The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol Mynydd Margam

Prosesau, themâu a chefndir hanesyddol

Y Cefndir Daearegol a'r Dirwedd Naturiol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Margam, tua 3,295 hectar o arwynebedd, yn gorwedd o fewn llwyfandir dyranedig ucheldirol Morgannwg, sef ymyl dde-orllewinol Blaenau Morgannwg. Prif ran yr ardal yw ardal ucheldirol Mynydd Margam; y man uchaf yw copa coediog Mynydd Margam ar 349m DO. Mae Mynydd Margam yn cynnwys cefnen o ucheldir ychydig yn donnog ond yn weddol lydan, sy'n rhedeg o'r gorllewin-ogledd-orllewin i'r dwyrain-dde-ddwyrain ar uchder o rhwng 244m a 349m DO. Ym mhen gorllewinol a deheuol yr ardal ceir llethrau isel serth, e.e. Graig Fawr (HLCA 003) a Graig-Goch (HLCA 001 a 016), gyda thoriad llethr tua 180m DO, a chymoedd culrych iawn, megis Cwm Brombil (HLCA 003), Cwm Maelwg (HLCA 002) a Chwm Phillip (o fewn HLCA 001 a HLCA 010), sydd yn aml yn goediog neu a fu'n goediog gynt. Uwchlaw'r rhain ceir fel arfer gefnennau neu esgeiriau gwastad, sy'n cysylltu â phrif gefnen Margam, megis Mynydd Brombil (HLCA 004, gan gynnwys Ergyd Uchaf ac Ergyd Isaf) a Chefn Crugwyllt (HLCA 002).

Mae maint y tirffurf sy'n destun yr astudiaeth o nodweddion fel a ganlyn: yn ffin ogleddol i'r ardal mae Cwm Dyffryn a chwrs y Ffrwd Wyllt, a chwm Nant Cwm Farteg sy'n dangos olion diwydiant, tua'r gorllewin a'r de ceir llethrau culrych iawn Mynydd Brombil, Cefn Crugwyllt a Moel Ton Mawr. Mae ymyl ddwyreiniol y dirwedd hanesyddol, fel y'i diffinnir ar y gofrestr, yn torri ar draws llethrau uchaf Mynydd Margam rhwng Moel Ton Mawr a Moel Sychbant a hynny'n artiffisial, ac wedyn yn dilyn ymyl coedwigaeth dros Gwm Sychbant i Gwm Farteg. Mae'r ardal a ddefnyddir at ddibenion yr astudiaeth o nodweddion yn ymestyn i'r dwyrain o'r ffin dirwedd hanesyddol ac ar yr ochr orllewinol mae Cwm Llynfi (hy ardaloedd trefol a diwydiannol Maesteg a Phont Rhyd-y-cyff a choridor cyfathrebu diwydiannol cysylltiedig Cwm Llynfi). O ganlyniad, mae'r ardal yn cynnwys holl ardal y llethrau caeedig i'r gogledd o Nant Bryn Cynan a Nant-y-Gadlys.

Mynydd Margam (HLCA 010) yng nghanol y dirwedd hanesyddol yw tarddiad nifer o lednentydd sy'n llifo i mewn i brif afonydd yr ardal; gan gyflenwi Afon Cynffig, Afon Ogwr a'r afon lai, Afon Ffrwd Wyllt. Mae tarddiad Afon Cynffig ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd Margam, ychydig islaw'r copa ger Twmpath Diwlith. Mae prif ran craidd ucheldirol Mynydd Margam wedi'i gwahanu oddi wrth fryniau Mynydd Bach a Moel Gallt-y-cwm gan Nant-y-glo a Nant Cwmwernderi sy'n llifo tua'r gorllewin yng Nghwm Wernderi a Nant Sychbant sy'n llifo tua'r dwyrain yng Nghwm Sychbant. Mae Mynydd Bach a Moel Gallt-y-cwm wedi'u gwahanu gan gwm cul Nant-y-boda ac ar lethrau gorllewinol a deheuol Mynydd Margam ceir nifer o nentydd culrych, sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de: Cwm y Garn; Cwm Gwineu; Cwm Rhys; Cwm y Geifr; Cwm Brombil; Cwm Maelwg; Cwm Caetreharn; Cwm Phillip a Chwm Cynffig. Y prif gymoedd sy'n dyrannu llethrau dwyreiniol Mynydd Margam yw Cwm y Goblyn, Cwm Sychbant, Cwm Cerdin, a Chwm Nant-y-Gadlys gyda Chwm Nant Bryncynan. O fewn y cymoedd dyfnion hyn fel arfer mae coetiroedd Hynafol o goed llydanddail a choetiroedd naturiol/lled-naturiol eraill wedi goroesi, megis y coetir o fewn Cwm Brombil (HLCA 003) a Chwm Nant-y-Gadlys (HLCA 012).

Daeareg solet yr ardal yw tywodfaen carbonifferaidd gwelyau Llynfi ac Abertawe a Gwelyau Pennant Isaf, a nodweddir gan dywodfeini a gro ffelsbathig a micaol trwchus anferth (George, N 1970, 89-94). Newidiwyd tirwedd yr ardal yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd, tua 18,000 mlynedd yn ôl, gan rewlifiant i greu'r dirwedd a adwaenwn heddiw. Prif bwynt ymgasglu rhewlifol De Cymru oedd Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog, yr oedd eu hwyneb gogleddol yn darddiad nifer o beirannau rhewlifol. Yr unig rwystr a lwyddodd i wyro prif rewlif Bannau Caerfyrddin a Bannau Brycheiniog oedd tarren Pennant Craig-y-Llyn gan greu ei chapan rhew ei hun. Newidiwyd cymoedd yr ardal, gan gynnwys cwm Afan, cwm Llynfi a chwm Ogwr (George, N 1970 126-7) gan rym y rhew hwn.

Mae daeareg ddrifft yr ardal wedi ei rhannu rhwng priddoedd glei stagnohwmig gan gynnwys priddoedd mawn ar graidd yr ucheldir a phriddoedd brown mewn mannau eraill (Caseldine 1990). Ar gefnennau uchel a chopaon Mynydd Margam (HLCA 004, 010, 013 a 014 a rhan o HLCA 001 a 002 yn bennaf) priddoedd ffurfiant Gelligaer (tywodfaen paleosöig) a geir yn bennaf; fel arfer priddoedd ucheldirol priddgleiog ac athraidd dros dywodfaen gyda therfynlin mawnog gwlyb a therfynlin iswynebol wedi ei wynnu, gyda chletir haearn tenau, a chreigiau a sgri lleol, sy'n cynnig cynefinoedd o rostir gwlyb ac o werth pori gwael neu weddol (Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983, 16). Llystyfiant mawndir, megis mwsoglau migwyn, hesg a brwyn a welir amlaf, yn enwedig y tu allan i ardaloedd sydd wedi'u newid drwy blannu coed conifferaidd. Ar y llethrau a'r esgeiriau isaf (HLCA 001, 002, 003, 005, 007, 008, 009, 015, 016 a 017, a rhan o 012 yn bennaf) gwelir priddoedd sy'n deillio o dywodfaen Paleosöig o fath Withnel 1 amlaf; priddoedd priddgleiog sy'n draenio'n dda dros dywodfaen ar lethrau serth fel arfer, gan gynnwys rhai priddoedd priddgleiog mân gydag isbriddoedd sy'n draenio'n araf a thueddiad bach i fynd o dan ddwr yn dymhorol, ardaloedd o graig moel yma a thraw. Mae'r priddoedd hyn yn ffurfio cynefinoedd o laswelltir asid o werth pori da ar yr ucheldiroedd (Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983, 14). Drifft gan dywodfaen paleosöig, carreg laid a charreg glai (Wilcocks 1; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983, 18) a welir fwyaf ym mhriddoedd y cymoedd dwyreiniol yng nghyffiniau Llangynwyd (HLCA 005, 011 a 012). Mae'r olaf yn cynnwys priddoedd priddgleiog mân sy'n draenio'n araf ac sy'n mynd o dan ddwr yn dymhorol a phriddoedd cleiog ucheldirol gyda therfynliniau mawnog (asidig lle na cheir calch) a phriddoedd priddgleiog bras yr effeithir arnynt gan ddwr daear mewn mannau. O ganlyniad ceir cynefinoedd o rostir nodweddiadol o wlyb sydd o werth pori gwael neu weddol. Nodweddir ymyl ddeheuol y Dirwedd Hanesyddol (hy HLCA 006 ac i raddau llawer llai HLCA 001) gan ddrifft ffrwd-rewlifol neu gerlan (Wick 1); a nodweddir gan briddoedd priddgleiog a thywodlyd bras dwfn sy'n draenio'n dda, dros ro yn lleol. Mae amodau'r pridd yn addas ar gyfer grawnfwydydd a rhai cnydau garddwriaethol mewn ardaloedd isel, yn ogystal â magu da byw. Mae ardal fach o ddrifft o dywodfaen a charreg glai Paleosöig a Mesosöig (Brickfield 2) yn ymddangos yn HLCA 001; a nodweddir gan briddoedd priddgleiog mân sy'n draenio'n araf ac sy'n mynd o dan ddwr yn dymhorol i rai sy'n draenio'n dda; er yn gyffredinol Withnel 1 a welir amlaf yn HLCA 001 (gweler uchod; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983).

Er i rywfaint o waith dadansoddi paill gael ei wneud ar safleoedd archeolegol yn y rhanbarth, mae'r rhain wedi canolbwyntio ar ddadansoddi deunydd sy'n gysylltiedig â'r Oes Efydd, a chyfnodau diweddarach. O ganlyniad nid oes fawr o dystiolaeth leol o'r amodau amgylcheddol cynharach ac yn wir yn ystod y cyfnod yn union ar ôl y cyfnod rhewlifol. Tybir bod coetiroedd brodorol dwys wedi ymestyn yn raddol dros yr ardal wrth i'r amodau hinsoddol wella o dipyn i beth ar ôl y rhewlifiant diwethaf. Mae effeithiau dynolryw ar y coetir hwn yn eithaf dramatig; gydag awgrym bod coed wedi'u cymynu o'r Oes Neolithig o leiaf, wedi'i ategu gan ddarganfyddiadau o fwyellod o'r cyfnod hwnnw drwy'r ardal gyfan. Mae dadansoddiad o baill o'r garnedd gladdu o'r Oes Efydd ar Grug-yr-Afan yn y Rhondda, yn awgrymu amgylchedd cyfoes o rostir, gyda gorchudd agored o goed, derw yn bennaf. Awgryma'r dystiolaeth fod gorchudd o fawn yn ymestyn dros ucheldiroedd Margam, fel y rhan fwyaf o'r ucheldiroedd, erbyn diwedd yr Oes Efydd (Caseldine 1990).

Mae'n debygol bod coed ar y llethrau uwch, llai serth, gan gynnwys llwyfandiroedd Mynydd Margam (HLCA 004, 010, 013 a 014), wedi cael eu clirio o gyfnod cynnar; o leiaf erbyn dechrau'r Oes Efydd, o ystyried y nodweddion angladdol a defodol sy'n britho'r ardal, yn enwedig carneddau megis Ergyd Isaf (SAM Gm 160; HLCA 004) a Thwmpath Diwlith (PRN 754w; HLCA 013). Ataliwyd adfer y coetir gan y defnydd sefydledig a hirhoedlog o'r tir ar gyfer magu da byw yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddarach; mae presenoldeb clostiroedd 'amddiffynedig' ar hyd ymylon y llwyfandiroedd ucheldirol, megis Moel Ton mawr (HLCA 013) a'r Bwlwarcau (HLCA 005) yn dystiolaeth o hyn. Yn yr un modd ceir tystiolaeth o ddefnydd parhaus neu ailddefnydd o'r ucheldir yn yr ardal ar gyfer pori drwy gydol y cyfnod canoloesol yn y ffaith bod safleoedd cynhanesyddol diweddar wedi'u hailfeddiannu a bod aneddiadau newydd wedi'u sefydlu ar hyd ymylon yr ucheldir, megis aneddiadau o gytiau hir ar Fynydd Brombil (HLCA 004).

Dangosir graddau'r Coetir Hynafol drwy ffynonellau cartograffig; arolwg Hill o Ystad Margam yn 1813-14, mapiau'r Arolwg Ordnans 1814, ac argraffiad 1af mapiau AO 6" o 1884-5. Mae'n amlwg bod dyn wedi cael effaith eithaf syfrdanol ar y coed a dyfid yn yr ardal erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol gyda choetiroedd yn goroesi mewn mannau penodol yn unig. Erbyn 1884-5 roedd yr ardal fwyaf o goetir yn ardal yr astudiaeth yng nghyffiniau Parc Margam, hy ychydig i'r gogledd yng Ngraig Cwm Maelwg; ac o fewn Cwm Phillip (HLCA 002, ac yn y Graig fawr (HLCA 003). Ymhlith y darnau eraill o goetir roedd Graig-y-Capel a Graig-y-Twr o fewn y Parc ym Margam (HLCA 001), roedd llethrau coediog Graig-y-porthordy yn ymestyn y tu hwnt i'r Parc gan ffurfio coridor o goetir (Coed Ton Mawr) ar hyd llethr y Graig-goch (HLCA 016) tua'r de-ddwyrain i lethrau coediog iawn Cwm Cynffig (sydd y tu allan i ardal yr astudiaeth). Trafodir datblygiad coedwigoedd yr ardal yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol yn adran 6.5 isod.

Heddiw, ar wahân i ardaloedd bach o Goetir Hynafol naturiol yng Nghoed Ton Mawr, y Graig Goch (HLCA 016), o fewn Cwm Cerdin a ger Llwydiarth (HLCA 005) ac ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Cwm Nant-y-Gadlys (HLCA 012), mae'r hyn sy'n weddill o'r coetiroedd brodorol naturiol a fu'n helaethach gynt wedi goroesi fel ardaloedd bach wedi'u hailblannu yma a thraw. Mae'r ardaloedd o Goetir Hynafol a ailblannwyd yn HLCA 001, 002, 003, 010, 012, a 016 (Southern 1986). Mae'r Coetir Hynafol sydd wedi goroesi i'w weld yn nentydd culrych iawn yr ardal, ac ar y llethrau neu'r tarenni mwy serth.

Yn ôl i'r brig

Y Dirwedd Weinyddol

Dangosir swyddogaeth weinyddol y dirwedd orau gan HLCA 001 o bosibl, gyda'i bryngaer o'r cyfnod cynhanesyddol ddiweddar (Mynydd-y-Castell; SAM Gm 162), mannau mynachaidd o'r cyfnod canoloesol cynnar a diweddar, er bod elfennau o dirweddau neu nodweddion gweinyddol i'w gweld yn nifer o ardaloedd cymeriad eraill, er enghraifft (HLCA 005 a 013).

