Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

008 Canol Dyffryn Llancarfan: Llanfeuthin a Garnllwyd


A view across HLC 008

HLCA 008 Canol Dyffryn Llancarfan: Llanfeuthin a Garnllwyd

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol (tirwedd ddatblygedig/afreolaidd); ffiniau traddodiadol; anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig; adeiladau ôl-ganoloesol/canoloesol; archeoleg creiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; nodwedd eglwysig ganoloesol; cysylltiad hanesyddol; cyfathrebu; adnoddau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Ardal tirwedd hanesyddol Canol Dyffryn Llancarfan: mae Llanfeuthin a Garnllwyd yn dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf sy'n cynnwys rhai nodweddion amaeth-ddiwydiannol e.e. chwareli ac odynau calch. Mae'r ardal yn cynnwys hen blwyf a maenor Llanfeuthin â'i melinau, ac mae'n ymestyn i'r dwyrain i gynnwys Maenor Garnllwyd - ardal sy'n perthyn i raddau helaeth i bentrefan Llancarfan.

Mae'r ardal hon yn cynnwys cerlan a llethrau serth, rhannol goediog llethrau ardal canol dyffryn Nant Llancarfan, i'r gogledd o ardal graidd Llancarfan. Ynddi ceir darnau sylweddol o goetir hynafol lled-naturiol a choetir llydanddail arall yn bennaf ar y llethrau mwyaf serth, megis Coed Garn-llwyd. Defnyddir yr ardal at ddibenion pori anifeiliaid a thyfu porfa yn bennaf. Mae patrwm ychydig yn afreolaidd o gaeau amrywiol, canolig eu maint wedi goroesi a cheir ardaloedd o gaeau wedi'u cyfuno i'r de o Llanvithyn House ac i'r gogledd a'r dwyrain o Garnllwyd Farm, sy'n gysylltiedig yn ôl pob tebyg â gwelliannau amaethyddol a wnaed ar ddiwedd yr 20fed ganrif.

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal hon yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol, fel y tystia maen hir yn dyddio o'r Oes Efydd, sef y 'Druidstone' (PRN 03813s), a'r nodwedd anheddu gynharaf (sydd hefyd o fath 'amddiffynnol'), sef clostir neu fryngaer amddiffynedig Gwersyll Llanfeuthin hefyd (SAM GM293; PRN 00397s), lle mae olion wedi'u haredig dau ragfur o gerrig a phridd ynghyd â ffosydd allanol i'w gweld o hyd. Heb ei gloddio nid oes modd cadarnhau a barhaodd pobl i fyw ar y safle hwn i mewn i'r cyfnod Rhufeinig. Mae hefyd yn bosibl bod pobl yn byw ar y safle hwn, neu ei fod wedi'i ailanheddu o leiaf, yn ystod y cyfnod Canoloesol cynnar hyd yn oed.

Yn ystod y cyfnod canoloesol byddai clystyrau o aneddiadau neu bentrefannau wedi bod yn nodwedd fwy amlwg yn y dirwedd; adlewyrchir hyn heddiw gan nodweddion creiriol sy'n gysylltiedig â'r anheddiad amddifad sydd wedi'i ganoli ar Lanfeuthin, sef Bradington. Mae'n bosibl bod nodweddion creiriol eraill yn gysylltiedig â'r faenor fynachaidd yn Llanfeuthin sy'n gysylltiedig â Margam, ac mae hefyd yn debygol y caiff nodweddion anheddu eraill eu nodi hefyd yn yr ardal gerllaw Garnllwyd, canolbwynt maenoraidd yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae nodweddion archeolegol creiriol yn cynnwys olion system gaeau a llwybrau yn Llanfeuthin (safle anheddiad canoloesol Bradington).

