The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

010 Morfa Llangynydd


Ffoto o Morfa Llangynydd

HLCA010 Morfa Llangynydd

Gwlyptir adferedig amgaeëdig: nodweddion amaethyddol a nodweddion rheoli dwr ôl-ganoloesol creiriol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Llangynydd yn cyfateb i'r darn o dir isel a adferwyd ychydig i'r gogledd-orllewin o Dwyni Rhosili yn ogystal â fferm Hillend ar gwr y twyni tywod.

Lleolir yr ardal hon ar dir isel a arferai fod yn forfa sy'n cael ei wahanu oddi wrth y môr gan Dwyni Tywod Llangynydd a Hillend (HLCA 009), a ffurfiwyd yn ôl pob tebyg yn ystod y cyfnod canoloesol. Nid oes fawr ddim tystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal hon nes iddi gael ei hadfer yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan adeiladwyd nifer o ffosydd draenio i sianelu'r dwr. Erbyn hyn y brif arllwysfa ar gyfer y dwr yw trwy'r twyni tywod trwy Diles Lake i'r môr. Mae'n debyg i'r system gaeau led-reolaidd hon, a oedd bron yn gyflawn erbyn adeg y degwm ym 1847, gael ei sefydlu trwy weithgarwch adfer tir tameidiog i wella tir at ddibenion pori.

Mae'n debyg bod y ffermdy a elwir yn Hills End ar fap ystâd yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif a'i fod yn cynnwys estyniadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn hyn defnyddir y fferm a'r tir yn Hillend fel gwersyll ac ysgol syrffio. Adeiladwyd rhai bythynnod modern hefyd ar gyrion yr ardal gymeriad hon.