The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

017 Ochr Draw ac Island Farm


Ochr Draw ac Island Farm.

HLCA 017 Ochr Draw ac Island Farm

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf, sy'n cynnwys patrwm caeau datblygedig ond eithaf rheolaidd a ffiniau pendant; anheddiad amaethyddol ôl-ganoloesol; coridor cysylltiadau sy'n cynnwys llinell ffordd Rufeinig (Caerllion - Casllwchwr) a rheilffordd gyhoeddus/diwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ochr Draw ac Island Farm yn cynnwys darn o dirwedd amaethyddol sydd wedi goroesi sydd erbyn hyn yn cynnwys caeau rheolaidd eu siâp yn bennaf, sy'n cynrychioli diwedd y broses o ad-drefnu ardal lle yr oedd patrwm canoloesol o lain-gaeau. Dengys mapiau Ystad Dunraven a map Degwm yr ardal gyfnodau yn natblygiad y patrwm caeau ôl-ganoloesol presennol o olion y system 'tir âr-tir allan' ganoloesol flaenorol a oroesodd a nodweddir gan berchenogaeth wasgaredig amrywiol ar leiniau bach neu ddrylliau ledled yr ardal. Erbyn ail hanner y 18fed ganrif roedd perchenogaeth tir yn yr ardal eisoes wedi'i chyfuno i raddau helaeth ac roedd y daliad mwyafrifol erbyn yr adeg honno o dan reolaeth Ystad Dunraven. Fodd bynnag mae daliadau llai o faint wedi goroesi yma ac acw o fewn tiroedd Ystad Dunraven ac maent yn rhannu'r tiroedd hynny yn barseli darniog. Dengys argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884 gyn-fferm, sef Island Farm, a ddymchwelwyd bellach ac a ddisodlwyd gan barc manwerthu, ac ychydig y tu hwnt i ffin yr ardal gymeriad. Mae'r fferm ei hun yn dyddio o'r 19eg ganrif; mae ei chynllun yn nodweddiadol o fferm amaethyddol ddiwydiannol ac mae ganddi adeiladau amaethyddol sy'n sefyll ar wahân i'r annedd, wedi'u trefnu o amgylch iard hirsgwar.

Mae'r adeiladau sydd wedi goroesi yn yr ardal yn cynnwys Fferm Ochr Draw a leolir gerllaw llinell Rheilffordd Bro Morgannwg (nid yw ei lleoliad wedi newid ers argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884) a Fferm Newbridge. Mae'r olaf yn ffermdy trillawr diddorol yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif gydag ychwanegiadau a newidiadau mewnol yn dyddio o'r 19eg ganrif (Rhestredig Gradd II ynghyd ag adeilad allan). Mae'r ty, er gwaethaf gwaith adfer sylweddol a wnaed arno'n ddiweddar, yn dal i gynnwys nifer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys ffenestri myliynog, siamffrog pant ac isel, drws mynediad â sbandreli cerfiedig a mowldin pant-a-thon, a mowldiau capan. Mae Ysgubor Island Farm, ysbubor gae a saif ar ei phen ei hun gerllaw pwll croesffurf, a ddangosir ar Fap Degwm 1840 o fewn clostir a elwir yn 'Cae Skibbor', hefyd wedi goroesi.

Mae Rheilffordd Bro Morgannwg sydd wedi bod yn cael ei defnyddio i gludo mwynau a theithwyr ers 1897 (roedd yn is-gwmni i Reilffordd y Barri i bob pwrpas o'r adeg y'i sefydlwyd) yn croesi rhan ddwyreiniol yr ardal. Goroesodd y llinell a chafodd ei chyfuno ar wahân â Rheilffordd y GWR o dan Ddeddf Rheilffyrdd 1921. Daeth gwasanaethau teithwyr i ben yn 1964, ond parhawyd i'w defnyddio gan drenau nwyddau, yn arbennig i gludo glo i Orsaf Ynni Aberddawan. Cynyddwyd ei defnyddioldeb trwy ychwanegu estyniad un llinell ychydig i'r gogledd o'r ardal yn 1980, i wasanaethu ffatri Cwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ychydig y tu hwnt i ffin ddwyreiniol yr ardal ceir olion pyllau clai a oedd yn gysylltiedig â chrochendai enwog Ewenny Pottery a Clay Pits Pottery.

Er eu bod yn annodweddiadol o'r ardal yn gyffredinol, mae'r olion sy'n gysylltiedig â Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, a adeiladwyd fel barics ar gyfer gweithwyr arfau ar ddiwedd y 1930au ac a addaswyd i'w ddefnyddio fel gwersyll carcharorion yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn un o nodweddion diddorol yr ardal. Dyma leoliad yr unig ymgais fawr o'i bath gan garcharorion rhyfel Almaenig i ddianc yn 1943.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Ochr Draw ac Island Farm, sy'n cynnwys tirwedd amaethyddol ôl-ganolesoel ar y cyfan, gan batrwm caeau datblygedig ond eithaf rheolaidd o gaeau rheolaidd o faint canolig i fawr; ffiniau pendant a phatrwm anheddu gwasgaredig cysylltiedig o ffermydd/bythynnod ar wahân, gan gynnwys enghreifftiau diddorol o bensaernïaeth frodorol, megis Fferm Newbridge. Mae'r ardal yn cynnwys llwybr cysylltiadau pwysig (hy y ffordd Rufeinig rhwng Caerllion a Chasllwchwr, y mae ei haliniad wedi'i nodi gan ddau ddarn o ffin gae syth), yn ogystal â llwybrau, a lonydd syth a throellog sy'n dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar os nad y cyfnod canoloesol gan gynnwys Heolgam a ddangosir ar Fap Degwm dyddiedig 1840. Yn rhedeg ar draws ochr ddwyreiniol yr ardal ceir hen linell Rheilffordd Bro Morgannwg, ac mae ffordd yr A48 yn croesi rhan ogleddol yr ardal.