Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

004 Llancatal


Aerial view across HLC 004

HLCA 004 Llancatal

Anheddiad ôl-ganoloesol: clystyrog (datblygiad hirgul diweddarach); adeiladau ôl-ganoloesol; nodweddion anheddu ac amaethyddol canoloesol creiriol a chladdedig; cysylltiadau eglwysig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llancatal yn ardal anheddu. Yn ffinio â hi i'r gogledd ac i'r gorllewin ceir caeau cyfunedig mawr ac i'r de ac i'r dwyrain ceir dyffryn Afon Kenson. a ddiffinnir i raddau helaeth gan derfynau'r anheddiad amaethyddol presennol a blaenorol. Mae'r ardal yn cynnwys pentrefan Llancatal ym mhlwyf Llancarfan a'r tyddynnod cysylltiedig yn union gyfagos i'r anheddiad. Mae hefyd yn cynnwys cae mawr sy'n graddol ddisgyn i'r de-orllewin o'r pentrefan presennol, a enwyd yn Bull Close ar fap degwm 1840, mae'r ardal yn cynnwys nifer o gloddiau sy'n gysylltiedig ag anheddiad canoloesol amddifad Llancatal ac sydd mewn cyflwr da (PRN 00691s, 02428s, NPRN 15340, 15341, SAM GM534). Mae'r ardal yn cwmpasu Ardal Gadwraeth anheddiad Llancatal fel y'i nodwyd yn y CDU (Cyngor Bro Morgannwg 2006).

Mae'r dystiolaeth gynharaf o anheddu yn dyddio o'r cyfnod canoloesol fel y tystia nodweddion canoloesol creiriol a daliadau tir cysylltiedig a geir yn yr ardal hon. Yn ystod y cyfnod canoloesol, cynhwysai'r ardal gymeriad bentrefan bach i'r de o'r anheddiad presennol. Gellir gweld olion yr anheddiad canoloesol hwn (PRN 00619s, 02428s, NPRN 15340, 15341, SAM GM534) i'r de-orllewin o bentrefan presennol Llancatal. Mae'r anheddiad wedi goroesi fel cloddiau sydd mewn cyflwr da sy'n diffinio cyfres o glostiroedd neu dyddynnod, y mae rhai ohonynt yn cynnwys llwyfannau tai lle y byddai anheddau wedi sefyll. Mae'r clostiroedd wedi'u trefnu ar hyd llwybr isel/ceuffordd (PRN 00691s; CBHC 1982, 223-4). Oherwydd cyflwr y cloddiau hyn mae'n bosibl bod unrhyw ddyddodion archeolegol cysylltiedig wedi goroesi mewn cyflwr da ac nad amharwyd arnynt ryw lawer. Dangosir yr ardal hon a'r anheddiad canoloesol, a oedd wedi lleihau mewn maint, fel yr oedd wedi goroesi erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar ar fap maenoraidd dyddiedig 1622.

Mae Llancatal wedi'i gysylltu'n betrus â Lan Hoitlan, safle eglwys Ganoloesol gynnar y mae ei lleoliad yn anhysbys; nodir i Lan Hoitlan, y ceir sôn amdano'n gyntaf yn y siarteri sydd wedi'u hatodi i Fywyd Cadog Sant, fel sefydliad Canoloesol cynnar a fodolai eisoes, gael ei roi i Cadog Sant gan Catlon. Roedd Wade-Evans o'r farn bod Catlon yn gysylltiedig, o bosibl, â'r enw lle Talcatlan=Llancatal, ac os felly, mae'n bosibl mai Lan Hoitlon yw safle Capel Llancatal (Wade-Evans 1932, 153-4 rhif 3), fodd bynnag gwrthodwyd hyn yn llwyr gan awdurdodau eraill (Pierce 1968, 86).

Cyfeirir at olion ffisegol capel yn Llancatal, a ddymchwelwyd bellach, yr ystyrir eu bod yn dyddio o'r 14eg ganrif yn yr Arolwg o Drysorau'r Sir a wnaed yn y 1970au (Cyngor Sir De Morgannwg 1970); dangosir y capel (a fu gynt yn rhestredig Gradd II LB 13604) ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879, ac ar ffynhonellau eraill (PRN 00496s); dywed Cyngor Sir De Morgannwg i'r capel gael ei ddefnyddio fel bwthyn, fel y dangosir gan fap degwm Llancarfan 1840, sy'n cofnodi'r ardal fel Bwthyn a Gardd, a oedd yn cael eu dal gan William Rees a Thomas Evan fel tenantiaid ac a oedd yn eiddo i Robert Oliver Jones. Er i'r adeilad hwn gael ei ddymchwel yn 1969 i wneud lle am dai (PRN 00496s), mae'n bosibl bod olion wedi goroesi dan ddaear.

