Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

011 Liege Castle


Ruined farmstead located within HLC011

HLCA 011 Liege Castle

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol (tirwedd gymysg); ffiniau traddodiadol; archeoleg creiriol a chladdedig; aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig (olion aneddiadau canoloesol llai o faint clystyrog/cnewyllol); nodweddion amaeth-ddiwydiannol; nodweddion eglwysig; cysylltiadau hanesyddol; cyfathrebu. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Liege Castle yn cynnwys darn o dir a leolir yng nghornel ogledd-orllewinol y dirwedd hanesyddol wedi'i chanoli ar safle hirsefydlog Castell Moel (Liege Castle), sy'n ymestyn mor bell i'r de ag i gynnwys fferm Whitewell.

Bu'r ardal yn ganolbwynt i weithgarwch anheddu ers y cyfnod cynhanesyddol, fel y tystia nodweddion megis yr ôl cnwd amgaeëdig ger Abernant (NPRN 305,439), a bryngaer neu glostir amddiffynnol unclawdd Castell Moel (SAM GM298; PRN 00359s) a allai ddyddio o'r Oes Haearn (awgrymwyd ei bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig neu ddechrau'r cyfnod Canoloesol hefyd). Ar wahân i'r posibilrwydd y gallai pobl fod wedi parhau i fyw yn y clostir amddiffynnol yng Nghastell Moel i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, neu fod pobl yn byw yno o leiaf o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, ni nodwyd unrhyw nodweddion Rhufeinig a ddyddiwyd yn yr ardal gymeriad eto. Cafwyd darganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig (2il ganrif) hefyd tua rhan ddeheuol yr ardal, ychydig i'r gogledd o Caemaen Farm, sy'n awgrymu y gallai fod olion archeolegol claddedig yn y cyffiniau.

Mae olion creiriol aneddiadau a chaeau canoloesol gan gynnwys pentref canoloesol anghyfannedd (CBHC 1982, (DV28), 243) yng nghyffiniau Leach Castle Farm a hefyd o amgylch Capel Liege Castle (PRN 00362s) yn tystio i'r ffaith bod pobl wedi parhau i fyw yn yr ardal a'i datblygu yn ystod y cyfnod Canoloesol. Enwir Liege Castle fel un o naw pentref neu bentrefan plwyf Llancarfan gan Lhuyd a nododd fod 12 ty a 56 o drigolion yno (CBHC 1982, (DV28) 243). At hynny mae'n bosibl mai Liege Castle yw lleoliad Moyle Grange sy'n gysylltiedig ag Abaty Margam (PRN 03803s; Williams 2001, 306 rhif 91, RCAHMW 1982, 297). Mae CBHC hefyd wedi cofnodi system o gaeau cefnen a rhych canoloesol i'r de o Liege Castle (NPRN 24,320; CBHC 1982, (FS 11), 312). Ystyrir mai ffermio tir âr oedd y prif weithgarwch ar y faenor, a gynhwysai dau dir âr, sy'n cyfateb i tua 240 erw, pan gynhaliwyd arolwg Despenser yn 1320.

Liege Castle oedd canolbwynt gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn wreiddiol (SAM GM298; PRN 2234s; CBHC 1976b, (638), 27-30),) safle bach â ffos o'i amgylch yn dyddio o'r 13eg ganrif a adeiladwyd y tu mewn i'r clostir cynhanesyddol cynharach (Castell Moel). Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd Liege Castle yn gysylltiedig ag Abaty Margam, a theulu Norris o Gastell Penllyn o'r 14eg ganrif o leiaf; ni chadarnhawyd unrhyw gysylltiadau hanesyddol cynharach. Mae prif olion Liege Castle yn cynnwys clawdd a ffos, tua 15m o led wrth 3m o uchder gydag olion gwrthglawdd mewn mannau, sy'n ffurfio tair ochr hirsgwar tua 25m ar ei draws. O'r gornel ogledd-ddwyreiniol, mae rhagfur sydd ychydig yn fwy o faint gyda'i ffos sydd bron yn llawn llaid yn ymestyn i'r de-ddwyrain am tua 30m gan droi ychydig. Mae cloddiau llai o faint yn ymestyn pob un o'r nodweddion hyn am tua 18m ymhellach i'r de. Roedd Liege Castle yn is-faenor i Dresimwn, a oedd yn ei dro yn is-faenor i Wenfô. Fel preswylfa eilradd, ei phrif swyddogaeth yn ôl pob tebyg oedd gweithredu fel canolfan weinyddu'r is-faenor, ac mae'n bosibl bod stiward yn byw yno. Tyfodd pentrefan bach o amgylch y safle, ar yr ochr dde-ddwyreiniol yn ôl pob tebyg gerllaw fferm bresennol Liege Castle Farm (CBHC 1982, (MS 8), 101-104).

