The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

002 Bae Broughton a Thraeth Whiteford


Ffoto o Bae Broughton a Thraeth Whiteford

HLCA002 Bae Broughton a Thraeth Whiteford

Tirwedd rynglanwol: tirweddau claddedig; ymelwa ar yr amgylchedd morol; nodweddion trafnidiaeth a nodweddion arforol; cysylltiadau hanesyddol; digwyddiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Bae Broughton a Thraeth Whiteford yn cynnwys darn o draeth rhynglanwol rhwng Goleudy Whiteford Point a Spaniard Rocks. Ystyrir bod yr enw Whiteford yn tarddu o'r geiriau Daneg 'Hvit-Fford'. Mae'r ffin ogleddol yn rhedeg ar hyd terfyn y tywod a'r gefnen o raean bras lle y saif goleudy. Mewn mannau eraill dynodir ffin yr ardal gan y marc penllanw cymedrig a'r marc distyll cymedrig a nodir ar fap 1:10,000 yr AO.

Cafwyd ychydig o ddarganfyddiadau cynhanesyddol ar hyd y traeth; mae'r rhain yn cynnwys olion anifeiliaid yn bennaf. Ceir tystiolaeth o bysgota yn ystod y cyfnod canoloesol ar ffurf cored bysgod (00913w) ar Draeth Whiteford; fodd bynnag, mae'n debyg bod pobl yn ecsbloetio'r adnodd hwn ers cyfnod llawer cynharach. Mae pysgota yn yr ardal wedi parhau hyd heddiw, darganfuwyd trap pysgod (03032w) yn dyddio o gyfnod cymharol ddiweddar rhwng Whiteford Point a'r goleudy.

Mae gan arfordir Bro Gwyr gysylltiadau morol cryf a nifer o chwedlau sy'n gysylltiedig â mordwyo a môr-ladrad. Roedd y rhan hon o'r arfordir yn beryglus i longau a drylliwyd nifer fawr o longau ym Mae Broughton ac ar Draeth Whiteford. Roedd yn dal i fod yn bosibl i longau angori yn y bae nes iddo lenwi â gormod o dywod aberol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Edmunds 1979). Canfuwyd mwy na 30 o longddrylliadau y gwyddys amdanynt gan gynnwys y Two Sisters, yr enghraifft gynharaf, a ddrylliwyd ym 1804. Fodd bynnag, mae hanesion am ddwblwns aur a ddarganfuwyd tua 1770 yn y creigiau gerllaw Bae Blue Pool yn awgrymu bod llongddrylliadau llawer cynharach ar hyd y traeth. Y trychineb mwyaf y gwyddom amdano yw'r un a ddigwyddodd ar 22ain Ionawr 1868 pan suddodd 16 o longau allan o fflyd o 19 a oedd yn hwylio allan o Lanelli, mewn un noson a phan gollwyd o bosibl hyd at 30 neu ragor o fywydau (Edmunds 1979). Mae tystiolaeth uniongyrchol o longddrylliadau wedi goroesi ar ffurf bwi a chadwyn fawr a hefyd olion cwt pren gerllaw Whiteford Point (03033w). Y llongddrylliad olaf y gwyddom amdano ar y darn hwn o arfordir yw'r SS Evangeline, a yrrwyd ar y lan mewn tywydd drwg ym 1904, fodd bynnag, nis difrodwyd yn wael.

Mae'r goleudy o haearn bwrw yn Whiteford Point, sy'n strwythur rhestredig/cofrestredig (SAM GM407; LB 22885 II*) yn nodwedd amlwg yn y dirwedd. Adeiladodd Comisiynwyr Porthladd Llanelli a Mordwyo Porth Tywyn y goleudy ym 1865 i nodi ochr ddeheuol y sianel i borthladd Llanelli; cymerodd le strwythur pren cynharach yn dyddio o 1854. Credir mai Whiteford yw'r unig oleudy pwysig o haearn bwrw sydd ar ôl yn Ynysoedd Prydain, ac mae'n enghraifft bwysig o waith adeiladu peirianyddol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Parhawyd i ddefnyddio'r goleudy tan 1933; yn fwy diweddar cymerodd y Cyngor Cadwraeth Natur y brydles o Ymddiriedolaeth Porthladd Llanelli.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd Aber Afon Burry gan y fyddin fel maes tanio. Dywedir i lawer o belenni heb ffrwydro gael eu darganfod ar Draeth Whiteford, er bod darganfyddiadau wedi mynd yn llai niferus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.