The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

004 Twyni Cynffig


Castell a thwyni Cynffig.

HLCA 004 Twyni Cynffig

Twyni agored: archeoleg gladdedig: anheddiad/caeau canoloesol, hy Cynffig a orchuddiwyd thywod, milwrol/amddiffynnol: Castell Cynffig; nodweddion eglwysig canoloesol cysylltiedig; cwningar l-ganoloesol; ffiniau caeau nodweddiadol; darganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol; coridor cysylltiadau; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Cynffig yn cynnwys y brif system o dwyni tywod i'r de o Afon Cynffig, sy'n ffurfio ffin ogleddol plwyf eglwysig y Pl a Chynffig. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn cyd-ffinio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig; ac ar y cyd rhan o HLCA 005, mae hefyd yn ffurfio SoDdGA Cynffig.

Mae canfyddiadau cynhanesyddol, gan gynnwys bwyell gaboledig (o fath Penmaenmawr, neu Graiglwyd) yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, yn dangos bod pobl yn byw yn yr ardal o gyfnod cynnar. Efallai mai olion anheddiad canoloesol Cynffig, sydd wedi'u gorchuddio thywod, yw'r elfen bwysicaf yn yr ardal (SAM Gm 042); ymddengys i'r anheddiad gael ei sefydlu yn yr ardal i'r gorllewin o'r castell ac Eglwys Sant Iago ar bob ochr i'r Ffordd Rufeinig, neu Heol Las, sy'n cyfateb yn l pob tebyg i'r Stryd Fawr (High Street) a geir mewn Ordinhadau yn dyddio o'r 13eg ganrif, ac ar y cyd strydoedd eraill ymddengys ei bod yn ffurfio patrwm strydoedd unionlin. Cynhwysai'r dref ddwy elfen ar wahn: aneddiadau y tu mewn i'w wal amddiffynnol a'r tu allan iddi. Er y cyfeirir at yr anheddiad ym Mrut Aberpergwm am y flwyddyn 893, mae canfyddiadau yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig yn awgrymu efallai iddo gael ei sefydlu'n gynharach na hynny. Bu i'r anheddiad, a oedd wedi'i ymgorffori erbyn 1147, hanes cythryblus. Ymosodwyd arno a'i ddinistrio yn 1167 ac unwaith eto yn 1183, a gwnaed difrod helaeth iddo hefyd yn ystod Rhyfeloedd Annibyniaeth y 13eg ganrif ac o dan ddwylo Llywelyn Bren yn 1315. Yn ystod hanner cyntaf y 14eg ganrif cynhaliai'r anheddiad rhwng 142 a 144 o diroedd bwrdais. Fodd bynnag, erbyn 1470 roedd yr anheddiad wedi'i adael yn anghyfannedd i gael ei orchuddio gan dywod; rhwng 1471 a 1485 adeiladwyd eglwys newydd, sef Eglwys Sant Iago, yn y Pl i gymryd lle'r eglwys yng Nghynffig gan ddefnyddio rhywfaint o ddeunydd a gymerwyd o'r olaf, a sefydlwyd anheddiad newydd ymhellach i'r dwyrain ar hyd y briffordd rhwng Eglwys Mawdlam ac Ewenni.

Dengys cyfeiriadau fod gan Iestyn ap Gwrgan, rheolwr brodorol olaf Morgannwg, gastell yng Nghynffig yn 1080, er na chanfuwyd lleoliad y safle hwn eto. Credir i'r castell canoloesol y gwyddom ei fod wedi'i leoli yng Nghynffig (SAM Gm 042), y gwnaed rhywfaint o waith cloddio arno yn 1924, gael ei adeiladu cyn 1135 a chyfeirir ato yng nghofnodion 1183 a 1232. I ddechrau cynhwysai'r safle dwr o fewn clostir amlochrog a amddiffynnid gan balis pren a ffos. Ailadeiladwyd y castell o gerrig yn ddiweddarach, ar l i'r Cymry ymosod arno yn 1183 yn l pob tebyg ac fe'i newidiwyd ymhellach yn 1232 a 1295 ar l rhagor o wrthryfeloedd, cyn cael ei ddymchwel o'r diwedd yn 1405.

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys Pwll Cynffig, y corff mwyaf o ddwr croyw naturiol ym Morgannwg, a oedd yn rhan o bysgodfa a berthynai i Abaty Margam yn ystod y cyfnod canoloesol ac a ddangosir ar fap yn dyddio o'r 16eg ganrif wedi'i gysylltu 'r mr gan sianel neu 'gwter'.

Yn ystod y cyfnod l-ganoloesol defnyddiwyd yr ardal fel cwningar. Mae manylion gwerthiant dyddiedig 1782 pan werthwyd yr ardal i'r teulu Talbot o Fargam, yn nodi cwningar yn cwmpasu 100 erw waliau cerrig o boptu iddi.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Twyni Cynffig yn bennaf fel ardal helaeth o dwyni tywod neu dwyni agored, a ddefnyddid fel cwningar waliau cerrig nodweddiadol o bobtu iddi yn ystod y cyfnod l-ganoloesol. Mae'r ardal yn enwog am ei harcheoleg gladdedig ar ffurf anheddiad/caeau canoloesol Cynffig a orchuddiwyd thywod (SAM Gm 042) a'i amddiffynfeydd trefol (SAM Gm 042), a'i Gastell Eingl-Normanaidd, Castell Cynffig (SAM Gm 042). Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion eglwysig canoloesol, a orchuddiwyd thywod yn yr un modd, a gynhwysai eglwys ganoloesol Sant Iago (12fed ganrif) a'i mynwent gysylltiedig, croes 'Gores y Dadleu', Capel Sant Tomos (y mae ei leoliad yn anhysbys), a ffynnon gysegredig, Ffynnon Lygad, sy'n enwog am wella clefydau'r llygaid. Yn rhedeg ar draws yr ardal ceir nifer fawr o nodweddion cysylltiadau. Y rhai cynharaf yw Heol-las, Heol-y-sheet a Water Street, Ffyrdd Rhufeinig llai pwysig na phriffordd arfordirol Julius Frontinus.

Mae'r ardal yn cynnwys llyn naturiol Pwll Cynffig, llyn o ddwr croyw naturiol y mae llawer o fythau a chwedlau yn gysylltiedig ag ef; un traddodiad a gadwyd yn fyw gan yr hynafiaethydd Iolo Morgannwg yn ystod y 19eg ganrif, oedd y gred gyfeiliornus i dref goll Cynffig gael ei boddi ganddo, ac y gellid clywed clychau'r hen eglwys oddi tan ei ddyfroedd. Ceir llu o chwedlau dychmygol eraill, gan gynnwys cyfeiriadau at dair 'Simnai'r Diafol', a gi eu gweld cyn stormydd ffyrnig. Ers y 1950au mae'r llyn wedi darparu cyfleuster hamdden poblogaidd ar gyfer hwylio.