Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

004 Coetir Hynafol Parc Piercefield


Ruined farmstead (middle centre): view to the southwest

HLCA 004 Coetir Hynafol Parc Piercefield

Coetir Hynafol o fewn Parc Piercefield: archeoleg amddiffynnol Gynhanesyddol greiriol; nodweddion cloddio a phrosesu diwydiannol ôl-ganoloesol (ee odynau calch); hamdden addurniadol: parcdir (llwybrau cerdded addurniadol a mannau gwylio); twristiaeth; nodweddion cysylltiadau; cysylltiadau hanesyddol (Mudiad Pictiwrésg); rheoli coetir Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coetir Hynafol Parc Piercefield yn cynrychioli ardal o goetir lled-naturiol cymysg a choetir llydanddail hynafol gyda phrysgwydd a thir heb ei reoli gwasgaredig hefyd ar lannau Afon Gwy. Lleolir yr ardal o fewn plwyfi Arfan Sant, Chapel Hill a Chas-gwent.

Mae'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn yr ardal yn dyddio'n ôl i'r Oes Haearn; mae hyn ar ffurf tair nodwedd gwrthgloddiau, bryngaerau, neu lociau amddiffynedig. Y rhain yw Gwersylloedd cofrestredig Coedwig Piercefield (SAM MM020, PRNs 00773g and 00772g) a Gwersyll Coedwig Blackcliff (SAM MM027, PRN 00748g).

Ni cheir unrhyw dystiolaeth bellach o weithgarwch tan y cyfnod ôl-ganoloesol, pan mae Argraffiad Cyntaf map yr AO (1882) yn dangos chwarel fach ar Livox Farm, a wnaeth ehangu'n ddiweddarach i gwmpasu ardal fawr a oedd yn tresmasu ar Livox Farm (HLCA 007) drws nesaf erbyn map modern yr AO (2006).

O'r 1740au trefnwyd teithiau ar gychod i alluogi cefnogwyr y mudiad pictiwrésg i weld golygfeydd dramatig Afon Gwy ac olion 'rhamantus' yr Abaty yn Nhyndyrn. Yn gysylltiedig â'r mudiad hwn, gwnaeth Valentine Morris yr Ieuaf gynllunio a gosod cyfres helaeth o lwybrau addurniadol drwy'r ardal er ei fudd ef ei hun, ei ffrindiau ac ymwelwyr â'r goedwig rhwng 1752 a 1772, gyda chymorth Richard Owen Cambridge. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau ar hyd glannau gorllewinol Afon Gwy sy'n cysylltu Piercefield â Chas-gwent a man sydd tua thair milltir i'r de o Dyndyrn ac a gynlluniwyd gan Morris i'w dilyn o'r gogledd i'r de. Ar ôl i Morris adael yn 1772 agorwyd y llwybrau i'r cyhoedd ar adegau, er erbyn 1781 roeddent mewn cyflwr gwael. Gwnaethpwyd gwelliannau mawr i'r ystad yn gyffredinol, ac i'r llwybrau yn arbennig o 1794 o dan feddiannaeth Cyrnol Wood. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar wahân i ychwanegu 365 o risiau gan Ddug Beaufort yn 1828, prin fu'r newid a wnaed i'r ystad na'r llwybrau cerdded, ac erbyn 1850 roedd y llwybrau mewn cyflwr gwael unwaith eto ac ar gau i'r cyhoedd. Yn 1926, gwerthodd Henry Hastings Clay yr ystad, ynghyd â Choetir Hynafol Piercefield, i Gwmni Cwrs Rasio Ceffylau Cas-gwent. Ar hyn o bryd, mae'r coetir yn cael ei reoli er cadwraeth a diddordeb hanesyddol.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coetir Hynafol Parc Piercefield fel ardal o goetir hynafol sy'n rhedeg ar hyd glannau gorllewinol Afon Gwy; mae'r goedwig/coetir a geir yma yn cynnwys coetir llydanddail hynafol yn bennaf ac ardaloedd o brysgwydd neu dir heb ei reoli ar lannau'r afon.

Hefyd, nodweddir yr ardal gan aneddiadau neu fryngaerau amddiffynedig cynhanesyddol, gan gynnwys dau Wersyll Coedwig Piercefield (PRNs 00773g and 00772g; SAM MM020) a Gwersyll Coedwig Blackcliff (PRN 00748g; SAM MM027), y mae pob un yn Heneb Gofrestredig. Ystyrir bod y safleoedd amddiffynedig hyn, sy'n cynnwys amddiffynfeydd cantelog unigol a lluosog, yn perthyn i'r Oes Haearn, er y gallent fod wedi dechrau cael eu meddiannu yn ystod yr Oes Efydd gan bara hyd at y cyfnod Rhufeinig, gyda'r posibilrwydd o ailfeddiannu/parhau hyd at y cyfnod canoloesol cynnar; heb arolwg manwl na gwaith cloddio prin yw'r wybodaeth sydd ar gael.