Yn seiliedig ar y ffaith bod capel wedi'i gysegru i Meuthin Sant yn Llanfeuthin, ym mhlwyf Llancarfan, mae traddodiad sy'n honni mai Llanfeuthin yw safle abaty cynnar Llancarfan (am mai Meuthin Sant, a elwir hefyd yn Tatheus Sant, oedd athro Cadog Sant), ac is-ganolfan bosibl i'r brif ganolfan yn Llancarfan (Knight 1984, 377). Rhoddwyd Llanfeuthin yn ddiweddarach i'r Abaty Sistersaidd ym Margam, a sefydlodd faenor yma (Williams 2001, 306 rhif 101), a ehangwyd yn raddol ar draul ei chymdogion lleyg. Mae rhodd tir dyddiedig tua 1190 i ehangu'r faenor yn cyfeirio at 'old churchyard' yno, a darganfuwyd pum claddedigaeth ar ddiwedd y 1960au yn Llanvithyn House, y mae'n amlwg eu bod yn rhan o fynwent yn cynnwys 'many scores of coffinless inhumations' a gofnodwyd cyn hynny ar y safle. Ystyriwyd bod y fynwent hon wedi'i sefydlu cyn y goresgyniad Normanaidd (Lewis a Knight 1973), er bod amheuaeth wedi'i bwrw ar darddiad gwreiddiol y fynwent, am fod claddedigaethau hefyd yn nodwedd ar safleoedd maenoraidd canoloesol, diweddarach (Williams 2001, 197).

Mae'r ardal helaethaf o gloddwaith i'r dwyrain o Llanvithyn House, yn gysylltiedig â phentref amddifad Bradington, a ddiboblogwyd pan ehangwyd y faenor (CBHC 1982, 229), ond mae cloddwaith yr ardal hefyd yn cynnwys clawdd unionlin i'r de, sydd fwy neu lai'n gonsentrig â safle'r fynwent, y dywed CBHC (1982, 292) mai dyma oedd ffin y faenor. Dadleuwyd yn erbyn y posibilrwydd y gallai'r ffin hon ddyddio o'r cyfnod Canoloesol cynnar (Evans 2004, 65). Mae Evans hefyd yn nodi, er bod tystiolaeth ddogfennol i ddangos bod capel y faenor (a gysegrwyd i Meuthin Sant) wedi'i adeiladu ar lain o dir a roddwyd yn arbennig at y diben hwnnw (CBHC 1982, 291), nad oes unrhyw dystiolaeth bod eglwys yn bodoli yn yr ardal eisoes. Darganfuwyd pob un o'r claddedigaethau y gwyddom amdanynt gerllaw'r capel ac felly cymerir yn ganiataol eu bod yn gysylltiedig â'r capel yn hytrach na'r 'old cemetery'. Os oedd Llanfeuthin yn safle eglwysig Canoloesol cynnar (safle mynwent nas datblygwyd, efallai, a oedd yn gysylltiedig â'r ffin unionlin, a nodwyd gan CBHC), mae'n bosibl i'r pentref canoloesol gael ei sefydlu dros ran ohono o leiaf cyn cael ei ddymchwel i wneud lle i'r faenor ddiweddarach, ond nid yw'r broblem hon yn debygol o gael ei datrys oni chaiff y safle ei gloddio. At hynny ni ddatgelodd gwaith arolwg maes diweddar a wnaed fel rhan o brosiect eglwysig Canoloesol cynnar wedi'i noddi gan Cadw unrhyw dystiolaeth o nodweddion yn dyddio o'r cyfnod Canoloesol cynnar, a methodd hefyd â nodi'r clawdd unionlin a arolygwyd gan CBHC fel ffin y faenor (Evans 2004, 65).

