Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Lancarfan

Themâu a Phrosesau Hanesyddol

Y Dirwedd Naturiol

Mae tirwedd hanesyddol Llancarfan yn cynnwys coridor afon neu nant cymharol gul a dorrwyd drwy lwyfandir isel ychydig yn donnog Bro Morgannwg. Bu tirwedd naturiol tirwedd hanesyddol Llancarfan, a'r Fro yn gyffredinol, yn newid o ganlyniad i weithgarwch dynol ers y cyfnod Neolithig o leiaf os nad ynghynt. Yn ei hanfod mae tirwedd gyffredinol yr ardal yn cynnwys dyffryn bas, fwy neu lai, Nant Llancarfan, sy'n ymestyn i'r de-orllewin o'i gwahanfa ddwr ychydig i'r de o Dresimwn, a'i isnentydd, sef Nant Whitton, Moulton Brook, a gyflenwir ei hun â dwr o Ford Brook, sy'n llifo i mewn i ymuno â hi o'r gogledd-ddwyrain, nes iddi gyrraedd ei chymer ag Afon Waycock i'r dwyrain; o'r fan honno mae grym cyfunol y cyrsiau dwr hyn, a elwir bellach yn Afon Kenson, yn llifo i'r gorllewin heibio i Lancatal i ymuno ag Afon Ddawan. Mae'r gwahanol isnentydd ac isafonydd yn torri drwy'r llwyfandir amaethyddol i'r dwyrain o brif ddyffryn afon Nant Llancarfan i ffurfio dyffrynnoedd ochr mwy serth sy'n amlinellu esgeiriau tua 60m o uchder wrth eu cymerau Ar yr ochr orllewinol mae gweithrediadau nentydd wedi cael llai o effaith ar dirwedd y llwyfandir calchfaen. Lleolir anheddiad Llancarfan ei hun mewn man wasgu yn y dyffryn ychydig i'r gogledd o gymer Nant Llancarfan a Moulton Brook; i'r gogledd ac i'r de o'r fan hon mae'r dyffryn yn mynd yn lletach.

Ceir ardaloedd sylweddol o goetir hynafol ar draws rhannau helaeth o'r dirwedd hanesyddol, yn arbennig ar lethrau mwy serth y dyffrynnoedd, a oedd yn llai addas i'w defnyddio at ddibenion amaethyddol, megis o fewn HLCA008, er enghraifft mae Coed Garn-llwyd yn SODdGA (Coetiroedd Nant Whitton), a'r coetir lled-naturiol Hynafol ar y llethrau i'r de o Caemaen Farm ac oddi tani. Ceir darnau gweddilliol eraill o Goetir Hynafol yn HLCA002 i'r gogledd ac i'r de o Fryngaer Castle Ditches, gan gynnwys coetir Breach Wood, yr ymddengys iddo gael ei enwi ar ôl y grefft leol o deilwra. Gellir olrhain dangosyddion coetir a fu'n helaethach gynt, nid yn unig o weddillion coetir, ond hefyd glostiroedd bach afreolaidd, gwrychoedd ac iddynt gymeriad sbesimen a chymeriad coetir mynych ac elfennau enwau lleoedd sy'n ymwneud â choetir, megis Ty'n-y-coed (HLCA012). Mewn mannau eraill dangoswyd bod y matrics o goetir a chlostiroedd yn deillio o gymysgedd o asart canoloesol, h.y. gweithgarwch clirio coetiroedd, a gwaith a wnaed i amgáu tir diffaith agored; mae'n bosibl i ardaloedd bach o fewn HLCA008 ac mewn mannau eraill yn y dirwedd hanesyddol ddatblygu drwy broses debyg, fodd bynnag, byddai angen gwneud rhagor o waith arolygu manwl i nodi'r cyfnod pryd y bu'r prosesau ffurfio tirwedd hyn ar waith a faint o dir yr effeithiwyd arno. O gofio'r crynhoad o aneddiadau amddiffynedig cynhanesyddol yn yr ardal mae'n debyg bod y llwyfandiroedd ar y naill ochr a'r llall i Nant Llancarfan a'i hisnentydd wedi'u clirio a bod pobl yn amaethu'r tir o gyfnod cynnar.

Nid ymchwiliwyd eto i'r dystiolaeth o weithgarwch rheoli coetir mewn perthynas â choetir lled-naturiol hynafol yr ardal, er ei bod yn debyg y byddai coetir yr ardal, yn ogystal â hawliau mesobr, wedi darparu amrywiaeth o adnoddau i'r gymuned leol, ffynhonnell coed ar gyfer adeiladu ac at ddibenion amaethyddol a domestig ar gyfer tanwydd a diwydiannau crefft, ac efallai llosgi golosg.

Yn ôl i'r brig

Rhaniadau gweinyddol hanesyddol

Lleolir y dirwedd hanesyddol o fewn ffiniau ôl-ganoloesol Sir Forgannwg, sydd wedi'i rhannu'n ddau ranbarth sy'n wahanol yn ffisegol, sef Blaenau Morgannwg sy'n ardal ucheldirol ar lwyfandir uchel o Dywodfaen Pennant, a Bro Morgannwg, ardal o iseldir ar lwyfandir calchfaen ychydig yn donnog a ddyrennir gan ddyffrynnoedd afonydd bas. Lleolir Llancarfan yn yr ardal olaf.

Cyn y goresgyniad Normanaidd, roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Morgannwg a chyn hynny teyrnas gynnar Glwysing, a enwyd ar ôl Brenin cynnar o'r enw Glywys. Yn ôl traddodiad roedd Glwysing wedi'i rhannu'n saith rhanbarth gweinyddol neu gantref, tra bod ffynonellau yn dyddio o'r 12fed ganrif yn haeru i'r cantrefi hyn gael eu henwi ar ôl meibion Glywys. Yn draddodiadol roedd pob cantref wedi'i rannu'n gymydau, y cynhwysai pob un ystadau neu faenorau yn cynnwys nifer o drefi, neu drefgorddau. Yn draddodiadol lleolid tiroedd Glwysing rhwng Afon Tywi ac Afon Llwyd, ond ymddengys fod y ffiniau yn eithaf cyfnewidiol am fod tiriogaeth wedi'i cholli i'r gorllewin i Ddyfed a thir wedi'i ennill i'r dwyrain i gwmpasu Gwent a theyrnas Ergyng. O ddiwedd y 10fed ganrif roedd tiriogaethau Gwent, Gwyr a Glwysing wedi'u huno o dan enw Morgannwg gan Morgan Hen ab Owain. Cynhwysai'r diriogaeth a ffurfiai Forgannwg cyn y Goresgyniad Normanaidd y cantrefi canlynol: Gwrinydd (Gorfynydd), Penychan, Senghennydd, Gwynllwg, cymydau Afan a Nedd, yn ogystal â thiroedd yng Ngwent. Lleolid Llancarfan, Llanfeuthin, Tresimwn, Pen-marc, a Llantriddyd, yn ogystal ag ardaloedd cyfagos eraill yng nghantref Penychan. Ar ôl i'r Normaniaid oresgyn y rhanbarth tua 1091, roedd yr ardal hon yn rhan o'r 'shire-fee', yng Nghantref Dinas Powys, yn sir Normanaidd Morgannwg (Richards 1969).

Mae'n amlwg, oherwydd ansawdd y tir amaethyddol, y byddai'r ardal wedi cynnal poblogaeth gymharol fawr o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Mae'n bosibl bod pobl wedi parhau i fyw mewn rhai o'r clostiroedd amddiffynedig a'r bryngeyrydd o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar i mewn i'r cyfnod canoloesol cynnar, megis yn Castle Ditches a Chastell Moel, yn wir ymddengys i'r safle olaf gael ei addasu yn dilyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd i wasanaethu fel canolfan faenoraidd.

