The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

Prosesau Hanesyddol Blaenafon, Themu a Chefndir

Cyflwyniad

Mae daeareg solet yr ardal gyffredinol yn amrywio: nodweddir y llinell glogwyn o amgylch y Sger yn bennaf gan briddoedd cleiog Triasig wedi'u dinoethi, i'r de o Greigiau Ffynnon Wen ac o amgylch Porthcawl a Rhos Ogwr ceir calchfaen yn bennaf, yn gymysg phriddoedd cleiog yng Ngharreg Ddu, Ogwr ac Aberogwr. Cuddir y ddaeareg solet i raddau helaeth yn yr ardaloedd mewndirol gan gapan o ddyddodion drifft rhewlif yn dyddio o'r cyfnod Pleistosen, tua 18,000 o flynyddoedd yn l, a ddinoethwyd fel clai clogfaen o amgylch Cynffig, Mawdlam ac yn yr ardaloedd mewndirol o'r Sger tua fferm Parc Newydd. Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog oedd y prif fan casglu rhewlifol yn Ne Cymru, ac wyneb gogledd y mynyddoedd hyn oedd tarddiad nifer fawr o rewlifau peiran. Esgair Pennant a Chraig-y-Llyn oedd yr unig rwystr a lwyddodd i wyro prif lif yr i o Fannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog gan greu ei chapan i ei hun. Y grym rhewlifol hwn a newidiodd loriau dyffrynnoedd yr ardal, gan gynnwys Dyffrynnoedd Afan, Llynfi, Cynffig ac Ogwr (George, N 1970 126-7). Mae ffurfiannau twyni tywod helaeth a luniwyd gan chwyth y gwynt wedi cuddio'r amfaeau arfordirol yn Nhwyni Margam, Cynffig a Merthyr Mawr yn ogystal rhai o lethrau erydog esgeiriau uwch yr ardal, yn arbennig yng Nghwm y Gaer a Rhos Ogwr, ers y cyfnod canoloesol (BRG 1975; GS 1972). Nodweddir natur y ffurfiannau twyni tywod sy'n tresmasu ar y tir yn bennaf gan briddoedd tywodlyd calchaidd ac anghalchaidd eithaf dwfn, gyda rhywfaint o ddwr yn y pantiau, neu laciau o fewn y ffurfiant Mae ardal o lifwaddod yn nodi cwrs blaenorol Afon Cynffig, i'r de-ddwyrain o Bwll Cynffig.

Mae proses naturiol erydu arfordirol a gorchuddio'r tir thywod wedi cael cryn ddylanwad ar ardaloedd tirwedd hanesyddol Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam. Mae casgliadau o dywod wedi'i chwythu gan y gwynt wedi ffurfio ardaloedd helaeth o dwyni tywod glan mr mewn nifer o fannau ar hyd arfordir De Cymru, ac mae eu dosbarthiad wedi'i reoli yn bennaf gan dopograffi arfordirol a phrifwyntoedd y gorllewin. Fe'u ceir fel arfer mewn baeau ac fe'u hatelir rhag ymledu gan faint y bae a thirwedd yr ardal gyfagos. Dengys tystiolaeth hanesyddol fod prosesau lle y gorchuddiwyd y tir thywod yn weithredol iawn yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar, yn ystod y 13eg ganrif hyd at y 15fed ganrif, pan ddirywiodd yr hinsawdd a gwelwyd cynnydd amlwg yn y tir a oedd yn cael ei orchuddio thywod o ganlyniad i stormydd, mwy o law a llanwau abnormal, a ddigwyddodd i gyd ar yr un pryd. Arweiniodd yr amodau hyn at sefyllfa lle yr erydwyd twyni tywod arfordirol a symudwyd deunydd i ardaloedd mewndirol. Cafodd prosesau tebyg gryn effaith ar dirweddau arfordirol mewn mannau eraill yng Nghymru, megis yn Llanddwyn neu Gwningar Niwbwrch ar Ynys Mn, lle yr effeithiwyd ar y tiroedd sy'n gysylltiedig Llys/maerdref Rhosyr, anheddiad sy'n dyddio o'r 12fed/13eg ganrif.

