Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

006 Llwyfandir Amaethyddol Llanfeuthin a Llancarfan


Looking across HLC006

HLCA 006 Llwyfandir Amaethyddol Llanfeuthin a Llancarfan

Cae canoloesol/ôl-ganoloesol cyfunedig; archeoleg canoloesol a chynhanesyddol creiriol a chladdedig; anheddiad gwasgaredig; cysylltiadau eglwysig; cyfathrebu; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llwyfandir Amaethyddol Llanfeuthin a Llancarfan yn cynnwys darn o dir yr ymddengys iddo gael ei greu gan weithgarwch ffermio diwydiannol ar raddfa fawr. Mae'r llwyfandir yn edrych dros lethr serth Nant Llancarfan i'r de-ddwyrain ac fe'i lleolir ym mhlwyf Llancarfan, a hen bentrefannau Llanfeuthin, Llanbydderi a Llancarfan. Roed yr ardal wedi bod yn rhan o gantref Canoloesol cynnar Penychan a Chantref diweddarach Dinas Powys.

At ei gilydd prin yw'r dystiolaeth o weithgarwch cyn y cyfnod canoloesol yn yr ardal gymeriad hon, er i nifer o glostiroedd cynhanesyddol posibl gael eu nodi ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr (NPRN 309,452; PRN 03122s), a chynrychiolir gweithgarwch defodol cynhanesyddol gan faen hir yn dyddio o'r Oes Efydd (PRN 03813s). Ni ddylid diystyru'r posibilrwydd bod safleoedd yn dyddio o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig yn yr ardal ychwaith, yn ddiau mae darnau arian Rhufeinig a ddarganfuwyd (PRN 02961s) yn arwydd o weithgarwch yn yr ardal yn ystod y cyfnod.

Cynrychiolir y cyfnod canoloesol gan olion gwrthgloddiau a geir yn Pancross (NPRN 307,703; PRN 00904s), y nodwyd ei fod yn gastell cloddwaith, neu amddiffynfa gylch tua 30 metr ar ei draws a chanddo feili ar ei ochr orllwinol (CBHC 1991, 122-123). Mae'r Comisiwn Brenhinol o'r farn bod yr amddiffynfa gylch yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif ac mae wedi'i chysylltu â'r teulu Normanaidd Umfraville o Ben-marc, drwy roddion tir sy'n dyddio o'r cyfnod. Mae'n bosibl bod rhagflaenwyr Phillip Payn, tenant yn ôl y ddefod sy'n gysylltiedig ar ddiwedd y 13eg ganrif neu ar ddechrau'r 14eg ganrif â Wrinstwn neu Lanfihangel-y-Pwll, wedi rhoi ei enw i'r ardal; teulu Reigny a theulu Ralegh, a oedd yn berchen ar faenor Llancarfan, ac y gwyddom fod ganddynt gysylltiadau â theulu Umfraville, oedd penarglwyddi teulu Payn (CBHC 1991, 122-123). Mae'r Comisiwn Brenhinol yn cofnodi bod hen ffiniau i'w cael (NPRN 24,329) yn yr ardal i'r de, a dengys y dystiolaeth gartograffig (y map degwm ac argraffiad 1af map yr AO) ardal o glostiroedd mwy afreolaidd eu siâp gerllaw'r amddiffynfa gylch a nodwyd uchod, a ffin gromliniol sy'n ffinio â safle'r amddiffynfa gylch i'r gogledd ac sy'n amgáu ardal lled-grwn o glostiroedd afreolaidd eu siâp, â chyfanswm arwynebedd o ychydig dros 70 erw, a ffiniau eraill (i'r gogledd-orllewin) yn ymestyn allan gan ffurfio clostiroedd unionlin. Mae'n bosibl bod cysylltiad eglwysig am y cofnodir bod yr ardal hon ym meddiant y Parch. Lisle a Meakham Birkin ar fap degwm 1840. Gallai archwilio'r ardal hon, am ei bod wedi'i lleoli gerllaw safle Canoloesol cynnar Llancarfan ac yn eiddo eglwysig ac oherwydd y cysylltiad ffisegol agos rhyngddi â'r olion a nodwyd fel amddiffynfa gylch ganoloesol; na chadarnhawyd ei dyddiad eto drwy waith cloddio, wella ein dealltwriaeth o'r modd y datblygodd y dirwedd amaethyddol a phatrwm anheddu'r ardal.

Nodwyd gwrthgloddiau eraill (PRN 01023s), sy'n cynnwys llwyfandir syml wedi'i dorri i mewn i'r llethr yn Llanfeuthin, fel rhai sy'n dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol; er na nodwyd unrhyw dystiolaeth o adeilad, darganfuwyd crochenwaith yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y safle (GGAT 2000).

