Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

009 Coetir Hynafol Tyndyrn a Bryn Barbadoes


Aerial photograph over Hill's Pits, courtesy of RCAHMW.

HLCA 009 Coetir Hynafol Tyndyrn a Bryn Barbadoes

Coetir Hynafol â chlostiroedd gwasgaredig: tresmasu ôl-ganoloesol (ee. Bryn Barbadoes); gwaith cloddio a phrosesu amaeth-ddiwydiannol; archeoleg greiriol: Nodweddion angladdol a chreiriol cynhanesyddol ac anheddiad/caeau canoloesol/ôl-ganoloesol; cysylltiadau mynachaidd (o bosibl Maenor Leyg a Choed-yr-Abad); cysylltiadau hanesyddol; nodweddion/arwyddion rheoli coetir (posibl). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae cefndir hanesyddol Coetir Hynafol Tyndyrn a Bryn Barbadoes yn cynrychioli ardal o goetir cymysg cyffiniol, planhigfa lydanddail a choniffer gollddail a leolir ar y llethrau dwyreiniol uwchben Tyndyrn ac i'r de a'r gogledd o Ddyffryn Angidy, yn ymestyn mor bell i'r gogledd â Whitelye, gan gynnwys Coedwig Limekiln, Church Grove, Coedwig Glyn, Coedwig Ravensnest, Coedwig Buckle, Coedwig Uchaf ac Isaf Hale, Coedwig Barbadoes a Gurllus Grove. Mae'r coetir yn goetir hynafol lled-naturiol ar y cyfan, er ei fod yn cynnwys rhai ardaloedd o goetir wedi'i ailblannu. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o glostiroedd aneddiadau, yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol fwy na thebyg, fel Bryn Barbadoes, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi dirywio ac wedi'u gadael yn wag erbyn hyn.

Gwelir y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol yn yr ardal gan grwp o dair carnedd o'r Oes Efydd, mynwent crug crwn Coedwig Isaf Hale (SAM MM191; PRN 08049g a PRNs 03940g, 00724g 00725g) a leolir mewn coetir y naill ochr i'r hyn sy'n llwybr crib hynafol fwy na thebyg (llwybr coedwig/llwybr troed cyhoeddus bellach) yn arwain o Catbrook, drwy Whitelye i Dyndyrn.

Cafodd y plasty neu'r ysbyty lleyg (PRN 08343g) sy'n gysylltiedig ag Abaty Tyndyrn yn ystod y cyfnod canoloesol ei sefydlu yn yr ardal i'r gorllewin o Dyndyrn uwchben Dyffryn Angidy. Gallai'r safle hwn, a nodwyd yn faenor gyntaf yn 1440 ac yn ddiweddarach yn blasty, fod wedi dechrau fel ysbyty mynachaidd i'r bobl leyg leol (Williams 1976, 120-1). Ceir Firmery Grove yn SO521999 (Williams 2001, 152 ffig 65), a ‘Chapel meadow’ yn ST522997 (Williams 2001, 311 rhif 169); nodwyd capel posibl hefyd (Evans 2004). Mae ardal o goetir a elwir yn Coed-yr-Abad hefyd yn gysylltiedig â hen ddaliad tir mynachaidd.

Hefyd yn y cyfnod canoloesol, credir bod ffordd yn cysylltu'r abaty yn Nhyndyrn â'i blasty anghysbell ym Mhorthcaseg wedi'i hadeiladu drwy'r ardal. Roedd Stony Way (PRN 03174g), ffordd goblog ganoloesol, yn rhedeg o Abaty Tyndyrn, y tu ôl i Westy'r Beaufort yn ddiweddarach, i fyny at faenor fynachaidd Porthcaseg. Wedi'i enwi erbyn 1451, credir bod y llwybr yn unigryw o bosibl yng Ngwent. Mae'n debygol y byddai'r ffordd hon, a oedd yn cysylltu nifer o ddaliadau anghysbell yr Abaty, wedi'i hadeiladu gan frodyr lleyg, fratres conversi a llafurlu wedi'i hurio, mercenarii.

Gellir gweld tresmasiad anheddiad ôl-ganoloesol ar y coetir gyda nifer o anheddau anghysbell bach ar gyrion aneddiadau mwy, a ddangosir gan anheddau a chlostiroedd rheolaidd bach Cliff Cottages (PRN 07126g) a chlostiroedd eraill yn Church Grove (PRN 07075g), gan gynnwys yr hyn sy'n ymddangos fel corlannau anifeiliaid neu ddefaid a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO. Mae'r rhain wedi'u gadael yn wag ar y cyfan, er bod anheddiad Bryn Barbadoes, tresmasiad yn bodoli ar y Degwm, yn ddinewid ac yn cael ei feddiannu ar y cyfan. Mae'n debygol i'r enw Bryn Barbadoes darddu o gysylltiad â naill ai teulu'r Morris o Dyndyrn, neu Nathanial Wells, a oedd yn berchen ar Piercefield yn ddiweddarach, yr oedd ganddynt oll gysylltiadau agos â'r Caribî.