Mae twyni tywod helaeth Twyni Cynffig yn cuddio olion claddedig yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y cyfnod l-ganoloesol cynnar, ond prin yw'r dystiolaeth o anheddu yn yr ardal cyn y goresgyniad Normanaidd, ac mae'n ymwneud yn bennaf darganfyddiadau. Lleolir twyni tywod Cynffig a Margam tua 7km i'r gogledd-orllewin o Ferthyr Mawr, ar y gwastadedd arfordirol rhwng y mr a Mynydd Margam i'r gogledd, ac maent yn olygfa nodedig a thrawiadol er iddynt gael eu rhannu'n ddwy gan systemau cysylltiadau rheilffordd a thraffordd modern ar gyrion dwyreiniol yr ardal. Maent yn llawer is, ond yn helaethach na thwyni tywod Merthyr Mawr. Lleolir y Gwningar ym Merthyr Mawr (HLCA 013) ar ochr ogledd-orllewinol aber Afon Ogwr. Mae'r system twyni tywod yn llawer uwch nag yng Nghynffig, ac mae'n cyrraedd uchder o 80m DO, ac yn tueddu i fod yn nodwedd dra amlwg mewn golygfeydd o'r aber a'r ardal gyfagos o amgylch Merthyr Mawr, sy'n cynnwys, fel y nodir yma, Gastell Ogwr ar lan arall yr aber gyferbyn 'r twyni tywod.

Mae ardaloedd tirwedd hanesyddol cymharol fach Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam yn cynnwys dwy ardal ar wahn o dwyni tywod a leolir yn rhan orllewinol arfordir Morgannwg. Maent yn enghreifftiau eithriadol, yn Ne Cymru, o'r grymoedd naturiol hyn na ellir eu rheoli, ac o'r dylanwad sylweddol a gawsant ar gymdeithasau cynharach. Mae'n anochel bod dwy dirwedd i'w cael, y naill ym Margam a Chynffig a ddisgrifir fel tirwedd wedi'i gorchuddio thywod a ffurfiwyd yn y bn gan dywydd garw a ffenomena llanwol yn yr Oesoedd Canol ac yn gynharach efallai, a'r llall ym Merthyr Mawr a ddisgrifir fel tirwedd fwy hynafol, ar y cyfan, sy'n cynnwys safleoedd archeolegol sydd wedi'u claddu'n gyfan gwbl gan y grymoedd naturiol hyn; ymdrinnir 'r themu tirwedd penodol isod.

Yn l i'r brig

Anheddu ac amddiffyn

Mae cysylltiad cryf rhwng themu anheddu ac amddiffyn o'r cyfnod canoloesol ac felly ymdriniwyd hwy ar y cyd isod. Yn ystod y cyfnod l-ganoloesol roedd tair prif ystad yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal: Margam, y prif ddeiliad tir, Merthyr Mawr, a Dunraven. Parhaodd y prif aneddiadau i ddatblygu yn amaethyddol, ac roedd gweithgareddau amaeth-ddiwydiannol cysylltiedig wedi'u canoli ar yr aneddiadau a lleolid melinau yng Nghynffig, Llanmihangel, Merthyr Mawr ac Ogwr. Ystyrir bod llawer o'r aneddiadau l-ganoloesol wedi cael eu sefydlu ar safle aneddiadau canoloesol cynharach y cyfeirir at lawer ohonynt yn Siarteri Margam sy'n dyddio o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif.

Darperir y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch anheddu dynol yn yr ardal gan gasgliad cymysg bach o offer fflint yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC), y cyfnod Neolithig (4400-2300CC), a dechrau'r Oes Efydd (2300-800CC) a chrynoadau o dystiolaeth berthnasol, a ddarganfuwyd hyd yma y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol, nad ydynt ond ychydig yn fwy o faint; mae deunydd mesolithig i'w weld i'r gorllewin o Flaen Rhondda, lle y mae tystiolaeth neolithig yn gyfyngedig i raddau helaeth i'r ymyl arfordirol o amgylch Bae Baglan a Thraeth Margam, ac mae'n cynnwys bwyell garreg fonfain yn dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar (Greaves-Brown; Evans 1982). Credir bod y dystiolaeth hon o weithgarwch dynol yn cynrychioli gwersylloedd hela dros dro, y bu grwpiau o helwyr-gasglwyr yn byw ynddynt fel rhan o batrwm mudo tymhorol rhwng yr iseldiroedd arfordirol ac ucheldir y Blaenau.