Roedd yr ardal yn gysylltiedig yn hanesyddol â'r anheddiad mynachaidd yn Llancarfan, ac yn enwedig yr anheddiad yn Llanfeuthin, safle maenor (a leolir o fewn HLCA 008 gerllaw) yn ystod y cyfnod canoloesol, sy'n gysylltiedig ag abaty Sistersaidd Margam. Dengys cynllun degwm 1840 fod rhywfaint o'r tir i'r gogledd-orllewin o Llanvithyn Farm ac i'r gogledd o Pancross yn eiddo i'r Parchedig William Lisle, sy'n awgrymu o bosibl bod y cysylltiad eglwysig wedi parhau.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Disgrifir Llwyfandir Amaethyddol Llanfeuthin a Llancarfan fel caelun cyfunedig a grëwyd gan arferion ffermio diwydiannol modern. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn cynnwys caeau âr mawr iawn. Mae llawer o ffiniau'r ardal hon wedi diflannu bellach ac er bod gwrychoedd i'w gweld o hyd, mae ffensys postyn a gwifren yn gyffredin. Fel ardal a arferai gynnwys maes agored, byddai'r ardal hon wedi rhannu nodweddion tebyg i ardaloedd eraill yn Llancarfan a'r ardal i'r gorllewin (y tu allan i ffiniau'r dirwedd hanesyddol); yn anffodus mae'r newidiadau amaethyddol mawr a wnaed i'r patrwm caeau drwy waith cyfuno wedi cuddio llawer o'r cymeriad gwreiddiol. Mae nifer fach o ffiniau sy'n gysylltiedig â hen system gaeau ganoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar yr ardal wedi goroesi tua rhan ddeheuol a rhan ogleddol yr ardal gymeriad, er bod y rhain yn parhau i gael eu bygwth gan welliannau amaethyddol. Yma mae'r dirwedd yn cynnwys clostiroedd llai o faint, afreolaidd eu siâp sydd â ffiniau o wrychoedd a chloddiau o bobtu iddynt.

Nodweddir y patrwm anheddu yn yr ardal gan ffermydd gwasgaredig, yn Pancross a Llanvithyn Farm. Er bod nodweddion gwreiddiol y ffermdy megis y ffenestri codi â chwe chwarel i'w gweld o hyd, cynhwyswyd fferm Pancross yn yr ardal cymeriad tirwedd bresennol, am fod rhan helaeth o'r fferm oddi amgylch wedi'i newid yn sylweddol ers arolwg argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879, ac erbyn hyn siediau amaethyddol yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yw nodwedd amlycaf y fferm. Mae adeiladau allan amaethyddol cynharach sy'n gysylltiedig â'r fferm, sy'n cynnwys ysgubor a addaswyd i'w defnyddio at ddibenion preswyl wrth gyffordd y groesffordd, wedi goroesi ac fe'u lleolir o fewn yr ardal gyfagos i'r de (HLCA005).

Mae'r ardal yn cynnwys olion archeolegol creiriol a chladdedig sy'n gysylltiedig â gweithgarwch anheddu blaenorol, megis gwrthgloddiau'r llwyfandir ôl-ganoloesol syml yn Llanfeuthyn (PRN 01023s), a nodwyd mewn cysylltiad â chrochenwaith yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Mae olion amddiffynfa gylch a chastell beili yn Pancross (NPRN 307,703; PRN 00904s) yn rhan ddeheuol yr ardal gymeriad, a oedd wedi goroesi tan yn ddiweddar fel gwrthgloddiau cyfan, yn arbennig o ddiddorol. Disgrifiodd y Comisiwn Brenhinol yr amddiffynfa gylch ganoloesol yn Pancross yn 1991 fel 'much mutilated', ac mae gweithgarwch amaethyddol diweddar wedi gwneud rhagor o ddifrod helaeth i'r heneb (GGAT Curadurol 2007). Mae'r safle hwn yn gynrychioliadol o nodweddion anheddu a nodweddion amddiffynnol, yn ogystal ag olion claddedig clostiroedd a nodwyd ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr ac sy'n dyddio o bosibl o'r cyfnod cynhanesyddol (NPRN 309,452; PRN 03122s).

Mae cysylltiadau yn nodwedd arall ac mae cefnffordd bwysig sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de yn ffurfio ffin orllewinol yr ardal. Ceir hefyd nifer o lwybrau troed a llwybrau, sy'n croesi'r ardal gan gysylltu â Llancarfan, Llanfeuthyn, a Garnllwyd yn nyffryn Nant Llancarfan. Mae Llwybr Treftadaeth y Mileniwm Valeways hefyd yn mynd drwy'r ardal gan gysylltu'r ardal gymeriad hon, sef HLCA 006, ag ardal ehangach y Fro y tu allan i'r ardaloedd cymeriad a hefyd ag ardaloedd cymeriad HLCA 001 a HLCA 002.

Ymhlith mân nodweddion eraill yr ardal mae nodweddion cynhanesyddol ac angladdol a defodol, fel y tystia maen hir (a briodolir i'r Oes Efydd) a chladdedigaeth a allai ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol a chysylltiadau eglwysig, am fod yr ardal yn gysylltiedig yn hanesyddol â'r canolbwynt mynachaidd Canoloesol cynnar yn Llancarfan a safle posibl arall yn Llanfeuthyn ac yn ddiweddarach y faenor Sistersaidd yn Llanfeuthyn yn yr ardal gyfagos (HLCA 008). Mae'r ardal hefyd yn cynnwys mân nodweddion amaeth-ddiwydiannol, ar ffurf chwareli bach ac odynau calch a nodwyd ar argraffiad 1af map yr AO, y mae eu cyflwr yn anhysbys.