Llancarfan

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Llancarfan

007 Ardal Amaethyddol Middlehill


View across HLC 007

HLCA 007 Ardal Amaethyddol Middlehill

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; anheddiad gwasgaredig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Nodweddir ardal cymeriad tirwedd Ardal Amaethyddol Middlehill gan dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol â nodweddion sydd wedi goroesi. Lleolir yr ardal i'r dwyrain/gogledd-ddwyrain o bentref Llancarfan ar ddarn o dir uchel uwchlaw canol dyffryn Llancarfan a Nant Llancarfan. Yn ffinio â hi i'r gorllewin ceir isafon fach sy'n llifo i i Ford Brook ar hyd hen linell ffin pentrefan Trewallter, mae'r ardal i'r gogledd o fryngaer Castle Ditches. Mae rhan helaeth o'r tir o fewn yr ardal gymeriad hon wedi'i chofnodi ar fap degwm 1840 fel eiddo Syr Thomas Aubery a William Jenkins.

Y brif elfen sydd wedi goroesi o'r cyfnod ôl-ganoloesol o leiaf mewn ffurf adnabyddadwy yw system gaeau'r ardal, nad yw wedi newid fawr ddim ers iddi gael ei mapio ar argraffiad 1af map yr AO. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nifer o lain-gaeau canoloesol wedi'u ffosileiddio. Mae'r elfennau creiriol hyn yn gysylltiedig â'r hen gyfundrefnau maes agored canoloesol ac maent yn nodwedd allweddol ar yr ardal hon.

Nodweddir patrwm anheddu'r ardal gan ddwy fferm, y naill ym Mhen-y-lan a'r llall ym Middlehill. Mae'r fferm ym Middlehill yn gymharol newydd ac nid ymddengys yn y cofnod cartograffig nes i fap modern yr AO gael ei lunio; fodd bynnag, mae Pen-y-lan gryn dipyn yn hyn ac roedd wedi'i sefydlu erbyn argraffiad 1af map yr AO yn 1879 o leiaf.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Ardal Amaethyddol Middlehill gan dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf sy'n cynnwys caeau amgaeëdig mawr y gellir eu hadnabod mewn ffurfiau rheolaidd a datblygedig. Nodweddir y patrwm caeau canoloesol sydd wedi goroesi gan gymysgedd o lain-gaeau wedi'u ffosileiddio a hen gyfundrefnau maes agored, sy'n debyg o ran cymeriad i fannau eraill yn Nhirwedd Hanesyddol Llancarfan. Nodweddir ffiniau'r caeau gan wrychoedd ar gloddiau isel, ambell goeden nodedig.

Prin yw'r aneddiadau yn yr ardal gymeriad, a dim ond dau anheddiad a nodwyd yn yr ardal, sef y ffermydd ym Middlehill a Phen-y-lan. Felly gellid disgrifio'r patrwm anheddau yn yr ardal fel un gwasgarog, fel sy'n nodweddiadol o'r ardal ehangach yn gyffredinol. Mae Middlehill yn gymharol newydd a dim ond ar fapiau newydd y mae'n ymddangos ac mae'n gyfyngedig i nifer fach o adeiladau amaethyddol ac adeiladau domestig eraill ond mae'r anheddiad ym Mhen-y-lan yn llawer cynharach ac ymddengys iddo gael ei sefydlu cyn arolwg argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1878.

Mae mân nodweddion eraill yn ymwneud â'r diwydiant amaethyddol a gweithgarwch cloddio gan gynnwys nodweddion megis odynau calch a chwareli ar raddfa fach (PRNs 02634s; 02635s). Mae'n debyg bod y nodweddion hyn wedi cyfrannu at ddatblygiad y dirwedd hanesyddol ehangach yn gyffredinol gan ddarparu deunyddiau ar gyfer adeiladu drwy gloddio a phrosesu calchfaen. Cofnodir y rhan fwyaf o'r nodweddion hyn mewn deunydd dogfennol a chartograffig, y mae eu cyflwr presennol yn anhysbys.