Mae cryn dipyn o dystiolaeth o weithgarwch yn yr ardaloedd ucheldirol cyfagos yn ystod yr Oes Efydd; fodd bynnag mae hyn yn ymwneud yn bennaf henebion angladdol ar dir uchel. Mae ein gwybodaeth am leoliad aneddiadau yn seiliedig i raddau helaeth ar offer fflint a ddarganfuwyd ar hap, y mae eu dosbarthiad yn debyg i gyfnodau cynharach. Dengys gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal yn glir yr effaith y mae gweithgarwch dynol wedi'i chael ar lystyfiant naturiol yr ardal; mae'r gweithgarwch hwn ar ei anterth ar ddiwedd yr Oes Efydd, ac efallai nad yw'n syndod mai yn ystod y cyfnod hwn a'r cyfnod canlynol, sef yr Oes Haearn, yr ydym yn gweld gweithgarwch dynol yn cael effaith sylweddol ar amgylchedd ffisegol yr ardal am y tro cyntaf.

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, darganfuwyd amrywiaeth o ddeunydd archeolegol yn ardal y twyni tywod ym Merthyr Mawr (HLCA 013) sy'n arwydd o anheddu a gweithgarwch o'r cyfnod Mesolithig hyd at y gorffennol diweddar, o ganlyniad i'r ffaith bod nodweddion ac wynebau archeolegol yn cael eu datguddio'n rheolaidd gan fod tywod yn symud. Mae potensial archeolegol y twyni tywod ym Merthyr Mawr yn eithriadol o uchel, am fod cofnodion o ddarganfyddiadau yn awgrymu bod safleoedd anheddu yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig, y cyfnod Neolithig, dechrau'r Oes Efydd (a gynrychiolir gan feddau cist a charneddau) a'r Oes Haearn (ynghyd thystiolaeth bod pobl yn gwneud gwaith metel).

Ni wyddom faint o aneddiadau canoloesol cynnar oedd yn yr ardal; fodd bynnag, mae'n debyg bod aneddiadau brodorol wedi parhau i ryw raddau ar l y cyfnod cynhanesyddol diweddar/y cyfnod Rhufeinig. Ni wyddom am unrhyw safleoedd anheddu pendant yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar yn yr ardal; gallai gweithgarwch ailfeddiannu neu barhad defnydd aneddiadau a chlostiroedd yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar, i mewn i'r cyfnod canoloesol cynnar, ac i'r gwrthwyneb o'r cyfnod hwnnw i mewn i'r cyfnod canoloesol go iawn, esbonio'r prinder safleoedd anheddu a briodolir i'r cyfnod canoloesol cynnar.

Mewn cyfnodau hanesyddol, mae crochenwaith, waliau, tomenni o gregyn, cefnennau amaethu, ffyrdd, cerrig ffin a ddarganfuwyd, yn ogystal melin wynt sy'n dyddio o bosibl o'r 15fed ganrif a leolir ar ben y twyni tywod yn tystio i'r ffaith bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'r twyni tywod yn parhau i symud ac mae Castell Trecantle (SAM Gm 95; HLCA 014), maenordy caerog, bach, adfeiliedig a adeiladwyd yn wreiddiol ar ddiwedd y 14eg ganrif yn bennaf, ac y bu pobl yn byw ynddo i mewn i'r 19eg ganrif, bellach yn sefyll yn erbyn ymyl ddwyreiniol y twyni tywod ac mae ei dir wedi'i gladdu'n gyfan gwbl o dan dywod.

Nodweddir y dirwedd oddi amgylch gan nodweddion creiriol hefyd a cheir safleoedd nas cloddiwyd, megis y gwersyll unclawdd bach a leolir ar ben bryn (SAM Gm 238; HLCA 012) yn Chapel Hill, Merthyr Mawr, a'r gaer bentir (SAM Gm 466) ar Ros Fleming i'r de-ddwyrain o Ogwr sy'n nodi lleoliad aneddiadau yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (Oes Haearn); fodd bynnag, gallai'r ddau safle hefyd gynnwys tystiolaeth bod pobl yn eu defnyddio yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar.

Yn hanesyddol ac yn archeolegol, mae ardal Cynffig hefyd yn llawn tystiolaeth o'r gorffennol, yn arbennig castell a bwrdeistref gaerog Cynffig a orchuddiwyd thywod (SAM Gm 42). Er y credir i Gynffig gael ei sefydlu gan y Normaniaid, dengys darganfyddiadau archeolegol eraill yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol, y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Tywyll a wnaed yn y cyffiniau bod pobl wedi dewis y safle at ddibenion anheddu o gyfnod cynnar.