Olynydd y faenor ganoloesol yn Llanfeuthin sy'n gysylltiedig ag Abaty Margam oedd Llanvithyn House, a elwir hefyd yn Monkton, sy'n dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf. Ar ôl diddymu Abaty Margam yn 1536, gosodwyd Llanfeuthin ar brydles i Syr John Raglan o Garnllwyd ac yn 1545 prynodd Syr Edward Carne yr eiddo gan y Goron. Trosglwyddwyd y ty a'r tir ar ôl hynny i Thomas Carne o Ewenni. Yn 1565 prynodd William Griffith, reciwsant Catholig adnabyddus, a'i dad Hugh, yr hen faenor am £300. Trosglwyddwyd y ty yn ddiweddarach i deulu Bassett a adeiladodd y porthdy a leolir o flaen yr eiddo yn 1636. Yn 1679 fe'i gwerthwyd gan Thomas Bassett i Syr Richard Bassett o'r Bewpyr. Ar ôl iddo farw yn 1707 fe'i prynwyd gan Robert Jones o Ffwl-y-mwn. Yn y 19eg ganrif trosglwyddwyd y ty a'r fferm i berchenogaeth y Comisiynwyr Eglwysig.

Cofnodwyd y maenordy canoloesol yn Garnllwyd (PRN 00388s; LB 13,592 gradd II*) gyntaf yn 1441 fel Carne Lloide, pan oedd ym meddiant, Lewis Mathew, a allai fod wedi'i chodi. Bryd hynny cynhwysai'r safle neuadd ganoloesol ar y llawr cyntaf, ymestynnwyd a newidiwyd yr eiddo gan berchenogion dilynol. Trosglwyddwyd y maenordy a'r ystad i deulu Raglen drwy briodas ac arhosodd yn yr uned deuluol honno tan tua1600, pan gawsant eu troi allan o'r ty a syrthiodd i ddwylo Syr John Wildgose o Eridge, Sussex ac a werthwyd ar ôl hynny tua 1620 ynghyd ag eiddo arall yn Llancarfan i Syr Edward Lewis (b.f. 1628) o'r Fan. Ar ôl i Edward Lewis farw yn 1674, daeth y maenordy a'r ystad i feddiant teulu Aubrey o Llantrithyd Place drwy ail briodas ei chwaer, a bu yn eu meddiant tan ganol y 19eg ganrif.

Cofnodir gweithgarwch melino yn gysylltiedig â maenor fynachaidd Llanfeuthin gyntaf mewn dogfennau canoloesol, a gofnododd fod y ddwy felin yn Llanfeuthin yn 1336 yn werth dwy bunt. Gosodwyd yr un melinau ar brydles i Syr John Raglan ar 10 Mehefin 1519 fel rhan o brydles a gynhwysai'r faenor gyfan.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Llancarfan: Disgrifir Llanfeuthin a Garnllwyd fel caelun datblygedig/afreolaidd (gan gynnwys rhai llain-gaeau canoloesol) â ffiniau caeau nodweddiadol: sef cloddiau ag wyneb carreg ac arnynt wrychoedd, gwrychoedd, coed gwrychoedd nodedig, waliau wedi'u plastro â morter o amgylch aneddiadau, yr ychwanegwyd ffensys postyn a gwifren atynt.

Er bod rhywfaint o dystiolaeth o gaeau canoloesol ffosiledig posibl yn y ffiniau ôl-ganoloesol, prin yw'r dystiolaeth ar y map degwm i awgrymu llain-gaeau agored gwasgaredig, ar wahân i'r ardal o amgylch Gowlog, lle mae daliadau gwasgaredig i'w gweld o hyd. Erbyn canol y 19eg ganrif ymddengys fod y broses o gyfuno daliadau fwy neu lai wedi gorffen a cheir darnau o dir/daliadau ar wahân wedi'u canoli ar y ffermydd gwasgaredig, sy'n dal i nodweddu'r dirwedd. Mae'n amlwg bod y daliadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o fathau o dir gan gynnwys llwyfandir amaethyddol, llethr dyffryn a cherlan.

Erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol (cyn diwedd y 18fed ganrif) nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig, a chlystyrau amaethyddol bach o adeiladau allan, bythynnod fferm a melinau fel arfer. Mae'r prif ffermydd/daliadau erbyn y 19eg ganrif yn cynnwys Llanvithyn Farm, Garnllwyd, a fferm Caemaen, a cheir daliadau llai o faint ar y cyrion, megis Gowlog ac Abernant Farm. Syr Thomas Aubrey Digby, y Parchedig William Lysle, a Charles Spencer Richard oedd y prif berchenogion tir o fewn yr HLCA erbyn canol y 19eg ganrif.

Nodweddir yr ardal hefyd gan batrwm nodweddiadol o aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol, ffermydd yn bennaf ond hefyd fythynnod a melinau cysylltiedig, a cheir clystyrau yn Llanfeuthin a Garnllwyd sydd hefyd yn cynrychioli hen ganolfannau canoloesol (maenor a chanolfan faenoraidd).

Mae nodweddion archeolegol creiriol yn cynnwys aneddiadau a chaeau cynhanesyddol (yn enwedig y gaer yn dyddio o'r Oes Haearn SAM GM293, y gellid ystyried ei bod yn nodwedd 'amddiffynnol' gynhanesyddol hefyd) ac aneddiadau a chaeau canoloesol (megis balciau, cloddiau caeau, twmpath clustog a llwyfannau tai), a gynrychiolir gan anheddiad gwledig amddifad Bradington DMV, a'r system gaeau gysylltiedig yn Llanfeuthin, a'r 'twmpath hir' neu dwmpath clustog ôl-ganoloesol posibl gerllaw yn Llanfeuthin (PRN 01923s). Nodwyd nodweddion ychwanegol posibl (PRN 00933s), nas cadarnhawyd eto, yn yr ardal rhwng Garnllwyd ac Abernant. Mae'n debyg bod nodweddion archeolegol claddedig, a nodir gan olion crasu yn yr ardal o amgylch Llanfeuthin er enghraifft, i'w cael mewn cysylltiad â'r archeoleg greiriol.

Mae tai bonedd neu faenordai ôl-ganoloesol/canoloesol yr ardal a'u lleoliad, yn benodol Llanvithyn House, a Garnllwyd, a leolir ar gerlan ar ochr arall y dyffryn, yn nodwedd bwysig.

Mae Garnllwyd yn dy neuadd llawr cyntaf canoloesol a chanddo dwr bargodol (y mae rhan ohono wedi'i dymchwel bellach), ac ychwanegiadau diweddarach, sy'n cynnwys bloc i'r de-ddwyrain sy'n dyddio o'r 17eg ganrif (sy'n cynnwys cegin, ynghyd â siambr a llofft uwchben); ar un adeg roedd ganddo gorn simnai wythonglog a tho bwa-afaelfachog nodedig. Yn y bôn mae'r ty yn cynnwys bloc neuadd hirsgwar, sy'n cynnwys neuadd ag oriel haul uwchben ei phen de-orllewinol a lefel cegin islaw, a grisiau troellog mewnol wedi'u gosod o fewn trwch y wal. Mae ei waliau o rwbel calchfaen lleol wedi'u rendro â phlastr garw. Mae ganddo addurniadau o garreg Sutton, llechi modern ar y to, corn simnai o frics a drysau/ffenestri modern, ar wahân i wynebau blaen de-orllewinol a gogledd-ddwyreiniol y ty: mae gan y wyneb blaen de-orllewinol nifer o ffenestri hirsgwar bach sy'n goleuo grisiau troellog a ffenestr ag un gwarel a phen teirdalen ar y llawr uchaf. Mae gan y wyneb blaen gogledd-ddwyreiniol ffenestr sgwâr fach â ffrâm garreg ar y llawr uchaf. Ychwanegwyd adeilad allan o gerrig i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n bosibl bod yr ysgubor yn Garnllwyd (PRN 02079s; NPRN 37,542; LB 13,437 rhestredig gradd II), er iddi gael ei hailadeiladu'n sylweddol yn y 19eg ganrif a'i haddasu'n ddiweddar i'w defnyddio at ddibenion preswyl, yn dyddio o'r cyfnod canoloesol hefyd. Fe'i disgrifir fel strwythur o rwbel gwyngalchog a chanddo do llechi (brenhinbost), drysau canolog a leolir gyferbyn â'i gilydd, sy'n uwch ar yr ochr dde-ddwyreiniol sy'n wynebu'r ty a'r buarth, ac agennau awyru. Mae waliau talcen sydd ar ongl letraws i'r waliau ochr yn awgrymu bod yr ysgubor hon yn dyddio o gyfnod cynharach. (CBHC 1981, 349).