Arferai'r ardal fod yn rhan o'r tir hwnnw a roddwyd i ddeon a chabidwl Caerloyw ac fe'i dangosir felly ar y map degwm, cofnodir hefyd fod yr ardal yn eiddo i rywun o'r enw Robert Oliver Jones. Mae'r map degwm hefyd yn dangos y caelun o amgylch Llancatal fwy neu lai fel y mae heddiw, ac mae'n cynnwys caeau amgaeëdig afreolaidd eu siâp sydd at ei gilydd yn fawr, dengys hyn i'r broses amgáu ddigwydd cyn i fap degwm 1840 gael ei lunio: yn wir dengys y map o'r faenor dyddiedig 1622 fod y broses o gyfuno caeau yn mynd rhagddi erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, er bod yr ardal yn dal i gael ei nodweddu'n bennaf gan y gyfundrefn faes agored o lain-gaeau.

Drwy gymharu system fapio fodern landline yr AO, a'r mapiau hanesyddol sydd ar gael gellir gweld bod stoc adeiladau'r anheddiad wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd a bod cryn dipyn wedi'i ychwanegu ati. Ar wahân i Llancadle Farmhouse, Lower Llancadle Farm a thafarn y Green Dragon, y dangosir pob un ohonynt ar y map maenoraidd yn dyddio o'r 17eg ganrif, nid ymddengys fod y rhan fwyaf o'r anheddau a ddangosir ar y mapiau hanesyddol yn bodoli bellach, er bod angen cynnal arolwg manwl i gadarhau hyn.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Llancatal heddiw fel anheddiad clystyrog, digynllun, sy'n cynnwys datblygiadau hirgul a mewnlenwi diweddar. Gellir dangos bod cynllun yr anheddiad i raddau helaeth yr un peth â'r cynllun a fodolai yn yr 17eg ganrif, sydd yn ei dro yn cynrychioli'r hyn sy'n weddill o anheddiad canoloesol mwy helaeth sydd wedi lleihau mewn maint. Mae olion yr anheddiad canoloesol amddifad (SAM GM534, NPRN 15341, PRN 00691s, 02428s), hefyd yn cyfrannu at gymeriad hanesyddol cyffredinol Llancatal. Mae olion pentref canoloesol amddifad yn rhan ddeheuol yr ardal gymeriad wedi goroesi fel cloddwaith sydd mewn cyflwr cymharol dda, ac olion crasu sy'n cynrychioli cyfres o glostiroedd neu dyddynnod, â llwyfannau tai cysylltiedig, a cheuffordd. Dengys y map degwm ardal yr anheddiad amddifad fel un clostir hirgrwn o'r enw Bull Close, tra dengys y map maenoraidd dyddiedig 1622 nifer o glostiroedd yn yr ardal: Westerclose, y Trench a'r Acre, ymhlith eraill, a cheuffordd yn mynd o'r de-ddwyrain o Marsh Way (terfyn deheuol pellaf Lancadle Street) i randiroedd Townsmeade yn Nyffryn Kenson i'r dwyrain. At hynny gellir gweld dau dyddyn hirsgwar bach a leolir yn agos at ei gilydd gerllaw terfyn de-ddwyreiniol y geuffordd. dangosir tro sydyn yn y geuffordd rhwng y tyddynnod hyn.

Mae'r anheddiad presennol yn Llancatal yn cynnwys llinell hirgul o dai ar hyd y briffordd a chlwstwr o adeiladau o amgylch cyffordd y briffordd hon â ffordd fynediad fferm Llancadle, yr ymddengys ei bod yn ffurfio prif echel yr anheddiad ar ddechrau'r 17eg ganrif ac yn ystod y cyfnod canoloesol hefyd yn ôl pob tebyg. Mae prif ganolbwynt yr anheddiad heddiw o amgylch fferm Llancadle a gerllaw'r groesffordd. Dengys y map maenoraidd dyddiedig 1622 bentref Llancatal fel anheddiad clystyrog wrth gyffordd lonydd sy'n arwain i'r gefnwlad amaethyddol, gydag anheddau ar ymyl tyddynnod bach a chae agored i'r gogledd sydd wedi'i rannu'n lleiniau cul rhannol amgaeëdig. Bryd hynny roedd yr anheddiad yn cynnwys clwstwr o 13 o ffermydd wedi'u trefnu o amgylch llain led-drionglog ag iard afreolaidd ei siâp; i'r gogledd-orllewin o'r iard hon ymestynnai'r 'Plashed Waye', llwybr amaethyddol, a ddangosir ar 3ydd argraffiad map yr AO, tua'r gorllewin i'r doldiroedd ar hyd Dyffryn Afon Ddawan; mae'r llwybr i'w weld o hyd. Hen gapel anwes Llancatal oedd canolbwynt yr anheddiad, a oedd wedi'i addasu'n ffermdy erbyn yr adeg hon (dymchwelwyd olion y ffermdy o'r diwedd yn ystod yr 20fed ganrif). Mae 'Llancadle Streete', sef y prif lwybr i Lancarfan, drwy Middlecross a Pancross yn mynd drwy ran orllewinol isaf yr anheddiad. Mae'n amlwg bod cynllun cyffredinol yr anheddiad presennol yn adlewyrchu i raddau helaeth y cynllun ôl-ganoloesol cynnar, er mai prin yw'r tai gwreiddiol sydd wedi goroesi ac mae adeiladau ychwanegol wedi mewnlenwi'r datblygiad hirgul i'r gogledd ar hyd y ffordd i Middlecross.

