The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

015 Trwyn Drenewydd i Garreg Ddu, Aberogwr


Golygfeydd o'r traethau tua Thrwyn Drenewydd.

HLCA 015 Trwyn Drenewydd i Garreg Ddu, Aberogwr

Parth rhynglanwol yn aber Afon Ogwr (Aberogwr); nodweddion rhynglanwol archeolegol creiriol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Trwyn Drenewydd i Garreg Ddu, Aberogwr yn cynnwys y parth rhynglanwol yn Aberogwr. Mae cyfeiriadau dogfennol yn lledawgrymu bod safle angorfa afon draddodiadol ger Merthyr Mawr yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar/cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, yn benodol cyfeiriad cartograffig at dollau yn cael eu casglu o gychod ar hyd glan ogleddol Afon Ogwr, ychydig i lawr yr afon o gymer Afon Ewenni ac Afon Ogwr (Map dyddiedig 1601: Cymdeithas Cofnodion De Cymru a Sir Fynwy cyhoeddiad rhif 1).

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Trwyn Drenewydd i Garreg Ddu, Aberogwr fel parth rhynglanwol yn Aberogwr, a nodweddir gan nodweddion rhynglanwol, gan gynnwys rhydleoedd, amddiffynfeydd môr, ac angorfa yn dyddio o'r cyfnod canoloesol diweddar/cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, baddondy ôl-ganoloesol Ty Coch, yr arferid credu ei fod yn halendy