Yn sgîl y goresgyniad Normanaidd yn rhan olaf yr 11eg ganrif chwalodd y deyrnas Gymreig a chrewyd arglwyddiaeth Normanaidd Morgannwg. Daeth Robert Fitzhamon yn llywodraethwr ar yr arglwyddiaeth newydd hon drwy ei goresgyn; roedd wedi chwarae rhan allweddol bwysig yn y goresgyniad Normanaidd o'r deyrnas Gymreig o ganolfan yng Nghaerloyw yn ôl pob tebyg. Nid yw'n hollol glir sut y llwyddwyd i oresgyn y deyrnas Gymreig, ond mae'n amlwg nad oedd yr ardal a oresgynnwyd yn cynnwys y deyrnas gyfan, am fod yr ardal a oresgynnwyd yn gyfyngedig i ardal sy'n cyfateb fwy neu lai i ardal Bro Morgannwg.

Ar ôl y goresgyniad cyntaf hwn gwelodd system weinyddol yr ardal lawer o newidiadau yn ystod y cyfnod canoloesol. Rhoddodd Fitzhamon diroedd o fewn yr arglwyddiaeth yr oedd newydd ei goresgyn i Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw ac Abaty Tewkesbury a rhannodd weddill yr ardal fel maenorau demên a maenorau rhyngddo'i hun fel arglwydd y gororau ar Forgannwg a'i ddilynwyr; ni ddeellir yn llawn i ba raddau y mae'r rhoddion tir yn adlewyrchu neu'n newid ffiniau daliadau tir cynharach a ffurfiai'r dirwedd cyn y goresgyniad Normanaidd, mae'n bosibl i ffiniau tir a daliadau cynharach gael eu cadw o fewn y rhoddion tir hyn.

Mae ffiniau plwyfi a ffiniau maenoraidd yn defnyddio nodweddion ffisegol yn y dirwedd, ac fel arfer maent yn nodweddion hirbarhaol a cheidwadol yn y dirwedd; am y rheswm hwn lle y bu'n bosibl mae ffiniau'r ardal gymeriad wedi mabwysiadu hen ffiniau maenoraidd neu hen ffiniau plwyfi, lle y gellir gweld bod y rhain yn adlewyrchu'n fras amrywiadau cyfatebol mewn cymeriad.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau amaethyddol

Prin yw'r dystiolaeth uniongyrchol o'r defnydd a wnaed o'r dirwedd amaethyddol bresennol yn y cyfnod cynhanesyddol; er bod y bryngeyrydd a'r clostiroedd amddifynedig a geir yn yr ardal, megis Gwersyll Llanfeuthin, Castell Moel, a Castle Ditches, sy'n dyddio o'r Oes Haearn, yn dystiolaeth o weithgarwch anheddu erbyn diwedd y cyfnod cynhanesyddol o leiaf ac yn gysylltiedig ag ef weithgarwch ar raddfa fawr i glirio'r coetir oddi amgylch i alluogi amaethyddiaeth gymysg, er mai amaethyddiaeth fugeiliol a geid yn bennaf yn ôl pob tebyg. Mae tystiolaeth amgylcheddol yn awgrymu i'r gweithgarwch clirio gynyddu'n sylweddol yn ystod yr Oes Haearn, ac iddo barhau i mewn i'r cyfnod Brythonaidd-Rufenig, pan fu pobl yn byw mewn bryngeyrydd a chlostiroedd amddiffynedig.

Economi fugeiliol a geid yn bennaf, ac yn groes i safbwyntiau cynharach archwiliwyd y rhan fwyaf o'r safleoedd yng Nghymru sy'n dyddio o'r Oes Haearn a'r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig yn ddigon manwl i ddarparu tystiolaeth o amaethu tir âr. Prin yw'r dystiolaeth amgylcheddol uniongyrchol o arferion amaethyddol cynnar yn yr ardal, er i ymgais gael ei wneud i amcangyfrif lleiafswm yr anifeiliaid domestig a oedd i'w cael yn yr arteffactau a gasglwyd o Castle Ditches (Parkinson 1976): canfuwyd bod nifer gyfartal o ddefaid neu eifr neu Wartheg ymhlith yr arteffactau a bod tua chwarter y defaid wedi'u lladd yn ifanc, bod dau asgwrn yn perthyn i foch anaeddfed a bod y gweddill yn perthyn i anifeiliaid llawn dwf. Mae olion planhigion llawn dwr o'r ffynnon yn Whitton, ffermdy amddiffynedig yn dyddio o'r Oes Haearn a'r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig, a leolir ychydig i'r dwyrain o'r dirwedd hanesyddol yn gysylltiedig ag amgylchedd lleol o blanhigion sy'n awgrymu o bosibl dirwedd amaethyddol sefydledig yn cynnwys cymysgedd o chwyn sy'n gyffredin i dir âr a thir diffaith a nodwyd (Wilson 1981; Caseldine 1990). Fodd bynnag, ni nodwyd unrhyw olion ffisegol o glostiroedd na nodweddion amaethyddol cysylltiedig yn dyddio o'r cyfnod eto.

Gellir olrhain caelun y rhan fwyaf o ardal Llancarfan at y system gaeau agored a fodolai yn ystod y cyfnod canoloesol. Er mai'r farn gyffredin yw i'r system hon gael ei chyflwyno gan y Normaniaid (Emery 1971, 155), mae'n bosibl bod y tir wedi'i drefnu mewn ffordd debyg ar gyfer amaethyddiaeth cyn y goresgyniad Normanaidd (Kissock 1991). Ystyriwyd mai'r cyfnod canoloesol yw'r cyfnod cynharaf y gellir olrhain darnau sylweddol o'r dirwedd fodern ato; er y gall hynny fod yn wir ar hyn o bryd, efallai y bydd gwaith archwilio/astudio yn y dyfodol yn taflu mwy o oleuni ar y pwnc ac yn ein galluogi i ail-greu i ryw raddau y dirwedd a oedd yn gysylltiedig ag aneddiadau canoloesol cynnar Llancarfan.

Byddai'r systemau caeau agored wedi'u rhannu'n lleiniau wedi'u gwahanu gan gloddiau tyweirch, a elwir yn llain-gaeau (daliad tir mewn cae cymunedol). Mae'r dull o reoli systemau caeau agored, megis y rhai ym Mhen-onn, ac mewn mannau eraill yn awgrymu cymysgedd nodweddiadol o dir âr, tir pori cymunedol, a reolid drwy gytundeb rhwng deiliaid y lleiniau. Ymddengys i'r mathau hyn o ddaliadau gael eu gweithio'n gymunedol. Yn ddiau ceir yr enghreifftiau gorau o gaeluniau creiriol y cyfnod canoloesol yn Llancarfan a'r rhai helaethaf yn HLCA008 Llanfeuthin a Garnllwyd, yn HLCA011 o amgylch Castell Moel (Liege Castle), yn yr ardal o amgylch Middlehill (HLCA007), lle mae nifer o lain-gaeau wedi'u ffosileiddio i'w gweld o hyd, ac yn HLCA002 ac i'r dwyrain ohoni gerllaw Pen-onn. Yma, yn rhannol o dan berchenogaeth Deon a Chabidwl Abaty Caerloyw, goroesodd y patrwm canoloesol o lain-gaeau fel daliadau gwasgaredig tan ganol y 19eg ganrif. Byddai'r patrwm o ddaliadau gwasgaredig o dan berchenogaeth leyg ac eglwysig yn awgrymu bod tir a fu gynt yn eiddo i'r eglwys ganoloesol gynnar a roddwyd i sefydliadau Benedictaidd Normanaidd wedi parhau i gael ei ffermio mewn ffordd debyg i ddaliadau eraill o fewn y system gaeau agored, ac iddo gael ei ffermio o bosibl gan denantiaid lleyg.

Mae nodweddion amaethyddol creiriol eraill wedi goroesi i'r de-orllewin o Lancatal yn HLCA004; mae'r rhain yn rhan o'r system ehangach, a ymestynnai y tu hwnt i derfynau presennol y dirwedd hanesyddol i'r gogledd tua Llanbydderi ac a gofnodir ar fap maenoraidd dyddiedig 1622. Mae'r ffaith y gall y gorau o'r systemau caeau hyn fod wedi'u lleoli y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol bresennol ar y Gofrestr yn werth sylw. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys i wahanol raddau olion llain-gaeau sy'n nodweddiadol o'r system gaeau agored wedi'u ffosileiddio fel ffiniau o fewn y dirwedd bresennol o gaeau cyfunedig, amrywiol.

