The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

012 Merthyr Mawr


Ty Merthyr Mawr.

HLCA 012 Merthyr Mawr

Ystad fonedd ôl-ganoloesol: ty, parcdir a gardd, a phentref ystad cysylltiedig; patrwm anheddu amrywiol; pensaernïaeth ystad frodorol, pictiwrésg a boneddigaidd ôl-ganoloesol; tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol; ffiniau caeau pendant; aneddiadau/caeau cynhanesyddol a chanoloesol creiriol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Merthyr Mawr yn dirwedd eithaf pwysig ac mae'n cynnwys y rhan fwyaf o barc a gerddi cofrestredig Ty Merthyr Mawr (PGW: gwerthusiad safle Gradd II*; Adeiladau rhestredig Ty Merthyr Mawr a stablau (gradd II); porthordy (gradd II), a gynhwyswyd fel 'parc tirwedd deniadol, bach a gynlluniwyd ar yr un pryd ag yr adeiladwyd y ty ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gerddi pleser cyfoes sy'n cynnwys rhai coed a llwyni sbesimen da, a gerddi â thy gwydr rhagorol iawn dyddiedig 1900. Olion gerddi'r ty cynharach yr oedd ganddynt waliau o'u cwmpas.

Dylid nodi bod y ffin gymeriad rhwng HLCA 012 ac ardal gyfagos HLCA 018 yn amhendant ac yn anodd ei diffinio ar y gorau, ac mae llawer o nodweddion nodweddiadol yn gorgyffwrdd ac yn gyffredin i'r ddwy ardal. Afon Ogwr ei hun yw'r ffin amlycaf a mwyaf hanesyddol yn yr ardal, er gwaethaf mân wahaniaethau rhwng ffiniau plwyfi hanesyddol, ffiniau daliadau amaethyddol ac yn fwy diweddar ffiniau dynodedig; am y rheswm hwn mae'r ffin rhwng yr Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol wedi'i gosod ar hyd llinell Afon Ogwr ei hun. Mae hyn yn gydnaws ag arwynebedd y parc a'r ardd fel y'i nodir ar argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO. Diffinnir HLCA 013 fel y rhannau hynny o dir y ddemên a leolir o fewn plwyf Merthyr Mawr, ac ardal o dir ffermio cysylltiedig a leolir gerllaw i'r gorllewin o amgylch 'Warren Farm'. Mae dau glostir a leolir o fewn y parc a'r ardd gofrestredig ar yr ochr arall i Afon Ogwr, sef Coed Pwll-y-fflew a Waun-y-fervill (dim ond yr ail a oedd yn rhan o Ddemên Merthyr Mawr yn 1813) wedi'u cynnwys o fewn HLCA 018.

Adeiladwyd ty Merthyr Mawr rhwng 1806 a 1809 ar safle newydd gan Syr John Nicholl mewn arddull glasurol (Henry Wood o Fryste, pensaer a cherflunydd), a disodlodd Neuadd gynharach y teulu Stradling (Sain Dunwyd) yn dyddio o'r 16eg/17eg ganrif. Mae'r ty yn blasty deulawr clasurol â phum bae a adeiladwyd o galchfaen carbonifferaidd lleol gwyn. Mae ganddo do talcennog a ffenestri codi, a phortsh unllawr canolog â cholofnau Tysganaidd yn wyneb blaen y gogledd. Mae adain is, yr adeiladwyd rhan ohoni yn ddiweddarach na'r prif adeilad, yn bargodi i'r dwyrain, ac ar yr ochr orllewinol mae feranda â tho o wydr ar ogwydd a gynhelir ar bileri o haearn bwrw, a adeiladwyd yn 1819, yn rhedeg ar hyd ochr y ty o'r naill ben i'r llall. Lleolid yr Hen Neuadd i'r de-orllewin o'r ty yn dyddio o'r 19eg ganrif, ar safle'r Fferm neu'n agos ato; mae olion yr iard Duduraidd bellach yn ffurfio un o adeiladau allan y fferm; dymchwelwyd y gweddill c1806.

