Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

012 Ty'n-y-coed


View across HLC012

HLCA 012 Ty'n-y-coed

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; anheddiad anghysbell; archeoleg cynhanesyddol creiriol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ty'n-y-coed yn cynnwys caelun cymysg ar gyrion gogleddol yr ardal tirwedd hanesyddol, a leolir ym mhlwyf hanesyddol Tresimwn. Mae'r rhan ogleddol yn cynnwys caelun rheolaidd o lain-gaeau wedi'u rhannol gyfuno yn bennaf, tra ceir cynllun ychydig yn fwy afreolaidd o gaeau amgaeëdig o wahanol faint i'r de, sy'n awgrymu o bosibl tir a adferwyd o goetir neu dir diffaith, fel y dengys enwau'r ffermydd: Tyddyn-yn-y-coed a Phen Carreg. Mae rhan ogleddol yr ardal gymeriad yn ffinio â rhan o anheddiad llinellol Tresimwn, a nodir ei ffin gan y 'Portway' hanesyddol, sef ffordd yr A48. Mae map degwm Tresimwn dyddiedig 1839 yn cofnodi bod rhan ddeheuol yr ardal yn eiddo i Syr Thomas Aubrey a Thomas John, tra bod rhan ogleddol yr ardal yn dal i gynnwys llain-gaeau yn bennaf, wedi'u rhannu rhwng nifer o wahanol berchenogion. Mae Nant Llancarfan yn rhannu'r ardal o'r gogledd i'r de a hefyd o'r dwyrain i'r gorllewin, am ei bod yn llifo o'r dwyrain ac yn troi wedyn i'r de i lawr drwy'r ardal gymeriad. Gellid ystyried bod gan yr ardal hon gysylltiadau cryfach ag anheddiad Eingl-Normanaidd Tresimwn nag â thirwedd Llancarfan, ymhellach i'r de.

Er y gwyddom fod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, fel y tystia Beddrod Siambrog Sain Nicolas (PRN 00934s), yr ystyrir ei fod yn heneb angladdol ar ffurf cromlech borth, cymharol brin yw ein gwybodaeth am hanes yr ardal tan y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Gwyddom fod y patrwm amaethu canoloesol a oedd yn seiliedig ar y gyfundrefn faes agored yn newid yn ystod y cyfnod hwn dan bwysau newidiadau amaethyddol a gweithgarwch amgáu. Mae llawer o dystiolaeth o gyfundrefn faes agored gynharach yr ardal yn goroesi tan ganol y 19eg ganrif ac mae wedi'i ffosileiddio hyd yn oed ym mhatrwm caeau'r dirwedd ddiweddarach. Erbyn y 19eg ganrif nodweddir patrwm anheddu'r ardal gan ffermydd anghysbell, gwasgaredig sef dwy fferm ôl-ganoloesol i'r de-orllewin o'r ardal: Pen Carreg a Thy'n-y-coed. Mae'r fferm ym Mhen Carreg yn bodoli o adeg argraffiad 1af map yr AO o leiaf ac mae'n cynnwys un rhes hirsgwar o adeiladau ag ychwanegiad bach at ben dwyreiniol ei wyneb blaen deheuol, sy'n ffurfio ongl iard amgaeëdig fach. Ar ochr ogleddol y rhes ceir dau estyniad hirsgwar (outshut), a gynhwysai o bosibl laethdy neu risiau. Yn sefyll ar wahân i'r de ceir rhes linellol o adeiladau amaethyddol sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de, ac ymhellach i'r dwyrain y tu hwnt i Nant Llancarfan (a wnaed yn lletach yn y fan hon i greu pwll neu bwll trochi y dangosir cored yn ei ben gorllewinol ar 3ydd argraffiad map yr AO) ceir adeilad hirsgwar arall ac ychydig i'r gogledd twlc moch hirsgwar dwbl. Nid yw cynllun y cyfadail yn newid fawr ddim rhwng argraffiad 1af a 4ydd argraffiad map yr AO, ac fe'i dangosir fel adfail erbyn arolwg map modern yr AO, ac ar ffotograffau diweddar a dynnwyd o'r awyr. Fodd bynnag, newidiwyd cynllun yr adeiladau fferm sy'n ffurfio Ty'n-y-coed yn sylweddol ers argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879. Bryd hynny dangosir yr adeiladau fel un rhes linellol yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, a gynhwysai yn ôl pob tebyg annedd â beudy ynghlwm wrthi. Mae adeilad allan, neu ysgubor bosibl yn sefyll ar ei ben ei hun i'r de ar ongl naw deg gradd gan ffurfio cynllun siâp T ar ongl o fewn iard hirsgwar sy'n ymledu ac sy'n ymestyn i chwarel linellol i'r de lle y ceir odyn galch gysylltiedig, a thu hwnt i chwarel arall i'r de o Nant Llancarfan. Lleolir adeilad allan bach ychwanegol i'r gogledd, yn ongl iard lled-hirsgwar sydd ynghlwm wrth ochr ogleddol y brif res linellol o adeiladau. Erbyn y dyddiad hwn nodir bod y chwareli yn segur. Ar ddechrau'r 20fed ganrif dymchwelwyd y brif res linellol o adeiladau yn Nhy'n-y-coed a chodwyd annedd siâp T yn ei lle ychydig i'r gogledd; mae'r adeilad ar wahân gwreiddiol i'r de wedi goroesi, a chodwyd grwp bach o strwythurau ar ochr orllewinol y cyfadail. Dengys map modern yr AO fod newidiadau pellach wedi'u gwneud i gyfadail y fferm; mae cynllun llinellol helaeth o siediau amaethyddol modern ac adeiladau eraill wedi cymryd lle'r rhan fwyaf o'r adeiladau ôl-ganoloesol, er ei bod yn bosibl bod y ffermdy yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif wedi'i ymgorffori yn y cyfadail amaethyddol diweddarach.