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Margam yn cynnwys cymunedau cyfoes Bryn, Margam, a Thai-bach o fewn Bwrdeistref Sirol bresennol Castell-nedd Port Talbot a chymunedau Llangynwyd Isaf, Llangynwyd Ganol, a Maesteg o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r ffin gyfredol rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn debyg iawn i'r brif wahanfa ddwr rhwng systemau cymoedd afon Llynfi/Ogwr a'r afonydd a'r nentydd hynny sy'n llifo i'r gorllewin i mewn i Fae Abertawe. Roedd yr ardal wedi'i rhannu rhwng hen blwyfi eglwysig Margam a Llangynwyd; roedd yr ardaloedd sifil cyfatebol yn dilyn yr un ffiniau i raddau helaeth o fewn ffiniau'r dirwedd hanesyddol, ac eithrio ardal Llangynwyd, a oedd wedi'i rhannu'n Llangynwyd Isaf a Llangynwyd Ganol.

Ar wahân i rwystrau naturiol, megis nentydd ac afonydd, y ffiniau tiriogaethol cynharaf yn yr ardal yw'r rhai sydd wedi'u dynodi gan henebion angladdol cynhanesyddol, yn bennaf carneddau'r Oes Efydd (2300-800CC), megis Twmpath Diwlith (PRN 754w), y clwstwr o garneddau yng nghyffiniau Llyndwr Fawr (PRNs 751w; 752w; 753w, (SAM Gm 443), a charnedd Port Talbot 763w), ar yr ucheldir uwchlaw'r cymoedd. Ymddengys bod maen hir Carreg Bica (a ddinistriwyd, PRN 711w; SS83489123; HLCA 010) hefyd wedi dynodi'r ffin hynafol a'r llwybr ucheldirol cyfagos sef Heol-y-Moch. Yn ddi-os roedd y nodweddion hyn yn amlwg iawn yn y dirwedd ucheldirol yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ac roedd iddynt agwedd gymdeithasol a defodol yr un mor bwysig. Mae'n ddigon posibl iddynt fod yn farcwyr gweledol parthau ffisegol yn ogystal â rhai ysbrydol yn nhirwedd y cyfnod. Gellir dadlau bod awgrym o ryw fath o barhad, o leiaf o ran arwyddocâd gweledol, gan yr ailddefnydd o'r nodweddion cynhanesyddol hyn fel marcwyr llwybrau a ffiniau drwy gydol y cyfnodau diweddarach; mae ffin orllewinol Margam yn weladwy drwy'r cyfnodau canoloesol o leiaf hyd at heddiw gyda ffiniau modern, megis ffiniau plwyfol, ffiniau cymunedol cyfoes a ffiniau Bwrdeistrefi Sirol yn parhau i ddefnyddio'r nodweddion cynnar hyn. Ymddengys fod y ffiniau diweddarach hefyd yn dilyn yn gyfleus, fwy neu lai, yr hen lwybr dros y gefnen a elwir yn Ffordd-y-gyfraith, neu Heol-y-Moch (Ffordd gyfredol Coed Morgannwg a Thaith Gerdded Cefnffordd Ogwr). Mae nifer o feini terfyn a marcwyr ôl-ganoloesol, ac o gyfnod cynharach o bosibl, yn dynodi'r daliadau amrywiol ar Fynydd Margam, yn ogystal â'i derfynau, ceir manylion y rhain ar argraffiad 1af ac 2il argraffiad mapiau AO a mapiau ystad cynharach.

Efallai fod dosbarthiad a maint yr anheddiad cynhanesyddol diweddar a chanoloesol yn arwydd o'r dirwedd weinyddol drwy gydol y cyfnod. Mae'n bosibl bod rhyw fath o swyddogaeth 'weinyddol' yn perthyn i'r bryngaer/clostir amddiffynedig mwyaf o'r Oes Haearn/Brythonaidd-Rufeinig (800CC-410OC) yn yr ardal, hy Mynydd-y-castell (SAM Gm 162; HLCA 001), y cloddwaith amlgyfnod yn y Bwlwarcau (SAM Gm 59; HLCA 005), a Chaer Cwm Phillip (SAM Gm 057; HLCA 015).

Gwyddys bod y ffin bresennol o fewn yr ardal yn hen iawn: mae ffiniau plwyf eglwysig Margam, yn debyg iawn i ffiniau prif diroedd mynachaidd canoloesol Margam (Rees 1932; Williams 1990) a chredir eu bod yn dilyn y ffin gynharach fyth rhwng hen blwyfi canoloesol cynnar Margam a Llangynwyd (Knight 1995), credir mai'r un ffin hon hefyd a wahanai'r cymydau a oedd yn bodoli eisoes (Richards 1969). Dangosir llinell y ffin gan leoliad carreg Bodvoc sy'n dyddio yn ôl i'r 6ed ganrif (ECM 229; PRN 809w.) a'r arysgrif BODVOC-HIC IACIT / FILIVIS CATOTIGIRNI / PRONEPVS ETERNALI VEDOMAV ('carreg Bodvocus-gorwedda yma, mab Catotigirnus a gorwyr Eternalis Vedomavus'), a osodwyd ar garnedd o'r Oes Efydd (PRN 753w; SAM Gm 443) ar y ffin ac yn gyfagos â llwybr cefnffordd hynafol Heol-y-moch neu Ffordd-y-gyfraith; mae hyn o bosibl yn awgrymu defnydd parhaus neu o leiaf ailddefnydd o'r ardal fel ffin diriogaethol draddodiadol.

Ar sail forffolegol mae'n bosibl bod llan Cynwyd Sant, hy Llangynwyd yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar neu'r cyfnod Rhufeinig (cym. Whitton, Jarrett a Wrathmell, 1981); gallai hyn awgrymu, o leiaf, ailddefnydd o glostir cynharach, a safle anheddiad, gyda rhyw swyddogaeth weinyddol bwysig o bosibl, a gafodd ei ddisodli yn ddiweddarach gan swyddogaeth grefyddol yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar.

Mae'r dirwedd hanesyddol yn gorwedd o fewn Sir Forgannwg ôl-ganoloesol, a oedd, cyn y goresgyniad Normanaidd, yn rhan o deyrnas gynnar, sef teyrnas Glywysing, a enwyd ar ôl brenin cynnar o'r enw Glywys; yn ystod y 10fed ganrif daethpwyd i alw'r ardal yn Forgannwg, ar ôl ei theyrn Morgan (Morcan) Hen (c 930-74), Glamorgan yn ddiweddarach, ('Gwlad Morgan') yr arglwyddiaeth ganoloesol (Knight 1995). Yn ôl traddodiad roedd Glywysing neu Forgannwg wedi'i rhannu'n saith rhanbarth gweinyddol neu gantref, tra bod ffynonellau yn dyddio o'r 12fed ganrif yn haeru i'r cantrefi hyn gael eu henwi ar ôl meibion Glywys. Roedd ardal tirwedd hanesyddol Margam yn gorwedd o fewn cantref Margam. Yn draddodiadol roedd pob cantref wedi'i rannu'n gymydau, y cynhwysai pob un ystadau neu faenorau yn cynnwys nifer o drefi, neu drefgorddau. O ran union ffurf cymydau cyn-Normanaidd yr ardal ni ellir ond dyfalu, fodd bynnag mewn gwaith diweddar (Knight 1995) cynigiwyd Cantref Margam (Afan), a ymestynnai o Afon Tawe gyda naill ai Afon Cynffig neu Ogwr, sef ffin deoniaeth wledig ganoloesol Cynffig, yn ffin ddeheuol iddo.

Er y credir bod prif ganolfan eglwysig wedi bodoli ym Margam (HLCA 001), mae'n bosibl hefyd, o ystyried lleoliad y safle amddiffynedig cynhanesyddol diweddar (a gafodd ei feddiannu o bosibl yn y cyfnod canoloesol cynnar) ym Mynydd-y-castell, a'r clwstwr o fryngaerau eraill (e.e. Bryngaer Moel Ton-mawr a'r Bwlwarcau), fod Margam hefyd yn ganolfan weinyddol seciwlar o bwys, i gwmwd o bosibl, os nad cantref.

Un posibilrwydd arall fel canolfan seciwlar ranbarthol, heblaw am Fargam, yw safle Hen Gastell (Wilkinson 1995) ymhellach i'r gogledd, wrth aber Afon Nedd. Ystyrir bod i'r safle hwn statws cwmwd o bosibl gyda'i safle eglwysig cyfatebol ym Maglan (Knight 1995).

Mae'n bosibl bod rhyw swyddogaeth weinyddol yn perthyn i'r croesgloddiau megis y rhai ger Caer Blaen y Cwm o'r Oes Haearn (SAM Gm 58; HLCA 013), sy'n gaer gynhanesyddol o bosibl, ond y credir yn gyffredinol iddi ddyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar. Ymddengys bod y safleoedd hyn, gan gynnwys yr uchod, wedi'u lleoli i reoli'r mynediad ar hyd y cefnffyrdd, ac fe'u ceir yn aml wrth ffiniau sefydledig hefyd, megis rhwng cymydau a chantrefi.

Ceir awgrym o fodolaeth eglwys o bwys o'r cyfnod canoloesol cynnar ym Margam gan nifer o gerrig arysgrifenedig o'r cyfnod Cristnogol Cynnar; ystyrir hyn mewn man arall (gweler adran 6.3). Yn ystod y cyfnod canoloesol ei hun, y prif ffocws gweinyddol oedd abaty Sistersaidd Margam (HLCA 001), a reolai'r ardal drwy system o faenorau megis yr un yn Hafod-y-porth (HLCA 010). Parhaodd Margam i fod yn ganolfan weinyddol bwysig ar ôl diddymu'r mynachlogydd, ac ar ôl i'r goron werthu hen eiddo mynachaidd Margam (yn 1540, 1543, a 1546). Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol daeth Margam yn brif gartref i un o deuluoedd mwyaf dylanwadol Morgannwg, y Manseliaid.

Ar ôl ad-drefnu'r ardal wedi i'r Normaniaid ei chydfeddiannu, roedd yr ardal tirwedd hanesyddol wedi'i rhannu rhwng Cynffig ac arglwyddiaeth Tir Iarl, sef tir demên Ieirll Caerloyw, arglwyddi Morgannwg (Richards 1969; CBHC Cyf III, rhan 1a, 1991). Roedd Castell Llangynwyd neu Gastell Coch (SAM Gm85; CBHC Cyf III, rhan 1a, 1991; HLCA 005) yn ganolfan weinyddol o fewn arglwyddiaeth Tir Iarl. Mae lleoliad cymharol anghysbell y ganolfan weinyddol yn peri syndod, ac awgryma'r Comisiwn Brenhinol er nad oedd iddi werth tactegol, ei bod yn bwysig oherwydd ei gwerth strategol fel blaen safle rhag arglwyddi Afan (CBHC Cyf III, rhan 1a, 1991, 258). Fodd bynnag, mae'n bosibl bod ffactorau eraill yn gyfrifol am ei lleoliad; credir bod y safle wedi'i adeiladu ar gaer 'bentir' fewndirol o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, yn seiliedig ar y caeadle neu'r beili allanol mawr. Awgryma tystiolaeth arall fod y safleoedd hyn wedi'u meddiannu yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar, ac nad ydynt o reidrwydd yn rhai cynhanesyddol (cym Dinas Powys; Alcock 1987). Mae'n bosibl i'r castell Normanaidd gael ei adeiladu ar safle prif ganolfan weinyddol seciwlar cwmwd Llangynwyd, a arweiniodd at drosglwyddo rheolaeth oddi wrth y ganolfan gynharach.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Angladdol, Eglwysig a Chwedlonol

Y nodweddion cynharaf a'r rhai mwyaf gweledol o bosibl yn y dirwedd gynddiwydiannol drwy'r ardal gyfan yw'r henebion angladdol ar yr ucheldiroedd sy'n dyddio yn ôl i'r Oes Efydd (2300-800CC); mae'r nodweddion hyn wedi'u trefnu yn ddau brif glwstwr neu grwp; mae un ym mhen gorllewinol cefnen Mynydd Margam sy'n cynnwys dwy garnedd, neu grug crwn o'r Oes Efydd yn Ergyd Isaf (SAM Gm 160; PRNs 741 a 742; HLCA 004), a gerllaw yn Ergyd Uchaf (SAM Gm 159; PRN 749w; HLCA 010), a'r ail grwp ym mhen Cwm Cynffig, sy'n cynnwys dwy garnedd ger Llyndwr Fawr (PRNs 751w. a 752w; HLCA 010) a charnedd gylchog (PRN 753w; HLCA 010), safle gwreiddiol 'tybiedig' carreg Bodvoc, sef carreg arysgrifenedig o'r cyfnod canoloesol cynnar (SAM Gm 443; HLCA 010), i'r de, Carnedd Port Talbot fel y'i gelwir (PRN 763w; HLCA 013) ac yn Waun Lluest-wen garnedd gylchog arall (PRN 115m; HLCA 013) a Thwmpath Diwlith (PRN 00754w; datgelwyd cistgladdiad gan waith cloddio yn 1921; HLCA 013). Mae allgreigiau yn cynnwys crug posibl Begwn Mynydd Margam (NPRN 307,286; HLCA 010), a ystyrir hefyd i fod yn nodwedd amddiffynnol forol o'r cyfnod canoloesol, ac i'r de-orllewin crug crwn Rhyd Llechws sydd bron â chael ei ddinistrio, ychydig i'r de-ddwyrain i gopa a chrug crwn Moel Ton Mawr (PRN 00755w; HLCA 014). Cloddiwyd sawl un o'r safleoedd hyn ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan Dr RE Mortimer Wheeler yn 1921 (CBHC. Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 1); mae'r Comisiwn Brenhinol yn cofnodi bod pob un o'r crugiau a'r carneddau a gloddiwyd wedi cael eu difrodi eisoes a bod rhai o'r twyni wedi cael eu hadeiladu o dywyrch wedi'u torri'n afreolaidd, ac wedi ildio ychydig o ddarnau o fflint yn ystod y gwaith cloddio.

Nae crug Twmpath Diwlith (PRN 00754w; SS 8322 8879 o bwys arbennig; HLCA 013). Darganfuwyd ei fod wedi'i adeiladu o dywyrch dros gistgladdiad a oedd yn cynnwys olion esgyrn llosgedig. Roedd y safle wedi cael ei ehangu'n ddiweddarach gyda phridd a chafwyd ail gladdiad (yr aflonyddwyd arno). Mae'r garreg bwysig o'r 6ed ganrif, carreg Bodvoc (ECM 229; PRN 809w; copi, gwreiddiol yn AGC) ac arni arysgrif BODVOC-HIC IACIT / FILIVIS CATOTIGIRNI / PRONEPVS ETERNALI VEDOMAV ('carreg Bodvocus-gorwedda yma, mab Catotigirnus a gorwyr Eternalis Vedomavus') wedi'i mewnosod yn y garnedd gylchog gyfagos (PRN 753w; SAM Gm 443; SS 8306 8878; HLCA 010). Mae argraffiad 1af map AO 6" 1884 yn dangos lleoliad y garreg ar y garnedd yn union i'r dwyrain o lwybr cefnffordd hynafol Heol-y-Moch (estyniad i Ffordd-y-gyfraith), ac yn ei henwi'n garreg-lythrog (carreg arysgrifenedig). Mae'n bosibl bod carreg Bodvoc wedi'i chysylltu â Thwmpath Diwlith yn wreiddiol, yn enwedig yng ngoleuni'r ail gladdiad; ond dyfalu yw hynny i raddau helaeth.