Cynlluniwyd a phlannwyd y parc rhwng 1806 a 1838 gan Syr John Nicholl a gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith ar ôl i'r ty gael ei gwblhau yn 1809. Dengys map o'r ystad dyddiedig 1794 gan John Williams fod y rhan o'r ystad lle y cynlluniwyd y parc yn cynnwys caeau bryd hynny, a fawr ddim coetir. Dengys hefyd yr Hen Neuadd a'i gerddi ar hyd yr hyn a ffurfiai'r ffin orllewinol yn ddiweddarach. Cynlluniwyd yr ardd a'r tiroedd gan Syr John Nicholl rhwng 1806 a 1838, ar yr un pryd ag y gwnaed y parc. Mae'r cynllun presennol ychydig yn wahanol i'r hyn a ddangosir ar fap ystad William Weston Young dyddiedig 1813 ac ar lun a dynnwyd ganddo yn yr un flwyddyn: bryd hynny roedd llethr â ffens hanner-cylchog yn ffin iddi o flaen y ty, ffens a ymestynnai i'r gorllewin, feranda lai, a 'thy gwydr' i'r gorllewin o'r ty, ar safle'r hafdy presennol. Dengys y map na chynhwysai rhan ogleddol Chapel Hill unrhyw goed bryd hynny, nad ymestynnai'r parciau difyrrwch i'r de-orllewin i'r ffordd yn 1813, a bod gan yr ardd i'r gorllewin gynllun eithaf rococo o lwybrau tonnog a llwyni afreolaidd ond cymesur. Daw tystiolaeth bellach o ddatblygiad yr ardd o lun dyddiedig tua 1860 sy'n dangos terasau o laswellt o flaen y ty, a'r ardd â ffos glawdd o gerrig yn ffin iddi. Dengys paentiad gan Mary de La Beche Nicholl dyddiedig 1867 welyau ynysol a gwelyau ar y lawnt a golygfa wedi'i fframio â choed i gyfeiriad Castell Ogwr. Erbyn 1875-77 (map yr Arolwg Ordnans) mae'r cynllun presennol i'w weld, ar y cyfan.

I'r gogledd o Dy Merthyr Mawr mae Chapel Hill lle y saif capel bach di-do, Capel Sant Roque, yn dyddio o'r bymthegfed ganrif (Heneb Gofrestredig: Gm 247), sy'n cynnwys dwy garreg gerfiedig yn dyddio o'r 11eg ganrif (Heneb Gofrestredig: Gm 26) Saif y capel hwn o fewn caer fach yn dyddio o'r Oes Haearn, sef gwersyll Chapel Hill (Heneb Gofrestredig: Gm 248). Yr unig olion o'r gaer hon sydd i'w gweld heddiw yw clawdd isel sy'n amgylchynu pen y bryn.

Y tu hwnt i wal ystad Merthyr Mawr, mae pentref Merthyr Mawr yn enghraifft brin o bentref ystad sydd wedi goroesi. Am na cheir unrhyw ddatblygiadau modern yno mae i'r pentref naws anheddiad gwledig ym Mro Morgannwg cyn y 1950au, rhywbeth a gollwyd mewn mannau eraill. Er bod mân newidiadau gweledol wedi'u gwneud i'r bythynnod yn y pentref (hy ffenestri), ar y cyfan maent wedi cadw eu cymeriad gwreiddiol ac mae ganddynt doeon gwellt o hyd. Y prif enghreifftiau yw Church Cottage yn dyddio o'r 17eg ganrif, sydd â chynllun cyntedd-mynediad; yn wreiddiol roedd y fynedfa ym mhen y ffasad ar y dde ond fe'i symudwyd yn ddiweddarach i'r pen arall ar y chwith Mae Keeper's Cottage, a ymestynnwyd, hefyd yn seiliedig ar gynllun cyntedd-mynediad. Mae gan Holly Cottage (sydd â bargodiad grisiau), Diana Cottage, c.1700 a Wellingtonia, yr ymestynnwyd yr olaf, ddrysau mynediad yn y wal dalcen ger lle tân y cyntedd. Mae gan Oak Cottage ei ddrws carreg pedwar canol gwreiddiol o hyd (16eg ganrif), sy'n agor i ystafell heb wres, y mae'r cyntedd yn arwain ohoni. Ceir enghreifftiau o bensaernïaeth ystad llyfr patrymau hefyd yn y pentref, ee Porthordy Ty Merthyr Mawr â'i do gwellt talcennog, corn simnai canolog, a ffasâd cymesur. Dengys tystiolaeth gartograffig fod gan y pentref felin, pwll melin a ffrwd melin (mapiau yn dyddio o'r 18fed/19eg ganrif), yr ymddengys iddi gael ei disodli gan felin lifio.

