Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

006 Y Cymin


Blaenavon Ironworks: view to west.

HLCA 006 Y Cymin

Anheddiad tresmasu posibl (hy tarddiad sgwatwyr): gwasgariad afreolaidd (bythynnod mewn clostiroedd afreolaidd bach); nodweddion cysylltiadau; ffiniau traddodiadol; coetir a phrysgwydd llydanddail. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Cymin yn cynnwys ardal ar wahân o aneddiadau gwasgaredig a leolir o fewn coetir collddail ar lechwedd serth sy'n wynebu'r gorllewin i'r dwyrain o Drefynwy ym mhlwyf Dixton Newton. Mae'r ardal yn lleoliad hanfodol i Deml Forol y Cymin sy'n gyfagos, sef parc ac ardd gofrestredig (gweler HLCA 031).

Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn y Cymin gan fryngaer posibl o'r Oes Haearn, gyda ffin gromliniol y safle yn cael ei phetrus nodi ar fapiau hanesyddol, er i ymweliad diweddar fethu â lleoli'r safle (Wiggins 2006).

Nid yw'n hysbys a oes gan yr anheddiad ôl-ganoloesol hysbys yn yr ardal hanes cynharach; fodd bynnag, mae lleoliad yr anheddiad ar dir y mae'n debygol iddo fod yn dir comin yn flaenorol yn ystod y cyfnod canoloesol yn awgrymu ei fod yn tarddu o dresmasiad ôl-ganoloesol cynnar. Yn sicr mae cynllun yr anheddiad yn dynodi anheddiad sgwatwyr. Mae map degwm Llandidiwg 1844 a mapiau diweddarach yn dangos natur afreolaidd yr anheddiad; cofnodir bod gwasgariad o fythynnod o fewn matrics o glostiroedd bach a chryn dipyn o'r tir yma o dan berchenogaeth Dug Beaufort yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae angen ymchwilio i darddiad yr anheddiad ymhellach.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir y Cymin gan ei anheddiad, sef gwasgariad o fyngalos a bythynnod o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd o fewn clostiroedd afreolaidd bach a choetir. Mae cynllun ar hap gwasgaredig yr anheddiad o ddaliadau bach ar dir ymylol serth yn dynodi tirwedd 'sgwatwyr' neu dresmasiad.

Er bod rhai olion o fythynnod o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w gweld o hyd o dan lawer o waith ailfodelu ac ychwanegiadau o'r ugeinfed ganrif, byngalos yw'r prif fath o adeilad erbyn hyn. Roedd yr anheddiad gwreiddiol yn cynnwys bythynnod bach a oedd yn gysylltiedig â phlotiau unigol (fel y dangosir ar fap degwm 1844). Ceir y rhan fwyaf poblog o'r anheddiad i'r gogledd o'r ardal ar lethr sy'n wynebu'r gogledd-orllewin. Er bod ffin allanol y clostir yn afreolaidd, ymddengys fod gan y clostiroedd bach siâp unionlin, a grëwyd o bosibl gan y dirwedd serth yn yr ardal. Caiff yr ardal hon ei thrawslunio gan rwydwaith o lonydd bach troellog er eu bod bron yn gyfochrog sy'n mynd i mewn i'r anheddiad a thir uwch y Cymin i'r dwyrain.

I'r de ceir ardal o glostiroedd llai poblog sydd ychydig yn fwy ar lethrau llai serth sy'n wynebu'r gorllewin; yma mae siâp y clostir ychydig yn fwy afreolaidd o ran ei gynllun. Gallai'r union gydberthynas rhwng morffoleg yr anheddiad a'i ddatblygiad cronolegol gael budd o waith ymchwil pellach. Mae amrywiaeth o fathau o adeiladau yn bodoli, o ran y cynllun daear o leiaf; mae map y degwm ac Argraffiad Cyntaf map yr AO yn dangos cynllun y bythynnod fel un hirsgwar neu sgwâr yn bennaf, er bod ychwanegiadau diweddar wedi newid y ffurf wreiddiol yn aml. Ar y cyfan adeiledir y bythynnod hyn o gerrig, sydd wedi'u rendro; llechi yw deunydd y toeon yn bennaf.

Mae rhwydwaith o lonydd a llwybrau troellog bach (gan gynnwys rhan o lwybr pellter hir Clawdd Offa) hefyd yn nodweddiadol o'r ardal. Roedd y llwybrau neu'r lonydd troellog caeedig hyn yn bwysig o ran darparu mynediad i ddaliadau amrywiol yr anheddiad ac roeddent yn cysylltu'r ardal â'r gefnwlad o amgylch, yn ogystal â'r aneddiadau yn Upper Redbrook, Wyesham a Threfynwy, a choetiroedd gerllaw, ee, Coedwig Beaulieu i'r gogledd-ddwyrain. Yn sgîl adeiladu Kymin Road, sef y prif gysylltiad yn yr ardal, nid oedd fawr o alw am y lonydd. Yr olaf yw'r 'ffordd gerbydau gain' a gomisiynwyd gan Dduges Beaufort tua 1800, i ddarparu mynediad i'r Deml Forol a'r Ty Crwn cyfagos (HLCA 031).

Mae'r coetir neu natur lled-goediog y dirwedd gaeedig hefyd yn nodweddiadol; heddiw caiff yr ardal ei dominyddu gan gymysgedd o goetir collddail llydanddail, prysgwydd a phrysgwydd heb ei reoli. Gallai natur goediog y clostir yn y Cymin naill ai ddeillio o dresmasiad tameidiog, gyda chlostiroedd afreolaidd yn cael eu hennill o goetir amgylchynol, neu efallai y gallai yn syml fod o ganlyniad i broses hirfaeth o ddychwelyd i brysgwydd, gan fod y ddibyniaeth ar ddaliadau bach a'r defnydd o dir cysylltiedig wedi dirywio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae ffiniau traddodiadol yn nodwedd bwysig yn yr ardal, ac yn cynnwys amrywiaeth o waliau cerrig sych, gwrychoedd (wedi'u gosod a heb eu gosod), cloddiau waliau cerrig, yr ychwanegwyd atynt yn fwy diweddar gan ffensys postyn a gwifren.

Ymhlith y mân nodweddion posibl eraill sy'n ychwanegu at gymeriad yr ardal hon mae'r anheddiad cynhanesyddol creiriol/elfen amddiffynnol a ddarparwyd gan safle posibl bryngaer cynhanesyddol, a leolir ar y ffin â'r ardal gyfagos (HLCA 031).