Mae carreg Bodvoc yn bwysicach byth oherwydd ei lleoliad ger ffin sifil ac eglwysig sefydledig iawn; y ffin rhwng plwyfi Margam a Llangynwyd ('yr Hen Blwyf') a ffin y prif diroedd mynachaidd Margam yn ystod y cyfnod canoloesol (Rees 1932; Williams 1990). Credir bod lleoliad y garreg yn adlewyrchu'r ffin gynharach fyth rhwng plwyfi canoloesol cynnar Margam a Llangynnd (Knight 1995).

Yn ôl traddodiad diddorol, Twmpath Diwlith yw'r man lle daethpwyd o hyd i'r ffigwr adnabyddus hwnnw yn llên Cymru Ieuan Fawr ap y Diwlith, yn blentyn gan feirdd Tir Iarl.

Mae'n bosibl bod arwyddocâd defodol yn perthyn i safle maen hir Carreg Bica (HLCA 010) ger cefnffordd hynafol Heol-y-Moch yn wreiddiol hefyd, yn ogystal â'i swyddogaeth fwy amlwg fel marciwr llwybr/ffin. Erys y nodweddion hyn yn weladwy yn y dirwedd ac yn wir fel nodweddion gweladwy, mewn tirwedd ddinodwedd yn aml, maent yn parhau i fod yn gyfeirnodau ar gyfer ffiniau gweinyddol cyfredol.

Yn ddi-os, y lle pwysicaf yn eglwysig ac o ran chwedloniaeth yn ardal Tirwedd Hanesyddol Margam yw Margam ei hun (HLCA 001), y mae ei enw yn gysylltiedig â'Morcan' neu Forgan Hen (c 930-74), teyrn Morgannwg ac yn ôl y dystiolaeth, dyma un o dair prif eglwys plwyf cantref Margam yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Mae'r lleill ym Merthyr Mawr a Baglan. Casglwyd bod safle eglwysig canoloesol cynnar ym Margam gan grwp pwysig o gerrig addurnedig ac arysgrifenedig (o'r 9fed-10fed ganrif) a ddarganfuwyd yng nghyffiniau'r Abaty Sistersaidd diweddarach. Credir bod carreg 'Conbelin', croes garreg ac iddi ben disg mawr wedi'i gosod mewn carreg soced, yn arwydd o lan mynachaidd ac ymddengys bod cerrig cyn-Normanaidd eraill yn gysylltiedig â chladdu. Credir bod safle'r eglwys fynachaidd o'r cyfnod canoloesol cynnar wedi sefyll fwy neu lai ar safle Eglwys yr Abaty diweddarach; er na nodwyd unrhyw nodweddion topograffig penodol o'r blaen i nodi y clostir mynychaidd (CBHC); gellir dyfalu o bosibl o'r dystiolaeth gartograffig: nodir bodolaeth mynwent amlochrog neu gylchog, sy'n nodweddiadol o sefydliadau canoloesol cynnar, yn y gorffennol yn Arolwg Ystad Hill o 1814 sy'n amgáu'r ardal o amgylch eglwys yr Abaty ym Margam. Mae safle eglwysig arall o'r cyfnod canoloesol cynnar hefyd wedi cael ei nodi o bosibl ger Crug, Capel Mair (PRN 0765w; Hen Eglwys) hefyd yn seiliedig ar forffoleg y fynwent, gyda thystiolaeth o glostir/mynwent grwn neu amlochrog (Evans 2003). Credir bod y sefydliad mynachaidd o'r cyfnod canoloesol cynnar ym Margam wedi gwasanaethu'r ardal ddaearyddol rhwng afon Afan ac Afon Cynffig, gyda safle eglwysig cynnar arall sy'n gysylltiedig â Santes Non, mam Dewi Sant wedi'i awgrymu yn ôl tystiolaeth o enw lle a chan ECMW 198 sydd tua 1.6km i'r de yn Eglwys Nynydd; HLCA 006).

Hefyd o fewn ardal yr astudiaeth o nodweddion tirwedd hanesyddol mae safle eglwys gynnar Llangynwyd (HLCA 005), a oedd yn gwasanaethu plwyf canoloesol cynnar ar wahân yng nghantref Margam (Knight 1995).

Mae'r llan yn Llangynwyd (yr hen fynwent; HLCA 005), sy'n gysylltiedig ag eglwys Cynwyd Sant o'r 6ed ganrif, ar dir morffolegol o fath y gwyddys ei fod yn dyddio yn ôl i'r cyfnod Rhufeinig mewn mannau eraill (cym. Whitton, Jarrett a Wrathmell, 1981). Ceir cyffelybiaethau cynhanesyddol eraill posibl ar safleoedd eraill o fewn y dirwedd hanesyddol, megis Caer Blaen-y-cwm, a'r Bwlwarcau, y mae gan bob un ohonynt elfennau morffolegol tebyg. Gallai hyn awgrymu, o leiaf, ailddefnydd o glostir/safle anheddiad cynharach, os nad parhad o ddefnydd dros gyfnod sylweddol; daeth y safle yn safle angladdol a defodol o bwys yn y pen draw yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar (HLCA 005).

Mae cyfeiriadau dogfennol hefyd yn cyfeirio at nodweddion eglwysig canoloesol eraill gyda gwreiddiau canoloesol cynnar megis capel St Illtud gyda'r fynwent gysylltiedig ger Fferm Gadlys a sawl ffynnon sanctaidd drwy'r ardal gyfan, y mae dyddiad y rhan fwyaf ohonynt yn anhysbys, ond yn hynafol yn fwy na thebyg, hyd yn oed yn gyngristnogol (Richards 1982, 56-7).

Gwelir prif thema'r dirwedd eglwysig o'r cyfnod canoloesol diweddarach yn Abaty Margam (HLCA 001); canolfan eglwysig o bwys gyda'i gapeli a'i faenorau cysylltiedig. Yn 1147, rhoddodd Robert Caerloyw, arglwydd Morgannwg, y tiroedd ym Margam i abaty Sain Bernard o Clairvaux, er mwyn sefydlu ty Sistersaidd newydd ym Margam. Mae corff yr eglwys o'r 12fed ganrif wedi goroesi, ac fe'i defnyddir fel eglwys y plwyf. Ar ddechrau'r 13eg ganrif ailadeiladwyd yr Abaty gan yr Abad Gilbert (1203-13); mae'r cabidyldy a rhan ddwyreiniol yr eglwys, y seintwar, y côr a'r transeptau yn dyddio o'r cyfnod hwn. Mae olion y fynachlog ym Margam, yn enwedig eglwys Santes Fair yr Abaty (gradd A; SAM Gm5), y Cabidyldy (gradd I; SAM Gm 5),Ysbyty (gradd I; SAM Gm5), a'r Hen Eglwys (gradd II; Gm 163) yn elfennau hynod bwysig yn y dirwedd ac yn ffordd weledol rymus o'n hatgoffa o bwysigrwydd eglwysig canoloesol yr ardal.

Cafodd yr amrywiol faenorau a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Margam ddylanwad pwysig ar ddatblygiad tirwedd yr ardal o ran amaeth ac anheddu; datblygwyd hwsmonaeth (hy gwartheg ac yn enwedig defaid) ymhellach pan oedd yr ardal o dan reolaeth y fynachlog ac yn wir daeth Margam yn enwog am fod yn ganolfan wlân; mae trethiant 1291 a chofnodion treth y pen ar gyfer 1379 yn awgrymu bod defaid yn cael eu ffermio ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod yn yr ardal a ddelid gan Fargam (Owen 1989, 215; Cowley 1977, 86-9; Williams 1962, 174). O ganlyniad ymddengys i batrwm anheddu o ffermydd neu faenorau gwasgaredig wrth odre Mynydd Margam ddatblygu (gweler HLCA 001 - 004, 006, 009, 010, a 017 yn enwedig); y maenorau o fewn yr ardal cymeriad tirwedd hanesyddol oedd Maenor Crug gyda'i melin a Baddondy'r Ffynnon Sanctaidd o'r 14eg - 15fed ganrif SAM Gm 545), Hafod-y-porth, Llanfugeilydd (Cwrt-y-defaid) gyda'i mynwent ganoloesol, Llangyfelach (Maes y cwrt yn ddiweddarach) a maenorau Groes-wen (CBHC, 1982, 275-6; Williams, 1990, 48-52), yr ymddengys bod rhai ohonynt wedi cael eu defnyddio'n dymhorol (gweler adran 6.4 a 6.5).

Yn ystod y cyfnod canoloesol diweddarach cyfeiriwyd at yr eglwys yn Llangynwyd mewn siarter yn dyddio o 1128 yn cadarnhau eiddo esgobaeth Llandaf. Cafodd eglwys Llangynwyd ei hadfeddu gan Abaty Margam yn 1353 a hynny heb drwydded frenhinol (Hanes Sir Forgannwg Cyf III, 143); parhaodd y cysylltiad â Margam tan ddiddymu'r Abaty yn 1536-7.

Parhaodd y canolfannau eglwysig a fodolai eisoes yn yr ardal tan y cyfnod ôl-ganoloesol; roedd teulu'r Manseliaid yn dal yr hawl enwebu i eglwys y plwyf yn hen eglwys yr abaty mynychaidd ym Margam (HLCA 001) a'r eglwys yn Llangynwyd (HLCA 005).

Un ychwanegiad yn ystod y cyfnod yw'r capeli anghydffurfiol; fodd bynnag roedd y rhain yn gymharol anghyffredin o fewn ystad Margam ei hun, a gadwai ddylanwad cadarn dros ddaliadau crefyddol sefydledig yr ardal. Mae Capel Bethesda (HLCA 005), 1795-1799, yn ganolfan bwysig o ran datblygiad yr eglwys anghydffurfiol yn yr ardal a hon oedd prif eglwys yr Annibynwyr yn yr ardal.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Anheddu

Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o anheddu dynol yn ardal Mynydd Margam gan gasgliad cymysg bach o offer fflint yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC), y cyfnod Neolithig (4400-2300CC), a'r Oes Efydd gynnar (2300-800CC) gyda chrynoadau dim ond ychydig yn fwy o dystiolaeth faterol, a ddarganfuwyd y tu hwnt i ffiniau tirwedd hanesyddol hyd yma; mae deunydd mesolithig yn amlwg i'r gorllewin o Flaen Rhondda, ond dim ond yn y godre arfordirol o amgylch Bae Baglan a Thraeth Margam y ceir tystiolaeth neolithig ar y cyfan, ac mae'n cynnwys bwyell fonfain garreg sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar (Greaves-Brown; Evans 1982). Ystyrir bod y dystiolaeth hon o weithgarwch pobl yn arwydd o wersylloedd hela ucheldirol dros dro, lle yr oedd grwpiau o helwyr-gasglwyr yn byw fel rhan o'r patrwm mudo tymhorol rhwng yr iseldiroedd arfordirol a'r ucheldir ym Mlaenau.

Ceir llawer o dystiolaeth o weithgarwch yn ardal Mynydd Margam yn ystod yr Oes Efydd; fodd bynnag, roedd y dystiolaeth hon yn ymwneud â henebion angladdol ucheldirol yn bennaf. Mae lleoliad anheddiad yn seiliedig yn bennaf ar ddarganfyddiadau digyswllt o offer fflint, ac mae'r dosbarthiad yn debyg i gyfnodau cynharach. Mae effaith gweithgarwch pobl ar lystyfiant naturiol yr ardal yn glir drwy'r dadansoddiad o baill yn yr ardal; mae hwn ar ei anterth ar ddiwedd yr Oes Efydd, ac efallai nad yw'n syndod bod effaith fawr gyntaf anheddu dynol ar amgylchedd ffisegol yr ardal yn dyddio o'r cyfnod hwn a'r cyfnod dilynol, yr Oes Haearn.

Er bod safleoedd anheddu/amaethyddol/amddiffynnol y cyfnod cynhanesyddol diweddar yn amlwg iawn yn yr ardal, nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael ar ddatblygiad aneddiadau yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar, y cyfnod Rhufeinig-Brydeinig a'r cyfnod canoloesol cynnar wedi'i phrofi ar y cyfan. Y gweddillion mwyaf gweladwy yn yr ardal yw nodweddion aneddiadau/amaethyddol creiriol cynhanesyddol ac iddynt agwedd amddiffynnol, megis y Fryngaer o'r Oes Haearn (bryngaer Mynydd-y-Castell; PRN 758w; SAM Gm 162; HLCA 001) a safle amddiffynedig trawiadol y Bwlwarcau ar lethr y bryn o'r Oes Haearn (PRN 116m; SAM Gm 059; HLCA 005), gyda'i glostir pumochrog mewnol; mae'n amlwg bod y safle olaf ar ymyl y tir caeedig i'r dwyrain o Fynydd Margam ac yn dynodi'r tir hwnnw, ac mae'n amlwg ei fod yn wynebu'r dwyrain ac yn gysylltiedig â'r dwyrain, ar y llethrau caeedig is.

Mae Mynydd-y-Castell ym Mharc Margam (PRN 758w; SAM Gm 162; HLCA 001) ar gopa bryn ynysig â golygfeydd gwych o'r dirwedd o'i amgylch yn cynnwys bryngaer unclawdd siâp D yn amgáu ardal o 2.7 hectar. Mae'r amddiffynfeydd yn cynnwys clawdd neu lethr sgarp anferth gyda ffos â gwrthlethr a mynedfa i'r de-orllewin wedi'i diffinio gan ochrau mewndro'r llethr sgarp fewnol; ceir tystiolaeth sy'n awgrymu bod clostir llai wedi'i fwriadu ar gyfer y safle yn wreiddiol, ond mae'n amlwg iddo gael ei adael cyn ei gwblhau o blaid y safle mwy a oedd mewn bodolaeth. Ymddengys bod y tu mewn i'r safle heb ei aredig yn ôl pob golwg a heb anheddau cynnar, ar wahân i ardal gron wedi'i wastatáu yn y pen deheuol, sy'n debyg i lwyfan cwt, er bod hyn wedi'i ddiystyru gan CBHC gan nodi ei fod o darddiad modern (CBHC, Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2).

Mae'r Bwlwarcau (PRN 116m; SAM Gm 059; HLCA 005) ymhlith nifer o glostiroedd 'amddiffynedig' yn yr ardal, yr ymddengys ei fod yn rheoli mynediad rhwng y cymoedd, y cefnffyrdd a ffriddoedd Mynydd Margam. Mae'r safle yn cynnwys gwrthgloddiau amlgyfnod â chlostir mewnol o 0.3 hectar wedi'i amgylchynu gan ddau neu dri chlawdd consentrig cynharach a ffosydd yn amgáu ardal o 7.2 hectar. Yn ffin i'r clostir mewnol, sydd â'i fynedfa ar y dwyrain, mae clawdd amlwg, ffos a gwrthlethr, ac ymddengys ei fod wedi'i arosod ar glostir cynharach o tua 4.4 hectar, ac iddo amddiffynfeydd tebyg ond llai o fath bylchog. Mae cyffelybiaethau yn bodoli ar gyfer y clostir olaf, sy'n arwydd o ddyddiad neolithig posibl (cymharer Clostir Fferm Beech Court; Yates 2002). Credir bod iard hafalochrog yn erbyn y clawdd terfyn mewnol yn gysylltiedig â'r clostir mewnol (CBHC, Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2; Fox a Fox 1934). Ystyrir bod y clostir mewnol yn cynrychioli cyfnod diweddarach, yn dyddio o'r Oes Haearn ddiweddar neu'r cyfnod Brythonig-Rufeinig yn ôl pob tebyg.