Erbyn hyn ymddengys fod pentrefan Llancatal yn cynnwys anheddau yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn bennaf; fodd bynnag mae adeiladau hyn wedi goroesi ac mae'r rhain wedi cadw cryn dipyn o'u cymeriad gwreiddiol; fel arfer maent wedi'u rendro a'u gwyngalchu ac mae ganddynt gyrn simnai o frics a cherrig sydd wedi goroesi. Mae tai Lower Llancadle a thafarn y Green Dragon sydd wedi goroesi, a ddangosir ar y map maenoraidd dyddiedig 1622 ac a nodir ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879 a mapiau diweddarach, yn nodweddiadol o'r anheddiad fel yr oedd ar ddechrau'r 17eg ganrif; maent yn rhesi unionlin yn nodweddiadol, a chanddynt estyniad neu 'outshut' yn y cefn. O'r strwythurau cynnar sydd wedi goroesi yn yr anheddiad yr unig strwythur a ddangosir mewn unrhyw fanylder, ar wahân i'r capel sydd wedi'i ddymchwel bellach, yw tafarn y Green Dragon; roedd yr adeilad hwn wedi'i gofnodi cyn hynny fel ty bychan, gwyngalchog â mynediad drwy'r talcen yn dyddio o'r 17eg ganrif gydag ychwanegiadu diweddarach o dan do gwellt â ffenestr 'ael' dros yr atig, a'r tu mewn iddo roedd gan y neuadd nenfwd â thrawstiau a grisiau troellog. Ailfodelwyd yr adeilad ar raddfa fawr y tu allan ac mae wedi colli ei do gwellt, ac fe'i hymestynnwyd.

Rhwng tafarn y Green Dragon a Lower Llancadle mae tai diweddar yn dyddio o'r 20fed ganrif wedi disodli nifer o fythynnod a leolir yn agosach at y lôn. Saif adeilad presennol Llancadle Farmhouse, strwythur hirsgwar mawr, tua rhan orllewinol yr anheddiad, o fewn yr un ôl troed a lenwir gan yr adeilad a ddangosir ar argraffiad 1af map yr AO, ac efallai'r un a ddangosir ar y map maenoraidd dyddiedig 1622. Gerllaw i'r gogledd ceir rhes fawr siâp U o adeiladau amaethyddol, a nifer o strwythurau ar wahân sy'n dyddio o ail hanner y 19eg ganrif. Mae'r rhain wedi disodli trefniad clystyrog o adeiladau allan a ddangosir ar fap degwm 1841, ymddengys fod un o'r strwythurau hyn wedi goroesi, adeilad allan (NPRN 37,579), a all fod yn un o'r adeiladau amaethyddol hefyd (h.y. yr adeiladau hynny heb simneiau) a ddangosir ar y map maenoraidd dyddiedig 1622. Nodweddir y ffiniau o fewn yr anheddiad gan waliau wedi'u plastro â morter yn bennaf, er y ceir gwrychoedd hefyd tua'r cyrion.

Mae gan yr ardal gysylltiadau eglwysig hirsefydlog hefyd; y tyb yw bod eglwys ganoloesol gynnar yn Llancatal a oedd yn gysylltiedig â'r abaty yn Llancarfan (PRN 00496s; Cyngor Sir De Morgannwg 1970, cerdyn AO ST 06 NW 16). Ceir cysylltiadau eglwysig eraill megis safle'r capel anwes yn dyddio o'r 14eg ganrif, a ddymchwelwyd bellach, a'r ffaith i diroedd yn yr ardal gael eu rhoi i Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw.

At hynny mae'r cysylltiad rhwng yr ardal gymeriad hon a'r dirwedd oddi amgylch, o fewn ffiniau'r dirwedd hanesyddol a thu hwnt, yn bwysig o gofio'r cyfoeth o dystiolaeth ddogfennol sy'n dangos ffurf flaenorol y dirwedd a'r modd y datblygodd ar ôl hynny o fod yn un a gynhwysai olion y gyfundrefn faes agored ganoloesol yn bennaf ar ddechrau'r 17eg ganrif i fod yn dirwedd o dir amgaeëdig at ei gilydd yn cynnwys caeau wedi'u cyfuno erbyn canol y 19eg ganrif.