The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

003 Twyni Tywod Whiteford


Ffoto o Dwyni Tywod Whiteford

HLCA003 Twyni Tywod Whiteford

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: cyn-dirweddau claddedig a thystiolaeth o weithgarwch yn bennaf yn ystod y cyfnod canoloesol a'r Ail Ryfel Byd. Nôl i'r ma


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Whiteford yn ymestyn dros ardal o dwyni tywod a chwythir gan y gwynt i'r dwyrain o Draeth Whiteford o Whiteford Point i Hills Tor. Dyma'r system twyni tywod fwyaf ym Mro Gwyr. Y marc penllanw cymedrig a nodir ar fap 1:10000 yr AO yw ffin orllewinol yr ardal, ac yn ffinio â hi i'r gogledd a'r dwyrain ceir llaid a thywod aberol rhynglanwol a morfa heli.

Ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth o weithgarwch dynol cyn y cyfnod canoloesol, ar wahân i ben saeth fachog a cholseidiog yn dyddio o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd yn y tywod ym 1946. Credir i'r twyni tywod ddechrau ffurfio ar ddiwedd y cyfnod canoloesol; felly mae'n debyg bod nodweddion archeolegol cynharach wedi'u claddu o dan y system twyni tywod. Dengys tystiolaeth a gafwyd o ogofâu gerllaw yn HLCA006 fod pobl yn byw yn yr ardal gyffredinol o'r cyfnod Mesolithig o leiaf.

Tomenni ysbwriel canoloesol yw'r olion amlycaf yn yr ardal hon (00002w, 00046w, 00047w, 02869w, 02877w) sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng y ddeuddegfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ynddynt ceir tystiolaeth o ecsbloetio'r adnodd morol ac mae cysylltiad posibl â'r gored bysgod (00913w) yn HLCA002. Mae'r tomenni ysbwriel yn cynnwys cregyn gleision, cregyn cocos a chregyn wystrys a cherrig llosg a rhywfaint o grochenwaith. Er nad oes unrhyw dystiolaeth dyddio gadarn ar gyfer rhai tomenni ysbwriel dyfalwyd eu bod yn dyddio o'r cyfnod canoloesol oherwydd eu lleoliad ar ben y twyni tywod. Darganfuwyd broetsh yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol yn yr ardal hefyd.

Defnyddiwyd llawer o rannau o arfordir Bro Gwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan y fyddin at ddibenion hyfforddi a gwylio. Lleolir olion twr gwylio yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd ymysg y twyni tywod uchel yng ngogledd yr ardal hon. Ceir olion eraill yn perthyn i gyfadail yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd yn rhywle arall, gan gynnwys strwythur pren unllawr a elwir yn The Lodge (02582w) a ddefnyddir bellach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru fel llety dros dro.