Safle tebyg ar raddfa ychydig yn llai yw clostir amddiffynedig onglog Moel Ton-mawr neu Gaer Cwm Phillip (PRN 758W; SAM Gm 057; HLCA 015), unwaith eto ar lethr bryn ac mae'n cynnwys dau glawdd clostir amlochrog ag estyniad; amddiffynnir y clostir trapesoidaidd, ychydig dros 0.4 hectar, gan ffos rhwng dau glawdd, mae'r clawdd allanol neu'r gwrthlethr yn absennol ar yr onglau, â mynedfa i'r gogledd-ddwyrain ac wedi'i leoli'n anghymesur ac i'r de o fewn y clostir pumochrog mwy, sydd ag arwynebedd o tua 2.7 hectar ac sydd â'i fynedfa ar y dwyrain (CBHC. Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2; Fox a Fox 1934).

Mae safle caeedig Caer Blaen y Cwm (PRN 759w; SAM Gm 058; HLCA 013; Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2; Fox a Fox 1934), ar esgair fynydd lydan, sy'n ar oleddf graddol i'r de, yn cynnwys clostir pedronglog o 0.1 hectar, a amddiffynnir drwy ffos rhwng dau glawdd, gyda'i fynedfa i'r de, a ddefnyddiwyd gan geuffordd ddiweddarach.

Safle amddiffynedig arall o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, yn gysylltiedig â'r Bwlwarcau o bosibl, o gofio pa mor agos ydyw, i lawr y llethr o'r safle olaf, yw'r fryngaer o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, y credir ei fod o dan gastell cylchfur canoloesol Castell Llangynwyd neu Gastell-coch (SAM Gm 85; HLCA 005), a saif ar benrhyn rhwng Cwm Cae-lloi a Nant-y-castell (CBHC Cyfrol 3, Rhan 1a).

Ymhlith y clostiroedd unclawdd eraill ar lethr bryn sy'n dyddio'n bosibl o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar mae: y gwersyll cofrestredig i'r dwyrain o Don Mawr (SAM Gm 090; HLCA 015); cylch afreolaidd o 0.30 hectar, a amddiffynnir gan un rhagfur, sydd bellach i'w weld fel clawdd o amgylch yr hanner gorllewinol a llethr sgarp mewn mannau eraill, ychwanegir ffos allanol at yr amddiffynfeydd i'r gogledd-orllewin, ac mae'r fynedfa i'r de-orllewin. Ceir safle tebyg mewn coedwigaeth yng Ngorllewin Cwm Phillip, (PRN 774w; SAM Gm 056; HLCA 010) a adwaenir hefyd fel y 'Gwersyll Danaidd', sef clostir hirgrwn syml ac un clawdd yn ffin iddo (CBCH. Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2; Fox a Fox 1934). Ymhlith y safleoedd caeedig llai mai'r safle caeedig uwchlaw Tai-bach (Nprn 54,457; HLCA 003) a Gwersyll Hanner Lleuad (Prn 0745w; SAM Gm 477; HLCA 003), clostir hirgrwm, 53m o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain wrth 37m ar esgair sy'n wynebu'r de yn edrych dros Abaty Margam (CBHC. Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2; Fox a Fox 1934).

Mae'r mwyafrif o safleoedd amddiffynedig yr ardal, fel enghreifftiau eraill o'u math, naill ai ar yr hyn a fyddai wedi bod yn weundir agored uchel, neu yn achos y safleoedd hynny, e.e. y Bwlwarcau, yn Llangynwyd ar ymylon uchaf y tir caeedig canoloesol; byddai eu lleoliad yn awgrymu anheddu tymhorol, pan oedd anifeiliaid yn cael eu symud i ffriddoedd yn ystod yr haf. Mae'r lleoliad ar lethr y bryn, y clostir canolog bach a chloddiau allanol â llawer o le rhyngddynt (lle y maent yn bodoli) yn awgrymu swyddogaeth fugeiliol yn bennaf; mae'r cynllun ei hun yn fwy addas at swyddogaeth magu a diogelu stoc, a rheoli ffriddoedd, yn hytrach nag amddiffynfa effeithiol ar gyfer tiriogaeth fwy. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio na ellir gweld yr un safle o safle arall; ymddengys bod y safleoedd yn rheoli'r defnydd o ffriddoedd ar y llwyfandiroedd a'r cefnennau sydd ar oleddf graddol, gydag anheddiad caeedig anghysbell llai (o gyfnod diweddarach o bosibl) ar doriad y llethr uwchlaw Cwm Cynffig, Cwm Maelwg, a Chwm Brombil, gan olygu y gellir rheoli pori yn ystod yr haf, a sicrhau cyswllt gweledol sicr â chymoedd cyfagos.

Nid oes dim un o'r safleoedd caeedig o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn yr ardal wedi'i gloddio, ac ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth bendant bod pobl yn byw yno. Am resymau morffolegol, ac oherwydd na cheir unrhyw waith cloddio, ymddengys bod o leiaf ddau brif gyfnod datblygu tirwedd i'w gweld yn yr henebion hyn: cyfnod cynharach, cynhanesyddol (cyfnod neolithig/Oes Efydd gynnar yn ôl cydweddiad o bosibl), sydd wedi'i gynrychioli gan glostiroedd consentrig mwy cynharach y Bwlwarcau (PRN 116m; SAM Gm 059; HLCA 005) ac, o bosibl, Mynydd-y-Castell sydd ag amddiffynfeydd helaeth ym Mharc Margam (gweler isod am anheddu canoloesol cynnar tybiedig ar y safle olaf; PRN 758w; SAM Gm 162; HLCA 001). Rhagdybir cyfnod diweddarach, yn seiliedig ar debygrwydd morffoleg, hy dau glawdd a chlostiroedd â ffosydd o faint tebyg (0.1 hectar - 0.4 hectar), fel y cynrychiolir drwy ailadeiladu'r Bwlwarcau (PRN 116m; SAM Gm 059; HLCA 005), yn benodol ychwanegu'r clostir mewnol a'r iard gysylltiedig, adeiladu clostir amddiffynedig onglog Moel Ton-mawr (PRN 758w; SAM Gm 057; HLCA 015), a Chaer Blaen y Cwm (PRN 759w; SAM Gm 058; HLCA 013). O gofio'r ffaith na fu gwaith cloddio a bod diffyg tystiolaeth o'r dyddiad, mae'n ansicr a yw'r cyfnod hwn yn ymwneud â'r cyfnod cynhanesyddol diweddar neu'r cyfnod Rhufeinig-Brydeinig; neu efallai ei fod hyn yn oed yn ymwneud, er enghraifft, ag anheddiad canoloesol cynnar, a nodweddir efallai gan yr ailddefnydd o glostiroedd o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, ac, yn fuan ar ôl hynny, adeiladu clostiroedd eraill fel ymateb i ddarnio cymdeithasol neu fwy o gystadleuaeth am y defnydd o ffriddoedd; sef ffactor a allai gael ei adlewyrchu gan raniad tirwedd cynyddol mewn mannau eraill.

Nid yw graddau'r anheddu canoloesol cynnar yn yr ardal yn hysbys; fodd bynnag, mae'n debygol bod rhywfaint o barhad o anheddu brodorol wedi parhau o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar/y cyfnod Rhufeinig. Nid oes safleoedd anheddu pendant o'r cyfnod canoloesol cynnar yn hysbys ar gyfer yr ardal; gallai ailddefnydd, neu hyd yn oed parhad o ran defnydd, o anheddiad a chlostiroedd o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, i mewn i'r cyfnod canoloesol cynnar ac i'r gwrthwyneb o'r cyfnod i mewn i'r cyfnod canoloesol go iawn, egluro prinder safleoedd anheddu a briodolir i'r cyfnod canoloesol cynnar. Gallai safleoedd megis y llan, yn Llangynwyd, roi arwydd posibl; mae llan o fath y gwyddys mewn mannau eraill ei fod yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar/y cyfnod Rhufeinig (cymharer Whitton, Jarrett a Wrathmell, 1981); mae'n bosibl, ar ôl y 6ed ganrif i swyddogaeth eglwysig ddatblygu yma, a ddisodlodd yn ddiweddarach unrhyw swyddogaeth seciwlar flaenorol (neu hyd yn oed swyddogaeth seciwlar/eglwysig ddeuol) y gallai'r safle fod wedi'i chyflawni.

Mae statws Margam (HLCA 001), a lleoliad anheddu yn yr ardal yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar o ddiddordeb mawr: mae gwydr Ffrancaidd wedi'i fewnforio a ddarganfuwyd yn nodi bod y safle yn gweld patrymau cyfnewid a masnach ehangach yn ystod y cyfnod (cymharer Hen Gastell, Wilkinson 1995), tra bod bryngaer Mynydd-y-castell, o ran morffoleg a lleoliad, yn wahanol i'r rhan fwyaf o glostiroedd 'amddiffynedig' eraill (gweler 6.6) o fewn y dirwedd hanesyddol, sef ei bod yn fath o fryngaer ar bentir neu gopa ag amddiffynfeydd helaeth (yn debyg i'r safle yn Hen Gastell ond ar raddfa fwy) gyda llwyfan preswylio mewnol posibl. Mae tystiolaeth arall, megis pa mor agos ydyw at safle eglwysig canoloesol cynnar o bwys mawr, darganfyddiad gwydr wedi'i fewnforio o statws uchel gerllaw, lleoliad ffafriol y safle yn edrych dros y diriogaeth o'i amgylch, ond hefyd y parth arfordirol cyfagos; a phwysigrwydd Margam a'i gysylltiad sefydledig â'i gefnwlad o ran hawlio tiriogaeth, yn weinyddol (canolfan gwmwdol/cantrefol?) ac yn eglwysig (canolfan blwyfol ganoloesol gynnar), yn gymhellol; o ystyried deuoliaeth safleoedd statws uchel a nodwyd mewn mannau eraill, mae'n rhesymol gweld y safle yn safle seciwlar cynnar a allai fod yn bwysig o'r cyfnod canoloesol cynnar yn agos iawn at y safle cyfatebol eglwysig.

Yn ystod y cyfnod canoloesol, datblygodd anheddiad Llangynwyd (HLCA 005) yn anheddiad cnewyllol, a'i graidd canoloesol cynnar yn ganolbwynt iddo, sef eglwys Cynwyd Sant. Fel arfer, ceir tirweddau archeolegol creiriol a nodweddir gan anheddiad ucheldirol anghyfannedd, ac sy'n cynnwys grwpiau o lwyfannau tai yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol sy'n gysylltiedig yn aml â systemau caeau a nodweddion amaethyddol eraill, gan gynnwys tomenni clustog, ar doriad llethr, uwchben y llethrau serth sy'n wynebu'r gorllewin a fu'n goediog iawn gynt i'r gogledd o Fargam megis y grwp o hyd at 8 llwyfan tai canoloesol, dau glostir a grwp o rhwng 3 a 5 tomen glustog â ffos (PRN 01994w; NPRN 15,371; 54,460; a 300,892) yn HLCA 004 a grwp arall o ddau safle llwyfan cwt (Nprn 54,458 a Nprn 54,459) a thomen glustog gysylltiedig (Nprn 54,461) yn HLCA 003 ar Fynydd Brombil.

Ar yr un pryd, ymddengys bod llawer o'r safleoedd amgaeedig o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar wedi parhau i gael eu meddiannu neu wedi cael eu hailsefydlu; mae tai llwyfan (yr oedd pobl yn eu defnyddio yn ôl pob tebyg fel hafotai/hafodydd, neu anheddau haf sy'n gysylltiedig â safleoedd aneddiadau gaeaf parhaol neu hendrefi rywle arall yn y cyffiniau) yn nodweddion aneddiadau nodweddiadol, yn ailanheddu clostir amddifynedig y Bwlwarcau (PRN 00116/NPRN 301,303 a PRN 01323/NPRN 15,248; SAM Gm 59; HLCA 005) ac a sefydlwyd yng nghyffiniau Lluest-wen (PRN 00112-00114; NPRN 15,349-15,351; HLCA 005). Ymddengys fod y safleoedd hyn, a ddefnyddid yn ystod y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif wedi'u datblygu'n raddol yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar; ymsefydlodd rhai fel aneddiadau parhaol yn eu rhinwedd eu hun yn ystod y cyfnod. Mae fferm Lluest-wen gyda'i chlostiroedd cysylltiedig â safle lluest ôl-ganoloesol yn enghraifft dda; eiddo ystad Margam yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, ac eiddo mynachaidd yn perthyn i'r Abaty Sistersaidd ym Margam cyn hynny yn ôl pob tebyg, gan roi elfen 'wen' yr enw. Ymddengys bod prosesau tebyg wedi bod ar waith mewn mannau eraill yn yr ardal gyda phatrwm anheddiad/clostir anghyflawn yn datblygu yn dirwedd amaethyddol gaeedig ehangach sef y dirwedd a welir heddiw. Gwelir elfennau ffosiledig o system 'cae agored' ganoloesol, sef lleiniau neu lain-gaeau ar y patrwm caeedig yn union gyfagos i anheddiad Llangynwyd (HLCA 005); patrwm cae a osodwyd o bosibl ar yr anheddiad canoloesol cynnar a oedd yn bodoli eisoes gyda'r Llan a oedd yn rhan ohono.

Mae'r cofnod cartograffig a'r dystiolaeth o enw'r lle yn rhoi rhyw arwydd o leoliad anheddiad canoloesol ar hyd llawr y cwm, fel ar y tir uwch, h.y. enwau lleoedd hendre, gaeaftref (e.e. Goetre) a hafod. Prif nodweddion anheddiad y cyfnod sydd wedi goroesi yw tai llwyfan, cytiau hir, mewn parau yn ôl yr arfer; ymddengys bod yr anheddau ucheldirol neu'r hafodau hyn wedi'u defnyddio'n dymhorol ac roeddent yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fugeiliol, yn seiliedig ar fagu gwartheg yn bennaf. Fel arfer, mae safleoedd tai llwyfan ar doriad uchaf llethr y cwm ar hyd ymyl y ffriddoedd helaeth, ac mae'r lleoliad yn aml yn adlewyrchu ffin uchaf y tir a amgaewyd wedi'r Canoloesoedd. Drwy astudio'r dystiolaeth gartograffig a thystiolaeth ddogfennol arall ymhellach, efallai y bydd modd nodi cydberthynas rhwng dosbarthiad aneddiadau ucheldirol yr haf a dosbarthiad aneddiadau is y gaeaf.

