Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

007 Livox Farm


Garn Lakes nature reserve: view to the east.

HLCA 007 Livox Farm

Tirwedd amaethyddol (un fferm): caelun rheolaidd: clostiroedd rheolaidd mawr; ffiniau traddodiadol; nodweddion cysylltiadau; archeoleg gladdedig; cysylltiadau mynachaidd. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Livox Farm yn ardal amaethyddol i'r gogledd o Gas-gwent, a leolir ar ochr isaf y dyffryn sydd ar oleddf bas wrth dro siarp yn yr afon, rhwng glan orllewinol Afon Gwy a llethr serth Wyndcliffe. Yn y man hwn mae Afon Gwy yn troi mor siarp nes iddi ddyblu'n ôl ar ei hun, gan amgáu gwaelod y dyffryn bas ar dair ochr. Mae'r dirwedd amaethyddol hon yn cynnwys un fferm fach, a oedd yn hanesyddol wedi'i lleoli ym mhlwyf Chapel Hill, ac a oedd, ar ôl bod yn eiddo i fynachod Tyndyrn, yn ddiddegwm.

Gwelir gweithgarwch cynhanesyddol yn yr ardal ar ffurf dau gelc yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd, y mae un yn cynnwys dwy fwyell efydd soced o fath Brereton a'r ail yn cynnwys saith bwyell soced a thro (Maylan 1990).

Mae'n debygol i'r ardal fod yn goediog iawn yn wreiddiol, fel y mae'r ardal oddi amgylch o hyd, ac mae'n cynrychioli ardal o asart canoloesol fwy na thebyg. Roedd ardal Livox Farm, a oedd yn rhan o'r faenor ym Mhorthcaseg, ymhlith tir a roddwyd i Abaty Tyndyrn yn 1131 OC gan Walter da Clare. Ystyrir i'r ardal gael ei ffermio o Blasty Rudding gerllaw (Ruddings Farm yn HLCA008), un o blastai Abaty Tyndyrn (Maylan 1990).

Ar ôl i'r mynachdai gael eu diddymu, rhoddwyd tir yr Abaty i ail Iarll Caerwrangon yn 1537 (Maylan 1990, 6) ac arhosodd yn y teulu hwn (a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort yn ddiweddarach) nes iddo gael ei brydlesu yn 1759 i Ystad Piercefield a oedd yn eiddo i Valentine Morris ar y pryd. Pan gafodd ystad Piercefield ei gwerthu i'r Cyrnol Mark Wood yn 1793, roedd Livox Farm yn ymestyn dros 134 erw; bron dwbl ei maint presennol sef 82.97 erw (33.58 hectar); roedd y fferm wedi tyfu ychydig i 140 erw erbyn 1802, pan gafodd yr ystad ei phrynu gan Nathaniel Wells. Yn y catalog gwerthiant ar gyfer Ystad Piercefield, sy'n dyddio'n ôl i 1793, cafodd yr adeiladau fferm eu disgrifio fel 'recently erected'. Ymddengys nad yw'r adeiladau fferm sydd wedi goroesi wedi newid fawr ddim ers diwedd y deunawfed ganrif, ac awgrymwyd bod y fferm yn un enghreifftiol o'r ddeunawfed ganrif (Maylan 1990, 12). Arhosodd yr ardal ym mherchenogaeth teulu Beaufort tan 1901, pan gafodd ei chynnwys yng ngwerthiant ystadau'r nawfed Dug, pan roedd y tir yma ymhlith yr hyn a brynwyd gan y Goron (Bradney 1913).

Gan fod plwyf Chapel Hill yn ddiddegwm nid oes unrhyw fap yn dyddio'n ôl i'r 1840au, ond mae Argraffiad Cyntaf map yr AO (1881) yn dangos bod y tir amaethyddol yn cwmpasu'r un ardal fel y gwnaeth hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif, tra nad yw patrwm y caeau wedi newid hyd at Drydydd Argraffiad map yr AO (1921). Yn ystod rhan olaf yr ugeinfed ganrif gwelwyd rhai mân addasiadau i gynllun y caeau; fodd bynnag, digwyddodd newidiadau mwy dwys yn y 1990au gyda Chwarel Livox yn cael ei hehangu i mewn i'r caeau ar ochr orllewinol y fferm (Maylan 1990).