Roedd gan dri brawd teulu Morris, sef Lewis, William a Richard, gysylltiadau cryf â'r Caribî ac America. Rydym yn gwybod bod Lewis Morris, a anwyd tua 1613, yn breifatîr, yn gapten llong, ac yn berchennog planhigfa siwgr cyfoethog yn Barbados, ac roedd hefyd yn berchen ar gryn dipyn o'r hyn sy'n ardal y Bronx bellach, a daeth yn doddwr mwyn haearn yn New Jersey (Smith 1983), tra cymerodd mab ei frawd William, sef John, ran yn yr alldaith Seneddol i Barbados yn 1652. Gwasanaethodd y Cyrnol Valentine Morris, un o ddisgynyddion John Morris, ar Ynys St Vincent yn y Caribî a phrynodd ystad Piercefield yn 1763, ar ôl ymddeol i Gymru. Cadwodd teulu Morris ystadau yn India'r Gorllewin, a dychwelodd mab Valentine Morris, Valentine Morris yr Ieuaf, yno ar ôl i broblemau ariannol ei gwneud yn ofynnol gwerthu Piercefield. Daeth Valentine yn Is-Gapten-Lywodraethwr ac yn y pen draw yn Brif Lywodraethwr St Vincent, cyn iddo gael ei golli i'r Ffrancwyr.

Prynodd Nathaniel Wells (1779-1852), a wnaeth etifeddu ffortiwn oddi wrth ei dad, perchennog planhigfa o St Kitts yn y Caribî, ystad Piercefield yn 1802. Roedd gan Nathaniel, a ddaeth yn Siryf Sir Fynwy yn 1818 ac yn ddiweddarach yn Ddirprwy Is-Gapten, rieni o dras gymysg. Roedd ei fam, Juggy, yn gyn-gaethwas Affricanaidd, ac roedd ei dad, William Wells, yn hanu o Gaerdydd.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Mae Coetir Hynafol Tyndyrn a Bryn Barbadoes yn ardal o goetir a choedwigaeth, a nodweddir gan goetir hynafol sy'n cael ei ddominyddu gan goetir coniffer a chollddail a llydanddail arall cymysg. Mae'r ardal yn cwmpasu sawl clostir gwasgaredig a nodweddion eraill sy'n gysylltiedig ag Abaty Tyndyrn. Ar y cyfan, mae'r coetir coniffer yn gyfyngedig i rannau uchaf llethr ehangach y bryn a'r coetir collddail cymysg i rannau isaf llethr culach y bryn uwchben dyffryn Angidy (HLCA 014).

Mae archeoleg greiriol yn nodwedd ddominyddol yn yr ardal, sy'n goroesi ar ffurf Mynwent Crug Crwn Coedwig Hale (SAM MM191; PRN 08409g) sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd. Mae dau o'r carneddi hyn wedi erydu'n fawr a gellid bod wedi dwyn ohonynt i gael deunydd i adeiladu neu atgyweirio lonydd gerllaw, tra bod coedwigaeth gyfagos wedi tresmasu ar yr heneb. Y garnedd sydd yn y cyflwr gorau (PRN 00725g), a leolir i'r de o'r lôn, yw'r mwyaf yn y grwp a chofnodir ei fod yn hirgrwn ei siâp. Mae'r nodweddion archeolegol creiriol hyn, a warchodir bellach drwy fod yn gofrestredig, yn darparu agwedd angladdol a defodol ar gymeriad yr ardal.

Nodweddir anheddiad yn yr ardal gan dresmasiad ôl-ganoloesol anghysbell gwasgaredig o gartrefi a chlostir cysylltiedig a oedd yn bodoli erbyn arolwg Argraffiad Cyntaf map yr AO (ee, PRNs 07125g, 07126g, 07274g a 07075g). Mae agosrwydd y daliadau hyn i aneddiadau mewn ardaloedd cyfagos, er enghraifft a'r rhai yn Abaty Tyndyrn (HLCA 013) a Dyffryn Angidy (HLCA 014) yn awgrymu mewn rhai achosion fod y nodweddion hyn o ran aneddiadau anghysbell wedi tarddu mewn gwirionedd wrth i aneddiadau ehangu o'r rhai mewn ardaloedd â nodweddion cyfagos. Un enghraifft o'r fath yw'r annedd gwag (PRN 07125g) a leolir ar lethr bryn sy'n wynebu'r gogledd-ddwyrain uwchben Abaty Tyndyrn; roedd yn cynnwys dau adeilad â chaeau caeedig cysylltiedig. Ymhlith yr enghreifftiau eraill mae adeilad sydd wedi'i adael yn wag (PRN 07126g) yr ymddengys iddo fod yn rhan o grwp o ddau neu fwy o strwythurau o'r enw Cliff Cottages ar Argraffiad Cyntaf map yr AO, ac mae un arall a adawyd yn wag hefyd (PRN 07274g), yn ymddangos fel petai wedi'i gynnal gan ochr y bryn. Mae annedd arall a adawyd yn wag (PRN 07075g) yn goroesi fel rhan o grwp o nodweddion a leolir ar rannau isaf llethr y coetir sy'n wynebu'r de yn Church Grove.