Mae tai llwyfan, megis y rhai ar Fynydd Brombil a'r Bwlwarcau, a gweddillion hafodau ledled yr ardal yn dwyn atgof o'r defnydd o'r ucheldiroedd, yn dymhorol yn aml, ar gyfer ffermio gwartheg, a ffermio defaid yn ddiweddarach, yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, credir bod system hendre-hafod wedi graddol ddiflannu drwy newid mewn arferion bugeiliol (Mae'n bosibl bod y broses hon wedi'i chyflymu yn ardal Margam o ganlyniad i ddylanwadau mynachaidd). Y brif agwedd yw'r broses o drosglwyddo oddi wrth symud grwpiau carennydd gyda'u gwartheg i fugeiliaid unigol wedi'u trefnu mewn cymunedau. Ystyrir bod safleoedd lluest, megis Lluest-wen, yn perthyn i'r system olaf (Locock, 2000). Mae'n bosibl hefyd y gallai'r broses Sistersaidd o reoli tir fod wedi cael dylanwad mawr ar ddatblygiad y system; mae'n debygol bod y broses o feddiannu ystadau a thiroedd seciwlar (gan gynnwys clastiroedd cyn y cyfnod Normanaidd) gan y Sistersiaid wedi tarfu ar arferion bugeiliol ar ffurf grwpiau carennydd traddodiadol o blaid system a reolid gan frodyr lleyg, ar y cyd â thuedd tuag at ffermio defaid ar raddfa fawr.

Rhannwyd y tiroedd a roddwyd i'r Sistersiaid ym Margam ar ôl 1147 yn daliadau mawr neu faenorau, megis: Maenor Crug (Crick), 'fferm plas' yr Abaty gyda safle melin (Melin Crug), ffynnon gysegredig (y 'Baddon'), a Chapel Hen Eglwys o'r 15fed ganrif (HLCA 001) oll yng Nghwm-bach, i'r gogledd o adeiladau'r Abaty ym Margam, yn ogystal â thiroedd helaeth o'u hamgylch i'r gogledd ac o amgylch Craig Crugwyllt (HLCA 002); y Faenor yn y Groes-wen, a ddinistriwyd pan adeiladwyd y draffordd, ond â thir helaeth yng Nghwm Brombil (gan gynnwys pyllau glo) a Chwm-y-Geifr (ill dau yn HLCA 003), a Maenor Hafod-y-porth, y ceir llawer o ddogfennaeth amdani, a oedd yn cynnwys safle melin 'Fredulles' yn Ffrwd-wyllt, Goetre (CBHC, 1982, 274-277; Williams, 1990, 48-52).

Ymddengys bod llawer o'r maenorau wedi datblygu o ddaliadau carennydd seciwlar a oedd yn bodoli eisoes ac ymddengys bod sawl un yn yr ardal tirwedd hanesyddol wedi cadw, o leiaf i ddechrau, yr elfennau ffisegol a oedd yn gysylltiedig â system Hendre-Hafod yn gyfan, hy y daliadau carennydd. Ymhlith yr enghreifftiau mae Maenor Hafod-y-porth (HLCA 010), a gadwodd, yn ogystal â'i hafod, yn Waun-y-capel, ei anheddiad ar gyfer y gaeaf â'r felin yn gyfagos i Ffrwd-wyllt yng Ngoetre (fersiwn llygredig o 'gaeafdre', neu anheddiad y gaeaf; HLCA 009); enghraifft arall yw Maenor y Groeswen, a nodwyd ei phrif anheddiad ar gyfer y gaeaf gan enw cae Cae Goytre, a oedd â hafod gysylltiedig o fewn HLCA 003 o bosibl, naill ai yng nghyffiniau Cwm-y-Geifr, a elwid yn flaenorol yn 'Cwm-yr-Havod', neu fel arall yn ardal Cwm-y-Brombil (Hall 1814; Evans 1982; CBHC , 1982, 274-277; Williams, 1990, 48-52).

Nodir effaith y Sistersiaid ar y dirwedd ym Margam mewn mannau eraill (e.e. Graves-Brown 2000; Wessex Archaeology 1996 a 1997), mewn perthynas â maenorau ar dirwedd isel, lle y gwnaed gwaith gwella draenio a rheoli dwr, megis ym maenor Llanfugeilydd, Cwrt-y-defaid a oedd yn cynnwys safle Eglwys Nynydd (HLCA 006; Wessex Archaeology 1996 a 1997). Fodd bynnag, nid yw effaith meddiannu tir mynachaidd ar y patrwm anheddu yn ystod y cyfnod canoloesol wedi'i hastudio'n fanwl; ac er ei fod yn bwysig i'r boblogaeth leol, a gafodd ei symud o ddaliadau carennydd cyndeidiol (Evans 1982, 22-23), ymddengys bod yr effaith ar y patrwm anheddu ffisegol yn ddibwys o leiaf yn ardal y dirwedd hanesyddol. Ymddengys yma i'r ffocysau anheddu seciwlar a oedd yn bodoli eisoes gael eu mabwysiadu a'u haddasu at ddibenion amaethyddol mynachaidd; efallai na ddefnyddid rhai aneddiadau yn y pen draw, megis yr aneddiadau tai llwyfan a ddefnyddid yn dymhorol ar Fynydd Brombil (HLCA 003) ac mewn mannau eraill, ond cafodd eraill megis Hafod-y-porth (HLCA 010) eu datblygu ymhellach gan ategu anheddu yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn ddiweddarach.

Goroesodd system carennydd Cymru â'i harferion arbennig, ei chyfundrefn gyfreithiol, ei system o ddaliadaeth ac etifeddu yn hwy yn ardal ucheldirol Llangynwyd, na'r ardaloedd ymhellach i'r de, lle yr oedd y Normaniaid yn tra-arglwyddiaethu yn gynnar; mae'r effaith a gafodd hyn ar ddatblygiad amaethyddiaeth ôl-ganoloesol a'r daliadau amaethyddol eu hunain yn ddiddorol. Ymddengys bod y rhan fwyaf o'r ffermydd rhydd-ddaliadol yn ardal Mynydd Margam/Llangynwyd wedi'u sefydlu erbyn yr 16eg neu'r 17eg ganrif; er na ddeellir y prosesau sy'n sail i'w datblygiad a'r dyddiad y digwyddodd hyn yn llawn eto, ac mae angen eu hastudio'n fanwl ymhellach. Efallai fod rhai wedi datblygu o hen eiddo mynachaidd ac yn ymwneud â phroses a ddechreuodd cryn amser cyn y diddymiad; er ei bod yn gyffredin i faenorau mynachaidd Sistersaidd gael eu gweithredu gan frodyr lleyg, ac ymddengys bod hyn wedi digwydd i ddechrau, ar ôl y pla du yn 1348, cafodd maenorau eu prydlesu'n gynyddol i denantiaid lleyg, fel y digwyddodd yn Hafod-y-porth (CBHC , 1982, 274-277; Evans 1982, 20-24).

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn nwylo pedair ystad: Margam, y prif ddeiliad tir, Gadlys, Dunraven a Goetrehen. Parhaodd y prif aneddiadau i ddatblygu yn amaethyddol, ac roedd canol a phentref plwyfrol Llangynwyd (HLCA 005) yn ddibynnol ar yr economi amaethyddol leol yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, gyda gwasgariad o ffermydd o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, megis Llwydiarth a Gelli-lenor, sef prif gynhalwyr yr economi a'r diwylliant Cymreig lleol. Fel arfer, saif y ffermydd ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi ar safleoedd isel ar y bryn ac ar lechwedd/esgair cysgodol sydd ar oleddf graddol, gyda chanran uchel ag adeiladau mewn un llinell o ran cynllun. Credir bod gan lawer o'r aneddiadau ôl-ganoloesol ragflaenwyr canoloesol, yn arbennig Caer Emi, (HLCA 005) Gelli Eleanor (HLCA 005), a Phentre (o ddechrau neu ganol yr 17eg ganrif ag adeiladau fferm atodedig, rhestredig gradd II; HLCA 005), ymhlith eraill yn y rhanbarth y cyfeirir atynt yn Siarteri Margam o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif. Mae rhai o'r ffermydd yn gysylltiedig yn agos â ffigyrau diwylliannol a llenyddol pwysig o Gymru, megis beirdd Tir Iarl, sef Rhys Brydydd (15fed ganrif; Gadlys) a Dafydd Benwyn (16eg ganrif; Llwydiarth).

Ceir y rhan fwyaf o'r anheddiad ôl-ganoloesol cynnar sydd yn y cyflwr gorau yn yr ardal yng nghyffiniau Llangynwyd, yn HLCA 005 a HLCA 012. Ymhlith yr enghreifftiau yn HLCA 005 mae Tafarn yr Hen Dy/Old House Inn (craidd o'r 17eg ganrif, a tho gwellt, rhestredig gradd II), Gilfach Ganol (16eg ganrif, ag ychwanegiadau diweddarach, rhestredig gradd II), Fferm Llwydiarth (16eg/17eg ganrif, rhestredig gradd II*), a Ffermdy Pentre. Mae Tafarn y Ty Cornel, sef ysgubor ddegwm y plwyf ar un adeg, hefyd o ddiddordeb; rhwng 1761-62 fe'i defnyddiwyd gan Ysgolion Elusennol Cylchynnol Cymru, a hyrwyddwyd gan y Parchedig Griffith Jones, Llanddowror.

Mae Gadlys (HLCA 012), ty'r boneddigion ynghanol ystad Gadlys, yn dyddio o rhwng yr 16eg ganrif a'r 18fed ganrif. Mae'r ty yn perthyn i grwp y Dadeni: math o gyntedd grisiau canolog gyda grisiau cerrig â mynediad drwy'r talcen (heb estyniad i'r adeilad croes neu 'outshut'), stopiau broch ar drawstiau nenfwd, to gwellt a phopty. Ceir tai cyntedd grisiau canolog eraill o gyfnod y Dadeni yng Nghwm Maelog (HLCA 002).

Ceir enghraifft ddiddorol o dy rhanbarthol gyda chefn y simnai wrth y fynedfa a chyntedd croes allanol a grisiau lle tân ac ysgubor pedwar cowlas gysylltiedig yn Fferm Brombil yng Nghwm Brombil (PRN 1731w; HLCA 003).

Ceir clwstwr arall o ffermydd o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar ar hen faenor fynachaidd Cwrt-y-defaid (Eglwys Nynydd; HLCA 006). Ar wahân i olion fferm Eglwys Nynydd (hy Ysgubor ddegwm, adeiladau allan a ffermdy), ymhlith yr adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol mae'r Hen Barc (rhestredig gradd II; HLCA 006), ty deulawr pedair uned â chyntedd grisiau canolog ar siâp L o ddiwedd yr 17eg ganrif, gyda chegin ym mhen pellaf pob rhes a phyrth cerrig amrywiol, yn cynnwys un goruwchadail ar fracedi. Mae'r ty yn cynnwys grisiau o ddiwedd yr 17eg ganrif y credir iddynt darddu o blasty Abaty Margam a gafodd ei ddymchwel. Mae Bythynnod Cwrt-y-defaid o'r 18fed ganrif (HLCA 006) yn enghreifftiau o dai dwy uned mynediad uniongyrchol â chyntedd ac ystafelloedd allanol wedi'u gwresogi, sy'n nodweddiadol o Wyr, y Fro a Blaenau.

Mae Llety-piod (HLCA 017), ym mhen gogleddol yr ardal tirwedd hanesyddol, yn enghraifft arall o dy simnai dalcen mynediad agored o'r cyfnod ôl-ganoloesol.

Credir bod patrwm canoloesol o leiaf wedi rhagflaenu patrwm anheddu'r ardal o glostiroedd sydd bellach yn goediog o fewn llethrau a chymoedd is caeedig ardal Mynydd Margam (HLCA 010 (B), er ei fod yn ei hanfod yn ôl-ganoloesol, yn cynnwys gwasgariad llac o ffermdai a bythynnod, yn cynnwys ffermydd Blaen-Maelwg, Llan Ton-y-Groes, a Nant-y-Glo, ac adeiladau fferm yn Wernderi a Hafod.

Nid yw'r cofnod archeolegol yn manylu ryw lawer ar aneddiadau amaethyddol a oedd yn gysylltiedig â llafurwyr heb dir. Mae rhai yn hysbys, megis Ty'n-y-parc (HLCA 015), sy'n nodweddiadol o anheddiad gweithiwr ystad heb dir, a adeiladwyd cyn 1814 ar ochr y llwybr i Langynwyd, ar ymyl tir caeedig yn gyfagos i Don Mawr, sydd o ddiddordeb, a cheir enghraifft debyg yn HLCA 015, yr ymddengys ei bod wedi'i datblygu'n ddiweddarach yn dyddyn, sef tyddyn Ton-y-grugos, a adeiladwyd rhwng 1814 a 1884.

Roedd hen bentref Margam (yn HLCA 001), a sefydlwyd wedi'r Canoloesoedd ac a nodwyd ar fap o'r ystad o 1813 ac a ddangosir ar ddarlun Delamotte o Fargam (Amgueddfa Genedlaethol Cymru; dechrau'r 19eg ganrif), yn agos at yr elusendai a oedd wedi goroesi, sef datblygiad hirfaen yn arwain o fynedfa'r Abaty. Ymddengys bod yr anheddiad hwn wedi'i glirio yn ystod yr 1830au a'r 1840au, a chafodd y safle ei gynnwys yn y gerddi llysiau, a chafodd y trigolion eu hailgartrefu yn yr anheddiad newydd yn y Groes, a gynlluniwyd gan Haycock (CBHC, Morgannwg, Adams, D J, 1986). Cafodd yr anheddiad hwn, yn ei dro, ei ddileu yn llwyr pan adeiladwyd priffordd yr M4 yn ystod hanner olaf yr 20fed ganrif. Mae rhan anghysbell o'r anheddiad gwreiddiol ym Margam, o amgylch y Ffald, lloc ar gyfer didoli defaid crwydr a ddarganfuwyd ar Fynydd Margam wedi goroesi (HLCA 008); mae'r anheddiad hwn yn seiliedig ar glwstwr llac o ffermydd a bythynnod ôl-ganoloesol, yn y traddodiad cynhenid/ystad lleol â gerddi/lleiniau garddwrol. Ymhlith yr adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi, yn dyddio o'r 17eg-19eg ganrif yn bennaf mae: yr Hen Ficerdy o ddechrau'r 19eg ganrif (Bwthyn Margam gynt; Rhestredig gradd II); Bwthyn Margam, ty ôl-ganoloesol a fu'n dy gwellt gynt yn dyddio o 1693, o fath simnai dalcen mynediad agored â chyntedd, ystafell allanol ac adeiladau fferm cyfagos (Bwthyn Cwm gynt; Rhestredig gradd II); a Bythynnod y Gelli yn dyddio o ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif (Rhestredig gradd II). Yn ystod yr 20fed ganrif, gwnaeth datblygiad hirgul o breswylfeydd maestrefol ychwanegu at natur breswyl yr ardal. Nodweddion eraill. Datblygodd yr anheddiad presennol ym Margam o bentrefan bach yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, a oedd yn dwyn yr enw hwnnw'n wreiddiol.