Ceir tystiolaeth o weithgarwch diwydiannol, o leiaf mewn cysylltiad â gwelliannau amaethyddol a wnaed yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, yn y ffaith bod chwareli segur i'w cael yn rhan dde-orllewinol yr ardal gymeriad hon, a dwy odyn galch (PRN 02618s, 02619s) sy'n dyddio o'r cyfnod hwnnw. Mae un o'r chwareli segur hyn a leolir ynghanol yr ardal gymeriad ac i'r gorllewin ohoni ar ochr ddwyreiniol Nant Llancarfan, mewn ardal o goetir a elwir yn Goed-y-Lan, bellach yn cynnwys gwaith trin carthion.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Mae Ty'n-y-coed yn ardal amaethyddol yn bennaf a nodweddir gan gaelun cymysg lle y gellir gweld dau batrwm; i'r gogledd ac i'r dwyrain o Nant Llancarfan nodweddir y system gaeau yn bennaf gan olion ffosiledig llain-gaeau, elfennau creiriol yr hen faes agored canoloesol; mae'r caeau i'r de wedi'u halinio'n wahanol ac maent ychydig yn llai, er eu bod yn lled-hirsgwar ar y cyfan. Mae'r ffaith bod gan y ddwy ardal hyn batrymau caeau ychydig yn wahanol yn awgrymu o bosibl bod yr ardal ddeheuol yn estyniad i mewn i hen goetir, lle mae cyfuniad o dirffurf, topograffi, a natur y priddoedd wedi effeithio ar faint gwreiddiol y clostir canoloesol hwyr/ôl-ganoloesol cynnar, sydd wedi'i guddio bellach gan weithgarwch cyfuno caeau mwy diweddar.

Nodwedir ffiniau'r caeau yn yr ardal ogleddol gan wrychoedd â choed gwrychoedd nodedig. Mewn cyferbyniad nodweddir y dirwedd amaethyddol yn rhan ddeheuol yr ardal gan gaeau wedi'u cyfuno, afreolaidd o wahanol faint, tra bod y ffiniau yn cael eu ffurfio gan gloddiau â gwrychoedd yn bennaf. At hynny, ceir rhai pocedi bach o goetir llydanddail y dangosir eu bod yn bodoli erbyn argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879. Mae naws gaeedig i'r ardal hon a grëir gan natur ei ffiniau - sef gwrychoedd uchel; mae'r ardaloedd o goetir yn ychwanegu at y naws gaeedig, yn enwedig y goedwig a gofnodir fel Coed-y-Lan ar argraffiad 1af map yr AO.

Nodwedd ddiddorol ar yr ardal hon yw'r dystiolaeth bosibl o weithgarwch angladdol a defodol cynhanesyddol, ar ffurf carreg orweddol a elwir yn Feddrod Siambrog Sain Nicolas (PRNs 00934s a 03901s), a gofnodwyd gynt fel 'fine example of a portal dolmen funerary monument' a oedd 'situated on a slight mound' er nad oedd ffos nac ymylfaen i'w gweld. Dim ond drwy waith archwilio pellach y bydd modd nodi union natur y safle hwn, y bu dadlau yn ei gylch ers hynny.

Nodweddir y patrwm anheddu yn yr ardal hon gan ffermydd ôl-ganoloesol anghysbell. Arhosodd un ohonynt, sef Pen Carreg, fwy neu lai'n ddigyfnewid o argraffiad 1af map yr AO, er ei bod wedi diflannu erbyn hyn. Fodd bynnag, mae'r llall, sef Ty'n-y-Coed, wedi'i newid yn sylweddol ac mae'r adeiladau fferm gwreiddiol wedi'u disodli i raddau helaeth gan gyfadail llinellol diweddar.

Ategir prif gymeriad amaethyddol yr ardal gan weithgarwch ôl-ganoloesol pellach o fath amaeth-ddiwydiannol, a ddangosir gan ddwy odyn galch (02618s a 02619s) a dwy chwarel sy'n dal i fodoli yn rhan dde-orllewinol yr ardal.