The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

010 Coedwig Mynydd Margam


Coedwig Mynydd Margam.

HLCA 010 Coedwig Mynydd Margam

Planhigfa o goed helaeth o'r 20fed ganrif (Coetir hynafol a choetir llydanddail arall); mynydd agored a thir caeedig gynt; tir mynachaidd gynt: maenor a chapel; tirwedd archeolegol greiriol amlgyfnod: anheddiad o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac l-ganoloesol (patrwm anheddu gwasgaredig llac) a chaeau, nodweddion angladdol a defodol o'r cyfnod cynhanesyddol gydag elfen amddiffynnol o'r cyfnod cynhanesyddol; coridor cysylltiadau o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac l-ganoloesol; gorfawn yn casglu gydag effaith bosibl ar yr amgylchedd; nodweddion archeolegol diwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Mynydd Margam yn cynnwys ardal o fynydd agored gynt a chymoedd caeedig sy'n gysylltiedig ag Abaty Sistersaidd Margam, yn benodol Maenor Hafod-y-Porth (SS 80128 8986), a Maenor Crug ac Abaty Margam ei hun, yr oedd yr olaf y tu allan i ffin yr ardal gymeriad. Yn yr ardal, ceir gweddillion pwysig maenor a chapel cysylltiedig yn Hafod (Hafod-y-Porth). Yn dilyn diddymu'r mynachlogydd daeth adeiladau mynachaidd yr ardal yn rhan o Ystad Margam.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coedwig Mynydd Margam yn bennaf gan blanhigfa o goed helaeth o'r 20fed ganrif. Mae'r ardal, sydd bellach wedi ei chuddio gan goedwig fodern, yn cynnwys cymysgedd o hen glostiroedd agored a datblygedig/afreolaidd ac amrywiol (Ffigur 11a) a nodir ar gynlluniau ystad o 1814 ac argraffiad 1af mapiau AO 6" o 1884/5. Yr ardaloedd agored, mynydd agored gynt, yw Mynydd Margam ei hun (Ffigur 11a: HLCA 010C) a Mynydd Bach (Ffigur 11a: HLCA 010A); yr ardaloedd o dir caeedig (Ffigur 11a: HLCA 010B a D).

Nodweddir yr ardal hefyd gan ardaloedd o Goetir Hynafol, yn enwedig yn y cymoedd sydd ar lethrau Mynydd Margam, yn bennaf Cwm Maelog (a ailblannwyd yn rhannol chonifferau yn 1858), Nant Cwm-y-Garn, a Chwm Nant-y-Glo, gyda rhagor o goetir llydanddail yn Nant Cwm Wernderi (argraffiad cyntaf AO 1884). Plannwyd ar y tir uwch, sef hen rostir agored o dan nawdd y Comisiwn Coedwigaeth ar l yr Ail Ryfel Byd. Roedd yr ardal, rhan o'r tiroedd mynachaidd helaeth a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Margam ac a ffermiwyd o faenorau yn Hafod (Hafod-y-Porth) a Chrug ym Margam ei hun, yn dir pori ar fynydd agored/gwaun grugieir gynt gydag ardaloedd cyfagos o dir caeedig, ond ymylol.

Nodwedd bwysicaf yr ardal yw fel tirwedd archeolegol greiriol yn dyddio o sawl cyfnod, gyda gweddillion yn dyddio o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac l-ganoloesol, yn bennaf: aneddiadau a chaeau, nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol a nodweddion milwrol cynhanesyddol. Roedd y prif safleoedd yn cynnwys carneddau o'r Oes Efydd fel yn Ergyd Uchaf (SAM Gm 159) ac ym mhen draw Cwm Cynffig, h.y. carnedd gylchog, safle carreg Bodvoc (SAM Gm 443) a Thwmpath Diwlith (PRN 00754w), a'r safle cynhanesyddol cofrestredig, clostir hirgrwn a adwaenwyd fel y 'Gwersyll Danaidd' (SAM Gm 056). Mae'r ardal yn bwysig hefyd fel coridor cysylltiadau cynnar a sefydledig, yn seiliedig ar gefnffyrdd, a ddefnyddiwyd o'r cyfnod cynhanesyddol, hyd at heddiw, mewn rhai achosion. Y ffordd bwysicaf ohonynt oll yw Ffordd-y-gyfraith, (a adwaenwyd hefyd fel Cefn Ffordd), sy'n rhedeg ar hyd cefnen Mynydd Margam drwy Ryd Blaen-y-cwm ac i'r de-ddwyrain tuag at Fynydd Baedan (CBHC 1976, Cyf I, II a III; Rees 1932; map Yates 1799). Ystyrir bod effaith cliriad a newid yn yr hinsawdd tuag at ddiwedd yr Oes Efydd wedi arwain at amodau amgylcheddol a oedd yn addas ar gyfer ffurfio gorfawn; effeithiodd hyn ar lwyfandiroedd dyranedig Mynydd Margam fel mewn mannau eraill ar ucheldir Morgannwg (Caseldine 1990); mae'n bosibl bod dangosyddion amgylcheddol a dangosyddion eraill sy'n gysylltiedig 'r Oes Efydd a thirwedd gynharach wedi goroesi. Efallai fod coedwigaeth 'i draeniad cysylltiedig, yn ail hanner yr 20fed ganrif wedi cael effaith andwyol ar oroesiad y deunydd amgylcheddol.

Fel arall, mae nodweddion archeolegol drwy'r ardal gyfan yn bennaf cysylltiedig naill ai amaethyddiaeth ucheldir l-ganoloesol ac amaethu ymgynhaliol, wedi eu nodweddu gan ffermydd, ysguboriau, corlannau, ac o leiaf un domen glustog bosibl, neu'n gysylltiedig defnydd diwydiannol; mae'r olaf yn cynnwys chwareli, pyllau gro, pyllau glo (pob hen lefel lo a ddangosir ar ail argraffiad map AO 1900) a safleoedd llosgi siarcol. Mae'r ardal hefyd yn gysylltiedig mn gyflenwad dwr. Mae meini terfyn, sy'n nodi rhaniadau tir amlinellol l-ganoloesol (neu gynharach hyd yn oed), hefyd yn nodweddion tirwedd niferus.

Credir bod gan batrwm anheddu gweladwy yr ardal ragflaenwyr canoloesol, yn l pob tebyg, er ei fod yn ei hanfod yn l-ganoloesol ar ei gam terfynol, yn cynnwys gwasgariad llac o ffermdai a bythynnod, yn cynnwys ffermydd Blaen-Maelwg, Llan Ton-y-Groes, a Nant-y-Glo, ac adeiladau fferm yn Wernderi a Hafod.