Dengys y map o faenor Llancatal dyddiedig 1622 a arolygwyd gan Evans Mouse fel rhan o arolwg ehangach o diroedd Bolingbroke y system gaeau agored pan oedd y system honno a'r system faenoraidd a hyrwyddodd ei datblygiad yn dirywio. Serch hynny mae'r map hwn yn bwysig am ei fod yn dangos faint o batrwm caeau canoloesol yr ardal a oedd yn dal i fodoli ar ddechrau'r 17eg ganrif ac yn darparu tystiolaeth o arferion ffermio. Cynhwysai'r meysydd agored grwpiau o randiroedd neu leiniau, y cynrychiolai pob llain ddiwrnod o aredig gan wedd ychen y pentref. Er mwyn sicrhau bod y tir âr gorau yn cael ei rannu'n deg, ni allai un tenant fod yn berchen ar unrhyw leiniau cyfagos. Câi doldir ei rannu mewn ffordd debyg, a rhoddwyd gwerth mawr ar y doldir cyffredin a geid yn Llancatal (yn HLCA003), yn ystod y cyfnod canoloesol; pan ddisodlwyd gwasanaethau gan renti cynhyrchai doldiroedd fwy fesul erw na thir âr, dwywaith gymaint fel arfer. Nodweddir y system hefyd gan dyddynnod amgaeedig gerllaw'r fferm, lle y gellid magu da byw (Davies 1957).

Drwy astudio map degwm Llancarfan gellir gweld bod y rhandiroedd ar wahân wedi'u ffosileiddio o fewn y dirwedd amgaeedig fel caeau llinellol cul, gerllaw clostiroedd eraill a grëwyd drwy gyfuno daliadau i greu clostiroedd mwy o faint. Cynhwysai'r broses hon amgáu meysydd agored o dir âr, doldir cyffredin ac i raddau llai tir comin neu dir diffaith Mae'r dirwedd bresennol o ddaliadau fferm wedi'u cyfuno wedi'i ffurfio i raddau helaeth erbyn canol y 19eg ganrif (map degwm Llancarfan), ac eithrio'r ardal i'r dwyrain o Ben-onn a oedd yn eiddo i Ddeon a Chabidwl Abaty Caerloyw, a'r ardal i'r de o Dresimwn, lle mae daliadau gwasgaredig o'r system gaeau agored i'w cael o hyd wedi'u rhannol ffosileiddio. Roedd rhagor o waith wedi'i wneud i gyfuno lleiniau, a symleiddio clostiroedd erbyn arolwg argraffiad 1af map 25 modfedd yr AO. Ar ôl hynny ni fu fawr ddim newid yng nghaelun yr ardal tan ddiwedd yr 20fed ganrif pan adlewyrchir arferion ffermio a oedd yn newid unwaith eto mewn cynnydd sydyn mewn gweithgawrch cyfuno clostiroedd ar y llwyfandiroedd amaethyddol (HLCA006 yn arbennig, a HLCA005 i raddau llai), a chliriwyd gwrychoedd i greu'r caeau mawr tebyg i beithiau sydd eu hangen i sicrhau cynhyrchiant amaethyddol ar raddfa fawr a chynyddu'r defnydd o beiriannau. Mae cyfyngiadau topograffaidd, a gwahanol berchenogaeth, wedi cyfyngu'r newidiadau hyn i raddau i'r llwyfandiroedd amaethyddol mwy gwastad ac maent wedi atal clostiroedd llai o faint rhag cael eu colli o fewn terfynau'r dyffrynnoedd afon.

Nodwyd lleiniau bach o glostiroedd afreolaidd ar gyrion coetir hynafol sydd wedi goroesi a choetir llydanddail arall, er enghraifft yn HLCA008 i'r de-ddwyrain o Gowlog ac i'r de o Caemaen Farm, ac mewn ardaloedd lle y ceir enwau lleoedd dangosol sy'n ymwneud â choetir, megis Ty'n-y-coed, yng nghwr deheuol HLCA 009; mae hyn yn dynodi o bosibl weithgarwch amgáu a chlirio coetir tameidiog diweddarach, neu weithgareddau asartio. Nid yw'n glir a yw hyn yn ymwneud ag ehangu amaethyddol yn ystod y cyfnod canoloesol neu'r cyfnod ôl=-ganoloesol cynnar.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Anheddu

Mae gweithgarwch anheddu yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol ac fe'i nodweddir gan nifer o glostiroedd amddiffynedig cynhanesyddol, sy'n cynnwys y fryngaer bwysig yn HLCA002 i'r de-ddwyrain o anheddiad presennol Llancarfan, a elwir yn Castle Ditches (SAM GM071; PRN 00383s). Mae'r safle hwn yn fryngaer unclawdd ag arwynebedd o tua 4.2 ha a leolir ym mhen gorllewinol esgair sy'n graddol godi i'r dwyrain ac yn disgyn yn serth ar ochrau eraill; fe'i hamddiffynnir ar yr ochr ddwyreiniol gan ragfur cryf a ffos â gwaelod gwastad ac amddiffynnir ei hochrau eraill gan glawdd allanol serth, yr ymddengys fod ganddo wyneb o gerrig yn wreiddiol, a lleolir ffos a gwrthglawdd, a mynedfa i'r de. Mae'r fynedfa yn troi i mewn ychydig ar yr ochr ddwyreiniol ac fe'i hamddiffynnir gan ddau glawdd a ffosydd sy'n ymestyn o'r prif glostir. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu anheddu parhaol ar y safle, a bod pobl yn byw yma o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol drwy'r cyfnod Rhufeinig ac efallai i mewn i'r cyfnod canoloesol cynnar, fel yr awgrymir gan dystiolaeth ddogfennol, er na wyddom p'un a fu'r anheddu yn ddi-dor ai peidio. Ymddengys fod y fryngaer ddiweddarach yn sefyll ar safle clostir cynharach a oedd yn llai o faint, wedi'i gynllunio'n wahanol ac wedi'i amddiffyn gan waliau cerrig. Y tu mewn iddo darganfuwyd sylfeini cwt crwn sy'n gysylltiedig â theilchion B plaen a ddarganfuwyd sy'n dyddio o'r Oes Haearn, yn ogystal â theilchion ag addurniadau tebyg i'r rhai a ddarganfuwyd ar wastadeddau Gwlad yr Haf, a chrochenwaith Rhufeinig yn dyddio o'r 2il-4ydd ganrif. Gellir gweld rhagor o nodweddion amddiffynnol sy'n dyddio o'r un cyfnod, fwy neu lai, yng Ngwersyll Llanfeuthin sy'n dyddio o'r Oes Haearn (HLCA008), SAM GM293, a Chastell Moel (SAM GM298) yn HLCA011, lle mae safle 'maenor' â ffos o'i amgylch a elwir yn Liege Castle yn brawf pendant bod olion y fryngaer unclawdd wedi'u hailanheddu yn ystod y cyfnod canolesol. Mae'n bosibl bod safleoedd olion cnydau a nodwyd ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn HLCA 005 a 006 hefyd yn aneddiadau amddiffynnol yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol neu efallai'r cyfnod canoloesol cynnar.