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Gellir nodweddu Livox Farm fel ardal anghysbell o weithgarwch amaethyddol yr ymddengys iddi yn hanesyddol gael ei hennill o'r coetir hynafol amgylchynol. Gellir nodweddu ei chaeau amaethyddol fel caeau arferol o glostiroedd hirsgwar mawr, sydd bellach yn cael eu defnyddio fel tir âr a thir pori/porthiant sych. Mae'r ffiniau yn cynnwys gwrychoedd sydd wedi datblygu'n dda â choed gwrych nodweddiadol gyda ffensys post a gwifren wedi'u hychwanegu atynt.

Yn hanesyddol, mae'n fwyaf tebygol y byddai'r tir amaethyddol yn Livox wedi'i ennill o'r coetir amgylchynol drwy broses asart. Heddiw, mae coetir hynafol yn amgylchynu'r ardal ar dair ochr, tra i'r dwyrain ceir Chwarel Livox, chwarel galchfaen, sydd i'w gweld ar fapiau hanesyddol o Argraffiad Cyntaf map yr AO o leiaf; roedd y chwarel a ddangoswyd bryd hynny yn llawer llai na'r un bresennol, ac mae cryn dipyn o'r ardal rhwng ymyl yr afon a Livox Farm wedi diflannu drwy chwarela.

Mae'r anheddiad o fewn ardal â nodweddion Livox Farm yn cynnwys fferm ôl-ganoloesol anghysbell (PRN 05339g), sy'n ymddangos fel 'Liveoaks Farm', tan Drydydd Argraffiad map yr AO yn 1921 o leiaf (ymddengys fod yr enw Livox yn addasiad diweddar o'r ffurf gynharach hon a oedd yn ymwneud â'r coetir amgylchynol fwy na thebyg), ynghyd â phedwar bwthyn bach, sy'n ymddangos gyntaf ar fap yr AO 1921 ychydig y tu mewn i'r ardal â nodweddion. Mae'r arolwg o Argraffiad Cyntaf map yr AO yn dynodi bod y fferm wedi'i gosod allan fel a ganlyn yn flaenorol: yn rhannu'r fferm yn y canol mae dwy brif gyfres o adeiladau hirfain sydd wedi'u halinio i'r dwyrain-orllewin (yr un i'r gorllewin (sy'n bodoli) ag adain ystlysol fer i'r gogledd a'r de, a'r un i'r dwyrain ag adain fer yn ymestyn i'r gogledd yn y pen dwyreiniol); i'r gogledd ceir tri adeilad ar wahân (yn cynnwys rhes mewn siâp L) ar draws yr iard, gydag adeilad hirsgwar arall y tu hwnt i hynny; i'r de ceir dwy res gyfochrog a gysylltir gan ddwy iard is-hirsgwar i drydedd res i'r dwyrain sy'n cynnwys adeilad wedi'i ymestyn yn fawr (â phroffil croesgam), sef y fferm wreiddiol efallai. Dynoda mapiau modern a ffotograffau o'r awyr mai dim ond dau o'r strwythurau gwreiddiol sy'n goroesi ar y safle, gyda strwythurau amaeth-ddiwydiannol diweddar yn nodwedd ddominyddol bellach.

Mae llwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth hefyd yn cyfrannu at gymeriad yr ardal dirwedd hon. O fewn yr ardal tirwedd hanesyddol â nodweddion, mae lôn syth yn cysylltu adeiladau'r fferm â llwybr cysylltu allanol pwysig sef llwybr yr A466; ni ellir cael mynediad i'r afon yma am ei bod yn mynd i mewn i geunant serth.

Mae nifer o fannau yn yr ardal lle gellir dod o hyd i bethau. Ymhlith yr hyn a ddarganfuwyd mae dwy fwyell o'r Oes Efydd (PRNs 00746g a 00747g), a cheiniogau canoloesol ac ôl-ganoloesol (PRN’s 05334g, 05335g, a 05336g); gallai rhai o'r canfyddiadau hyn ymwneud â gweddillion archeolegol a gladdwyd, nas nodwyd eto, yn yr ardal.