The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

007 Llanmadog


Ffoto o Llanmadog

HLCA007 Llanmadog

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad organig wedi'i ganoli ar eglwys ganoloesol; canolfan eglwysig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol; datblygiadau strimynnog ac anheddiad clystyrog; caelun amrywiol; ffermydd gwasgaredig; adeiladau a nodweddion brodorol ôl-ganoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; darganfyddiadau gwasgaredig; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llanmadog yn cynnwys anheddiad y pentref a'r systemau caeau cysylltiedig o'i amgylch. Yn ffinio â hi i'r de ceir swmp Bryn Llanmadog (HLCA 012), a Morfa Cwm Ivy (HLCA 005), Burry Holms a'r Tors (HLCA 006) i'r gogledd-orllewin a Cheriton a Burry Pill (HLCA 018) i'r dwyrain.

Saif Llanmadog wrth waelod Bryn Llanmadog, gerllaw Afon Burry. Er bod cryn dipyn o dystiolaeth archeolegol o weithgarwch yn ystod yr Oes Efydd ar Fryn Llanmadog, nid oes fawr ddim tystiolaeth o anheddu yn yr ardal hon yn ystod y cyfnod hwnnw, er ei fod yn eithaf tebygol o gofio ei leoliad ardderchog mewn tir ffrwythlon gerllaw'r môr.

Fel y mae ar hyn o bryd, mae Eglwys Madog Sant, Llanmadog, (LB 11532 II) yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, fodd bynnag ystyrir iddi gael ei sefydlu yn llawer cynharach yn y chweched ganrif gan Madog Sant. Ar ôl i'r ardal gael ei chyfeddiannu gan yr Eingl-Normaniaid rhoddwyd yr eglwys i Farchogion y Deml ym 1156 gan Margaret, Iarlles Warwick ac, ar ôl i'r urdd gael ei gwahardd ar orchymyn y Pab Clement V ym 1309, fe'i rhoddwyd i Farchogion Sant Ioan o Jerwsalem. Yn ddiweddarach trosglwyddwyd yr eglwys i'r goron pan ddiddymwyd y mynachdai o dan Harri VIII. Ni chofnodwyd fawr ddim o hanes yr eglwys tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddechreuwyd ei hadnewyddu. Mae cyflwr presennol yr eglwys i'w briodoli i'r Parchedig J D Davies, hanesydd lleol, a gyfrannodd £500 at y gwaith o adfer yr adeilad, a gwblhawyd ym 1866, cynhwysodd y gwaith hwn ailadeiladu corff, twr a changell yr eglwys yn rhannol. Adferwyd pob un o'r ffenestri, ar wahân i ffenestr y dwyrain i'r de o'r gangell, a all gynrychioli'r ffenestr ddwyreiniol ganoloesol wreiddiol wedi'i hadleoli.

Yn yr eglwys ceir dwy heneb gofrestredig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Lleolir un ohonynt, carreg piler (SAM GM223A), yn y fynwent ac mae'n dyddio o'r cyfnod rhwng y seithfed ganrif a'r nawfed ganrif, a darganfuwyd y llall, sef carreg ac arni ddwy groes endoredig sy'n dyddio o'r cyfnod cyn y nawfed ganrif, (SAM GM223B) yn wal y fynwent ac fe'i hadleolwyd.

Fel sy'n nodweddiadol o Fro Gwyr yn gyffredinol, oherwydd ei llain o galchfaen a'r defnydd a wnaed o'r adnodd hwn, ceir odynau calch a chwareli yn yr ardal o amgylch pentref Llanmadog. Maent wedi goroesi mewn cyflwr amrywiol gan ddibynnu ar eu dyddiad nid yn unig oherwydd oedran ond am fod odynau diweddarach, a adeiladwyd ar ôl diwedd y ddeunawfed ganrif yn strwythurau mwy sylweddol a adeiladwyd gyda'r bwriad o'u defnyddio'n barhaol. Er nad ystyrir ar unrhyw gyfrif bod odynau calch Bro Gwyr ymhlith yr enghreifftiau gorau yng Nghymru, y farn gyffredin yw, oherwydd natur gymharol anghysbell y penrhyn, fod yr amrediad eang o enghreifftiau sydd wedi goroesi yn caniatáu dilyn datblygiad y diwydiant. Yn ddiau, pan ysgrifennodd Samuel Lewis ym 1833, roedd y fasnach mewn calchfaen yn dal i fod yn sylweddol ac roedd yn cael ei allforio i Gernyw a Dyfnaint (Lewis 1833).