Mae'r aneddiadau eraill yn y dirwedd hanesyddol yn rhai diwydiannol ochr rheilffordd yn bennaf, a nodweddir gan batrymau hirgul a strydoedd grid hirfain, megis Goetre a Bryn (ill dau yn HLCA 009); a'r math o adeilad nodweddiadol cynharaf oedd y ty teras, sef yng Ngoetre (Stryd y Dwyrain a Stryd Emroch), a Bryn (Station Terrace a Theras Gallt-y-cwm). Ym Mryn, datblygodd yr anheddiad diwydiannol cynharach o'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â Phwll Glo Bryn a'r Dramffordd ymhellach yng nghyffiniau'r orsaf reilffordd ddiweddarach (PTR) ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac yng Ngoetre, tai cymdeithasol diweddarach o'r 20fed ganrif yw'r nodwedd amlycaf o'r datblygiadau diweddaraf. Nodwedd weledol o bwys yng Ngoetre yw ei mynwent fawr (a adeiladwyd yn unol â chynlluniau a gwblhawyd yn 1915).

Nodwedd y godre trefol diwydiannol o'i amgylch (HLCA 017) yw'r datblygiad gwasgaredig llac a mân ddatblygiad hirgul o ffermydd a bythynnod ôl-ganoloesol; ymddengys mai tyddynnod yw cyfran sylweddol o'r daliadau tir cyffredinol ac mae crynhoad nodedig o adeiladau allan haearn gwrymiog. Yn sgîl diddymu Ystad Margam ynghanol yr 20fed ganrif ymrannodd daliadau'r ardal yn fwyfwy cyflym, a gadawyd rhai ffermydd, e.e. Llety-piod.

Ychwanegiad diweddar i gymeriad adeiledig yr ardal yw'r clwstwr dwys o dai neu'r anheddiad cnewyllol cynlluniedig o dai safonol o amgylch fferm ôl-ganoloesol addasedig Eglwys Nunydd (HLCA 006).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Amaethyddol

Mae cefndir cyffredinol datblygiad amaethyddiaeth yn yr ardal wedi'i drafod yn eithaf manwl gan A Leslie Evans yn The Story of Taibach and district (Evans 1982, 28-37), a darperir deunydd ychwanegol ar blwyf Llangynwyd yn History of the Llynfi Valley gan Brinley Richards (Richards 1982, 40-56). Mae gwybodaeth hanesyddol yn ymwneud yn benodol ag Ystad Margam a'r ffordd y cafodd ei rheoli yn ystod y cyfnod rhwng 1830 a 1918 hefyd ar gael yn Glimpses of Margam Life 1830-1918 gan John Adams (Adams 1986), gyda phenodau ar bynciau mor amrywiol ag asiantau tir, cyflogau a thenantiaid (hy rheoli ystadau), coed a gerddi, gwaith (amaethyddol) cyffredinol a cheirw, y wladwriaeth les a chreu cyfoeth (hy mentrau morgludo a diwydiannol).

Roedd amaethyddiaeth draddodiadol ardaloedd Margam a Llangynwyd yn seiliedig ar system o ffermio cymysg. Fodd bynnag, yr elfen fugeiliol, magu da byw, fu'r brif nodwedd bob amser, ac mae'r syniadau archeolegol presennol yn adlewyrchu hyn; er enghraifft credir bod clostiroedd cynhanesyddol y Bwlwarcau (PRN 116m; SAM Gm 059; HLCA 005); Moel Ton-mawr (PRN 758w; SAM Gm 057; HLCA 015), a Chaer Blaen y Cwm (PRN 759w; SAM Gm 058; HLCA 013) yn rhai 'bugeiliol' am resymau morffolegol ac ymddengys eu bod yn cynrychioli math o gorlan neu fath o safle 'buarth'; mae eu cynllun yn fwy addas at gorlannu gwartheg nag anifeiliaid nag amddiffyn ardal.

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar aneddiadau uchod, ymddengys bod patrwm amaethyddol â system fugeiliol dymhorol yn bennaf yn pontio'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, y cyfnod canoloesol cynnar a'r cyfnod canoloesol; mae'r system hon yn gysylltiedig â defnyddio ffriddoedd yn ystod misoedd yr haf ac mae'n seiliedig ar fudo tymhorol i aneddiadau ucheldirol. Mae olion anheddiad canoloesol creiriol â systemau caeau cysylltiedig (e.e. y grwp o lwyfannau tai canoloesol (NPRN 54,458 a NPRN 54,459) â thomenni clustog cysylltiedig ym Mynydd Brombil (NPRN 54,461), chlostiroedd a hafodau, (e.e. yn y Bwlwarcau, yng nghyffiniau Lluest-wen ac yn safle'r faenor fynachaidd Hafod-y-porth) yn cadarnhau'r defnydd parhaus hwn; a cheir arwyddion o leoliad prif aneddiadau'r gaeaf, neu hendre, yng ngwaelod y cwm mewn tystiolaeth gartograffig a thystiolaeth ddogfennol arall. Gwartheg fyddai'r stoc yn bennaf, yn ystod y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod canoloesol cynnar, ond mae defaid yn amlwg hefyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod canoloesol, pan ffermiwyd rhan helaeth o'r ardal gan faenorau mynachaidd Abaty Sistersaidd Margam; megis Hafod-y-Porth (HLCA 010).

Ar y cyfan, tirwedd ddatblygedig yw'r clostir sydd wedi goroesi yn ardaloedd Mynydd Margam a Llangynwyd a nodweddir gan glytwaith o gaeau afreolaidd bach a chanolig, fel y dangoswyd ar argraffiad 1af mapiau AO, ac roedd coetir dwys ar y llethrau mwy serth, yn enwedig ar hyd ochr orllewinol Mynydd Margam a Mynydd Brombil, gynt. Waliau sychion yw'r ffiniau ar y cyfan, sy'n dangos y tir a amgaewyd yn y cyfnod canoloesol diweddar ac ôl-ganoloesol cynnar ar y llethrau, er bod cloddiau yn amlwg hefyd. Sefydlwyd y rhan fwyaf o'r systemau caeau yn yr ardal erbyn dechrau'r 19eg ganrif, gyda mân ychwanegiadau yn unig a rhywaint o waith ad-drefnu caeau yn ystod y cyfnod hyd at 1884 (Hall 1814; Argraffiad 1af map 6 modfedd AO 1884). Yr eithriadau yw HLCA 004, ardal o ran ucheldirol gaeedig Ystad Abaty Margam, a gafodd ei amgáu'n raddol o'r 18fed ganrif ac erbyn hyn y nodwedd amlycaf yw caeau rheolaidd mawr, gyda ffensys postyn a gwifren o'u hamgylch ar y cyfan.

Mae effaith prosesau meddiannu tir mynachaidd ar y dirwedd amaethyddol yn y dirwedd hanesyddol yn fach ar y cyfan; er bod patrymau caeau mwy rheolaidd ynghyd â chlostiroedd mwy mewn mannau nag a geir yn Llangynwyd (HLCA 005) er enghraifft, yn aml gwelir y rhain ochr yn ochr â phatrymau caeau datblygedig afreolaidd (gweler HLCA 002 a HLCA 003). Mae'n bosibl i'r patrwm gael ei safoni fesul tipyn, pan gafodd caeau newydd eu clirio o'r coetir fel yng Nghefn Crugwyllt (HLCA 002), er enghraifft, lle mae caeau llinellol rheolaidd yn dangos ôl lleiniau rheolaidd wedi'u ffosileiddio. Er bod y caeau yn fferm Ton-mawr (HLCA 015) ac yn yr ardal yng nghyffiniau maenor Hafod-y-porth (HLCA 010), a Gallt-y-cwm (HLCA 017), yn fwy o faint ac yn fwy rheolaidd nag mewn mannau eraill y tu allan i ffiniau Parc Margam ar y cyfan, gellir dangos datblygiadau ac ad-drefnu ôl-ganoloesol lawn mor gyfrifol am hynny â rheolaethau mynachaidd (Hill 1814, argraffiad 1af map 6 modwedd AO 1884). Gwelir prif effaith rheoli mynachaidd ac yn wir rheoli ystad yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol yn y ffaith bod ardaloedd mawr o dir pori mynydd agored wedi goroesi tan yn gymharol ddiweddar. Gwelir bod dylanwad Ystad Margam a'r Sistersiaid cyn hynny wedi cyfyngu ar amgáu tir ar y cyfan, gan atal daliadau rhag cael eu rhannu drwy olyniaeth gyfrannol ac felly gynnal maint ffermydd mwy ar y cyfan (cymharir Hafod-y-porth yn HLCA 010 â Llwydiarth yn HLCA 005; Hill 1814, argraffiad 1af map 6 modfedd AO 1884). Ceir hen dir mynachaidd yn y dirwedd hanesyddol yn HLCA 001-004, 006-010, a 013-017 yn bennaf; y tu hwnt i'r ardal hon, ceir cymysgedd o diroedd mynachaidd a seciwlar yn HLCA 005 a HLCA 011.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol pedair prif ystad oedd yn berchen ar y tir yn yr ardal: Margam, y prif ddeiliad tir, Gadlys, Dunraven a Goetrehen. Mae tir ystad Margam yn y dirwedd hanesyddol yn HLCA 001-004, 006-010, a 013-017 yn bennaf; a cheir perchenogaeth gymysg y tu hwnt yn HLCA 005, lle y bu pob un o'r pedair ystad dirfeddiannol yn berchen ar dir; rhennir HLCA 011 rhwng Ystadau Gadlys a Margam ac mae HLCA 012 yn rhan o graidd Ystad Gadlys. Mae tir Ystad Margam yn yr ardaloedd â pherchenogaeth gymysg yn cynnwys tir a gaffaelwyd pan ehangodd yr ystad yn ystod yr 17eg ganrif.

Ymhlith yr eitemau ffisegol sy'n ein hatgoffa o amaethyddiaeth ôl-ganoloesol mae corlannau, llochesau defaid, marcwyr ffiniau a safleoedd lluest. Llochesau ucheldirol oedd y safleoedd olaf hyn, a ddefnyddid gan fugeiliaid unigol yn dymhorol yn fwy na thebyg; ac yn wir mae traddodiad yn bodoli sy'n ategu hyn. Er i'r gwartheg gael eu magu o hyd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, ffermio defaid oedd prif gynheiliad amaethyddiaeth. Roedd ffermwyr y rhanbarth yn mynd i'r marchnadoedd neu'r ffeiriau yng Nghastell-nedd, a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ddefnyddio Porthmyn, lle yr oedd eu hangen, i fynd â stoc i farchnadoedd ymhellach i ffwrdd.

Er mai amaethyddiaeth fugeiliol a geid ar y cyfan, cynhealid rhywfaint o amaethu âr, er ei fod yn ddigonol, sef ceirch, haidd a gwenith yn bennaf a hefyd y cnydau gwreiddlysiau traddodiadol, a ategwyd gan botoaid yn ddiweddarach. Anaml iawn y câi'r llwyfandir uchel ei hun ei drin, ac wedyn dim ond yn ystod caledi mawr. Tyfid yd yn y caeau mwy ffrwythlon ar y gwastatiroedd llifwaddod a'r dolydd ar hyd y llain arfordirol islaw Margam ac yn ardal Cwrt-y-defaid ac Eglwys Nynydd (HLCA 007); mewn mannau eraill tyfid grawnfwyd ar derasau ochr y cwm, lle yr oedd y ffermydd fel arfer, a thyfid ceirch yn aml yn y cymoedd.

Parhaodd ffermio fel y'i harferid yn y rhan helaeth o'r ardal mewn ffyrdd traddodiadol yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif; y math arferol o aradr yn yr ucheldiroedd yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif oedd yr haearn gwthio cyntefig, er i'r hen aradr Gymreig wedi'i thynnu gan ddau ych barhau i gael ei defnyddio hefyd, gan oroesi tan hanner olaf y 19eg ganrif yn yr ardal yng nghyffiniau Goetre, yn yr un modd ag a wnaeth y defnydd o ffustiau traddodiadol. Prif ddull cludo amaethyddol y cyfnod oedd ceffylau pwn, neu gar llusg cyntefig a ddefnyddid ar ffyrdd mynyddig (Evans 1982, 32). Dim ond ar ôl 1850 y gwellodd cyflwr amaethyddiaeth yn y rhanbarth, gyda marchnadoedd diwydiannol cynyddol a diwedd y dirwasgiad amaethyddol.

Meithrinwyd amrywiaeth o grefftau a diwydiannau ar raddfa fach gan amaethyddiaeth, a oedd yn nodweddiadol o gymuned wledig hunangynhwysol a diarffordd. Ymhlith y rhain roedd gofaint, seiri maen, llifwyr, cwperiaid, gweithgynhyrchwr gwlân, gwehyddion, teilwriaid, towyr a chryddion. O'r cyfnod canoloesol tan hanner cyntaf y 19eg ganrif, defnyddid melinau dwr yd mâl i brosesu gwenith, yd, haidd a cheirch; roedd y melinau yn Cryke Mylle' (melin fynachaidd; HLCA 001), Cwm Brombil (melin fynachaidd; HLCA 003); melin yd mâl Tal-y-Fedw, Cwmfelin (Siarteri Margam; melin wlân Gadlys yn ddiweddarach; HLCA 012); melinau yng Ngoetre ar Ffrwd-wyllt ('Fredulles Mills' mynachaidd yn rhan o faenor Hafod-y-Porth, gan gynnwys 'New Mill' o 1520; HLCA 009); credir bod y rhai olaf ger safle Melin Dyffryn, Goytre o'r 19eg ganrif (argraffiad 1af map AO 1884; Evans 1982; Richards 1989; Williams 1990, a 2001).

Parhaodd ffermio defaid i fod yn bwysig i'r ardal ar ôl diddymu'r mynachlogydd, a dyna brif gynheiliad amaethyddiaeth yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Câi defaid eu cneifio'n gymunedol, ac er bod gwlân du yn cael ei neilltuo ar gyfer gwau hosanau, roedd y gweddill naill ai'n cael ei nyddu'n edafedd ar droellau nyddu yn y cartref neu ei wehyddu'n frethyn neu wlanen; wedyn câi'r cynnyrch ei gludo i'r pandy lleol.

Mae'n debyg bod y Pandy yng Ngadlys (HLCA 012) yn dyddio i'r 18fed ganrif, ac wedi'i adeiladu ar safle hen felin yd mâl; defnyddiwyd y safle, a adawyd yn wag am gyfnodau byr yn ystod yr 1840au, fel bragdy a gwaith cemegol yn ddiweddarach, a barhaodd i fod ar waith tan ddechrau'r 20fed ganrif (Richards 1989).

Gellir rhannu tirweddau amaethyddol yr ardal yn fras fel a ganlyn:

Tirweddau ucheldirol agored: yn bennaf o fewn HLCA 010 (yn goediog bellach) ac yn cynnwys is-raniadau Mynydd Margam (HLCA 010C) a Mynydd Bach (HLCA 010A) ac ymhlith y nodweddion arferol mae meini terfyn, yn dangos rhaniadau tir ôl-ganoloesol (neu'n gynharach hyd yn oed); HLCA 014 sydd hefyd yn goediog; a HLCA 013, yr unig ardal nad yw'n goediog lle y ceir tir pori ucheldirol agored; defnyddiwyd HLCA 011, Waun-y-Gilfach, sef ardal o weundir mynydd agored o'r blaen i'r de o Gwm Cae-lloi mewn ffordd debyg.