Cynlluniwyd eglwys y plwyf, sef eglwys Teilo Sant (1849-51) ym mhen gorllewinol y pentref gan Benjamin Ferrey a oedd yn gyd-ddisgybl i Pugin ac a ysgrifennodd ei fywgraffiad, mewn partneriaeth â John Prichard o Landaff yn yr arddull Seisnig Gynnar gyda chyfeiriadau pensaernïol lleol mynych (e.e. neuadd Castell Caerffili a chabidyldy Eglwys Gadeiriol Llandaf). Mae'r fynwent yn cynnwys dwy gofeb ffigurol ganoloesol a chasgliad o gerrig bedd a chroesau anghyflawn sy'n dyddio ar y cyfan o'r 11eg - 12fed ganrif, a ddarganfuwyd yn y fynwent neu ar safle'r eglwys ganoloesol, a hefyd o gapel Sant Roch (Sant Roque). Mae'r olaf yn cynnwys un â rhyngles, a charreg lawer cynharach, sy'n dwyn arysgrif anghyflawn mewn priflythyrennau Rhufeinig, sy'n dyddio o'r 5ed ganrif.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Merthyr Mawr fel ystad fonedd ôl-ganoloesol sy'n gyflawn, i raddau helaeth, wedi'i chanoli ar Dy Merthyr Mawr, a saif mewn parcdir a gerddi (Parc a gardd gofrestredig: PGW (Gm) 12 (BRI), a phentref ystad cysylltiedig sy'n ymestyn o eglwys y plwyf i Home Farm. Nodweddir y pentref ystad, sy'n cynnwys eglwys, ysgoldy, bythynnod a Swyddfa Bost gan ei batrwm anheddu cnewyllol - organig a gwasgaredig ac mae enghreifftiau pwysig o bensaernïaeth ystad frodorol, bictiwrésg a boneddigaidd ôl-ganoloesol i'w gweld o hyd yno. Disgrifir y dirwedd gysylltiedig oddi amgylch fel tirwedd amaethyddiaeth ôl-ganoloesol yn ei hanfod a nodweddir gan batrwm caeau ôl-ganoloesol datblygedig ond eithaf rheolaidd sy'n dangos arwyddion iddo ddatblygu o lain-gaeau canoloesol. Mae'r ardal yn cynnwys ffiniau caeau pendant o hyd ac mae tystiolaeth o aneddiadau a chaeau cynhanesyddol a chanoloesol creiriol. Tra caiff nodweddion tirwedd eglwysig eu cynrychioli gan yr eglwys ôl-ganoloesol a adeiladwyd ar safle eglwys ganoloesol (eglwys Teilo Sant), a chanddi sylfeini canoloesol cynnar a ategir gan gasgliad pwysig o Henebion Cristnogol Cynnar (cerrig arysgrifedig a chroesau). Mae'r capel canoloesol (Sant Roque), a leolir o fewn gerddi Ty Merthyr Mawr, hefyd yn dangos pa mor bwysig oedd yr ardal o safbwynt eglwysig. Pwysleisir natur amlochrog yr ardal gan nifer fawr o fathau eraill o safleoedd yn amrywio o nodweddion milwrol/amddiffynnol cynhanesyddol i nodweddion archeolegol diwydiannol (ee melin bannu), olion archeolegol claddedig (olion cnydau/olion crasu), nodweddion cysylltiadau (hy llwybrau troed, llwybrau a lonydd troellog a syth) a nifer o gysylltiadau hanesyddol. Mae cryn dystiolaeth o'r modd y datblygodd y dirwedd ar ffurf ffynonellau cartograffig sydd wedi goroesi, a byddai'r ardal yn elwa pe câi astudiaeth fanwl bellach ei gwneud o'r deunydd hwn.