Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

008 Reddings Farm


Locomotives at the Pontypool and Blaenavon Railway.

HLCA 008 Reddings Farm

Tirwedd amaethyddol (un fferm): caelun lled-reolaidd: wedi'i gyfuno'n rhannol; daliad mynachaidd "Rudding Grange" neu "Assart Grange"; ffiniau traddodiadol; archeoleg greiriol/claddedig: canfyddiadau cynhanesyddol a nodweddion maenor ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Reddings Farm yn ardal amaethyddol, a leolir ar lethrau dwyreiniol ochr orllewinol Dyffryn Gwy, sy'n rhedeg o ymyl yr afon i gopa'r gefnen. Fe'i hamgylchynir i'r gogledd, y gorllewin a'r de gan goetir hynafol; mae glannau gorllewinol Afon Gwy yn ffurfio ochr ddwyreiniol yr ardal. Mae'r dirwedd amaethyddol hon yn cynnwys un fferm, a oedd yn rhan o faenor Porthcaseg, o dan berchenogaeth Abaty Tyndyrn. Rhoddwyd y tir mynachaidd hwn i Henry Somerset (sef Dug Beaufort yn ddiweddarach) yn 1536-7, a chan ei fod yn dir mynachaidd roedd yn ddiddegwm (Locock 1997). Yn ddiweddarach roedd yn rhan o blwyf Chapel Hill nad oes map y degwm na dyraniad ohono ar gael (Bradney 1913, 255).

Yma gellir olrhain gweithgarwch yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol; daethpwyd o hyd i saethben fflint o'r cyfnod hwn. Cyn y goresgyniad Normanaidd mae'n debygol bod yr ardal yn goediog iawn yn wreiddiol, fel y mae'r ardal amgylchynol o hyd, ac mae'n cynrychioli ardal o asart canoloesol fwy na thebyg, sy'n tresmasu ar y coetir diffaith. Mae enw presennol y fferm sef 'Ruddings', gan amrywio o Ruding neu Rudding, yn dod o'r Hen Saesneg 'hryding', sy'n golygu 'ardal wedi'i chlirio' (Williams 1990).

Credir bod yr ardal hon, yr ystyrir ei bod yn safle i blasty Tyndyrn ar y cyd â maenor Porthcaseg (Williams 1976, 113, 133-7), yn rhan o'r tiroedd a roddwyd i'r abaty gan ei sylfaenydd, Walter de Clare, yn 1131 OC. Mae Williams (2001, 227 ffig 103, 311 rhif 168) yn nodi hon fel 'Assart Grange' y cyfeiriwyd ati yn siarter 1223 (‘grangiam de assarto cum villa de Porcassete’); mae Bradney (1932, 160), fodd bynnag, yn ei gosod ym mhlwyf Newchurch. Mae Rees yn nodi bod y safle yn faenordy, yn llysty neu'n blasty a oedd yn bodoli yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a leolwyd ar ffin de-ddwyreiniol y tir a oedd yn eiddo i Abaty Tyndyrn. Nid yw lleoliadau eraill a ystyriwyd yn ymgeiswyr posibl ar gyfer canol y plasty, sef Priory Farm a Great House, wedi cynhyrchu unrhyw dystiolaeth gadarn (cerdyn AO ST 49 NW 29; Evans 2004).

Cofnodwyd system ddraenio yn cynnwys ffosydd yn llawn cerrig, draeniau a ffosydd agored yma (Williams 1990, 62) ac ystyrir bod y broses hon o wella tir yn debygol o ddyddio'n ôl i'r un cyfnod â'r gwaith clirio cychwynnol. Roedd pob plasty yn ganolfan gymharol annibynnol, gyda llety ar gyfer y brodyr lleyg, a chapel, yn ogystal â'r adeiladau amaethyddol. Roedd holl faenorau Tyndyrn yn ffermio defaid i bob diben, gan olygu bod angen clirio coetir.

Ar ôl i'r mynachdai gael eu diddymu, rhoddwyd daliad Reddings yr Abaty i Henry Somerset, ail Iarll Caerwrangon yn 1537 (Maylan 1990, 6). Yn y cyfnod canoloesol diweddarach, cafodd maenorau'r mynachod eu rhentu i ffermwyr lleyg a pharhaodd yr arfer hwn o dan y perchennog newydd (Maylan 2000). Ymddengys yn debygol na fyddai trosglwyddo perchenogaeth o un eglwysig i un leyg yn cael fawr ddim effaith ar y dechrau o leiaf ar y broses o weithredu'r plasty a'i chynllun. Arhosodd y plwyf lle y lleolir Reddings Farm, Chapel Hill, yn nwylo teulu Somerset (a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort yn ddiweddarach) nes i ystadau Beaufort gael eu gwerthu yn 1901 pan gafodd y tir ei brynu gan y Goron.

Dengys y dystiolaeth gartograffaidd na wnaeth cynllun y daliad tir newid fawr ddim ers arolwg Argraffiad Cyntaf map yr AO yn 1881, ar wahân i lain tenau o dir rhwng heol yr A466 ac Afon Gwy. Yma dengys Argraffiad Cyntaf map yr AO glostir a rennir yn gaeau; mae'r ffiniau hyn wedi diflannu ers hynny, ac mae'r ardal wedi dychwelyd i gyflwr heb ei drin.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Reddings Farm, ardal o'r adeiladau fferm a chaeau cysylltiedig a leolir ar fan gwastad ar oleddf uwchben Afon Gwy, gan gaeau amaethyddol a fferm anghysbell â chysylltiad â 'phlasty' eglwysig. Yn nodweddiadol, mae patrwm y caeau yn lled-arferol gyda chlostiroedd cyfunedig yn rhannol. Mae ffiniau allanol yr ardal wedi'u ffurfio o goed gwrych sydd wedi datblygu'n dda ac sy'n nodedig; ar hyn o bryd mae ffensys post a gwifren yn rhannu'r caeau canolog. Mae'r ardal â nodweddion hefyd yn cynnwys llain o goetir prysgwydd heb ei drin ar y llethr uwchben glan yr afon.

Mae thema gref o gysylltiad eglwysig â'r daliad sy'n ffurfio rhan o diroedd yr hen blasty ym Maenor Porthcaseg sy'n eiddo i Abaty Tyndyrn, yn benodol Maenor Ruding, sy'n golygu plasty 'asart' yn llythrennol; fferm fynachaidd a enillwyd o goetir neu dir diffaith. Ymhlith y nodweddion amaethyddol o ddiddordeb mae ty defaid a system draenio caeau; cofnodir y system ddraenio fel cyfres o ffosydd yn llawn cerrig, draeniau tir a ffosydd agored (Williams 1990).

Cyfyngir yr anheddiad yn yr ardal i fferm anghysbell, a allai fod â tharddiad canoloesol yn ymwneud â'r plasty. Dangosir y fferm ar Argraffiad Cyntaf map yr AO fel trefniant hirfain o adeiladau hirsgwar ac is-sgwâr bach, ac ychwanegwyd ail gyfres hirfain o adeiladau yn ystod yr ugeinfed ganrif. Prif ddeunydd adeiladu'r adeiladau hyn a newydd, y mae rhai ohonynt wedi'u gwyngalchu, yw cerrig patrymog, ac ymddengys mai'r prif ddeunydd toi yw llechi.

Mae nifer o ganfyddiadau archeolegol wedi'u gwneud yn yr ardal, gan gynnwys dod o hyd i ben saeth cynhanesyddol; mae'r rhain yn rhoi arwydd cyfyngedig o feddiannaeth gynharach bosibl.