Tirweddau ucheldirol caeedig datblygedig ac afreolaidd cynnar: HLCA 002 (rhannol), ffiniau pendant gan gynnwys waliau sychion, cloddiau ag wyneb carreg a chloddiau ag wyneb carreg a gwrychoedd a oedd yn llawn sefydledig erbyn dechrau'r 19eg ganrif; craidd afreolaidd o dir amgaeedig cynnar, a nodweddir glostiroedd bach, o amgylch yr aneddiadau cynharach, gan gynnwys blociau o lain-gaeau canoloesol; mae natur wasgaredig deiliadaeth daliadau yn awgrymu bod system o feysydd agos a meysydd allan o'r cyfnod canoloesol cynnar wedi goroesi (map Ystad Hill, 1814; argraffiad 1af map 6 modfedd AO 1884); HLCA 010B a D, tir amgaeedig datblygedig/afreolaidd ac amrywiol fel y nodir ar gynlluniau'r ystad o 1814 ac argraffiad 1af mapiau 6 modfedd AO 1884/5.

Tirweddau ucheldirol caeedig rheolaidd datblygedig cynnar: HLCA 002 (rhannol), caeau rheolaidd a llinellol, yn cynrychioli cyfnod ehangu ar Gefn Crugwyllt. Mae tystiolaeth gartograffig yn awgrymu bod yr ardal ar Gefn Crugwyllt wrthi'n cael ei hamgáu erbyn diwedd y 18fed/dechrau'r 19eg ganrif o'r ffridd o'i hamgylch (map Ystad Hill, 1814; argraffiad 1af map 6 modfedd AO 1884); HLCA 016, gwyndwyn yn draddodiadol (hy 'Ton' neu 'Dir Porfa'), hynny yw tir pori a thir braenar yn cylchdroi. Mae cynllun caeau'r ardal, a sefydlwyd erbyn dechrau'r 19eg ganrif wedi datblygu ymhellach ers hynny; dangosir caeau rheolaidd a llinellol ar arolwg 1814 gyda lleiniau niferus neu lain-gaeau, yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Erbyn cyhoeddi argraffiad 1af map 6 modfedd AO roedd llawer o'r rhai olaf hyn wedi eu cyfuno ac roedd y patrwm caeau wedi ei symleiddio. Mae ffiniau o ddyddiadau gwahanol, gan gynnwys cloddiau â gwrychoedd, waliau sychion a gwrychoedd o amgylch caeau datblygedig o faint canolig cymharol reolaidd, wedi eu gosod ar hyd llethrau is Moel Ton Mawr sy'n wynebu'r de-orllewin.

Tirweddau ochr cwm is caeedig (afreolaidd a rheolaidd) cymysg datblygedig cynnar: HLCA 005, tirwedd amaethyddol ddatblygedig a nodweddir gan batrwm caeau datblygedig/afreolaidd amrywiol o gaeau bach a chanolig afreolaidd, sy'n cadw elfennau sy'n gysylltiedig â system 'caeau agored' ganoloesol, sef lleiniau wedi'u ffosileiddio neu weddillion llain-gaeau, patrwm caeau a osodwyd ar y dirwedd a oedd yno eisoes o'r cyfnod canoloesol cynnar/cynhanesyddol diweddar yn ôl pob tebyg.

Lleoliad ochr cwm caeedig datblygedig cynnar: HLCA 003, clostiroedd mawr, a ddatblygwyd ar hen lethrau is serth agored Mynydd Margam yn edrych dros y parth arfordirol, ac wedi eu canoli ar dirwedd afreolaidd ddatblygedig o gaeau bach, o bosibl o'r cyfnod canoloesol neu gynharach gyda chymoedd ochr culrych iawn, megis Cwm Brombil; HLCA 012, cymoedd Nant-y-Gadlys a Bryn Cynan â thir amgaeedig datblygedig a therasau nant coediog.

Tirwedd arfordirol gaeedig reolaidd ddatblygedig gynnar: HLCA 006, tirwedd ôl-ganoloesol amrywiol o gaeau mawr afreolaidd/datblygedig a rheolaidd gyda choedlannau neu ddrysgoed o goetir llydanddail yma a thraw.

Tirwedd arfordirol gaeedig afreolaidd ddatblygedig gynnar: HLCA 007, tirwedd amaethyddol donnog isel ychydig oddi wrth yr arfordir o HLCA 006 ac ar waelod Graig-Goch, wedi'i nodweddu gan gaeau datblygedig/afreolaidd bach, sydd mewn mannau wedi tyfu'n goetir llydanddail a phrysgwydd gwyllt unwaith eto.

Tirweddau ucheldirol caeedig rheolaidd diweddar: HLCA 004, ucheldir a gafodd ei amgáu'n gynyddol o'r 18fed ganrif, er mai'r nodwedd bennaf yw clostiroedd rheolaidd â ffensys postyn a gwifren o'r 20fed ganrif; HLCA 015, tir pori ucheldirol caeedig a gafodd ei wella a'i led-wella (ar hen barc ceirw a oedd yn gysylltiedig â Pharc Margam) ar gynllun clostiroedd rheolaidd mawr gyda ffiniau caeau pendant, a gafodd ei amgáu'n raddol yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, yn cynnwys cloddiau a waliau sychion (Hall 1814; argraffiad 1af map 6 modfedd AO).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Milwrol ac Amddiffynnol

Er bod agweddau amddiffynnol i sawl un o'r tirweddau yn y dirwedd Hanesyddol, neu'n wir agweddau milwrol/amddiffynnol i'r safleoedd yn yr Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol, nid yw'r rhain, at ei gilydd, yn brif nodweddion. Mae'n bosibl na fu rôl llawer o'r clostiroedd neu'r 'bryngaerau' o'r 'cyfnod cynhanesyddol' yn y rhanbarth fel bryngaer Mynydd y Castell (PRN 758w; SAM Gm 162; HLCA 001), a'r Bwlwarcau (PRN 116m; SAM Gm 059, HLCA 005) yn hollol amddiffynnol na milwrol ei natur; credir erbyn hyn fod o leiaf rhai o'r nodweddion hyn yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fugeiliol ucheldirol, rheoli stoc a rheoli pori ucheldirol. Mae'n bosibl bod yna elfen amddiffynnol ond mae'r un mor debygol bod materion eraill fel statws, swyddogaeth 'weinyddol' a threfniadau cymdeithasol i'w gweld mewn rhai o'r safleoedd hyn.

Yn wir, ychydig iawn o dirweddau cwbl amddiffynnol neu filwrol a welir ym Margam; credir bod y strwythurau 'amddiffynedig' cynharaf sydd wedi goroesi yn y dirwedd e.e. y Bwlwarcau (gyda'u rhagflaenydd Neolithig posibl, gweler 6.4, uchod), Moel Ton-mawr (PRN 758w; SAM Gm 057; HLCA 015) a Chaer Blaen y Cwm (PRN 759w; SAM Gm 058; HLCA 013) yn dyddio o'r Oes Haearn (800 CC-100 OC); a chredir eu bod yn nodweddiadol o gorlan 'bugeiliol' sy'n cyd-fynd yn well â chorlannu anifeiliaid, nag amddiffyn tiriogaeth. Yn yr un modd, credir bod y safleoedd caeedig lleiaf yn yr ardal, clostiroedd unclawdd bach ar lethr sy'n dyddio o'r Oes Haearn o bosibl megis y gwersyll cofrestredig i'r dwyrain o Don mawr (SAM Gm 090; HLCA 015); Gorllewin Cwm Phillip, (PRN 774w; SAM Gm 056; HLCA 010); a Gwersyll Hanner Lleuad (Prn 0745w; SAM Gm 477; HLCA 003) yn fwy nodweddiadol o anheddiad amaethyddol, hy ffermydd, na strwythurau cwbl amddiffynnol neu filwrol (trafodir y safleoedd hyn ymhellach yn adrannau 6.4 a 6.5 uchod).

Yr unig eithriad posibl yw bryngaer Mynydd y Castell, clostir unclawdd trawiadol sy'n 260m o'r gogledd i'r de, 135m o led a 2.7 hectar o ran arwynebedd mewn siâp D gydag ochr ddwyreiniol syth; mae'r amddiffynfeydd yn cynnwys 'clawdd neu lethr sgarp anferth' ynghyd â ffos a gwrthlethr' heb ragfur gweladwy ond gydag un fynedfa yn y de-orllewin. Mae amddiffynfeydd y safle yn dangos tystiolaeth o ddau gyfnod adeiladu o leiaf; yn ystod y cyfnod cyntaf aethpwyd ati i amgáu ardal ond rhoddwyd y gorau i'r gwaith cyn ei gwblhau yn ôl pob golwg ac fe'i disodlwyd gan ardal amddiffynedig fwy o faint yn ystod yr ail gyfnod (CBHC Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, 19-20, Rhan 2; Fox a Fox 1934). Nid yw Mynydd-y-Castall a'i amddiffynfeydd mawr ym Mharc Margam yn gydnaws â'r math o glostir ar lethr a welir yn yr ardal; mae'r rhagfuriau sylweddol ym Mynydd-y-castell yn amgáu bryn ynysig ac yn cynnig golygfeydd eang dros y dirwedd a'r parthau arfordirol o'i amgylch, tra bod lleoliad y safle mewn canolfan weinyddol sefydledig (hy o bwys eglwysig a phlwyfol ac fel cwmwd neu gantref o bosibl) fel y nodir o'r cyfnodau canoloesol cynnar o leiaf yn awgrymu swyddogaethau heblaw am reolaeth fugeiliol syml, megis amddiffyn, yn ogystal â swyddogaethau economaidd-gymdeithasol, gweinyddu a rheoli masnach ac yn awgrym o bwysigrwydd ehangach yr ardal (hy HLCA 001). Fodd bynnag, o gofio nad yw gwaith arolygu na chloddio wedi cael ei wneud yn ddiweddar, dyfalu yn unig yw'r uchod a hynny'n seiliedig ar dystiolaeth amgylchiadol a chyfatebiaeth.

Gwelir swyddogaethau amddiffynnol/gweinyddol diweddarach yng Nghastell Llangynwyd (SAM Gm85; HLCA 005), castell cylchfur Normanaidd canoloesol gyda chyfnodau adeiladu yn dyddio i'r 12fed a'r 13eg ganrif (a ailadeiladwyd gan Gilbert de Clare yn y 1260au). Cafodd y safle, lle bu porthdy mawr gyda dau dwr drwm, ei gloddio'n raddol yn 1906 (CBHC). Sylwyd ar leoliad diarffordd y safle, ymhell o brif anheddiad Llangynwyd, ac awgrymwyd mai'r prif ffactor yn lleoliad y safle oedd amddiffyn a chael rhybudd cynnar o ymosodiad o'r gogledd a'r dwyrain. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod y safle yn gorwedd dros gaer bentir gynharach, o bosibl o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar. Posibilrwydd arall, na ddylid ei ddiystyru yw ei fod yn sefyll ar safle anheddiad canoloesol cynnar o bwys rhanbarthol, a reolai'r defnydd o ffriddoedd o bosibl; ar ôl trosglwyddo swyddogaeth weinyddol/rheoli'r gyntaf.

Mae agweddau amddiffynnol eraill yn y dirwedd yn cynnwys nodweddion amddiffynnol sy'n gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd, sef gorsaf radar Cadwyn Cartref Isel (PRN 02995w; SAM Gm 488; HLCA 003).

Yn ôl i'r brig

Parcdir a Thirweddau Pictiwrésg

Yr unig barcdir neu dirwedd bictiwrésg yn yr ardal yw Parc Margam ei hun, parc a gardd gofrestredig (Gwerthusiad Safle Gradd I; Rhif cyf PGW (Gm) 52 (NEP)). Mae'r parc, sy'n cynnwys parc ceirw a pharc tirwedd, gerddi pleser, gerddi a hen ardd lysiau, wedi'i raddio am y rhesymau canlynol:

'Mae Parc Margam yn safle amlhaen o bwys hanesyddol eithriadol. Mae'n cynnwys olion cynhanesyddol ac olion abaty Sistersaidd, a chyfnodau garddio a thirweddu o'r cyfnod Tuduraidd, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr hyn sydd o bwys arbennig yw'r parc ceirw braf iawn a wal o'i amgylch, ffasâd y ty gwledda, yr Orendy a'r Ty Sitrwns Sioraidd eithriadol a'r gerddi o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'u casgliad braf o gerddi a phrysglwyni. Mae gardd Twyn-yr-hydd o'r 1950au yn ardd hyfryd o'r cyfnod hwnnw sydd wedi'i gadw mewn cyflwr da yn y parc.' (Cadw; ICOMOS UK, 2000, Morgannwg: Cofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Rhan 1 Parciau a Gerddi).

Mae ardal hanesyddol y parc yn cwmpasu ardal fwy na'r hyn a geir ar y gofrestr o barciau a gerddi; ac yn wreiddiol roedd yn cynnwys HLCA 001 i gyd, gydag ardaloedd cyfagos HLCA 010 a 015, gan gynnwys yr hen Barc Uchaf, y tu hwnt i hynny.

Ceir disgrifiad manwl iawn o'r parc yn y gofrestr o Barciau a Gerddi; 'Mae Castell Margam yn blasty mawr, Rhamantaidd yn yr arddull Dururaidd a Goethig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn parc mawr ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe, i'r de-ddwyrain o Bort Talbot. Dewiswyd y man yn fwriadol oherwydd ei gysylltiadau hanesyddol a'r safle hardd wrth odre bryn coediog hanesyddol, gydag olion Abaty Margam a'r orendy o'r ddeunawfed ganrif yn weladwy i'r gorllewin. Mae datblygiadau yn yr ugeinfed ganrif sef gwaith dur Port Talbot a thraffordd yr M4, wedi amharu cryn dipyn ar y lleoliad hardd gwreiddiol'. Cadw; ICOMOS UK, 2000, Morgannwg: Cofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Rhan 1 Parciau a Gerddi).

Gellir rhannu'r parc ym Margam yn dair prif ardal: yr ardal gyntaf (HLCA 001) yw'r tir isel i'r de, gyda'r prif diroedd a gerddi i'r gorllewin a chefnen serth Craig-y-Lodge i'r gogledd; yr ail (HLCA 001) yw'r dyffryn coediog, y llyn a'r fryngaer ym mhen gorllewinol y parc; a'r rhan ogleddol o'r parc (yn rhannol o fewn HLCA 010 a 015), ar lwyfandir ymdonnol, uchel uwchben y gefnen, a Chwm Phillip yn ffin iddo tua'r gogledd-orllewin. Mae pob rhan ychydig yn wahanol o ran cymeriad a defnydd. Mae map ystad Hall o 1814 yn dangos y tair ardal wahanol hyn ac yn eu nodi fel Parc Bach, Parc Mawr a Pharc Uchaf, yn y drefn honno.