Mae argraffiad cyntaf y map 25 modfedd yn dangos pentref Llanmadog, y clwstwr o ffermydd, sy'n ffurfio pentrefan Cwm Ivy, a'r datblygiad strimynnog yn Frog Lane, yn ogystal â gwahanol ffermydd a bythynnod gwasgaredig anghysbell a leolir yn bennaf ar hyd cyrion deheuol a gorllewinol yr ardal. Mae'n debyg i anheddiad Llanmadog ddechrau datblygu fel anheddiad cnewyllol wedi'i ganoli ar ei eglwys, sef Eglwys Madog Sant sy'n dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol, a'i mynwent rannol gromliniol, (mae ochr ogleddol y fynwent lle y mae'r siâp cromliniol i'w weld amlycaf yn rhan o estyniad yn dyddio o'r cyfnod ar ôl 1945). Lleolir y craidd cynnar wrth gyffordd y prif lwybr o'r dwyrain i'r gorllewin a llwybr sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de o'r arfordir y tu hwnt i'r ffermydd yn Cwm Ivy, trwy Fferm Catchpool i dir comin Bryn Llanmadog. Ymddengys fod yr ardal i'r gogledd-ddwyrain o'r eglwys yn gysylltiedig â maenor ganoloesol Marchogion y Deml; gall y cae cromliniol sy'n union gyferbyn â'r eglwys ac i'r dwyrain ohoni fod o ryw bwys (er mai dim ond rhagor o waith arolygu a/neu gloddio a all ddarparu prawf pendant), tra bod darganfyddiadau gwasgaredig yn cynnwys darnau arian canoloesol a darganfyddiadau eraill o gaeau gerllaw i'r gogledd ac i'r dwyrain yn arwydd pendant o weithgarwch. Mae'n debyg y byddai rhoi'r eglwys a'r Faenor i Farchogion y Deml wedi arwain at afleoli'r anheddiad sifil, ac efallai yr adlewyrchir hynny yn lleoliad yr anheddiad ôl-ganoloesol presennol, sy'n ymestyn i ffwrdd o'r eglwys a'i daliadau eglwysig yn ôl pob tebyg.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO a deunydd cartograffig cynharach yr anheddiad fel datblygiad strimynnog o ffermydd a bythynnod yn bennaf, sy'n ymestyn i'r dwyrain o Fferm Big House (02608w; 37468; LB 11723 II) i fan ychydig y tu hwnt i'r gyffordd â'r lôn sy'n rhedeg i'r de-ddwyrain i Rhiwlas Green. Efallai y cynrychiolir cnewyllyn cynharaf Llanmadog gan y rhan o'r anheddiad a leolir o fewn y cae cromliniol sy'n amgylchynu Fferm Big House. Lleolir y fferm hon mewn man sy'n edrych dros y lawnt i'r de-ddwyrain o'r eglwys, wedi'i gosod yn ôl y tu ôl i ardd â mur o'i hamgylch o gynllun hirsgwar. Lleolir ei chyn-iard stablau i'r gorllewin. Mae'r anheddiad y gysylltiedig â matrics o gaeau amrywiol sydd at ei gilydd yn afreolaidd eu siâp, yng nghanol yr hyn yr ymddengys ei fod yn dir comin gweddilliol neu'n dir agored. Ymddengys Rhiwlas Green fel pentrefan bach ar wahân o fythynnod â chaeau afreolaidd bach, a lawnt gyffredin, yn ymestyn hyd at Hill Cottage a ffin prif dir comin Bryn Llanmadog. Wedi'i leoli gryn bellter o'r prif anheddiad ceir anheddiad min ffordd Frog Lane, a ymestynnai o gyn-dafarn y Farmer's Arms i'r Britannia Inn ar gwr y tir comin agored i'r dwyrain; ni nodir yr olaf y gwyddom ei fod yn Dafarn cyn 1880 fel y cyfryw ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO. Ymhellach i'r dwyrain, wedi'i adeiladu ar y tir pori garw agored, a arferai fod yn dir comin yn ôl pob tebyg, ceir Trinity Chapel (Methodist Calfinaidd), a gefail (sydd bellach yn adfeiliedig) a dwy ffynnon. Adeiladwyd Trinity Chapel ym 1817 fel ysgol a thy cwrdd ar draul yr Arglwyddes Barham o Fairy Hill, Reynoldston. Ailadeiladwyd y capel ym 1868. Cynhwysai pentrefan Cwm Ivy fferm Cwm Ivy Court, a'i hadeiladau allan helaeth, a ffermydd West Cwm Ivy a East Cwm Ivy a oedd ychydig yn llai o faint, a dangosir bythynnod eraill.