Elfen bwysig sy'n nodweddiadol o'r ardal yw archeoleg ddiwydiannol; mae cryn dystiolaeth o weithgarwch cloddio ar ffurf chwarela, mwyngloddio ac echdynnu graean. Y chwarel fwyaf yn yr ardal yw Chwarel Livox (PRN 07060g), sydd wedi bodoli ar fapiau ers o leiaf Argraffiad Cyntaf map yr AO 1882 a nodwyd pedair chwarel a/neu byllau cloddio eraill (PRNs 07128g, 07132g, 07071g and 07073g), ynghyd â phwll haearnfaen (PRN 00753g). Mae odynnau calch sy'n ymwneud â'r chwareli hefyd yn nodweddiadol o'r ardal; nodwyd o leiaf ddwy odyn calch, y mae un ohonynt yn Heneb Gofrestredig (PRNs 05340g, a 07070g/SAM MM291) yn yr ardal.

Mae gweithgareddau hamdden, yn fwy penodol twristiaeth, hefyd yn nodwedd bwysig yn yr ardal hon. Mae cysylltiad cryf rhwng y gweithgarwch hamdden a llwybrau cysylltu, sy'n nodwedd allweddol arall; mae'r cyswllt hwn ar ffurf llwybrau cerdded a gafodd eu poblogeiddio gan y mudiad pictiwrésg yn ystod hanner olaf y ddeunawfed ganrif. O ganlyniad, mae'r ardal yn gyfoethog o ran cysylltiadau llenyddol a hanesyddol pwysig sydd â chysylltiad agos â'r mudiad pictiwrésg. Tirluniodd Valentine Morris yr Ieuaf, gyda chymorth Richard Owen Cambridge, gryn dipyn o'r parcdir yma rhwng 1752 a 1772; ymhlith y gwaith hwn adeiladwyd cyfres o lwybrau cerdded a llwyfannau gwylio, sef 'parcdir Piercefield a llwybrau cerdded Wyndcliffe'. Daeth Piercefield yn atyniad pwysig ar Daith Dyffryn Gwy a gafodd ei boblogeiddio i ddechrau o 1745 gan y Parchedig Dr John Egerton o Ross, ac yn ddiweddarach gan William Gilpin a wnaeth, yn dilyn taith ar gwch i lawr Afon Gwy yn 1770, ysgrifennu ei lyfr dylanwadol Observations on the River Wye (a gyhoeddwyd yn 1782), gan ymhelaethu ymhellach ar rinweddau rhamantus golygfeydd Dyffryn Gwy. Ymhlith edmygwyr cynnar yr ardal roedd William Shenstone, yr Iarll Alexsey Pushkin (y cenhadwr o Rwsia), a Syr Joseph Banks, a ddaeth ar ymweliad yn 1767. Tyfodd twristiaeth yn yr ardal hon â nodweddion a ledled Dyffryn ehangach Gwy ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; gallai ymwelwyr fynd ar deithiau cychod pleser ar hyd yr afon islaw'r ardal hon a cherdded y llwybrau a grëwyd gan Morris drwy ystad Piercefield.

Mae golygfannau a nodweddion pictiwrésg nodweddiadol wedi goroesi, yn bennaf fel llwyfannau gwastad yn ymestyn o'r llwybr, gan gynnwys, o'r de, yr Alcof (sedd a rheiliau), y Llwyfan (llwyfan o garreg a rheiliau), y Groto (alcof o garreg, y mae'r llen mewnol o risial a mwynau eraill wedi diflannu) uwchben Coedwig Pierce, yr Olygfa Ddwbl, y Sedd Hanner Ffordd, Teml y Derwyddon (mae rhai cerrig ar i fyny wedi goroesi), Ogof y Cawr (twnnel drwy'r graig), sedd ger dwy ffawydden, Naid y Cariadon a'r Deml (safle a ddymchwelwyd tua 1800). Mae ymwelwyr cyfoes yn cyfeirio at sedd Tsieineaidd, ond mae wedi diflannu erbyn hyn. Mae'r grisiau hefyd yn nodedig, gan ymestyn o frig Wyndcliff i heol newydd Tintern Road, sef y 365 o risiau; adeiladwyd y rhain yn 1828 ar gais Dug Beaufort gan ei stiward Osmond Wyatt. Cafodd y llwybr troellog hwn sy'n serth ac wedi'i dorri o'r graig yn rhannol ei adfer yn ddiweddar.

Ger y brig mae golygfan ysblennydd Nyth yr Eryr, llwyfan hanner cylch â pharaped carreg isel gyda rheiliau haearn ar ei ben. Wrth droed y grisiau mae Moss Cottage, bwthyn to gwellt â ffenestri Gothig a gwydr lliw; cafodd ei dymchwel yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Mae coetir lled-naturiol hynafol yr ardal, ffawydd, yw, leim dail bach, leim dail mawr, ac mewn mannau, sawl rhywogaeth o gerddin gwynion, yn dangos arwyddion o goedlannau creiriol a rhai coed tal, ar y llethrau llai serth.