Mae cyfeiriadau at aneddiadau yng Nghynffig yn dyddio o'r cyfnod cyn y goresgyniad Normanaidd, megis yr un ym Mrut Aberpergwm, y mae amheuon ynghylch cywirdeb rhannau ohono bellach, at fodolaeth anheddiad yng Nghynffig yn ystod y 9fed ganrif, ac mae traddodiadau bod gan Iestyn ap Gwrgan, rheolwr brodorol olaf Morgannwg, gastell (na chafwyd hyd i'w leoliad eto) yng Nghynffig yn 1080 yn gymhellol. Mae'r traddodiadau hyn yn awgrymu efallai fod yr ardal yn ganolbwynt gweinyddol cyn dyfodiad y Normaniaid; ategir hyn gan grynoadau o ddarganfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol cynnar, tra byddai agosrwydd yr ardal at linellau cysylltiadau Rhufeinig hysbys a lleoliad y safle yn agos at derfynau mordwyadwy/terfynau'r llanw gynt ar Afon Cynffig (y dargyfeiriwyd ei chwrs yn ddiweddarach o'i llwybr trwy Bwll Cynffig o ganlyniad i dywod yn symud), a oedd yn hanfodol bwysig ar gyfer masnachu a chyflenwi nwyddau, wedi bod yn ystyriaeth bwysig o ran lleoli anheddiad gweinyddol neu uchel ei statws, ffactor a ystyriwyd wrth leoli'r Castell Normanaidd ei hun yn ddiweddarach. Mae gan eglwys Mawdlam, sydd wedi'i chysegru i'r Santes Fair Magdalen ac y ceir y sn cyntaf amdani mewn dogfennau yn dyddio o ganol y 13eg ganrif, fynwent led-hirsgwar, sy'n awgrymu efallai iddi gael ei sefydlu yn gynnar, a bod ei chysegriad canoloesol cynnar gwreiddiol bellach wedi'i golli.

Mae lleoliad strategol ac agored y fwrdeistref gaerog fel cadarnle mwyaf gorllewinol Arglwyddi Morgannwg yn y 12fed ganrif yn rhoi cyfrif am y cofnod dogfennol eithriadol o lawn sydd gennym o'i hanes. Rhwng 1167 a 1321 cofnodir i'r Cymry, a oedd wedi'u cyfyngu erbyn hynny i ucheldiroedd Mynydd Margam gerllaw, ymosod ddim llai nag wyth gwaith ar Gynffig. Mae'r dirwedd bresennol yn adlewyrchu llawer o'r gwrthdaro rhwng y carfannau croes hyn, gyda'r naill yn goresgyn ac yn mwynhau'r iseldiroedd bras, a'r llall yn cael ei dadfeddiannu a'i chyfyngu gan rym milwrol i'r bryniau lle y gallai weld waliau Cynffig.

Ceir y sn cyntaf am Gastell Cynffig ac Eglwys Sant Iago yn y cyfnod 1135-54. Felly mae'n amlwg bod y fwrdeistref a'i heglwys gofnodedig wedi'u sefydlu erbyn canol y 12fed ganrif fan bellaf a bod amddiffynfeydd pridd a choed wedi'u darparu ar eu cyfer. Yng nghanol y 14eg ganrif, roedd Cynffig yn fwrdeistref sylweddol a gynhwysai o bosibl 700-800 o bobl. Mae'r 'Stryd Fawr', 'Stryd y Dwyrain' a 'Stryd y Gorllewin' wedi'u cofnodi ('High Street', 'East Street' a 'West Street'), yn ogystal chapel i Sant Tomos, Neuadd y Dref a maladaria (ysbyty neu dy i'r gwahanglwyfus). Mae'n amlwg bod y fwrdeistref yn ffynnu bryd hynny, er i'r sefyllfa ddirywio'n gyflym yn ystod y 15fed ganrif wrth i dywod symud dros y tir.

Erbyn 1470, roedd y dref bron bod yn anghyfannedd. Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd cyfarwyddyd i'r bwrdeisiaid adael eu heglwys a symud i'r Pl, lle'r oedd anheddiad newydd yn datblygu. Erbyn y 1530au ni nododd yr hynafiaethydd Leland ond 'pentref ar ochr ddwyreiniol Cynffig, a Chastell, ill dau yn adfeiliedig a bron wedi'u tagu a'u traflyncu gan y tywod y mae Mr Hafren yn ei daflu i fyny yno'. Erbyn 1572, dim ond tri bwrdais a oedd ar l, tra na chofnododd arolwg o'r fwrdeistref yn 1665 ond un teulu a oedd yn byw 'ar safle'r hen gastell'.