Ystyrir bod ty bonedd is-ganoloesol Llanvithyn Farm (NPRN 18,459; rhestredig gradd II), sydd â simnai talcen yn cynnwys dau floc wedi'u gosod ar ongl sgwâr a phorthdy yn enghraifft dda o annedd fonedd fach yn dyddio o'r 16eg ganrif gyda nodweddion mewnol sydd wedi goroesi. Mae'r trawstiau gwrymiog ardderchog yn yr asgell orllewinol yn haeddu sylw arbennig. Mae cynllun y ty hefyd yn adlewyrchu traddodiad y 'system unedau'.

Mae'r ty yn Llanfeuthin yn cynnwys dau floc wedi'u gosod ar ongl sgwâr ar safle llwyfandir a dorrwyd i mewn i'r graig ar yr ochr ddeheuol a cheir blaen-gwrt amgaeëdig ar ei ochr ddwyreiniol. Mae ganddo ddrychiadau o galchfaen lleol sydd wedi'u rendro â sment ac addurniadau o dywodfaen, a thoeau llechi ar oleddf. Mae newidiadau diweddarach yn cynnwys codi'r bondo a gosod ffenestri newydd yn y ty. Mae'r bloc gorllewinol yn strwythur deulawr yn dyddio o'r 16eg ganrif a chanddo estyniadau i'r gogledd a'r gorllewin a ychwanegwyd yn y 18fed ganrif; ymddengys fod ei wal orllewinol yn dal i gynnwys gwaith maen canoloesol gan gynnwys drws bwaog caeëdig sydd â phedwar canol. Mae nodweddion gwreiddiol eraill yn cynnwys ffenestr fyliynog, pensgwar â siamffrau isel a dwy gwarel heb fowldin capan yn y wal ddeheuol. Mae'r bloc deheuol yn strwythur deulawr a chanddo seler, sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r cyfnod canoloesol ac sy'n ymgorffori yn ôl pob sôn olion capel Normanaidd, er ei bod yn dyddio o'r 16eg ganrif yn ei hanfod. Adnewyddwyd strwythur y to ac ailadeiladwyd y simneiau gan ddefnyddio brics. Mae llawer o nodweddion gwreiddiol i'w gweld o hyd y tu mewn i'r ty (CBHC 1988, 57, 69, 74, 80, 87, 89, 90, 109, 133, 139, 141, 150, 162, 188 a 255; CBHC 1981, 232-237). Yn gysylltiedig â'r ty mae enghraifft brin o borthdy yn dyddio o'r 17eg ganrif sydd wedi goroesi (NPRN 19,169; rhestredig gradd II); mae gan y porthdy hwn, sy'n ddyddiedig 1636, ddau lawr, drychiadau o rwbel gwyngalchog a tho llechi ar oleddf, a grisiau cerrig allanol (CBHC 1981, 233).