Cynhwysai'r caelun ehangach, a ddangosir ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, batrwm amrywiol o gaeau sydd at ei gilydd yn afreolaidd eu siâp a nodir llain-gaeau ffosiledig i ryw raddau ledled yr ardal, er eu bod wedi'u canoli yn arbennig ar yr ardal i'r gogledd o Lanmadog rhwng Frog lane a Cwm Ivy. Nid yw'n syndod efallai bod yr ardal hon, a leolir gerllaw'r anheddiad presennol yn cynrychioli yn ôl pob tebyg gyn-randiroedd y cae agored canoloesol. Ymhellach i ffwrdd i'r gorllewin mae patrwm nodedig o ffermydd gwasgaredig a leolir ar hyd cwr tir comin Bryn Llanmadog, sy'n gysylltiedig yn aml â ffriddoedd neu weithgarwch tresmasu fesul tipyn ar gyrion y tir comin. Mae'n debyg bod y daliadau hyn, sy'n cynnwys Lagadranta, Little Lagadranta, Phillistone (19727), a Hills, yn cynrychioli gweithgarwch anheddu ôl-ganoloesol sy'n gysylltiedig ag atgyfnerthu daliadau yn dilyn gweithgarwch amgáu tir o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, yn seiliedig ar dir allan a gweirglodd-dir i ffwrdd o'r prif gae agored. Yn ogystal â'r aneddiadau a nodwyd eisoes mae nifer o fythynnod anghysbell bach, megis Danes Dyke (01723w; 18537), Underhill (20250) a Hill Cottage neu Hillside (19032; 01856w) i'w gweld ar hyd cyrion y tir amgaeëdig; lleolir y rhain yn aml ar lonydd a llwybrau sy'n rhoi mynediad i'r tir comin, neu megis yn achos Pill Cottage ar lwybrau sy'n arwain at yr arfordir. Mae'n debyg mai anheddau a thyddynnod gweithwyr fferm a chwarelwyr oedd y rhain.

Ymddengys na fu fawr ddim newidiadau o bwys yn y patrwm caeau ers yr un a nodwyd ar argraffiad cyntaf mapiau 6 modfedd a 25 modfedd yr AO, ar wahân i ychydig o waith a wnaed i gyfuno rhai o'r llain-gaeau i'r gogledd o'r pentref, a rhai o'r caeau llai o faint neu lai rheolaidd.

Dengys argraffiad cyntaf mapiau'r AO nifer o chwareli bach y mae odynau calch ynghlwm wrth y mwyafrif ohonynt; ceir enghreifftiau yn Hills Farm, i'r dwyrain o Cwm Ivy ac yn yr ardal i'r de o Pill House; mae'r mân nodweddion cloddio a phrosesu hyn yn tueddu i fod wedi'u lleoli ar lwybrau sy'n arwain at yr arfordir ac mae'n amlwg eu bod yn rhan o'r fasnach arfordirol helaeth mewn cynhyrchion calch a oedd yn gyffredin o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cofnododd Lewis, ac yntau'n ysgrifennu ym 1833 fod Llanmadog 'carries on a considerable trade in coal and limestone, in which about thirty vessels, varying in burden from twelve to twenty tons, are employed: in these vessels the coal is brought from Loughor and Llanelly, and the limestone conveyed to the counties of Devon and Cornwall' (Lewis 1833). Mae'n debyg bod cynhyrchiant yn lleihau erbyn 1913; disgrifid o leiaf un odyn i'r de o Pill Cottage fel hen neu segur erbyn arolwg argraffiad cyntaf map yr AO, fodd bynnag roedd y mwyafrif yn segur erbyn yr ail argraffiad. Gwyddom mai'r odyn fasnachol weithredol olaf yn yr ardal oedd un o'r odynau hynny a leolid yn fferm Hills, yng ngorllewin yr ardal; caeodd yr odyn hon yn ystod y 1930au (Toft 1988b).