Ar wahn i'r castell yng Nghynffig (gweler uchod), cynrychiolir thema amddiffyn/gweithgarwch milwrol yn ystod y cyfnod canoloesol yn yr ardal gan safle trawiadol Castell Ogwr (SAM Gm 37), castell cerrig yn dyddio o'r 12fed ganrif hyd at y 14eg ganrif a saif mewn lleoliad strategol gerllaw rhyd lanwol ar draws Afon Ewenni, a hefyd yn nherfynnau llanw uchaf arferol yr afon. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol o bridd a choed ac roedd ganddo ffos a gynlluniwyd i lenwi dwr pan fyddai'n benllanw, a chredir bod y gorthwr cerrig a adeiladwyd ar l hynny o fewn y ward fewnol ar ddechrau'r 12fed ganrif yn un o'r adeiladau cerrig Normanaidd hynaf yn Ne-ddwyrain Cymru.

Yn l i'r brig

Trafnidiaeth a diwydiant

Lleolir y castell yng Nghynffig (HLCA 004) heb fod ymhell o'r man lle roedd y ffordd Rufeinig o Gaerdydd i Gastell-nedd yn croesi Afon Cynffig. Adeiladwyd y ffordd hynafol hon, a adwaenid fel y Maritima neu'r Port Way yn ystod y Canol Oesoedd, gan y Rhufeiniaid ac roedd y lleoliad a ddewiswyd ar gyfer y castell ar y ffordd drwodd strategol hon, lle y mae'r afon yn cyfarfod 'r mr, yn un arbennig o dda. Heddiw efallai y lleolir y castell a'r fwrdeistref orau mewn perthynas nodweddion modern, sy'n tystio mewn gwirionedd, ynddynt eu hunain heddiw, i leoliad pwysig Cynffig ar linellau cysylltiadau. Lleolir y fwrdeistref gaerog yn union i'r de o'r brif reilffordd, a thua 300m i'r gorllewin o'r man lle y mae darn uchel o draffordd yr M4 yn croesi'r rheilffordd.

Enwyd arglwyddiaeth, castell a bwrdeistref ganoloesol gynnar Cynffig ar l Afon Cynffig, a arferai fod yn bwysig, sy'n codi ar Fynydd Margam 6km i'r gogledd. Lleolir y castell ar ei glan ddeheuol, 2km o'r aber presennol, er i hwn gael ei ffurfio yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar. Yn wreiddiol ceid aber llydan a ymestynnai i mewn tua'r tir bron hyd at safle'r castell, ac mae pwll mawr tirglodig Pwll Cynffig a phyllau llai o faint i'r gogledd yn tystio i fodolaeth y nodwedd ddaearyddol bwysig gynnar hon. Oherwydd y topograffi gwreiddiol hwn roedd castell Cynffig a'i fwrdeistref gysylltiedig yn bwysig yn strategol ac yn filwrol am eu bod wedi'u lleoli gerllaw porthladd ac afon o gryn bwys (HLCA 004).

Yn yr un modd mae'n amlwg bod gwerth strategol ac economaidd i leoliad Ogwr a Merthyr Mawr (HLCA 013 a HLCA 016) gerllaw terfynau uchaf afon lanwol, ee i weithio melin lanw megis yn Ogwr. Yn ogystal bod yn ffiniau cyfleus, yn nodi ffiniau tiriogaeth, byddai afonydd ac aberoedd llanwol mordwyadwy wedi cyflawni swyddogaeth bwysig fel llwybrau cysylltiadau, gan ddarparu angorfeydd, a lleoliad ar gyfer casglu tollau o longau (dengys tystiolaeth gartograffig yn dyddio o c1600 y ci tollau eu casglu o longau ar lan ogleddol Afon Ogwr, i lawr yr afon o Gastell Ogwr). Yn debyg i Gynffig, nodweddir yr ardal o amgylch Merthyr Mawr gan y ffaith ei bod yn agos at lwybrau cysylltiadau pwysig yn ystod y cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol, ee Heol-y-milwyr. Mae mannau croesi afonydd/rhydiau ac enghreifftiau da o bontydd cynnar yn nodweddion pwysig yn ardal Merthyr Mawr/Ogwr, ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd rhwydweithiau trafnidiaeth da i'r ardal dros y canrifoedd.