Prin fu'r newid i anheddiad Bryn Barbadoes, enghraifft dda o dresmasiad ôl-ganoloesol, o'r hyn a ddangoswyd ar fap y degwm ac Argraffiad Cyntaf map yr AO, ar wahân i fân ychwanegiadau. Mae'r ardal, sy'n cynnwys nifer fach o anheddau hirsgwar â chlostiroedd cysylltiedig, gan gynnwys Yew Tree Cottage, â'u prif echel wedi'i leoli ar hyd y llethr, yn wahanol i'r cynllun mwy traddodiadol o lethr ar i lawr; mae hyn yn arwydd da, ynghyd â'r enw, Bryn Barbadoes (cyfeiriad at gysylltiad yr ardal â phlanhigfeydd siwgr yn y Caribî) nad yw'r anheddiad yn gynharach na'r ail ganrif ar bymtheg, ac yn fwy tebygol yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, neu hyd yn oed dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae dyraniad y degwm yn nodi bod y rhan fwyaf o'r clostiroedd a oedd yn gysylltiedig ag anheddiad Bryn Barbadoes yn cael eu defnyddio at ddiben perllannau, ar gyfer y diwydiant seidr lleol mae'n siwr.

Mae nodweddion eraill yn deillio o waith echdynnu amaeth-ddiwydiannol a gwaith prosesu, ar ffurf odynnau calch a chwareli bach. Enghraifft dda yw Odyn Galch Colwell Grove (SAM MM290; PRN 07507g), a ddisgrifiwyd fel ‘a fine example of an important regional limekiln type in its complete setting.’ Mae hon yn enghraifft ryfeddol o gyflawn o odynau calch math Dyffryn Gwy yn dyddio'n ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â nodweddion tirwedd cysylltiedig sydd wedi goroesi, gan gynnwys lonydd, rampiau, waliau a chwarel gysylltiedig (SAM MM290; PRN 7508g). Mae gan yr odyn ddau fwa tynnu i'r blaen, a fwydir gan un pot. Mae rhywfaint o'r arwyneb uchaf wedi diflannu ond mae'r bwâu a'r pot yn gyflawn. Mae ceuffordd a amgylchynir gan waliau sylweddol yn arwain at yr odyn. Gellid bod wedi cloddio'r calchfaen o ardal eang o amgylch yr odyn, a cheir chwarel sydd mewn cyflwr da i'r de. Mae'n debyg bod y nodweddion hyn wedi cyfrannu at ddatblygiad y dirwedd hanesyddol ehangach yn gyffredinol gan ddarparu deunyddiau ar gyfer gwaith adeiladu a gwelliannau amaethyddol.

Mae llwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth yn ychwanegu at gymeriad yr ardal hon: credir bod y ffordd ganoloesol (PRN 03174g) sef Stony Way sy'n rhedeg o dir Abaty Tyndyrn i'w faenor gysylltiedig ym Mhorthcaseg yn rhedeg drwy'r ardal hon, tra gallai rhai o'r llwybrau cefnffordd yn yr ardal fod yn gynhanesyddol. Prin yw'r wybodaeth sy'n hysbys am lonydd a llwybrau coedwig yr ardal, y mae llawer ohonynt yn hawliau tramwy cyhoeddus; gallai fod gan lawer ohonynt darddiad cynnar, tra gallai eraill fod yn gysylltiedig â'r defnydd diwydiannol o Ddyffryn Angidy o'r cyfnod canoloesol ac yn arbennig o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar.

Byddai'r ardal yn cael budd o gynnal astudiaeth fanwl bellach (ac arolwg maes) ar hyn ac agweddau eraill, fel natur y clostir a'r tresmasiad yn y coetir, a'r nodweddion sy'n gysylltiedig â rheoli'r coetir yn y gorffennol neu'n dynodi hynny, y mae'n debygol ei fod wedi'i nodi'n gynhwysfawr yn yr ardal.