Dechreuodd datblygiad Margam (HLCA 001, a rhannau o HLCA 010, 015) fel parcdir ac fel tirwedd bictiwrésg/addurniadol neu dirwedd bictiwrésg yn sgîl diddymu'r mynachlogydd yn 1536, pan aeth y rhan fwyaf o hen ystadau'r fynachlog i ddwylo Syr Rice Mansel o Oxwich ac Old Beaupre. Erbyn diwedd yr 16eg ganrif, roedd ty cain a moethus wedi'i adeiladu, yn cynnwys rhai o'r adeiladau mynachaidd, ac ychwanegwyd stablau ar ddiwedd yr 17eg ganrif. O dan Thomas Mansel Talbot, gadawyd y plasty ym Margam yn wag a defnyddiwyd Castell Pen-rhys ar benrhyn Gwyr yn ei le ac fe'i datblygwyd yn ardd bleser, a gwblhawyd erbyn 1814. Prif nodwedd yr ardd oedd Orendy trawiadol yn yr arddull Baladaidd, sef yr un mwyaf ym Mhrydain, a adeiladwyd yn 1787-90 gan ddilyn dyluniadau Anthony Keck. Gwaith C R M Talbot yw cynllun mewnol presennol y parc ar y cyfan. Trawsnewidiodd hwnnw y parc o 1828 ymlaen, ar ôl defnyddio Margam eto fel prif gartref y teulu. Bu hefyd yn gyfrifol am adeiladu'r ty newydd yn yr arddull Duduraidd (1830-5 gan Thomas Hopper; pensaer safle - Edward Haycock) - plasty unigryw o ran maint ym Morgannwg. Gyda'i gynllun afreolaidd a'i nenlinell gastellaidd llawn simneiau a phinaclau, roedd i'r ty olwg Ramantaidd. Fe'i hadeiladwyd o gerrig nadd lleol o'r Pîl, wedi'i drefnu o amgylch tair iard, un yng nghanol y prif floc a'r ddau hen gwrt gwasanaethu i'r dwyrain. Mae dau brif lawr i'r ty, gyda thrydydd llawr talcennog Mae arwynebau'r adeilad wedi'u haddurno â cherfwaith a phaneli herodrol wedi'u cerflunio. Yng nghanol yr adeilad, ceir twr deulawr wythonglog dramatig gyda thyred grisiau atodedig ag ystafell wylio ar y pen. Mae'r ty wedi'i alinio o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae ei wyneb blaen lle y ceir y brif fynedfa ar yr ochr ogleddol. Adeiladwaith diddorol arall a godwyd yn ystod y cyfnod yw 'teml y pedwar tymor', sy'n cynnwys ffasâd Ty Gwledda'r Haf o ddiwedd yr 17eg ganrif, a ailadeiladwyd yn 1835 (Cadw; ICOMOS UK 2000).

Mae'r parc yn cynnwys nifer o adeiladau eraill sy'n nodweddiadol o ystadau'r 1840au yn yr arddull Duduraidd, sydd wedi'u priodoli hefyd i Haycock megis porthordy'r gorllewin ger yr eglwys (cyrn simnai tal a thalcennog).

Roedd hen bentref Margam, a sefydlwyd wedi'r Canol Oesoedd ac a nodwyd ar fap o'r ystad o 1815 ac a ddangosir ar ddarlun Delamotte o Fargam (Amgueddfa Genedlaethol Cymru; dechrau'r 19eg ganrif), yn agos at yr elusendai a oedd wedi goroesi, sef datblygiad hirfaen yn arwain o fynedfa'r Abaty. Ymddengys bod yr anheddiad hwn wedi'i glirio yn ystod y 1830au a'r 1840au, a chafodd y safle ei gynnwys yn y gerddi llysiau, a chafodd y trigolion eu hailgartrefu yn yr anheddiad newydd yng Ngroes (CBHC Morgannwg, Adams, D J 1986).

Gwelwyd cyfnod llai llewyrchus i'r ystad ar ôl 1890 pan fu farw'r etifedd gwryw olaf; yn ddiweddarach yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd y ty gan y fyddin, ac ôl i'w gynnwys gael ei werthu yn 1942. Yn 1977, ar ôl iddo gael ei brynu gan Gyngor Sir Morgannwg achosodd tân ddifrod mawr i'r tu mewn i'r ty. O dan y cyngor olynol, Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, cafodd y ty ei atgyfnerthu a'i adnewyddu a sefydlwyd yr ystad yn Barc Gwledig.

Yn ôl i'r brig

Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Y rhwydweithiau cyfathrebu cynharaf hysbys yn yr ardal yw'r cefnffyrdd, a oedd yn croesi ucheldir Mynydd Margam. Roedd un ffordd, Cefn Ffordd, neu Ffordd-y-gyfraith, yn mynd o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain ar hyd Mynydd Margam (HLCA 010) o ddyffryn Ffrwd-wyllt yn y gogledd drwy Ryd Blaen-y-cwm (HLCA 013) a thua'r de-ddwyrain tuag at Fynydd Baedan i'r de o'r dirwedd hanesyddol lle yr ymrannodd (CBHC 1976. Cyf I, II; Rees 1932; Map Yates 1799); fe âi ffordd arall rhwng Margam a Llangynwyd.

Dengys Map George Yates o 1799 lwybr ffordd y plwyf o Dai-bach i Langynwyd drwy 'Cross of the Hand'; roedd y llwybr 'a wyrwyd' (hy a gaewyd at ddefnydd y cyhoedd) yn 1829 er mwyn osgoi croesi'r parc yn mynd i'r gogledd i adeiladau'r Abaty ac yn croesi'r parc ar letraws o'r dwyrain i'r gorllewin cyn dod allan ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol ger safle'r Porthdy Uchaf presennol. Gellir dehongli llawer o'r darnau o amgloddiau a cheuffyrdd a nodir o fewn HLCA 015, 013 a 014 fel olion y ffordd bwysig hon rhwng Margam ac ardal Chwm Llynfi, ac amrywiadau arni. Roedd ystad Margam, fel Abaty Sistersaidd mynachaidd yn y cyfnod canoloesol neu fel cartref i'r bonedd yn y cyfnod ôl-ganoloesol diweddarach yn dirfeddianwyr mawr yn ymestyn dros ardal helaeth gan gynnwys Llangynwyd, a chwm Llynfi; byddai'r llwybr drwy'r parc wedi bod yn un hollbwysig a phrysur i'w diroedd yn yr ardal. Mae'n debygol hefyd fod y llwybr hwn yn un hynafol iawn ac nad damwain mo'r ffaith ei fod yn cysylltu sawl un o glostiroedd amddiffynedig cynhanesyddol diweddar (yr Oes Haearn) mwyaf trawiadol yr ardal, y mae tystiolaeth yn dangos i lawer ohonynt gael eu meddiannu yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar a/neu ganoloesol, boed hynny'n feddiannaeth barhaus neu'n ailfeddianannaeth. Ymhlith y safleoedd cynhanesyddol ar y llwybr hwn mae bryngaer Mynydd-y-castell (SAM Gm 162; HLCA 001), a'r Bwlwarcau, cloddwaith amlgyfnod gyda chaeadle mewnol (SAM Gm 59; HLCA 005), rhwng Caer Cwm Phillip (SAM Gm 057; HLCA 015), Caer Blaen y Cwm (SAM Gm 58; HLCA 013), sy'n nodwedd amlwg iawn yng Nghwm Cynffig uchaf; mae'r olaf yn gysylltiedig â chroesglawdd, o bosibl o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, ond hefyd credir ei fod yn bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar.

Credir bod y llwybrau hyn yn debygol o fod wedi cael eu defnyddio ers cyfnod cynhanesyddol, a bod y llwybrau hyn wedi goroesi yn y cyfnod canoloesol, gyda mynediad ar hyd-ddynt wedi'i reoli gan groesgloddiau canoloesol cynnar (8fed-9fed ganrif), a'r enghraifft yn yr ardal yw'r croesglawdd yn Rhyd Blaen-y cwm. Mae'r defnydd o groesgloddiau yn eithaf cyffredin yn y rhanbarth (h.y. Ffos Toncenglau (SAM Gm 118), ger Bedd Eiddil ym Mryn-du (SAM Gm 285), ym Mwlch-yr-Afan (SAM Gm 246) ac ym Mwlch-y-Clawdd (SAM Gm 500) yn y Rhondda); mae'r rhain wedi'u lleoli mewn mannau strategol ar yr hyn a fu'n ffiniau gweinyddol cyfoes yn ôl pob golwg. Yn achos ardal yr astudiaeth gyfredol, mae'r clawdd ar yr uniad rhwng ffiniau plwyfol cynnar Margam a Llangynwyd, ar linell ffin y cwmwd a ragdybiwyd (Knight 1995), sydd wedi'i ffosileiddio'n ddiweddarach gan ffin prif ran y tiroedd mynachaidd a ddelid gan yr Abaty Sistersaidd sy'n gysylltiedig â Margam.

Mae llwybrau pwysig eraill yn cynnwys y B4283 (HLCA 004), Heol y Sheet neu Heol Las o'r cyfnod canoloesol, ar linell y briff Ffordd Rufeinig arfordirol rhwng caerau Nidum (Nedd) a Caerllion (neu'r gaer agosach ond rhagdybiedig yng Nghynffig) a ffordd bresennol yr A48.

Mae'r rhwydwaith o isffyrdd a llwybrau sy'n arwain dros lethrau'r cymoedd i mewn i'r ucheldiroedd yn dyddio o'r cyfnod cynddiwydiannol, ac maent wedi'u dynodi ar argraffiad cyntaf map Degwm Llangynwyd AO, Arolwg Hill o Ystad Margam yn 1813/14 a mapiau cynharach. Ymddengys bod llawer o lwybrau cyfathrebu wedi datblygu i gysylltu safleoedd cynhanesyddol, canoloesol cynnar a chanoloesol diweddarach, megis canolfannau eglwysig canoloesol cynnar Eglwys Nynydd, Llangynwyd a Margam yn ogystal â chanolfannau gweinyddol sifil. Roedd y rhwydwaith hwn wedi dod yn fwy cymhleth erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, er mwyn gwasanaethu'r nifer fawr o rydd-ddaliadau a lesddaliadau amaethyddol, a sefydlwyd o'r cyfnod canoloesol diweddar (diwedd y 14eg ganrif) ac yn enwedig ar ôl diddymu'r mynachlogydd.

Mae'r dirwedd yn frith o isffyrdd, llwybrau a throedlwybrau; mae'r rhain yn amrywio o ran dyddiad a diben, megis y rhai o fewn HLCA 011, 012 a 017. Mae angen astudio'r rhain yn fanylach, gan y bydd llawer wedi amrywio o ran pwysigrwydd a'r defnydd a wneid ohonynt wrth i'w diben newid ac wrth i lwybrau amgen ddod yn bwysicach.

Cafodd datblygiad diwydiant, haearn a glo yn bennaf, yn yr ardal ar hyd ymyl ddwyreiniol y dirwedd hanesyddol, hy yng Nghwm Llynfi, ei hybu gan Reilffordd Dyffryn, Llynfi a Phorthcawl (peiriannydd John Hodgkinson) a adeiladwyd yn 1828. Y rheilffordd, 4 troedfedd 7 modfedd o led gyda chledrau ymyl o'r math a ddefnyddiwyd ymhob man yn ddiweddarach, yn ymestyn am 25.7 km, ac yn cysylltu gwaith haearn Cwm Llynfi â phorth Porthcawl sy'n pennu terfyn dwyreiniol ardal yr astudiaeth (HLCA 005). Yn ystod y cyfnod hwn symudodd canolbwynt yr anheddiad yn yr ardal o hen ganolfan blwyfol Llangynwyd i'r anheddiad diwydiannol newydd a oedd yn datblygu sef Maesteg, ar waelod y cwm i'r dwyrain. Yr unig reilffordd arall yn y dirwedd yw llinell Rheilffordd Port Talbot rhwng Cyffordd Dyffryn Port Talbot a Maesteg, a adeiladwyd c 1898; roedd yr olaf yn cynnwys ffordd gynharach Tramffordd Lefel Goetre (argraffiad 1af AO 1885) tuag at Waith Copr Margam (HLCA 009).

Mae'r llwybrau cyfathrebu diwydiannol bach eraill yn y dirwedd yn cynnwys Tramffordd Brombil gyda thramiau a dynnwyd gan geffylau (HLCA 003) a adeiladwyd yn 1838 i gysylltu Cwm Brombil â gwaith Copr Tai-bach Vivian, a'r Dramffordd a oedd yn gysylltiedig â'r chwarel yn Nhonmawr (ail argraffiad map 6 modfedd AO; HLCAs 013 a 015).

Yn ôl i'r brig

Diwydiannol

Mae'n debygol bod rhyw fath o weithgarwch diwydiannol yn yr ardal o'r cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag mae'r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf yn dyddio yn ôl i'r cyfnod canoloesol ac yn benodol i byllau clo o dan reolaeth Abaty Margam, megis yr un ym Mrombil (HLCA 003). Fodd bynnag, ymddengys na fu cloddio ar raddfa fawr tan y cyfnod ôl-ganoloesol, pan fanteisiodd i'r eithaf ar gyfoeth mwynol yr ardal. Ar hyd ymyl y dirwedd y gwelir olion diwydiannol yn bennaf, gyda gweithgarwch chwilio (am lo) ac wedyn ei gloddio wedi'i gyfyngu i'r cymoedd gorllewinol, Cwm Brombil a Chwm-y-Geifr, o fewn HLCA 003, ac ar hyd Cwm Ffrwdwyllt fel y tystia'r lefelydd glo segur yn Lefel Goetre (argraffiad cyntaf AO 1884; HLCA 009), a'r hen lefelydd glo a welir yn HLCA 010 (ail argraffiad map AO, 1900) yn ogystal â hen waith chwarela ychydig y tu hwnt i ffin y dirwedd hanesyddol yng Nghefn Gethin, ar ochr ogleddol Cwm Farteg.

Yn ystod ail ran y 18fed ganrif agorwyd pyllau glo yng Nghwm y Geifr; a Chwm Brombil (HLCA 003) gan yr English Copper Company i ateb galw'r diwydiant copr yn 1777 a 1780. Yn sgîl ehangu pellach ar ddechrau 19eg ganrif, bu angen adeiladu Tramffordd Brombil yn 1838 i dramiau a dynnwyd gan geffylau, a arweiniodd at wella'r cysylltiadau rhwng lefelydd a siafftiau glo yng Nghwm Brombil a gwaith copr Tai-bach Vivian. Caeodd Pwll Glo Cwm Brombil yn 1880.

Yng Nghwm Llynfi ar ymyl y dirwedd hanesyddol i'r dwyrain, bu glo a haearn yn sail i ddatblygiadau diwydiannol; roedd Rheilffordd Dyffryn, Llynfi a Phorthcawl (4tr 7mod o led; peiriannydd John Hodgkinson) a adeiladwyd yn 1828 ac a gysylltodd waith haearn Cwm Llynfi â phorth Porthcawl yn symbyliad mawr i ddiwydiannu'r ardal yng nghyffiniau Ton-du a Maesteg.

Ymhlith y gweithgareddau diwydiannol eraill a welir, yn bennaf o fewn HLCA 010 mae chwarela carreg ar raddfa fach, tynnu gro (pyllau gro), llosgi golosg a chyflenwad dwr ar raddfa fach.

Yn ôl i'r brig