Mae'r cysylltiadau rheilffordd a ffordd modern yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif yn parhau 'r nodweddion hyn, er eu bod yn osgoi'r ardal tirwedd hanesyddol neu'n torri drwyddi yn hytrach na chysylltu mannau y tu mewn iddi (gweler HLCA 001 a HLCA 011).

Mae diwydiant yn yr ardal ar raddfa fach ac mae cysylltiad agos rhyngddo ac amaethyddiaeth ac anheddu, yn amrywio o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y cyfnod l-ganoloesol (ee ffwrnais haearn bwrw yn dyddio o'r Oes Haearn a melin yd l-ganoloesol o fewn tirwedd Cwningar Merthyr Mawr a orchuddiwyd thywod HLCA 013).

Yn l i'r brig

Tirweddau amaethyddol

Nodweddir y dirwedd anheddu ac amaethyddol l-ganoloesol yng Nghynffig (HLCA 007) gan aneddiadau hirgul, gwasgaredig ar y cyfan, a ddatblygodd ar hyd y llwybrau tuag at eglwys Mawdlam a'r fwrdeistref anghyfannedd y tu hwnt iddi. Ymddengys i'r patrwm anheddu gael ei osod ar gaelun cynharach sydd wedi goroesi o lain-gaeau neu ddrylliau canoloesol llinellol, a nodweddir gan ddaliadau unigol gwasgaredig. Mae'n werth nodi bod y ffermydd wedi'u lleoli ar gyrion y daliadau (sy'n fwy nodweddiadol o aneddiadau gweithwyr fferm) nad oeddent yn berchen ar dir diweddarach) ac at ei gilydd maent wedi'u gosod o fewn grwpiau bach o fewn lleiniau llinellol bach unigol, sydd wedi'u halinio ar batrwm tebyg i ffiniau'r system o lain-gaeau canoloesol sydd wedi goreosi ac sy'n parchu'r ffiniau hynny. Mae hyn yn cyflunio'n dda 'r dyddiad a gynigiwyd ar gyfer dadleoli anheddiad Cynffig, sef y cyfnod canoloesol diweddar/y cyfnod l-ganoloesol cynnar, ac mae'r patrwm anheddu a gafwyd o ganlyniad yn adlewyrchu natur y daliadau amaethyddol cyn i'r tir gael ei amgu, a oedd yn dal i fod yn gyffredin bryd hynny.

I'r de, mae'r anheddiad ym Merthyr Mawr (HLCA 012) yn fwy nodweddiadol o bentrefi Bro Morgannwg i'r dwyrain: anheddiad cnewyllol, sy'n cynnwys plasty, eglwys a melin ganoloesol a chyfoeth o dai rhanbarthol sydd wedi goroesi sydd o ddiddordeb pensaernol a chymdeithasol sylweddol. Mae Ogwr yn debyg ond ei fod ar raddfa lai, anheddiad sydd wedi lleihau mewn maint, a ddistrywiwyd gan effeithiau Gwrthryfel Glyn Dwr. Mae'r dirwedd amaethyddol oddi amgylch yn dal i gynnwys tystiolaeth o drefniant tir r-tir allan canoloesol cynharach, a cheir llain-gaeau ffosiledig, a llifddolydd helaeth yng nghymer Afonydd Ogwr ac Ewenni.

Yn l i'r brig

Tirweddau angladdol a defodol, ac eglwysig

Darperir tystiolaeth o arferion claddu cynhanesyddol ac arferion defodol cysylltiedig gan garneddau yn dyddio o'r Oes Efydd o ardal Cwningar Merthyr Mawr (HLCA 013), Rhos Ogwr (HLCA 016) a'r ardal o amgylch y Sger (HLCA 009) yn arbennig.