Bu teulu Raglan o Garnllwyd yn byw yn yr is-faenor o'r 15fed ganrif nes iddi gael ei phrynu gan Syr John Wildgose yn ystod teyrnasiad Elizabeth I; prynwyd y faenor yn ddiweddarach gan Syr Edward Lewis o'r Fan yn 1615-16, er bod y maenordy (Liege Castle) ei hun wedi'i adael yn anghyfannedd a chofnodwyd bod y tir yn cael ei aredig cyn 1578. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn cynnwys pentrefan ac roedd o fewn plwyf Llanfeuthin.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Liege Castle gan gaelun cymysg ond datblygedig/afreolaidd ar y cyfan o gaeau unionlin, hirsgwar a lled-hirsgwar o faint bach i ganolig lle y ceir arwyddion o olion llain-gaeau canoloesol er bod angen cynnal astudiaethau pellach i nodi union faint unrhyw faes agored. Dengys y map degwm a luniwyd yn ystod y 1840au fod y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r daliadau gwasgaredig yn yr ardal wedi'u cyfuno i greu blociau cyfunedig ar wahân o ddaliadau erbyn canol y 19eg ganrif. Mae ambell glostir llinellol troellog yn arwydd posibl o lain-gaeau cynharach, sy'n dynodi hen gyfundrefn faes agored, ac ategir hyn ymhellach gan ffiniau caeau afreolaidd sydd wedi'u ffosileiddio o fewn ffiniau caeau wedi'u cyfuno lle y ceid pennau cul y lleiniau llinellol gynt. Hefyd yn yr ardal ceir grwp bach ar wahân o gaeau cyfunedig, mwy o faint sy'n ffurfio caelun ychydig yn wahanol i'r de-orllewin o Whitehall Farm; Mae ffiniau caeau yn cynnwys cloddiau â gwrychoedd, gwrychoedd a choed gwrychoedd nodedig a ffensys postyn a gwifren. Mae mân nodweddion cysylltiadau sy'n amrywio o geuffyrdd nas defnyddir bellach, llwybrau troed a llwybrau i lonydd troellog yn isrannu'r caelun ac yn cysylltu aneddiadau'r ardal.

Erbyn hyn nodweddir y patrwm anheddu gan ambell glwstwr gwasgaredig o amgylch Liege Castle Farm (gan gynnwys Canolfan Farchogol bresennol Liege Manor) a hefyd yn Whitehall, er bod arwyddion o bentrefan organig (?), clystyrog, mwy o faint yn ymestyn o Gastell Moel a Leach (Liege) Castle Farm i fan ychydig y tu hwnt i safle eglwysig creiriol Capel Liege Castle, a fyddai wedi ffurfio'r prif anheddiad yn yr ardal (h.y. yr HLCA) yn ystod y cyfnod canoloesol, wedi'i ganoli ar safle canoloesol Liege Castle ar ei gwr gogleddol ac yn ei wasanaethu.

Nodweddir aneddiadau ôl-ganoloesol yr ardal gan ffermydd gwasgaredig ac anheddau a bythynnod llai o faint, gan gynnwys Leach (Liege) Castle Farm, sy'n dyddio o'r 17eg ganrif yn ôl pob tebyg, a Tyle (Tilau) Cottage, sef y clwstwr o fythynnod a ymestynnwyd bellach yn y lleoliad a elwir bellach yn Liege Manor. Efallai mai Whitewell (neu Whitehall) yw'r enghraifft orau o arddull gynhenid yr ardal. Mae gan y ty rhanbarthol hwn, sy'n dyddio o'r 18fed ganrif o leiaf, simnai talcen (dymchwelwyd cyrn y simnai bellach), a simnai â'i chefn at y mynediad (PRN 01495s; NPRN 28,027; CBHC 1975, 453, 461 mapiau 29 a 3), talcenni serth o dan do llechi, ac ychwanegiadau. Mae gan y fferm hon nifer o adeiladau allan cysylltiedig ac ar wahân (NPRN 41,558) gan gynnwys rhes linellol gysylltiedig o adeiladau a arferai fod ynghlwm wrth y ty a chanddynt waliau o gerrig cymysg a thoeau panteils, sy'n cynnwys strwythur â thalcenni serth (popty?) ac un corn simnai talcen, sydd unwaith eto yn dyddio o'r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae mathau o adeiladau sy'n sefyll yn cynnwys ffermdai, bythynnod ac addoldai (anghydffurfiol, a addaswyd yn annedd bellach). Rwbel calchfaen cymysg yw'r prif ddeunydd adeiladu a nodwyd, ac mae gan adeiladau diweddarach yn dyddio o'r 19eg ganrif fanylion o frics ar y ffenestri a'r drysau, nodwyd rendr hefyd. Mae deunyddiau toi nodweddiadol yn cynnwys llechi, a theils yn ogystal â dalennau to asbestos modern.

