The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

018 Ogwr


Castell Ogwr.

HLCA 018 Ogwr

Anheddiad cnewyllol-organig sydd wedi lleihau mewn maint sy'n cynnwys amddiffynfa gylch/castell cerrig canoloesol a leolir yn strategol o fewn tirwedd amaethyddol/tirwedd gorlifdir â chlostiroedd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu'n gynharach; adeiladau o ddiddordeb pensaernïol; tirwedd archeolegol greiriol amlgyfnod sy'n cynnwys caer bentir gynhanesyddol a nodweddion eglwysig canoloesol Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; coridor cysylltiadau a chysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ogwr yn cynnwys y gerlan isel wrth gymer afonydd Ogwr ac Ewenni. Yn yr ardal ceir 2 glostir a gynhwysir o fewn parc a gardd gofrestredig Merthyr Mawr, a leolir ar yr ochr arall i Afon Ogwr (gweler HLCA 012) sef Coed Pwll-y-fflew a Waun-y-fervill (dim ond yr olaf a oedd yn rhan o dir Demên Merthyr Mawr yn 1813). Lleolir HLCA 018 o amgylch anheddiad Ogwr sydd wedi lleihau mewn maint. Yn wreiddiol cynhwysai'r anheddiad yn Ogwr yn y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar grwp cnewyllol; cyn gwrthryfel Glyn Dwr cynhwysai'r anheddiad 22 o denantiaid a 27 o fythynnod, ond ar ôl y gwrthryfel ni chynhwysai ond chwe thenant. Mae'r anheddiad presennol yn cynnwys fferm, sef 'Ogmore Farm' a phentrefan bach i'r de o'r Castell.

Adeiladwyd castell Ogwr (SAM Gm 037) yn wreiddiol c 1100 gan William de Londres; roedd y castell cyntaf yn amddiffynfa gylch hirgrwn yr oedd beili siâp D ynghlwm wrtho i'r gorllewin. Mae'r amddiffynfeydd cerrig yn dyddio o'r 12fed ganrif a'r 13eg ganrif; yr un pwysicaf yw gorthwr deulawr hirsgwar (dechrau'r 12fed ganrif, codwyd uchder y gorthwr yn ddiweddarach), sy'n un o'r adeiladau Normanaidd cynharaf yn y rhanbarth yn ôl pob tebyg, y 'seler' hirsgwar a'r llenfur a'r porth (13eg ganrif) y ceir enghreifftiau tebyg ohonynt yng Nghoety a Newcastle. Mae'r beili allanol yn cynnwys y llysty (14eg /15eg ganrif), adeilad lle y cynhelid llysoedd maenoraidd tan ddechrau'r 19eg ganrif.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Ogwr fel ardal o dir isel amgaeëdig ar y cyfan wrth gymer Afonydd Ogwr ac Ewenni, a nodweddir yn bennaf gan dir llifddol sy'n agored i lifogydd, ond sy'n cynnwys yr ardal fach o dir amgaeëdig yn Rhos Fleming lle y lleolir caer bentir yn dyddio o'r Oes Haearn (SAM Gm 466). Mae aneddiadau'r ardal wedi'u crynhoi ym mhentref Ogwr sy'n cynnwys Castell canoloesol mewn lleoliad strategol, sef canolbwynt Arglwyddiaeth ganoloesol. Nodweddir yr anheddiad gan glwstwr organig cnewyllol o ffermydd/bythynnod (gan gynnwys tafarn, sef y Pelican, ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1884) sydd wedi'u canoli ar y castell. Cynrychiolir adeiladau brodorol/tai rhanbarthol canoloesol/ôl-ganoloesol nodweddiadol gan 'Ogmore Farm', 'Ogmore Cottage' a Thy-maen; mae'r olaf yn dy rhanbarthol a chanddo simnai â'i chefn at y mynediad a thramwyfa groes allanol.

Mae'r dirwedd amaethyddol wedi datblygu ac erbyn hyn fe'i nodweddir gan batrwm caeau amrywiol o glostiroedd o faint bach i fawr, lle y ceir rhai arwyddion o lain-gaeau canoloesol sydd wedi goroesi, a ffiniau amrywiol ond pendant. Mae llain o goetir Hynafol (Kings Wood) wedi goroesi ar waelod Rhos Fleming.

Mae'r ardal yn dirwedd amaethyddol greiriol amlgyfnod bwysig sy'n dra amrywiol ac sy'n darparu cryn ddyfnder amser gan gynnwys: aneddiadau/caeau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol, pentref canoloesol sydd wedi lleihau mewn maint neu sy'n anghyfannedd. Nodweddir yr ardal gan nodweddion milwrol/amddiffynnol yn bennaf gan gynnwys caer bentir gynhanesyddol a Chastell canoloesol (Ogwr), ac ar ben hynny ystyriwyd mai dyma oedd safle posibl caer Rufeinig (sef caer rithiol Bomium), honiad nas profwyd eto.

Mae lleoliad slabiau croes a cherrig arysgrifedig yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar a ddarganfuwyd yng nghastell Ogwr yn awgrymu bod gan y safle ryw swyddogaeth eglwysig neu iddo chwarae rhan bwysig fel canolfan eglwysig; mae ffos derfyn y Vervil (SAM Gm 465), gerllaw hefyd yn dynodi ffiniau tiriogaethol sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar o leiaf os nad ynghynt. Mae gan yr ardal nodweddion nodweddiadol (ee cored ganoloesol a'r system o ffrydiau a ffrwd melin ym melin yd Ogwr) sy'n gysylltiedig â diwydiant gwledig: a gysylltir yn bennaf â melino, gan gynnwys pannu (14eg ganrif) a chyferirir at felinau llanwol, melin lifio, odynau calch hefyd. Nodweddir yr ardal hefyd gan nifer fawr o nodweddion sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a chysylltiadau, gan gynnwys y ffordd Rufeinig/ganoloesol bosibl Heol-y-milwyr, llwybrau troed, llwybrau a lonydd troellog a syth. Mae amrywiaeth o fannau croesi afonydd/rhydleoedd gan gynnwys y cerrig camu hynafol (SAM Gm 184) yng Nghastell Ogwr a nifer o bontydd diddorol megis pont bedwar bwa drawiadol New Inn sy'n dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif neu o gyfnod cynharach, pont New Bridge a adeiladwyd yn 1827, a phompren grog ar geblau dur a adeiladwyd yn 1840 (sydd i gyd yn Rhestredig Gradd II) yn nodweddiadol o'r ardal (a HLCA 013 gerllaw).