Mae'r dirwedd eglwysig bwysicaf (HLCA 012) wedi'i chanoli ar yr eglwys ganoloesol ym Merthyr Mawr. Mae gan yr eglwys hon, a gysegrwyd yn gynnar i Teilo Sant, gasgliad o gerrig Cristnogol Cynnar (ee SAM Gm 226 a SAM Gm 169), gan gynnwys carreg Conbellin ym Merthyr Mawr, sy'n awgrymu efallai mai clas mynachaidd (uned weinyddu yn seiliedig ar anheddiad mynachaidd canoloesol) a sefydlwyd ar y safle yn wreiddiol. Safle eglwysig arall a allai ddyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar yw Capel Sant Roque (SAM Gm 247) a leolir o fewn gerddi Ty Merthyr Mawr.

Nodir lleoliad eglwysi canoloesol cynnar pwysig yr ardal gan nifer o gerrig arysgrifedig Cristnogol Cynnar; lleolid eglwys Merthyr Mawr o fewn y dirwedd hanesyddol ei hun tra lleolid eglwys Margam i'r gogledd-ddwyrain. Byddai'r ddwy wedi dylanwadu ar agweddau ysbrydol a ffisegol y dirwedd; mae'r ffordd gymhleth yr helpodd hyn i ffurfio'r dirwedd bresennol y tu hwnt i gylch gwaith y prosiect cyfredol a chyfyngiadau'r fethodoleg cwmpas cyffredinol, ac unwaith eto bydd yn gofyn am waith ymchwil manylach.

Yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod canoloesol roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn perthyn i'r Abaty Sistersaidd mawr ym Margam ac yn ddiweddarach, daeth rhan ohoni i feddiant Abaty Castell-nedd, ar l i'r faenor yn y Sger (HLCA 009) gael ei throsglwyddo iddo. Nid oedd naws eglwysig amlwg yn perthyn i'r maenorau hyn; am mai ffermydd eglwysig oeddent i bob diben, a gi eu rhedeg gan frodyr lleyg, ac erbyn diwedd y 14eg ganrif nid oedd yn anghyffredin i faenorau gael eu gosod ar brydles i leygwyr.

Cafodd y gwahanol faenorau sy'n gysylltiedig 'r Abatai Sistersaidd ym Margam a Chastell-nedd ddylanwad pwysig ar ddatblygiad tirwedd yr ardal o ran amaethyddiaeth a'r patrwm anheddu; datblygwyd hwsmonaeth stoc (hy gwartheg ac yn arbennig defaid) ymhellach pan oedd yr ardal o dan reolaeth fynachaidd ac yn wir daeth Margam yn enwog fel canolfan cynhyrchu gwln; dengys Trethiad 1291 a ffurflen treth y pen 1379 fod defaid yn cael eu ffermio ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod o fewn yr ardal a ddelid gan abaty Margam (Owen 1989, 215; Cowley 1977, 86-9; Williams 1962, 174).

Ymddengys fod y patrwm anheddu a gafwyd o ganlyniad wedi'i nodweddu gan ffermydd neu faenorau gwasgaredig o amgylch perimedr Mynydd Margam ac ar hyd yr ymyl arfordirol. Lleolid Maenor Llanmihangel (RCAHMW, 1982, 280-2), ar y ffin rhwng y gwastadedd arfordirol llifwaddodol a'r ddaeareg solet ac roedd yr ysgubor fawr a safleoedd melinau ar Afon Cynffig, sef melin yd a yrrid gan ddwr (Rhestredig Gradd II*) a phandy neu felin bannu (Ffrwd melin Llanmihangel SAM Gm 449), yn eiddo i Abaty Margam. Ymhlith y maenorau eraill a oedd yn eiddo i Abaty Margam a leolid o fewn y dirwedd hanesyddol, neu a oedd yn meddu ar ddaliadau tir y tu mewn iddi, roedd New Grange a elwid hefyd yn Middle Burrrows Grange (RCAHMW, 1982, 272-4), Morfa Mawr, a Theodorics Grange, cyn-feudwyfa a roddwyd i Abaty Margam yn 1188, ac a lefelwyd ar gyfer y gwaith dur yn 1949 (Gray 1903, 121-31; Cowley 1963, 188-90; RCAHMW 1982, 271-2); Williams, 1990, 48-52). Adeiladwyd yr ail grwp o faenorau i gyd ar forfa heli llifwaddodol a adferwyd.

Gwerthwyd y faenor yn y Sger gan Abaty Margam i Abaty Castell-nedd c 1175; yma mae'n bosibl bod porth caedig ac ysgubor yn dyddio'n rhannol o'r cyfnod canoloesol (Evans 1956, 5-10; RCAHMW 1982, 254-5).