Hyd yma prin yw'r gwaith dadansoddi manwl a wnaed ar batrwm anheddu'r ardal sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Llancarfan a'r ardal o'i amgylch, er i rywfaint o sylw gael ei roi i gynllun anheddu canoloesol cynnar yr anheddiad gan Jeremy Knight, sydd wedi dadlau bod y dystiolaeth ddogfennol (penodau 48-54 o Vita Cadoci) yn rhoi i ni ryw syniad am y modd y defnyddiai'r gymuned fynachaidd yn Llancarfan dirwedd amaethyddol yr ardal cyn y goresgyniad Normanaidd; credir bod cymuned o 36 o ganoniaid, yr oedd gan bob un ohonynt brebend o 80 erw, yn Llancarfan ar un adeg. Câi'r tir ei weithio gan gymuned leyg, a ddisgrifir fel hortolani neu daeogion, er ei mwyn ei hun ac er mwyn y canoniaid. Mae Knight hefyd wedi nodi llawer o'r lleoedd a nodwyd yn y testun sy'n gysylltiedig â safle mynachaidd Llancarfan, a lleolir y rhain nid yn unig ym mhlwyf Llancarfan, ond hefyd ym mhlwyfi Pen-marc a Phorthceri (Knight 1984, 395-8).

Mae Davies ac eraill wedi datgan bod patrwm anheddu cnewyllol yr ardal, ynghyd â'r system gaeau agored a'i nodweddai gynt, i'w priodoli i wladychu gan y Normaniaid. fodd bynnag, yn ei erthygl ar darddiad aneddiadau gwledig canoloesol ym Morgannwg mae Kissock (Kissock 1991, 31-49) yn awgrymu y gallai'r broses o ffurfio aneddiadau cnewyllol yn Llancarfan ac mewn mannau eraill ym Morgannwg fod yn ffenomenon llawer cynharach. Mae Kissock yn nodi bod gan Lancarfan nodweddion sylfaenol ystad luosog, yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig neu'r cyfnod canoloesol cynnar: 'a coherent landscape unit including both fertile lowland and less attractive clay lands of river valleys'. Yn y dirwedd ehangach (h.y. y tu hwnt i derfynau'r dirwedd hanesyddol bresennol), gwyddom fod ffermydd Rhufeinig yn y bedwaredd ganrif yn Aberddawan a Llanbydderi, i'r de ac i'r gorllewin yn y drefn honno (a hefyd yn Whitton i'r dwyrain). Mae Kissock yn nodi patrwm anheddu o un prif bentref ac wyth pentrefan cysylltiedig ac ardal o lain-gaeau o amgylch pob anheddiad, ac mae'r ffaith bod cymuned clas yno yn arwydd o fodolaeth ystad luosog.

Un o nodweddion y dirwedd hanesyddol a'r ardal o'i hamgylch yw'r nifer fawr o hen feysydd agored neu lain-gaeau, megis y rhai a geir o amgylch Llancatal ac i'r dwyrain o Ben-onn; ymddengys fod y llain-gaeau gerllaw Pen-onn yn cyfateb i'r tir y cyfeirir ato yn y rhodd a wnaed ar ddiwedd y 12fed ganrif i Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw gan Robert Fitzhammon. Cynhwysai'r rhodd hwn nid yn unig eglwys Cadog Sant yn Llancarfan a Phen-onn ynghyd â 15 gwaith aradr o dir, ond hefyd, a hyn sy'n bwysig, hen eiddo'r clas. Dengys map degwm 1840 dir yn yr un ardal, a oedd yn eiddo bryd hynny i olynydd yr Abaty, sef 'Deon a Chabidwl Caerloyw', fel llainddaliadau amgaeedig wedi'u gwasgaru drwy ardal gyfan yr hen gae agored.

Gall y cae agored hwn fod yn enghraifft o fath o dir a elwir yn dir corddlan neu dir cnewyllol; nododd GRJ Jones fod cysylltiad rhwng y math hwn o dir â chymunedau clas mynachaidd ac fe'i nodir yn aml, am iddo oroesi tan yn hwyr, fel daliadau clastir neu ddaliadau tir eglwysig yn gymysg â thir sy'n eiddo i eraill (er enghraifft Jones 1972, a 1976). Mae Kissock wedi cyflwyno model sy'n dangos y gallai aneddiadau cnewyllol cynnar fod wedi datblygu o ganlyniad i ystadau lluosog neu rannau o ystadau lluosog yn cael eu rhoi i'r eglwys, a newidiodd felly o fod yn eiddo lleyg i fod yn eiddo eglwysig, ac o ganlyniad i'r system tir cyfrif neu 'reckoned land', lle y canfuwyd y ffermydd neu anheddau unigol gwasgaredig, yn cael ei disodli gan dir corddlan, a gynrychiolir gan ardaloedd mawr o feysydd agored (Kissock 1991). Er y gallai'r model hwn esbonio rhai o'r prosesau cyffredinol a fu'n sail i ddatblygiad yr aneddiadau cnewyllol cynnar yn y dirwedd hanesyddol, mae angen rhagor o waith astudio ac archwilio i ymchwilio'n llawn i natur a dyddiad aneddiadau amddifad ac aneddiadau sydd wedi goroesi yn yr ardal.

Nid oes unrhyw dirweddau Rhufeinig na thirweddau diweddarach yn Llancarfan y gellir dweud eu bod yn wirioneddol amddiffynnol, er bod nifer yn cynnwys nodweddion neu elfennau amddiffynnol. Mae'r amddiffynfa gylch ganoloesol yn Pancross yn haeddu sylw arbennig (NPRN 307703; PRN 00904s), ac er ei fod yn anheddiad amddiffynnol mae'n fwy tebygol iddo gael ei adeiladu fel symbol o rym nag fel safle gwirioneddol amddiffynnol. Awgrymwyd y gallai castell cloddwaith fod wedi sefyll ar y safle hwn (CBHC 1991); byddai'r castell hwn, a allai ddyddio o'r 12fed ganrif, wedi bod yn gysylltiedig ag ymdrech y Normaniaid i wladychu'r ardal, yn enwedig teulu Umfraville o Ben-marc. Mae cronoleg datblygiad clostiroedd amddiffynnol yn amddiffynfeydd cylch i raddau helaeth heb ei phrofi: ni chloddiwyd yr amddiffynfa gylch yn Pancross ac, o ganlyniad i ddifrod a wnaed i'r heneb yn ddiweddar, nid yw'n debyg y bydd yn rhoi llawer o dystiolaeth ar gyfer y cyfnod pan fu pobl yn byw ynddi neu'n ei defnyddio. Nodwyd bod pobl wedi parhau i ddefnyddio safleoedd amddiffynnol, yn benodol clostiroedd ac amddiffynfeydd cylch, rhwng y cyfnod Canoloesol cynnar a'r cyfnod ar ôl y goresgyniad Normanaidd neu eu bod wedi'u hailddefnyddio, ond oherwydd y ffaith na wnaed unrhyw waith cloddio yn ddiweddar mae union gronoleg a natur yr ailddefnydd hwn yn gyfyngedig, neu'n fater o ddyfalu ar y gorau; dylid cofio, felly, nad yw'r amddiffynfa gylch fel math o safle yn gyfyngedig o reidrwydd i'r Eingl-Normaniaid o ran ei tharddiad.

Gellir gweld nodwedd amddiffynedig ganoloesol arall yn olion safle bach â ffos o'i amgylch Liege Castle, a adeiladwyd o fewn rhagfuriau'r fryngaer gynhanesyddol ddiweddar a alwyd yn Gastell Moel (PRN 359s). Mae'r prif olion yn cynnwys clawdd cryf a ffos, tua 15m o led wrth 3m o uchder gydag olion gwrthglawdd, sy'n ffurfio tair ochr hirsgwar tua 25m ar ei draws. O'r gornel ogledd-ddwyreiniol, mae rhagfur sydd ychydig yn fwy o faint gyda'i ffos sydd bron yn llawn llaid yn ymestyn i'r de-ddwyrain am tua 30m gan droi ychydig. Mae cloddiau llai o faint yn ymestyn dros bob un o'r nodweddion hyn am tua 18m ymhellach i'r de. Ystyrir bod y safle wedi cael ei adeiladu gan deulu Norris o Gastell Benllyn, mor gynnar â'r 13eg ganrif efallai. Roedd Liege Castle yn is-faenor i Dresimwn, a oedd yn ei dro yn is-faenor i Wenfô. Fel preswylfa eilradd, ei phrif swyddogaeth yn ôl pob tebyg oedd gweithredu fel canolfan weinyddu'r is-faenor, ac mae'n bosibl bod stiward yn byw yno. Ymddengys fod pentrefan bach wedi datblygu yng nghyffiniau safle presennol Liege Castle Farm.

