystod yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif ac a folwyd gan Dafydd Benwyn (bardd Tir Iarll yn ei flodau yn yr 16eg ganrif), a Ffermdai Pentre (dechrau i ganol yr 17eg ganrif gydag adeiladau fferm cysylltiedig, rhestredig gradd II). Mae Tafarn y Ty Cornel, sef ysgubor ddegwm y plwyf ar un adeg, hefyd o ddiddordeb; rhwng 1761 a 62 fe'i defnyddiwyd gan Ysgolion Elusennol Cylchynnol Cymru, a hyrwyddwyd gan y Parchedig Griffith Jones, Llanddowror. Ystyrir bod gan lawer o'r aneddiadau ôl-ganoloesol ragflaenwyr canoloesol, yn arbennig Caer Emi, Gelli Eleanor (Gelli-lenor), a Pentre, ymhlith eraill yn y rhanbarth y cyfeirir atynt yn Siarteri Margam o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif.
Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol pwysig a chryn dystiolaeth iddynt, canolfan lenyddol Morgannwg yn ystod y Canol Oesoedd hyd at yr 17eg ganrif, yn arbennig, a oedd yn gysylltiedig â phrifeirdd Tir Iarll. Roedd Rhys Brydydd, Gwilym Tew, Rhys Goch ap Rhiccert (yn ei flodau canol y 14eg ganrif), Rhisiart ap Rhys Brydydd a Dafydd Benwyn, ymhlith eraill yn feirdd barddol a oedd yn gysylltiedig â'r ardal. Yn ystod y 18fed ganrif roedd yr ardal yn gysylltiedig â Wil Hopcyn (m 1741), awdur un o Ganeuon Serch mwyaf adnabyddus Cymru, 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn'; a'r ardal hon oedd lleoliad y chwedl ramant drasig, enwog, 'Y Ferch o Gefn-Ydfa'. Codwyd cofeb i Wil Hopcyn rhwng yr Hen Dy a Thafarn y Ty Cornel yn 1927. Gwnaeth yr hynafiaethwyr Rice Merrick ac Iolo Morgannwg ymhlith eraill ymweld â'r ardal, sydd hefyd yn adnabyddus am ei hofergoelion a'i thraddodiadau fel Mari Lwyd, a Gwyl Mab Sant.