Yn l i'r brig

Ffiniau

Lleolir y dirwedd hanesyddol o fewn sir l-ganoloesol Morgannwg, a oedd yn rhan o deyrnas gynnar Glywysing, a enwyd ar l y brenin cynnar eponymaidd Glywys, cyn y goresgyniad Normanaidd; yn ystod y 10fed ganrif daethpwyd i alw'r ardal yn Forgannwg, ar l ei rheolwr Morgan (Morcan) Hen (c 930-74), Glamorgan yn ddiweddarach, ('Gwlad Morgan') yr arglwyddiaeth ganoloesol (Knight 1995). Yn l traddodiad roedd Glywysing neu Forgannwg wedi'i rhannu'n saith rhanbarth gweinyddol neu gantref, tra bod ffynonellau yn dyddio o'r 12fed ganrif yn haeru i'r cantrefi hyn gael eu henwi ar l meibion Glywys. Yn draddodiadol roedd pob cantref wedi'i rannu'n gymydau, y cynhwysai pob un ystadau neu faenorau yn cynnwys nifer o drefi, neu drefgorddau. Ni raddau helaeth, ni ellir ond dyfalu ynghylch union ffurf y cymydau cyn y goresgyniad Normanaidd, fodd bynnag, awgrymwyd bod cantref o'r enw Margam (Afan) i'w gael, a ymestynnai o Afon Tawe ac yr oedd ei ffin ddeheuol naill ai yn Afon Cynffig neu Ogwr, sef ffin deoniaeth wledig ganoloesol Cynffig (Knight 1995). Byddai hynny yn gosod y rhan fwyaf o ardal tirwedd hanesyddol Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam o fewn ardal cyn-gantref Margam, gyda rhan fach ohoni o bosibl yn ymestyn ychydig dros ei ffin ddeheuol Gorfynydd, os caiff ei diffinio gan Afon Ogwr. Mae union natur tirwedd weinyddol, eglwysig ac anheddu'r ardal yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar yn fater o ddyfalu ar y gorau ac mae angen gwneud rhagor o waith ymchwil ac astudio manwl yn y maes hwn.

Mae ffos derfyn Vervil sydd wedi goroesi (SAM Gm 465), sy'n nodi ffin rhan dde-ddwyreiniol plwyf canoloesol cynnar Merthyr Mawr, yn awgrymu bod y ffiniau tiriogaethol yn yr ardal yn hen iawn. Nodwyd ffiniau eraill ar ffurf ffosydd a chloddiau gerllaw ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, sy'n rhychwantu'r ardal rhwng Afonydd Ogwr ac Ewenni, a gall rhai ohonynt ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hyd yn oed.

Ar l i'r ardal gael ei had-drefnu ar l cael ei chyfeddiannu gan y Normaniaid, rhannwyd ardal y dirwedd hanesyddol bresennol rhwng Cynffig ac arglwyddiaeth Tir Iarll, yr oedd yr olaf yn dir demn i Ieirll Caerloyw, arglwyddi Morgannwg (RCAHMW Cyf III, rhan 1a, 1991).

Parhaodd Margam i fod yn bwysig fel canolfan weinyddol ar l diddymu'r mynachlogydd yn 1536-7 ac ar l i'r goron werthu'r eiddo mynachaidd a fu gynt ym meddiant Abaty Margam (1540, 1543, and 1546). Yn ystod y cyfnod l-ganoloesol, ystad Margam o dan y teuluoedd Mansel a Talbot oedd y prif berchennog tir yn yr ardal. Ymhlith y teuluoedd tirfeddiannol pwysig eraill buddiannau yn yr ardal, roedd y teuluoedd Stradling, Bowen a Nicholl o ystad Merthyr Mawr, ac i raddau llai y teulu Edwin a'r teulu Wyndham (ieirll Dunraven yn ddiweddarach) o Dunraven.

Yn l i'r brig

Parcdir a thirwedd bictiwrsg

Yr unig barcdir neu dirwedd bictiwrsg yn yr ardal yw Merthyr Mawr ei hun (HLCA 012), parc a gardd gofrestredig (Gwerthusiad Safle Gradd I; Cyfeirnod: PGW (Gm) 12 (BRI), a gynlluniwyd rhwng 1806 a 1838 gan Syr John Nicholl o amgylch Ty Merthyr Mawr (1806-09, Rhestredig Gradd II) a oedd wedi'i adleoli.

Yn l i'r brig