The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

014 Trecantle


Castell Trecantle.

HLCA 014 Trecantle

Craidd maenoraidd Castell Trecantle a leolir o fewn ardal o dirwedd amaethyddol a choediog gymysg (gan gynnwys Coetir Hynafol) ar gyrion Cwningar Merthyr Mawr; archeoleg greiriol: aneddiadau/caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol (gan gynnwys maenor gaerog); archeoleg gladdedig; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Olion Castell Trecantle, a adeiladwyd c 14eg ganrif, yw nodwedd amlycaf ardal tirwedd hanesyddol Trecantle. Bu pobl yn byw yng Nghastell Trecantle tan ddechrau'r 19eg ganrif. Dyma oedd maenordy caerog y teulu de Cantelupe. Amddiffynnir y safle gan glostir siâp D yn dyddio o'r 14eg ganrif, a grenelwyd fel rhan o'r newidiadau a wnaed ar ddechrau'r 19eg ganrif sy'n cynnwys stabl. Roedd dwy ran i'r strwythur gwreiddiol yn dyddio o'r 15fed ganrif: rhes o adeiladau unllawr ar hyd pen dwyreiniol y clostir, a thwr a ychwanegwyd at du allan y clostir i'r de. Ailwampiwyd rhes y Neuadd, yn dyddio o'r 14eg ganrif, yn rhannol c 1500; mae mantell simnai unionsyth drawiadol sydd â bwa pigfain pedwar canol a adeiladwyd o'r tywodfaen gwyrdd lleol i'w gweld o hyd yn y neuadd ar y llawr cyntaf sy'n dyddio o'r cyfnod hwn. Mae gan y twr fwa siamffrog, pigfain sy'n arwain i mewn i seler ar y llawr gwaelod, a grisiau murol gerllaw a lle tân sydd wedi'i gorbelu ar y tu allan ymhlith nodweddion eraill megis gwardrop ac olion corbelau muriau canllaw ar y toeon, drws caeëdig ar ben y grisiau, a arweiniai yn wreiddiol i'r rhodfa ar ben wal y clostir.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Trecantle yn cynnwys craidd Maenoraidd Castell Trecantle a thri dyffryn yn wynebu'r De sy'n ffinio â Chwningar Merthyr Mawr. Nodweddir yr ardal gan batrwm caeau amrywiol sydd at ei gilydd yn ddatblygedig/afreolaidd a cheir lleiniau o goetir Hynafol a choetir llydanddail arall a choedwigoedd yn dyddio o'r 20fed ganrif. Nodweddir yr ardal i raddau helaeth gan nodweddion archeolegol creiriol: yn amrywio o faenor gaerog Castell Trecantle, enghraifft bwysig o bensaernïaeth frodorol ganoloesol/ôl-ganoloesol, a'i thirwedd amaethyddol ganoloesol ac ôl-ganoloesol gysylltiedig (gan gynnwys Fferm Trecantle). Yn debyg i HLCA 013 gerllaw, mae'r ardal yn cynnwys olion archeolegol claddedig, a ddynodir yn bennaf gan ddarganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol. Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol â'r teulu de Cantelupe.