Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

005 Llwyfandir Amaethyddol Crosstown a Llancatal (Dwyrain)


Converted barn at the crossroads in Crosstown

HLCA 005 Llwyfandir Amaethyddol Crosstown a Llancatal (Dwyrain)

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol; anheddiad gwasgaredig canoloesol/ôl-ganoloesol; Adeiladau canoloesol/ôl-ganoloesol; archeoleg cynhanesyddol claddedig; cyfathrebu. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Nodweddir ardal cymeriad hanesyddol Llwyfandir Amaethyddol Crosstown a Llancatal (Dwyrain) gan gaelun o gaeau amgaeëdig lled-reolaidd canolig a mawr eu maint mewn ardal wastad, fwy neu lai. Yn ffinio â'r ardal i'r de ac i'r dwyrain ceir dyffrynnoedd afonydd Kenson a Llancarfan Isaf yn y drefn honno; mae tair ffordd yn croesi'r ardal, un sy'n rhedeg i'r de a'r gorllewin o Pancross drwy'r ardal gan ymuno yn y pen draw â ffordd y B4265, un arall sy'n mynd i'r de o Pancross gan dorri i lawr ymyl ddwyreiniol yr ardal tua Phen-marc, ac un arall sy'n mynd o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws gwaelod yr ardal uwchlaw Dyffryn Afon Kenson i gysylltu Pen-marc â Llancatal. Roedd yr ardal, y dangosir ei bod wedi'i lleoli ym mhlwyf Llancarfan a hen bentrefannau Llancatal a Llanbydderi ar fap degwm 1840, wedi bod yn rhan o gantref Canoloesol cynnar Penychan a Chantref diweddarach Dinas Powys.

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol fel y tystia nifer o safleoedd olion cnydau a nodwyd yn yr ardal ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, y credir eu bod yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol (NPRNs 89,367; 89,368; 89,369; 89,370; a 89,371). Cyfeirir at y rhain yn HLCA 003 fel nodweddion ffermydd posibl, awgrymwyd bod cysylltiad rhwng ardal gymeriad bresennol HLCA 005 ac ardal gymeriad HLCA 003 a bod pobl neu dda byw (megis gwartheg) yn symud rhwng y ffermydd posibl hyn ac Afon Kenson. Nodwyd nifer o nodweddion olion cnydau eraill hefyd ymhellach i'r gogledd yn yr ardal gymeriad y mae eu dyddiad yn anhysbys ond a ddisgrifir fel clostiroedd a rhan o system gaeau (NPRNs 309,459; 309,460; 309,461; 309,462; 309,463; a 309,464).

Mae'r system gaeau bresennol yn union fel y'i dangosir ar fap degwm 1840, a mapiau diweddarach yr AO. Dengys y map o faenor Llancatal sy'n dyddio o 1622 fod y ffiniau sydd wedi goroesi yn cynrychioli olion yr hyn a fu unwaith yn batrwm mwy cymhleth o glostiroedd, neu lain-gaeau canoloesol, yr ymddengys eu bod wedi'u hamgáu i raddau helaeth erbyn hyn, er eu bod wedi'u cyfuno'n gaeau mwy o faint erbyn 1840. Mae'r map o'r faenor sy'n dyddio o'r 17eg ganrif yn nodi pum grwp o glostiroedd a enwir: 'Redlandes', 'Rack Closes', 'Middle Crosse', 'Lorde's Lande', a 'Ten Acres', ac yn ddiddorol ddigon mae'r clostiroedd a ehangwyd sydd wedi goroesi yn adlewyrchu'r grwpiau hyn. Mae'n debyg i'r ffiniau sydd wedi goroesi gael eu sefydlu yn ystod y cyfnod canoloesol (Davies 1956).

Ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879 dangosir nifer o adeiladau sydd wedi aros fwy neu lai'n ddigyfnewid ers yr adeg honno. Yn eu plith ceir adeiladau allan amaethyddol ym Middlecross (NPRN 37,611; PRN 01969s) yn rhan ganolog a rhan orllewinol yr ardal, y mae'n debyg eu bod yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae nifer o adeiladau eraill i'r gogledd yn cynnwys adeiladau amaethyddol eraill a'r ficerdy yn Pancross y mae'n debyg eu bod yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol hefyd, ynghyd â thy yn Crosstown (PRN 01428s) yn rhan ogleddol yr ardal. Roedd y ty yn Crosstown yn bwysig ymhlith boneddigion Morgannwg o'r cyfnod canoloesol ymlaen ac mae'n gysylltiedig â theulu Giles. Mae'r ty yn dy neuadd canoloesol hwyr a addaswyd yn yr 16eg ganrif ac a newidiwyd unwaith eto yn fwy diweddar ar raddfa fawr, mae'r dystiolaeth ddogfennol gyntaf ar gyfer yr adeilad yn dyddio o 1561, lle y nodir ei fod yn perthyn i John Giles, mae cofnodion diweddarach yn cynnwys Crosstown ymhlith plastai boneddigion Morgannwg.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Llwyfandir Amaethyddol Crosstown a Llancatal (Dwyrain) i raddau helaeth gan system gaeau ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi; sy'n cynnwys caeau amgaeëdig canolig a mawr eu maint sydd fwy neu lai'n rheolaidd eu siâp. Ceir adlais o'r patrwm canoloesol cynharach o lain-gaeau yn y ffiniau sydd wedi goroesi, y gellir dangos eu bod yn dilyn aliniadau tebyg i'r rhai a ddangosir ar y map maenoraidd dyddiedig 1622, a ddiffiniai yn eu tro ardaloedd ar wahân neu grwpiau o lain-gaeau.

