The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

003 Cwm Brombil a Graig Fawr


Cwm Brombil a Graig Fawr.

HLCA 003 Cwm Brombil a Graig Fawr

Llechwedd serth yn wynebu'r gorllewin a chymoedd culrych iawn; ardal gymysg o goetir hynafol a choed eraill a chlostir amaethyddol o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol cynnar a ddatblygwyd o graidd cwm cynharach; tirwedd greiriol amlgyfnod. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm Brombil a Graig Fawr yn cynnwys llethrau is Mynydd Margam sy'n wynebu'r gorllewin a oedd â'u canolbwynt yn y cwm culrych iawn yn ystad Abaty Margam yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn gysylltiedig â maenorau gwahanol Abaty Margam gan gynnwys maenorau Llangyfelach (Maes y cwrt yn ddiweddarach), Crug a Groeswen; roedd yr olaf i'r de o nant Gwesig (credir bod hynny'n deillio o 'cwysig', sef cwys neu ffos) yng Nghwm-y-Geifr (Cwm yr Hafod gynt), ac roedd yn cynnwys Cwm Brombil, safle pwll glo yr oedd yr Abaty yn berchen arno. Mae'r ardal yn cynnwys tir a oedd yn rhan o Lan Ton-y-Groes gynt, sef ardal o dir braenar amaethyddol a oedd yn gysylltiedig â maenor ganoloesol Groeswen.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, parheid i wneud defnydd diwydiannol o'r ardal, a oedd yn rhan o Ystad Margam, sef ystad helaeth, ar y pryd; sonnir am felin yd mâl yng Nghwm Brombil yn 1633, ac fe'i crybwyllir eto yn 1693. Agorwyd pyllau glo rhwng 1777 a 1780 yng Nghwm-yr-Afr (Cwm-y-Geifr) a Chwm Brombil gan Gwmni Copr Lloegr i ateb y galw am y diwydiant Copr; erbyn 1814 roedd lefel ychwanegol wedi'i hagor yng Nghwm Brombil. Yn 1838, adeiladwyd Tramffordd Brombil (a dynnwyd gan geffyl), gan gysylltu Cwm Brombil â gwaith copr Tai-bach, a weithredwyd gan Feistri Vivian ar y pryd. Caeodd Pwll Glo Cwm Brombil yn 1880.

Heddiw, mae'r ardal yn cynnwys tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol, ardaloedd cyfyngedig o glostiroedd cynharach a Choetir hynafol; mae'r gefnwlad amaethyddol wedi ei gwahanu i raddau helaeth oddi wrth ei ffermydd ôl-ganoloesol, ar wahân i Fferm Brombil (17eg- 18fed ganrif).

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Cwm Brombil a Graig Fawr yn cynnwys llethrau serth is Mynydd Margam yn edrych dros y parth arfordirol gyda chymoedd ochr culrych iawn; tirffurf yr ardal yw nodwedd amlycaf yr ardal. Mae llawer o'r ardal wedi ei nodweddu gan goetir hynafol a choetir llydanddail arall, yr ychwanegwyd atynt gan goed o'r 20fed ganrif. Nodwedd fwy diweddar ond yr un mor amlwg ar yr ardal yw'r dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol, yn arbennig tuag at ogledd yr ardal, a oedd yno erbyn dechrau'r 19eg ganrif; nodweddir hyn gan glostiroedd mawr, a ddatblygwyd o fewn hen gaeau bach agored wedi eu canoli ar dirlun afreolaidd a esblygodd, o bosibl o darddiad canoloesol neu gynharach, o fewn Cwm Brombil ei hun. Ceidw'r ardal ffiniau caeau pendant. O anheddiad amaethyddol ôl-ganoloesol yr ardal, dim ond y rhan o fewn Cwm Brombil, yn cynnwys adeiladau cynhenid Fferm Brombil (PRN 1731w) sy'n weddill; mae hwn yn dy rhanbarthol gyda chefn y simnai wrth y fynedfa a chyntedd croes allanol a grisiau lle tân ac ysgubor pedwar cowlas gysylltiedig. Roedd rhan ogleddol yr ardal yn gysylltiedig â ffermydd Groeswen a Groeswen pellaf, a oedd i'r gorllewin o ffin y dirwedd hanesyddol. Mae elfennau pwysig o'r dirwedd greiriol i'w gweld o hyd o bob cyfnod ac maent yn cynnwys anheddiad/caeau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol, a nodwedd neu nodweddion milwrol/amddiffynnol cynhanesyddol; megis Gwersyll Hanner Lleuad (PRN 0745w) SAM Gm 477), y clostir unclawdd bach ar lethr y bryn uwchben Tai-bach (NPRN 54,457) o ddyddiad yr Oes Haearn; tomenni clustog canoloesol (NPRN 54,461) a grwp o lwyfannau tai canoloesol (NPRN 54,458 ac NPRN 54,459) wedi eu lleoli ar Fynydd Brombil. Roedd yr ardal gynt yn dir maenor mynachaidd (rhan o Faenor Groeswen) a oedd yn gysylltiedig â Margam yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae ffotograffau o'r awyr yn awgrymu bod archeoleg claddedig yn yr ardal a gynrychiolir gan olion cnydau/ crasu sydd hefyd yn nodweddu'r ardal. Mae ychwanegiadau diweddar i gymeriad yr ardal yn cynnwys nodweddion amddiffynnol sy'n gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd, gorsaf radar isel Cadwyn Cartref (PRN 02995w; SAM Gm 488). Mae nodweddion eraill yn ymwneud â gorddefnydd diwydiannol o adnoddau glo'r ardal; gweddillion archeolegol diwydiannol ôl-ganoloesol: lefelau/siafftiau glo a thramffordd pwll glo i gyd ym Mrombil.