Ceir nifer o aneddiadau canoloesol amddifad neu lai o faint o fewn y dirwedd hanesyddol, y mae CBHC wedi eu harolygu i ryw raddau; er enghraifft, mae'r nodweddion archeolegol creiriol a chladdedig, megis balciau, cloddiau caeau, tomen glustog bosibl a llwyfannau tai, sy'n gysylltiedig â Phentref Canoloesol Amddifad Bradington yn Llanfeuthin (CBHC 1982, 229), anheddiad yr ystyrir iddo gael ei ddymchwel yn rhannol yn sgîl y broses o ymestyn y faenor gyfagos a oedd yn eiddo i Fargam yn ystod rhan olaf y cyfnod canoloesol. Nodwyd anheddiad amaethyddol (PRN01919s) yr ystyrir ei fod yn lleoliad posibl ar gyfer maenor ganoloesol a roddwyd i Abaty Sant Pedr Caerloyw, ym Mhen-onn. Caiff y safle hwn ei ddisgrifio'n gyfadail mawr â phrif deras yn rhedeg ar hyd hen ffin gaeau, gyda phrif lwyfan i'r gorllewin, 15m x 8m, gyda chlawddfur, 2 lwyfan sgwâr llai o faint (8m x 8m), llwyfan is (6m x 6m), a phannwl cylch canolog. Ymwelwyd â'r olaf fel rhan o'r prosiect anheddiad gwledig amddifad a ariannwyd gan Cadw (Locock 2001). Ymhlith yr aneddiadau eraill sy'n llai o faint a chanddynt olion amaethyddol cysylltiedig mae'r hyn a geir ar gyrion Llancatal (PRN 00691s a 02428s) sy'n cynnwys ceuffordd, cyfres o lwyfannau gwastad a therasau a balciau posibl, i'r de o Liege Castle, sy'n canolbwyntio ar yr ardal rhwng Leach (Liege) Farm ac olion Capel Liege Castle.

Ni wyddys union leoliad yr aneddiadau amddifad yn yr ardal, er y credir ei bod yn debygol iddynt fod yn gnewyllol i ryw raddau yn wreiddiol. Gellir gweld tebygrwydd â'r rhan fwyaf o leoliadau'r aneddiadau hyn yn yr ardal: fe'u lleolir yn aml ar ymyl y dyffryn ac ymyl y llwyfandir amaethyddol, ar doriad uchaf y llethr, lleoliad sy'n cynnig mynediad cyfleus i'r cae agored âr ar y man gwastad amaethyddol a'r doldiroedd cyffredin yn nyffryn yr afon. Llancatal yw'r amlycaf fel enghraifft sydd wedi goroesi, tra bod anheddiad gwledig amddifad Pen-onn, gyda'i gynllun clystyrog wrth gyffordd y brif lôn i Moulton a llwybrau yn darparu mynediad i'r hen gefnwlad cae agored, yn un arall. Lleolir Pen-onn, hen glwstwr o ffermydd, yn agos at doriad uchaf llethr dyffryn Nant Llancarfan, rhwng ei gae agored âr i'r dwyrain a'i ddoldir cyffredin yn y dyffryn islaw i'r gorllewin. Yn yr un modd, ymddengys fod anheddiad amddifad Llanfeuthin wedi'i leoli unwaith eto ar ymyl uchaf ochr y dyffryn. Mae anheddiad Llancarfan yn mynd yn groes i'w leoliad, gan ei fod wedi'i leoli yn y dyffryn ei hun wrth gydgyfeiriant llwybrau a chroesfannau afon, er ei fod wedi'i leoli'n agos iawn at fryngaer cynhanesyddol pwysig Castle Ditches. Mae'n debygol bod lleoliad Llancarfan yn cael ei reoli'n fwy gan synwyrusrwydd eglwysig a gofynion gweinyddol y cyfnod canoloesol cynnar: yr angen i fod wedi ei leoli'n ganolog yn agos at anheddiad pwysig a oedd yn bodoli eisoes a chanolfan o rym, a bod yn hawdd ei gyrraedd o fewn y dirwedd leol ehangach, gyda mynediad i'r gefnwlad amaethyddol gerllaw yn llai o ofyniad cyffredin.

Mae dau anheddiad cnewyllol wedi goroesi yn y dirwedd hanesyddol ei hun: Llancarfan a Llancatal; mae'r ddau anheddiad hyn yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, gyda darganfyddiadau a gadarnhawyd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol cynnar. Mae patrwm anheddu Llancarfan yn canolbwyntio ar ei heglwys ganoloesol, a leolir o fewn ei chlostir afreolaidd, sy'n debygol o fod yn glostir mynachaidd o'r cyfnod canoloesol cynnar, er y nodwyd safle posibl arall gerllaw i'r de-ddwyrain, gydag olion yn dyddio o'r 13/14eg ganrif. Nodwyd is-ffocws ar wahân hefyd i'r gogledd wrth yr hen felin a chyffordd y ffordd/croesfan yr afon, sydd wedi'i gysylltu â'r brif anheddiad gan ddatblygiad hirgul llinellol ac yn fwy diweddar mewnlenwi anheddau modern. Ymddengys fod anheddiad neu bentrefan Llancatal wedi ei ganolbwyntio'n wreiddiol ar safle ei hen gapel anwes yn ystod yr 17eg ganrif, ond sydd wedi ei ddymchwel bellach, gyda'r brif fferm wedi'i lleoli i'r gorllewin o'r anheddiad. Mae ar ffurf clwstwr o aneddiadau, a fyddai wedi bod yn ddelfrydol i wasanaethu'r cae agored o amgylch a'r doldiroedd islaw yn Nyffryn Kenson a Dyffryn Thaw i'r dwyrain y tu hwnt i ffin y dirwedd hanesyddol. Yn ystod yr 20fed ganrif, efallai fod canolbwynt y patrwm anheddu wedi symud ychydig i'r llwybr rhwng Aberddawan a Llancarfan i'r dwyrain o'r pentref, fel y cynrychiolir gan ddatblygiad hirgul ar wahân, a'r ffaith bod anheddau cymudo a/neu ymddeol ar wahân wedi cymryd lle llawer o'r clwstwr gwreiddiol o ffermdai a bythynnod. Llancarfan yw prif anheddiad yr ardal, a bwysleisir gan ei ffocws eglwysig, eglwys y plwyf, a hefyd gan elfennau mwy diweddar a ddangosir ar argraffiad cyntaf y map fel ysgol y pentref, capeli anghydffurfiol a mynwentydd, tafarn, tloty, swyddfa bost, a gefail, y mae'r rhan fwyaf yn dal i fodoli heddiw. Yn hanesyddol, byddai Llancarfan nid yn unig wedi bod yn ganolfan grefyddol, addysgol a gweinyddol (swyddogaeth sy'n dyddio'n ôl i'w darddiad yn y cyfnod canoloesol cynnar) ar gyfer yr ardal, ond ymddengys ei fod wedi parhau i ddatblygu fel canolbwynt ehangach ar gyfer yr ardal yn ystod y cyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol, yn gyntaf drwy ei gysylltiadau ag Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw, yna fel canolfan y plwyf â swyddogaethau cyflenwi a dosbarthu, addysg, man yn cyflenwi crefftau arbenigol gwledig ar gyfer yr ardal amaethyddol oddi amgylch, heb sôn am letygarwch yn ei dafarn, y Fox and Hounds.