Mae archeoleg greiriol yn cynnwys nodweddion cynhanesyddol megis y clostir ôl cnwd ger Abernant (NPRN 305,439), ac aneddiadau a chaeau canoloesol gan gynnwys pentref canoloesol anghyfannedd (CBHC 1982, (DV28), 243) gerllaw Leach Castle Farm, a hefyd o amgylch Capel Liege Castle (PRN 00362s), a cheuffordd bosibl. Nodwyd clostiroedd creiriol hefyd yn union i'r de o Gapel Liege Castle yn ystod y prosiect presennol, ac mae nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â'r pentrefan hwn i'w gweld gerllaw Castell Moel sy'n rhestredig (SAM GM298; PRN 00359s). Mae'r olaf yn fryngaer neu glostir amddiffynnol unclawdd sy'n dyddio o bosibl o'r Oes Haearn (awgrymwyd ei bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig neu ddechrau'r cyfnod Canoloesol hefyd). Mae'r safle yn cynnwys rhagfur neu ragfuriau sy'n gwyro'n raddol ac sydd wedi erydu cryn dipyn (CBHC 1976b, (638), 27-30), a elwir hefyd yn Liege Castle (SAM GM298; PRN 2234s) ar ôl safle bach â ffos o'i amgylch sy'n dyddio o'r 13eg ganrif a adeiladwyd y tu mewn i'r clostir cynhanesyddol. Drwy fwrw cipolwg ar y deunydd cartograffig a'r ffotograffau a dynnwyd o'r awyr gellir gweld bod rhagfur crwm y clostir amddiffynnol cynhanesyddol mewn gwirionedd yn rhan o ffin grom lawer mwy helaeth sydd wedi'i ffosileiddio yng ngwrychoedd y dirwedd ôl-ganoloesol, sy'n diffinio clostir hirgrwn mawr, sy'n anghydnaws â'r caelun o gaeau unionlin, lled-hirsgwar a hirsgwar, ar y cyfan, o'i amgylch. Mae'r clostir hirgrwn wedi'i isrannu'n fewnol gan glostiroedd ôl-ganoloesol (?), a all mewn gwirionedd ddyddio o'r cyfnod canoloesol o leiaf, ac mae tystiolaeth o aredig cefnen a rhych i'w gweld hefyd (NPRN 24,320; CBHC 1982, (FS 11), 312). Mae'r llwybr modern i Tyla Cottage bellach yn mynd ar draws y nodwedd hefyd. Cynrychiolir archeoleg gladdedig gan yr ôl cnwd cynhanesyddol yn Abernant (NPRN 305,439), ac mae'n dra thebygol bod yr ardal hon yn cynnwys llawer o nodweddion eraill nas nodwyd eto.

Er y cynrychiolir y nodwedd filwrol/amddiffynnol gan fryngaer gynhanesyddol Castell Moel a'i holynydd canoloesol, sef safle Liege Castle sydd â ffos o'i amgylch, mae'n debyg ei bod yn well meddwl am y nodweddion hyn fel canolfannau anheddu a gweinyddu statws, a chanddynt haen amddiffynnol.

Darperir mân nodweddion eglwysig gan safle capel a mynwent ganoloesol Liege Castle, sy'n rhan o anheddiad gwledig a arferai fod yn fwy o faint, sydd bellach yn anheddiad crebachog neu'n bentref canoloesol anghyfannedd (DMV), a gynrychiolir gan glwstwr bach o aneddiadau gwasgaredig o amgylch Leach Farm a Liege Castle, sy'n cynnwys tri ffermdy yn dyddio o'r 17eg ganrif. Codwyd y posibilrwydd bod Capel Liege yn rhan o Greendown ar un adeg, er na chadarnhawyd hyn. Fodd bynnag, er nad yw'n faenor, gwyddom fod Abaty Margam yn dal 10 erw o dir pori mewn lle a enwir Moys neu Moyl mewn dogfennau yn dyddio o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif; credir mai Castell Moel neu Liege Castle yw'r lleoliad hwn. Er ei fod wedi'i addasu'n annedd bellach, mae'r capel anghydffurfiol diweddarach, Capel Carmel (Annibynnol), sy'n dyddio o'r 19eg ganrif ac a ddangosir ar argraffiad 1af 25" map yr AO dyddiedig 1878, yn parhau â'r thema eglwysig i mewn i'r cyfnod ôl-ganoloesol.

Cynrychiolir archeoleg ddiwydiannol gan weithgarwch cloddio ar raddfa fach at ddibenion amaethyddol a gweithgarwch cynhyrchu calch cysylltiedig gan gynnwys odynau calch, a nodwyd ar argraffiad 1af map yr AO.