Mae nodweddion eraill sy'n gysylltiedig ag adeiladau yn cynnwys gwaith adeiladu gan ddefnyddio cerrig cymysg a cherrig garw a thoeau llechi (yn bennaf), teils a metel (nodwyd yr olaf ym melin Llanfeuthin). Cynrychiolir archeoleg ddiwydiannol ar raddfa fach gan ddiwydiant gwledig megis y melinau y cyfeiriwyd atynt uchod. Dengys argraffiad 1af mapiau'r AO yn dyddio o'r 19eg ganrif ddwy felin ôl-ganoloesol (PRNs 01993s a 01848s; NPRN 24,942; LB 13,611 gradd II), a adeiladwyd o gerrig lleol gydag addurniadau o dywodfaen: mae nodweddion gwreiddiol i'w gweld o hyd ar freuandy yn dyddio o'r 17eg ganrif megis drws penfflat, mowldinau capan a ffenestri â siamffrau isel. Mae'r felin drillawr gerllaw yn dyddio o'r 19eg ganrif yn bennaf, er ei bod yn bosibl ei bod yn sefyll ar sylfeini cynharach. I'r de ceir Melin Wlân Llanfeuthin (a elwir yn Old Bakehouse bellach) â'i ffrwd melin a'i llifddor gysylltiedig, a ddangosir ar argraffiad 1af map yr AO fel rhes linellol o adeiladau sydd ag adeilad allan ynghlwm wrtho yn ei phen gogledd-orllewinol. Mae'r talcen de-ddwyreiniol yn wynebu ffrwd y felin. Nodir bod y felin hon yn segur erbyn cyhoeddi 2il argraffiad map yr AO (melin Llanfeuthin, a melin bannu); mae gweithgarwch cynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol, odynau calch a chwareli cysylltiedig, yn nodwedd nodedig a hirsefydlog sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol o leiaf, a gysylltir yn agos â rheolaeth fynachaidd a maenoraidd.

Mae nodwedd eglwysig, o leiaf drwy gysylltiad, yn seiliedig ar fodolaeth hen faenorau mynachaidd canoloesol yn yr ardal sy'n gysylltiedig ag Abaty Sistersaidd Margam, yn benodol maenor Llanfeuthin. Dyma oedd lleoliad, yn ôl y traddodiad o leiaf, safle eglwysig Canoloesol cynnar a elwir yn Goleg Cattwg (Cadog Sant). Fodd bynnag, gallai olion yr hen fynwent yn Llanfeuthin y cyfeirir ati mewn dogfennau yn dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif, ynghyd ag olion a gloddiwyd, fod yn gysylltiedig â chapel canoloesol diweddarach (Meuthin Sant) sy'n gysylltiedig â'r faenor fynachaidd, yn hytrach nag unrhyw sefydliad mynachaidd Canoloesol cynnar. Parheir y thema eglwysig gan Ffynnon Dyfrig, ffynnon sanctaidd ganoloesol, yr oedd ganddi strwythur pen ffynnon bach o gerrig gynt. Mae maen hir yn dyddio o'r Oes Efydd, sef Druidstone, yn rhoi hyd yn oed fwy o ddyfnder amser i'r agwedd ddefodol ar y dirwedd.

Mae'r ardal yn enwog am ei chysylltiadau hanesyddol ac fe'i cysylltir yn draddodiadol â Cadog Sant, a Meuthin Sant, athro Cadog, yn ogystal ag Abaty Sistersaidd Margam, a gwahanol deuluoedd bonedd a oedd yn berchenogion tir megis teulu Carne, William a Hugh Griffiths, teulu Raglan a theulu Lewis o'r Fan yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Mae nodweddion eraill sy'n llai pwysig ond sy'n rhan annatod o'r ardal serch hynny yn cynnwys llwybrau cysylltiadau: llwybrau troed, llwybrau, a lonydd troellog a syth, a choedwigoedd sy'n cynnwys coetir hynafol, lled-naturiol, megis Coed Garnllwyd, a choetir llydanddail arall, sydd wedi goroesi ar y llethrau mwy serth lle roedd y tir yn anaddas i'w aredig, neu lle y cydnabuwyd ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer mesobr ac fel adnodd.