Ar y llaw arall, ymddengys fod Llancatal wedi parhau i fod yn is-anheddiad yn seiliedig ar amaethyddiaeth yn bennaf o'r cyfnod canoloesol, drwy ei glwstwr o ffermydd, adeiladau fferm a bythynnod gweithwyr amaethyddol: pwysleisir y gydberthynas hon gan y ffaith ei fod yn agos at feysydd agored a doldiroedd cyffredin. Nid ymddengys fod y pwyslais amaethyddol yn newid rhyw lawer tan ddiwedd yr 20fed ganrif; roedd tafarn y Green Dragon, a ddangosir fel tafarn ar argraffiad 1af map yr AO, er enghraifft yn ffermdy anghysbell yn yr 17eg ganrif. Natur y newid yn y gyfundrefn amaethyddol, drwy amgáu meysydd agored a oedd yn digwydd erbyn dechrau'r 17eg ganrif ac a oedd wedi'i gwblhau i raddau helaeth erbyn canol y 19eg ganrif, a gafodd yr effaith fwyaf amlwg ar gynllun anheddiad Llancatal. Ynghyd â'r broses hon cafodd yr anheddiad ei leihau o ran maint yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, a arweiniodd at adnewyddu ac ehangu'r amrywiaeth amaethyddol a oedd yn perthyn i'r brif fferm yn Llancatal erbyn chwarter olaf y 19eg ganrif. Ymddengys fod y brif fferm yn yr anheddiad wedi cael ei hymestyn ar draul daliadau llai, felly i bob pwrpas cafwyd un fferm ag adeiladau allan o fewn yr anheddiad erbyn arolwg yr argraffiad 1af, gyda'r ffermydd eraill yn dod yn ddaliadau bach neu'n fythynnod.

Yn ôl tystiolaeth y map, mae'n bosibl y gallai sawl un o'r ffermdai, ac adeiladau amaethyddol cysylltiedig yn Llancatal ddyddio'n ôl i ddechrau'r 17eg ganrif neu'n gynt efallai; er enghraifft dangosir y Green Dragon, Llancatal Isaf a Fferm Llancatal ar y map maenoraidd dyddiedig 1622. Yn bendant mae tystiolaeth gartograffaidd ac archeolegol sy'n awgrymu yr arferai Llancatal fod yn llawer mwy o faint, gyda thyddynnod â phobl yn byw ynddynt (sydd bellach yn nodweddion archeolegol creiriol a chladdedig) i'r de a'r gorllewin. Erbyn hyn nodweddir y ddau anheddiad i raddau helaeth gan gymysgedd o dai a ffermdai o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif, gyda nodweddion gwreiddiol yn goroesi a datblygiadau mwy diweddar o'r 20fed ganrif. O fewn Llancarfan, caiff sawl un o'r bythynnod hyn eu hadeiladu i mewn i'r llethr, yn nodweddiadol, yn hytrach nag ar ei draws gyda thalcenni yn wynebu'r ffordd, yn unol â thraddodiadau adeiladu cynharach.

Diogelir Llancarfan a Llancatal yn rhinwedd y ffaith eu bod yn ardaloedd cadwraeth, er ar wahân i eglwys Cadog Sant yn Llancarfan a'r blwch ffôn gerllaw, ni chaiff yr un o'r adeiladau yn y ddau brif anheddiad yn y dirwedd hanesyddol eu diogelu drwy fod yn rhestredig ar hyn o bryd. Ymddengys hefyd nad yw bod yn ardal gadwraeth wedi rheoli'r defnydd o ddeunyddiau ac arddulliau amhriodol yn llwyddiannus mewn perthynas ag adnewyddu adeiladau presennol a chynllunio tai modern; mae ffenestri newydd, simneiau wedi'u tynnu oddi ar doeon, a'r driniaeth amhriodol o linellau to ac estyniadau, y dylai statws ardal gadwraeth ddiogelu yn eu herbyn, oll i'w gweld yn yr ardal.

Ar wahân i'r ddau brif anheddiad a grybwyllir uchod, mae cynllun y rhan fwyaf o'r anheddiad sydd wedi goroesi yn cael ei nodweddu gan glystyrau gwasgaredig o ffermdai, gydag olion ôl-glostir clystyrau neu gnewyll mwy helaeth o bryd i'w gilydd. Nodir hefyd glwstwr rhydd wrth gyffordd ffordd Pancross, lle mae ffermydd ôl-ganoloesol wedi'u hategu gan deras o dai cyngor (Bythynnod Catwg), a bythynnod eraill yn ystod yr 20fed ganrif.

Ceir nifer o dai bonedd neu faenordai diddorol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol/dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol yn yr ardal dirwedd o hyd; mae'r rhain yn cynnwys Garnllwyd (Rhestredig Gradd II*; HLCA008),ty neuadd llawr cyntaf ag ychwanegiadau o'r cyfnod canoloesol cynnar, a Thy Llanfeuthin a'i borthdy dyddiedig (y ddau yn Rhestredig Gradd II; HLCA008), ty bonedd o ddechrau'r 16eg ganrif sy'n debyg i'r grwp system uned, lle caiff unedau byw cwbl hunangynhwysol eu dosbarthu'n agos at ei gilydd ar un safle. Mae'r ty neuadd (PRN 01428s) yn Crosstown, o fewn HLCA005, hefyd yn tarddu o'r cyfnod canoloesol. Mae'n perthyn i'r simnai sy'n cefnu ar gategori ôl-lwybr, ac mae ganddo simnai ganolog wedi'i mewnosod a nenfwd â thrawstiau pigfain (sydd wedi ei ddileu bellach) o'r 16eg ganrif. Ymhlith y nodweddion pwysig sydd wedi goroesi o'r cyfnod canoloesol mae drws i'r cyntedd croes sydd â dau ganol, pen a chilbyst siamffrog plaen, a ffenestr ag un gwarel a phen teirdalen.

Cymharol brin yw'r ffermdai sydd wedi goroesi o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, hyd yn oed o fewn y dirwedd hanesyddol bwysig. Mae Cliff Farmhouse (Rhestredig Gradd II), ger Llancatal, yn enghraifft dda o ffermdy â tho gwellt o'r 17eg ganrif sydd â chynllun tair ystafell a drws canolog, a grisiau troellog wrth y lle tân talcennog, ac mae ganddo nodweddion gwreiddiol fel trawstiau pigfain (CBHC 1988) Y deunyddiau adeiladu a fyddai wedi cael eu defnyddio'n nodweddiadol yw calchfaen lleol, wedi'i wyngalchu fel arfer, o dan do gwellt; roedd gan rai adeiladau doeon carreg hefyd (fel y dynodir gan yr enw 'Ty-to-maen') er i'r hen do gwellt cyffredin ddiflannu i bob diben gan gyflwyno panteiliau wedi'u mewnforio a'u cynhyrchu'n lleol yn ei le, fel y rhai a nodwyd ar doeon serth Whitewell Farm, a'r llechi, fel y nodwyd yn Crosstown.

Nid yw maint bach y dirwedd hanesyddol bresennol, a'r nifer fach o adeiladau hyn sydd wedi goroesi, yn ei gwneud yn bosibl dod i unrhyw gasgliadau defnyddiol ynghylch yr arddull adeiladu na'r datblygiad pensaernïol yng nghyd-destun ehangach y Fro. Prin yw'r dystiolaeth sydd ar gael o hierarchaeth arddulliau adeiladu y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar; mae'r rhan fwyaf o'r stoc adeiladu hyn yn perthyn i'r dosbarth bonheddig neu'r dosbarth iwmon uchaf o ffermwr. Yn anheddiad Llancarfan, ceir amrywiaeth ehangach o adeiladau sydd wedi goroesi sy'n arwydd o hierarchaeth gymdeithasol y 18fed/19eg ganrif, a gynrychiolir gan amrywiadau bach ym maint yr anheddau amrywiol o fythynnodd teras bach, Bridge Cottage bellach, a bythynnod cysylltiedig (er enghraifft Corner House) a bythynnod ar wahân â lleiniau cysylltiedig bach (fel Fern Cottage), i adeiladau ychydig yn fwy, yn nodedig Great House, a allai, gyda Ty-to-maen sydd wedi'i ddymchwel bellach, fod wedi gweithredu fel y prif ffermydd yn yr anheddiad (gallai'r cyntaf fod wedi cael cysylltiadau cryf â'r eglwys). Mae adeiladau amaeth-ddiwydiannol ar ffurf melinau a safle'r hen efail hefyd yn arwydd o swyddogaethau gwasanaeth a chyflenwi'r anheddiad. Mae'r gwahaniaeth rhwng capel anghydffurfiol ac eglwys sefydledig hefyd i'w weld yn adeiledd yr anheddiad gyda mynwentydd ar wahân yn arwydd o'r newidiadau yng nghyfansoddiad a dyheadau cymdeithasol yr anheddiad, a'r dirwedd wledig ehangach.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau defodol ac eglwysig

Y nodwedd ddefodol hysbys gynharaf yn yr ardal yw'r garreg orweddol i'r gogledd o Dy'n-y-coed, yn HLCA012, heneb angladdol bosibl ar ffurf cromlech borth o'r cyfnod Neolithig, er y bu amheuaeth ynghylch ei ddilysrwydd yn ddiweddar (PRN 00934s). Ystyrir hefyd fod i faen hir o'r Oes Efydd, y 'Druidstone' o fewn HLCA008, ryw fath o swyddogaeth ddefodol.