Nodweddir yr ardal gan aneddiadau gwasgaredig sy'n cynnwys rhes o adeiladau amaethyddol ôl-ganoloesol ym Middlecross, gan gynnwys ysgubor (NPRN 37,611; PRN 01969s) ac adeilad allan ar wahân sydd i gyd o fewn grwp o glostiroedd hirsgwâr (lleolir y ffermdy ym Middlecross y tu allan i'r ardal gymeriad), ychwanegwyd cyfres o siediau amaeth-ddiwydiannol mawr diweddar at y cyfadail. Mae'r ty yn Crosstown yn arbennig yn haeddu sylw (PRN 01428s); yma mae prif ran yr adeilad yn cynnwys ty neuadd canoloesol a newidiwyd gryn dipyn; yn yr 16eg ganrif gosodwyd lle tân â'i gefn at gyntedd croes yn yr adeilad. Er nad yw'n rhestredig mae ty Crosstown yn dal i gynnwys nodweddion yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, sef y drws i'r cyntedd croes sydd â dau ganol, pen a chilbyst siamffrog plaen, a ffenestr ag un gwarel a phen teirdalen. Cynhwysai newidiadau diweddarach a wnaed i'r adeilad yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg osod y lle tân â'i gilbyst siamffrog plaen o garreg a thrawst 'bresummer' pren, a drws wrth ei ochr a chanddo addurniadau siamffrog plaen o garreg a bwa Tuduraidd, mae nodweddion eraill yn cynnwys nenfwd â thrawstiau pant a phigfain wedi'u mowldio (sydd wedi diflannu bellach) yn y neuadd.

Mae nodweddion anheddu eraill yn cynnwys y ficerdy i'r de-ddwyrain o Crosstown sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif; ymddengys yr adeilad hwn, sydd wedi'i osod ychydig yn ôl o'r ffordd, ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879; er nas dangosir ar fap degwm 1840, lle y nodir bod y safle yn cynnwys tir pori ym meddiant y Parchedig William Lisle a Meakham Berkin. Ymddengys fod y ficerdy hwn wedi disodli ficerdy cynharach a leolid ym mhentref Llancarfan ei hun. Cynhwyswyd fferm Pancross yn ardal gymeriad gyfagos HLCA 006, am fod ei chymeriad wedi newid gryn dipyn, gyda'r canlyniad ei bod yn fwy cydnaws bellach â'r caelun a newidiwyd i'r gogledd.

Nodwedd ddiddorol sy'n ymwneud â gweithgarwch llawer cynharach yn yr ardal yw'r pum safle lle y nodwyd olion cnydau a gwrthgloddiau sydd wedi goroesi ar y llwyfandir hwn ac a allai ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol. Mae'r nodweddion hyn a nodwyd ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn annisgwyl i ryw raddau, am fod i'r ardal hanes hir o ddefnydd amaethyddol mae'n syndod bod olion cnydau a gwrthgloddiau yn dyddio o'r cyfnod hwn wedi goroesi yn eu cyflwr presennol, a hefyd am fod nodweddion tebyg yn gymharol brin yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd cymeriad eraill. Nodwyd nifer o nodweddion olion cnydau ôl-ganoloesol hefyd ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, sy'n ychwanegu at y cyfoeth o olion cnydau a geir yn yr ardal hon.

Mae cysylltiadau hefyd yn nodwedd bwysig ar yr ardal hon; mae'r ardal yn cynnwys cyffordd prif lwybrau drwy'r ardal hon ac ardal ehangach dyffryn Llancarfan. Mae un llwybr yn rhedeg i'r de ac i'r gorllewin o Pancross drwy Middlecross a Llancatal gan ymuno yn y pen draw â ffordd y B4265; mae llwybr arall yn rhedeg i'r de o Pancross, gan ddechrau ymhellach i'r gogledd y tu allan i'r ardal gymeriad hon yn Llancarfan mae'n dilyn cwr dwyreiniol yr ardal gymeriad tua Phen-marc a Ffwl-y-mwn uwchlaw Nant Llancarfan; ac mae trydydd llwybr yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws gwaelod yr ardal uwchlaw Dyffryn Afon Kenson gan gysylltu Pen-marc â Llancatal. Mae'r llwybrau yn gysylltiadau pwysig rhwng lleoedd/aneddiadau yn yr ardal gymeriad a'r tu allan iddi; gan gysylltu wrth y gyffordd yn Pancross, sy'n ymuno â phrif lwybr i'r gogledd drwy'r Fro tua Llantriddyd a thu hwnt. Ffurfir ffin orllewinol yr ardal gymeriad hon gan lwybr pwysig arall yn rhedeg o'r gogledd i'r de; dyma'r brif gefnffordd, sy'n cysylltu ffordd yr A48 a ffordd y B4265 sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lonydd 'caeedig' cul yr ardal, ceir lleiniau glas tra llydan ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd hon, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed ohoni yn draddodiadol fel ffordd porthmyn, ac fel priffordd. Nodwyd bod y cyfryw lwybrau yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol mewn mannau eraill; ac yn ddiau bu'r llwybr hwn yn un pwysig ers tro byd am ei bod yn cysylltu llwybrau pwysig yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin drwy'r Fro, megis ffordd yr A48 i'r gogledd, y 'Portway' sy'n dyddio o bosibl o'r cyfnod Rhufeinig, a ffyrdd yr A4226/B4265 i'r de, a allai ddyddio o'r cyfnod canoloesol neu o gyfnod cynharach. Ymddengys fod y cysylltiad hwn yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae lleoliad yr amddiffynfa gylch a'r beili (PRN 00904s; NPRN 307,703), o fewn ardal gymeriad gyfagos (HLCA 006), a'r ffaith bod canolfannau maenoraidd i'w cael yng nghestyll Ffwl-y-mwn a Phen-marc, yn adlewyrchu hyn.