The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

013 Cwningar Merthyr Mawr


Cwningar Merthyr Mawr ac Afon Ogwr.

HLCA 013 Cwningar Merthyr Mawr

Tirwedd agored a orchuddiwyd thywod sydd o bwys cenedlaethol; tirwedd amlgyfnod ac amlswyddogaethol; cwningar l-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwningar Merthyr Mawr yn ardal dirwedd o gryn bwys hanesyddol, ffaith a adlewyrchir yn ei statws rhannol fel Heneb Gofrestredig (SAM Gm 432), yn seiliedig ar grynhoad o nodweddion a darganfyddiadau archeolegol a ddatgelir o bryd i'w gilydd oddi tan y tywodydd symudol. Mae'r ardal, sy'n warchodfa natur genedlaethol ac yn SoDdGA, yn cynnwys pentref a Maenor ganoloesol anghyfannedd Trecantle, y gadawyd y rhan fwyaf ohono yn wag ar l cael ei orchuddio thywod erbyn y cyfnod l-ganoloesol cynnar. Yn ystod y cyfnod l-ganoloesol daeth y tir i feddiant Ystad Merthyr Mawr.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Cwningar Merthyr Mawr fel tirwedd agored a orchuddiwyd thywod, y mae'r rhan fwyaf ohoni yn Heneb Gofrestredig. Nodweddir yr ardal gan dirwedd gladdedig amlgyfnod ac amlswyddogaethol: sy'n cynnwys aneddiadau/caeau anghyfannedd cynhanesyddol, canoloesol ac l-ganoloesol a gladdwyd (ee cefnennau amaethu, aneddiadau ym Mhwll-y-defaid a gerllaw Trecantle, a safle Coniger neu Warren House, maenordy canoloesol), a thirwedd angladdol a defodol cynhanesyddol. Cafwyd darganfyddiadau claddedig o bob cyfnod yn yr ardal. Mae mathau nodweddiadol eraill o safleoedd yn cynnwys nodweddion 'diwydiannol' yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y cyfnod l-ganoloesol (ee ffwrnais haearn bwrw yn dyddio o'r Oes Haearn a melin yd l-ganoloesol), cwningar l-ganoloesol, strwythurau milwrol/amddiffynnol l-ganoloesol a modern a maes tanio. Ar ben hynny mae darn bach o ffordd ganoloesol i'w weld yn rhannol o dan y tywod.