Ymhlith y nodweddion defodol eraill mae ffynhonnau dymuniadau neu ffynhonnau clytiau niferus yr ardal, megis ffynnon Llancarfan (PRN 01849s) HLCA001, y dywedwyd ei bod yn gwella Clefyd y Brenin, Ffynnon-y-Clwyf (PRN 00391s), a Ffynnon Flamaiddan (PRN 00513s) y ddau yn HLCA002 y nodwyd eu bod yn ffynhonnau gwella hefyd, gyda'r olaf yn enwog am wella erisipelas. Mae'r enw 'ffynnon glytiau' yn deillio o'r traddodiad o hongian darnau o ddefnydd ar berthi ar ôl yfed wrth y ffynnon (Jones 1954, 185-6). Credir i Ffynnon Dyfrig yn HLCA008, a oedd â strwythur pen ffynnon carreg bach, fod yn ffynnon sanctaidd, er nas cadarnhawyd.

Mae'r nodweddion neu'r dylanwad eglwysig yn dyddio'n bennaf o'r cyfnod canoloesol cynnar pan sefydlwyd yr anheddiad mynachaidd gan Cadog Sant yn Llancarfan rhwng y 5ed a'r 6ed ganrif OC; credir mai clostir siâp afreolaidd y fynwent o'r enw 'Llan Garbhan' (PRN 03736s), yw safle mwyaf tebygol y sylfaen hwn o'r cyfnod canoloesol cynnar (PRN 384s); CBHC 1976, 17 rhif 827), gweler HLCA001 am ragor o wybodaeth. Mae bodolaeth croes golofn o ddiwedd y 9fed neu'r 10fed ganrif (PRN 780s; CBHC 1976, 62 rhif 940), ac eglwys o ddiwedd y cyfnod canoloesol (Adeilad Rhestredig Gradd I; PRN 00385s), yn nodweddion eglwysig cryf a chawsant ddylanwad cryf ar ddatblygiad a chynllun cynharach a pharhaus yr anheddiad yn Llancarfan, hyd at y cyfnod ôl-ganoloesol, er y byddai natur y ffocws eglwysig wedi newid ychydig o clas mynachaidd cynnar i eglwys wedi'i hadfeddu, ac yn ddiweddarach eglwys y plwyf.

Ystyriwyd bod nifer o safleoedd eglwysig eraill yn sylfeini o'r cyfnod canoloesol cynnar, fel Llanfeuthin (gweler isod), a Llancatal, a oedd yn betrus gysylltiedig â safle Llan Hoitlan o'r cyfnod canoloesol cynnar, lle safai olion capel o'r 14eg ganrif ar un adeg. Mae'r dystiolaeth ffisegol ar gyfer y rhain wedi darfod erbyn hyn, a chafwyd amheuaeth ynghylch y cysylltiad â'r cyfnod canoloesol cynnar yn ddiweddar (Evans 2004, 65).

Fel llawer o sylfeini mynachaidd pwysig o'r cyfnod canoloesol cynnar, megis Llandochau, a Llanilltud Fawr, trosglwyddwyd y clas yn Llancarfan i reolaeth y Benedictiaid ar ôl Goresgyniad y Normaniaid, ac fe'i rhoddwyd i Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw ddiwedd y 11eg ganrif neu ddechrau'r 12fed ganrif. Os yw'r model ar gyfer sefydlu tir mynachaidd a grybwyllir uchod yn gywir, ymddengys o'r dystiolaeth gartograffaidd fod natur y dirwedd amaethyddol sy'n gysylltiedig â'r sylfaen mynachaidd cynnar fel y daliad ym Mhen-onn (yn rhannol o fewn HLCA002), a'r ffordd y'i gweithiwyd wedi parhau fel yr oedd ar y cyfan, er iddo gael ei weithio naill ai gan denantiaid neu frodyr lleyg ar ran y landlord eglwysig newydd, Abaty Sant Pedr ac yn ddiweddarach Abaty Tewksbury. Efallai nad oedd hyn bob amser yn wir, fel yr ymddengys mewn mannau eraill gallai colli tir o ddwylo lleyg i ddwylo eglwysig fod wedi arwain at ad-drefnu daliadau tir weithiau ac yn sgîl hynny gael effaith fawr ar y tenantiaid lleyg a'u haneddiadau, er enghraifft yn Llanfeuthin (HLCA008), lle mae ardal helaeth o gloddwaith yn diffinio pentref amddifad Bradington, a ddadboblogwyd pan gafodd y faenor yn Llanfeuthin a oedd yn eiddo i Abaty Sisteraidd Margam ei wneud yn fwy o faint (CBHC 1982, 229). Nid yw'r olion sy'n gysylltiedig â'r faenor yn Llanfeuthin wedi'u sefydlu eto i raddau helaeth; awgryma tystiolaeth ddogfennol i gapel maenoraidd (a gysegrwyd i Meuthin Sant) gael ei adeiladu ar lain o dir a roddwyd yn arbennig at y diben hwnnw (CBHC 1982, 291), a nodwyd bod claddiadau yn yr ardal, er nad yw'n sicr a yw'r rhain yn perthyn i'r faenor neu safle mynwent cynharach nas datblygwyd o'r cyfnod canoloesol cynnar (Evans 2004, 65). Mae'r Comisiwn Brenhinol o'r farn bod clawdd cromliniol i'r de o Lanfeuthin, sy'n cyd-ganoli â'r fynwent yn fras, wedi gweithredu fel ffin y faenor (CBHC 1982, 292), er i hyn gael ei betrus nodi hefyd fel safle yn tarddu o'r cyfnod canoloesol cynnar, gan yr ymddengys iddo danategu nodweddion anheddiad canoloesol. Mae angen ymchwilio i'r ardal ymhellach er mwyn egluro ei ddatblygiad tirweddol.

Cafwyd maenorau mynachaidd niferus eraill drwy'r ardal fel Greendown (HLCA009) a roddwyd i Abaty Margam gan Hugh de Raelega tua 1161 (Williams 1990), a thir sy'n gysylltiedig â Margam, 10 erw o dir pori mewn man o'r enw Moys neu Moyl ar restrau o'r 13eg a'r 14eg ganrif (PRN 03803s; Williams 2001, 306 rhif 91, CBHC 1982, 297) yr ystyrir eu bod yn canolbwyntio ar Liege Castle yn HLCA011. Mae angen ymchwilio'n fanwl i'r union effaith ar y dirwedd y cafodd y broses o roi'r tir i'r urddau mynachaidd amrywiol. Mae'n debygol ei fod wedi dibynnu ar pryd y rhoddwyd y tir ac wedi amrywio yn dibynnu ar yr urdd fynachaidd y rhoddwyd y tir iddo.

Ymhlith yr olion eglwysig creiriol eraill mae Capel Liege Castle (PRN 00362s; HLCA011) a'r fynwent, a oedd yn rhan o anheddiad gwledig llawer mwy. Petrus awgrymwyd, er nas cadarnhawyd, yr arferai Capel Liege Castle fod yn rhan o faenor Greendown.

Mae capeli anghydffurfiol â mynwentydd cysylltiedig yn nodweddion eglwysig diweddarach, a leolir gan amlaf ym mhentref Llancarfan ei hun (HLCA001), ac sy'n cynnwys Capel Gwyn (PRN 01419s) Capel Wesleaidd o ddechrau'r 19eg ganrif (sydd wedi'i addasu) â waliau wedi'u rendro â gwyngalch, ffenestri lansed, to llechi a Chapel Bethlehem (PRN 1421s), capel o'r 19eg ganrif â drychiad talcen blaen diddorol gyda drws pengrwn a ffenestri o fath clasurol syml cymedrol, tra o fewn HLCA011, ger Liege Castle mae capel anghydffurfiol syml o'r 19eg ganrif, Capel Carmel (Annibynwyr), a addaswyd yn annedd hefyd.

Yn ôl i'r brig

Nodweddion diwydiannol

Caiff archeoleg ddiwydiannol ei gynrychioli'n bennaf gan felino, sy'n nodweddiadol o'r dirwedd gyda melinau cynnar yn gysylltiedig â'r faenor fynachaidd yn Llanfeuthin a gofnodwyd mewn dogfennau canoloesol; yn 1336 roedd y ddwy felin yn Llanfeuthin yn werth 2 bunt. Cafodd y melinau hyn (y mae'r ddwy yn HLCA008) eu prydlesu i Syr John Raglan yn ddiweddarach yn 1519; mae melinau neu eu hadeiladau wedi'u haddasu i'w gweld ar yr un safle heddiw, gydag adeiladau melinau a melinau nodedig o'r cyfnod ôl-ganoloesol (PRNs 01993s a 01848s; NPRN 24,942; LB 13,611 gradd II), wedi'u hadeiladu o garreg leol gydag addurniadau o dywodfaen yn cynnwys melindy o'r 17eg ganrif gyda nodweddion gwreiddiol ac yn cydffinio â melin deirllawr o'r 19eg ganrif yn bennaf. Mae Melin Wlân Llanfeuthin (yr Old Bakehouse erbyn hyn) wedi cadw ei ffrwd a'i llifddor gysylltiedig. Lleolir melinau eraill sydd wedi goroesi yn HLCA001, sef y Felin yd sydd wedi'i haddasu a New Mill yn Llancarfan, tra bod tystiolaeth gartograffaidd, y map maenoraidd dyddiedig 1622, yn dangos melin bannu a safai'n wreiddiol ar ochr orllewinol afon Kenson, o fewn terfyn deheuol HLCA002.

Cynrychiolir y nodwedd amaeth-ddiwydiannol ymhellach drwy'r rhan fwyaf o'r ardal gan waith chwareli amaethyddol ar raddfa fach a gwaith cynhyrchu calch cysylltiedig, yn nodweddiadol chwareli ac odynnau calch, ar yr argraffiad 1af o fapiau'r AO drwy'r ardal. Mae'n debygol bod rhai o'r nodweddion hyn yn dyddio'n ôl i o leiaf y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, er bod cynnydd nodedig mewn gwaith cloddio yn ystod y 19eg ganrif a gynrychiolir yn y dystiolaeth ddogfennol yn debygol o fod wedi deillio'n uniongyrchol o welliannau amaethyddol a oedd yn gysylltiedig â gwaith clostir a chyfuno daliadau. Mae'r nodweddion hyn yn ymwneud yn bennaf â chynhyrchu calch amaethyddol, er y gallent hefyd fod wedi cynhyrchu carreg adeiladu. Cofnodir y rhan fwyaf o'r nodweddion hyn mewn deunydd dogfennol a chartograffig, ac mae eu cyflwr presennol yn anhysbys i raddau helaeth.

Yn ôl i'r brig

Cysylltiadau hanesyddol

Dynoda siarteri eglwysig o'r 7fed ganrif a dystiwyd gan Iacob abbas altaris Sancti Catoci (LL144 tua 650), ac un arall o'r 10fed ganrif simul cum dignitae pontificalis cathedrae abbati totius dignitatis ecclesiae Sancti Catoci Lann Caruaniae (LL243 tua 980) (Davies 1978, 135; 1979, 97, 125), y cysylltiad rhwng yr ardal a Llancarfan â Cadog/Catwg Sant, mab Gwynllyw, un o gyfoedion Dubricius, tua 500 OC; rhoddir yr olaf hefyd (fel Landcaruan/Nant Caruguan) gan Vita Sancti Cadoci Lifris tua 1100 (Wade-Evans 1944, xi, 52-5). Awgrymwyd bod enw Llancarfan neu 'Lann Gharban' fel y'i crybwyllir yn Lives of St Finnian o'r Iwerddon sy'n dyddio o'r 9fed-10fed ganrif yn ymwneud â Sant Germanus o'r 5ed ganrif, a chrybwyllwyd cysylltiad â Sant Dubricius o ddiwedd y 6ef ganrif hefyd. Honnir hefyd gysylltiad â Meuthin Sant, athro Cadog, ar gyfer y capel ac o bosibl safle canoloesol yn Llanfeuthin.

Mae'r ardal yn gysylltiedig â 'Caradog yr Hanesydd', y cyfeiriwyd ato gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia, ac awdur Buchedd Cadog a Buchedd Gildas, ac ystyrir y gallai fod cysylltiad posibl rhwng y Vita Cungari, a Llyfr Llandaf. At hynny mae cysylltiad cryf rhwng Llancarfan a'r bardd a'r hanesydd y cafwyd amheuaeth yn ei gylch Iolo Morganwg, a anwyd ym Mhen-onn yn 1746 ac sy'n enwog am ei ddehongliad dychmygus o hanes gan gynnwys ffugio nifer o groniclau, megis Brut Aberpergwm a Brut Ieuan Brechfa (Lewis 1971, 449-554).

Yn ystod y cyfnod canoloesol mae'r ardal yn gysylltiedig ag Abatai Sant Pedr, Caerloyw a Tewksbury, a hefyd Abaty Sisteraidd Margam, drwy roddion tir gan Fitzhammon ac eraill. Er enghraifft, gwyddys bod Liege Castle (HLCA002) yn gysylltiedig ag Abaty Margam, a theulu Norris o Gastell Penllyn o'r 14eg ganrif o leiaf. Yn ystod y 12fed ganrif gwyddys bod Hugh de Raelega wedi bod yn gyfrifol am roi tir yn Green Down (HLCA009) i Abaty Margam, tra bod cysylltiadau hysbys â theulu Umfravilles o Ben-marc gerllaw, y credir iddynt reoli'r cylchfur yn Pancross (NPRN 307703, PRN 00904s; HLCA006), yn ystod yr un cyfnod.

Ymhlith y prif berchenogion tir ôl-ganoloesol roedd Deon a Chabidwl Abaty Caerloyw, a nifer o deuluoedd bonedd fel teulu Giles (HLCA005 a 006), teulu Carne, teulu Raglan (o Garnllwyd) a theulu Lewis o Y Fan (HLCA008, HLCA011 ac ati), a theulu St John o Fonmon, a oedd yn arglwyddi'r faenor yn Llancadle a mannau eraill. Gwr pwysig arall oedd Syr John Wildgoose, perchennog Liege Castle (HLCA011) yn ystod teyrnasiad Elizabeth I. Syr Thomas Digby Aubrey a CKK Tynte Ysw oedd y prif berchenogion tir yn yr ardal erbyn canol y 19eg ganrif.

Mae'r ardal hefyd yn gysylltiedig â William Griffith o Lanfeuthin, reciwsant Pabyddol pwysig o Forgannwg, a wnaeth gyda'i dad Hugh brynu maenor Llanfeuthin (HLCA008) yn 1565 oddi wrth Thomas Carne (Pugh 1986) a chyda Henry Williams o Lancarfan, gwneuthurwr clociau ac oriorau enwog o'r 18fed ganrif (Cloutman a Linnard 2003a). Yn ddiau mae cysylltiadau eraill sydd hefyd yn bodoli i'w darganfod.

Yn ôl i'r brig